Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CYMANFA WESLEAID LER-I PWL…

BIRMINGHAM.I

PONTRHYDYGROES. I

JERUSALEM, WREXHAM.I

DYSERTH. I

ITRELOGAN. CYLCEDAITH LLANASA.…

CORWEN..-1

POPLAR, LLUNDAIN.

News
Cite
Share

POPLAR, LLUNDAIN. Ofnaf fod Rhys, croniclydd yr achos a1 y He hwn, wedi mynd ar ddisberod, gan nad ydym wedi gweld dim o'r hanes yn y G. N. er's tro. Gobeithiwn ei fod yn fyw a dianaf, ac y daw at ei waith eto yn fuan. Mae'r Gymdeithas wedi dirwyn i'r pen am eleni. Cafwyd cyfarfodydd nodedig o dda ar hyd y tyinor. Buom yn ymgodymu a. phyngciau mawr uchfeirniadaeth drwy'r gaeaf. Cafwyd ami i ddadl rhwng yr hen a'r I iiewydd,' a'n profiad ar y terfyn ydyw fod y Beibl os yn fwy dynol, yn fwy dwyfol a byw yn ein golwg nag eriued. Mae chwiorydd diwyd y Gymdeithas wrthi yn ddyfal ynglyn a'r cyfarfodydd pwytho, yn gweithio at y Bazaar ynglyn a'r capel newydd. Gan nad yw yn gyfleus i bawb fynd i'r cyfarfod pwytho, trefnwyd i gael ambell i Social yn Poplar, a'r elw i fyned i drysorfa y capel newydd. Cafwyd un beth amser yn ol gan Mrs Williams, Ilford. Methodd Miss Hughes, Earl's Court, a dod i'r gadair, ond anfonodd gini i'r casgliad. Nos Lun diweddaf cafwyd yr ail, yn cael ei roddi gan y Misses Kendrick, White Horse Street—dwy chwaer i'r Parch. LI. Kendrick, Llanelwy. Yr oedd y danteith- ion yn ddibrin. Ar ol yr arlwy hon cafwyd cyngherdd rhagorol; yr oedd y Misses Kendrick wedi llwyddo i gael digon o gantorion at ein gwasanaeth. Canwyd amryw weithiau gan yr Hackney Philar- moriic Society, dan arweiniad Mr William Bowen a chafwyd unawdau, deuawdau a phedwarawd gan aelodau y cor, sef Mri. Ted a John Thomas, Misses Annie a Lallie Thomas, a Miss Susie Williams a Lloyd Jones. Gwasanaethwyd yn fedrus wrth y berdoneg gan Miss Sallie Thomas. Methodd Mr Owen, Notting Hill, y cadeirydd ap- wyntiedig, a bod yn bresenol gan wael- edd, ond yn ol eu harfer daeth Mrs Owen yno a thair gini i'r casgliad. Cymerwyd y gadair, neu y pwlpud yn hytrach, vii ei absenoldeb gan Mr E. Jones, Roman Road. Cynygiwyd y diolchiadau1 arferol gan y Parch J. R. Roberts, ac eiliwyd gan y Parch E. Tegryd Davies. Tystiolaeth pawb ydyw rnai dyma y Social mwyaf liwyddianus fu yn Poplar facii er adeg Adda. Yr oedd y danteithion a'r canu yn uwchraddol, a'r capel yn orlawn. Byddaf yn cael gfwaith ymatal rhag gwenu weith- iau wrth weld hanes ambell i frawd rwyn adwaen wedi bod yn llenwi y pwlpud yng nghapelau Cymru yna, ond dealla pawb wyr am bwlpud Poplar ty mod yn dweyd y gwir pan y (iywedaf iddo gael ei lenwi nos Lun diweddaf, achos yr oedd y ddau weinidog yno ynghyd a Mr Edward Jones, a lianwyd y pwlpud. Cafwyd elw sylweddol i drysorfa y capel newydd. ELWYH.

COEDPOETH.