Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CYMANFA WESLEAID LER-I PWL…

BIRMINGHAM.I

News
Cite
Share

BIRMINGHAM. I Sul yn Upper Priory, Mawrth yr 8fed. I Adnabyddir y lie uchod yn well o dan ei hen enw Colmore Row." Modd bynag nid yn ami y-gwelir gair o'r He yma yn y Gwyliedydd Newydd. Er hyny yr ydym yn fyw yma fel Wesleaid Cymreig. Dyma sut y treuliodd un o'r aelodau y Sabboth uchod yn Upper Priory. Nid capel sydd genym yma ond room fawr sydd yn cael ei defnyddio fel Office yn ystod yr wythnos, ond nid yw hyn yn tynu dim ocidiar gysegredigrwydd y lie i ni fel ael- odau. Yr ydym yn cael adegau melus ac yn cael Duw yn agos atom. Bore Sabboth pregethwyd gan un o'n myfyrwyr o Goleg Handsworth, sef Mr John Hughes o Dre- garth. Pregethodd ar y ffordd i adnabod. iesu Grist. Nid yw oedfa bore Sul yn un boblogaidd iawn gyda'r Wesleaid Cymreig yn y dre hon. Mae y ffordd i lawer yn bell i ddyfod erbyn y bore, eto colled fawr yw colli y bore. Dyma un o oedfaon gore Upper Priory. CYNGHERDD. Ar ol yr oedfa galwyd cyfarfod brodyr i siarad materion pwysig ynglyn a'n gwyl flynyddol. Test Concert ydym wedi gwneud ein meddwl irynu i'w gynal y flwyddyn hon, a hyny ar y dydd cyntaf o'r mis nesaf. Vr ydym ,wedi sicr- hau gwasanaeth Miss Nita Poweil, Mus., Bac., o Gaerdydd, i feirniadu'r canu. Mae cael dyRes i lenwi'r swydd hon yn beth pur newydd ýo hanes Cymru y dre hon. Hwyrach y gwyr y rhan fwyaf o ddarllen- wyr y G.N. mai un o Wesleaid Cymreig Caerdydd ydyw Miss Powell. Yr ydym yn edrych yn mlaen am gyfarfod liwydd- ianus ac hefyd am elw da at yr achos. YMGOM.—Ar ol setlo'r cwbl caed ham dden i ymgomio. Melus oedd cael ymgom a'r hen frawd Mr William Williams, Grand old man yr achos bach yn y fangre hon." Tlawd iawn fuase yr ystafell heb amen ein hoffus frawd, a'i gynghorion da i ni fet pool ieuainc. Yr oedd Mr Pugh yn od o brysur y bore hwn gan ei fod yn ysgrifenydd ein Test Concert, a gan fod y tocynau wedi dod i law, yr oedd wrthi ei oreu yn ei dosbarthu ymhlith yr aelodau. Gwr rhagorol hefyd yw y codwr canu melus yr ymgom gydag yntau. Y GWYLIEDYDD.—Ar ol bron bob oedfa gwelwch Mr Roberts yn cerdded oddiwrth y naill at y Hall, a phrysurdeb y brawd yma ydyw dosbarthu y G.N. cyn i'r cyf- eillion ymwahanu. Ar ei fwndel gallaswn feddwl fod nifer dda o Upper Priory yn ddarllenwyr y Gwyliedydd. YR YSGOL SUL.-Arn dri o'r gloch aeth- om i'r Ysgol Sul. Nid yw hon yn rhyw debyg iawn i Ysgol Sul yn Nghymru, am mai pobl ieuainc ydyw bron yr oil sydd I ynddi. Calondid ydyw meddwl fod y bechgyn, yn fwyaf arbenig, yn dal i gael bias ar edrych i mewn i'r Ysgrythyrau Sanctaidd, fel pan adre yn yr Hen Wlad. Mr E. Jones ydyw'ein Arolygwr, mab Mr William Morris Jones o Felinheli. Ein hysgrifenydd ydyw Mr E. Williams, gynt o Langefni,—dau frawd yn glynnu yn dyn wrth yr achos yn y lie. Ein athraw fel bechgyn ieuainc ydyw Mr Peter Williams, ac y mae yn un o'r rhai mwyaf ffyddlon i'r Ysgol Sul. Y TE.-Ar ol yr Ysgol darperir te i'r rhai sydd yn dod o ffordd bell, ac felly yn eu galluogi i aros oedfa'r hwyr. Adegau difyr sydd wedi eu treulio cydrhwng yr ysgol a'r wasanaeth hwyrol gan yr aelodau. Canu emynau a son am yr Hen Wiad. PREGETH YR HWYR.—Pregethodd Mr Jenkins, un o'r. myfyrwyr yn yr hwyr. Yr oedd cynulleidfa dda wedi dcd i'r wasan aeth hon a phregethodd Mr Jenkins yn hynod dda a grymus. Pwnc mawr ei bregeth oedd Cerwch eich Gelynion." Yr oedd pawb yn teimlo fod ei genadwri. o dan arweiniad dwyfol. Ar ol y bregeth cyfranodd yr aelodau Sacrament o Swper vr Arglwydd. Dyma y Sul bron trosodd a terfynodd mewn rhoddi ynom ysbryd penderfynnu byw yn well ae yn nes at y Meistr yn nghanoi tern tasiynau a threialon y dre fawr hon. AELOD. I

PONTRHYDYGROES. I

JERUSALEM, WREXHAM.I

DYSERTH. I

ITRELOGAN. CYLCEDAITH LLANASA.…

CORWEN..-1

POPLAR, LLUNDAIN.

COEDPOETH.