Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
CYMANFA WESLEAID LER-I PWL…
CYMANFA WESLEAID LER-I PWL A'R CYLCH. (Gan HEN WYLIEDYDD). I Cynhaliwyd y Gymanfa uchod ar Mawrth 6ed, 7fed, a'r 8fed, a throdd ailan vn dra llwyddianus. Nos Wener, pregethwyd yn Oakfield gan y Parch J. Pugh Jones ym Mynydd Seion gan y Parch W. R. Roberts yn Birkenhead gan y Parch R. W. Jones; yn Bootle gan y Parch J. Parry Brooks ac yn Egremont gan y Parch J. Roger Jones, B.A. =. Swn canmol cyffredinol glywir am oed- faon y Sui. Ymhob capel bron cafwyd cynhulliadau Iliosog, a thvstiolaethir fod y weinidogaeth yn efengylaidd a grymus. Erbyn hyn, mae'r Gymanfa wedi dyfod yn lied hysbys i'r miloedd Cymiy sydd ar ddau tu i'r afon yma, ac nid oes ond y dydd mawr a ddengys ei dylanwad ar fywyd ein cydgenedi. Daeth cynhuliiad hardd i Fynydd Seion, nos Sadwrn, i'r Seiat Fawr. Gwelwyd yno amryw o ddieithriaid o Gymru a manau eraill-yn eu plith Mr E. L. Rowlands, Y.H., Aberdyfi-yn gystal ag amryw wein- idogion gwahanol enwadau y cyich. Lly- wyddwyd gan y Parch. John Felix, Ysgnf jeunvdd y Dalaeth, ac yn ei anerchiad agoriadol, cyfeiriodd at y rhai a hunas- ant er y Gymanfa o'r blaen, gan nodi yn arbennig y Parch. Edward Humphreys, yr hwn, gyda Haw, oedd lly wydd cyntaf Seiat Fawr Cymanfa y cylch hwn, megis ag yr <)edd hefyd yn llywydd cyntaf y Gymanfa Wesleaidd Gymreig, a chadeirydd cyntaf Talaith Gyntaf Gogledd Cymru. Gyda phriodoldeb y gallesid ei alw'n Edward y Cyntaf yn hanes blynyddau diweddaf ein Hisrael yng Nghymru. Erys ei goffadwr- iaeth yn fendigedig. Cyfeiriodd Mr Felix I hefyd at Mr T. W. Griffiths, Bootle, gwr tawel, tyner, duwiolfrydig. J Yr oedd y gwr ieuanc a ddechreuodd y Seiat trwy weddi (y 1 l-arch. J. Parry Brooks) yn lied ddieithr yn y cylch hwn, ond cafodd rwvdd-deb i arwain y gynull- eidfa at borth y nefoedd. Y Parch. Owen Evans a siaradodd gyntaf, ac, fel arfer, siaradodd gyda phwyll, eglurder, a graen. Agorodd y cwestiwn gyda medr meddyliwr ciir, darllenwr eang, coetn ei eiriau, a di- wastraff ei svlwadau. Dilynwyd ef gan y Parch. R. Garrett Roberts, a buan y tan- iodd ei ysbryd i'w bwnc. Aeth ymaith fel rocket," ac fel rocket hefyd terfynodd trwy lenwi yr awyrgylch gyda ser disglaer —ser fu'n addurnoflurfafen yr eglwys gyda gweithiau dyngarol a ChristionogoL Fel pob amser, daeth y Parch. Thos. Hughes, Cadeirydd yr Ail Dalaith, i fyny i'rachlys- ur, ac yr oedd ei sylwadau mor ffresli ag oeddynt o gyrhaeddgar a phwrpasol. Yr oedd ei eglurhad o sancteiddrwydd," neu sancteiddiad," seiat,' a'r cyffelyb, yn .dra angenrheidiol ac amserol. Cadwodd y tri hyn o fewn yr amser penodedig, ond cymerodd y siaradwr olaf, y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., bron ormod o ryddid ar amser ac ar ei destyn; ond ar ol ym- helaethu ar anfarwoldeb yr enaid, terfyn- odd yn hwyliog a gafaeigar iawn. Yr hybarch Ddr. Owen Evans (A.) a weddiodd i derfynu Seiat ragorol a thra bendithiol. Gresyn na fuasai pregethwyr y Gymanfa wedi mynd i eistedd ar y cadeiriau a baro- towyd iddynt yn ymyl y pulpud, fel yn y blynyddau gynt. Cymerir yr hyfdra i ddi- fyrm y crynhodeb a ganlyn o'r anerchiad- au a ymddangosodd yn y Brython." PARCH. JOHN FELIX. Hwyrach mai priodol ydyw i ni heno atgoffa ein gilydd ar ddechreu Seiat fod lie rhai brodyr yn wag. Yr ydym i gyd yn gweled lle'r annwyl Edv;ard Humphreys yn wag heno. Gwr fu am fiynyddoedd yn un o'n pregethwyr blaenaf ni fel enwad vng Nghymru, a gwr fu am flynyddoedd vn sefvll yn ddiddacll, yn rheng pregethwyr goreu'i genedl. Y mae wecii myn'd, a'i le nid edwyn ddim ohono mwy, eto y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig. Y mae Ite I brawd arall yn wag heno, y tyner a'r add- fwyn T. W. Griffiths, Bootie, gwr fu'n swyddog. defnyddiol a biaenor llwydd- iannus am lawer o flynyddoedd. Ac y mae ereill hefyd. Gobeithio y bydd i'r bechgyn ddod i lenwi lle'r tadau, a'r gen- ethod i lenwi lle'r mamau. I PNnc y Seiat oedd Rhufeiniaid vi. 22. Ac yr awrnon, wedi eich rhyddhau oddi- wrth beehod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i cliwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a'r díwedd yn fywyd tragwyddol." PARCH. OWEN EVANS. "Wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod." Sylwer rnai nid rhyddhad oddiwrth gosb- edigaeth pechod. Y mae llawer yn meddwl ar nyd y llineil yna, yn meddwl am faddeuant fel diangfa oddiwrth gosb, ac yn meddwl am nefoedd fel He i fyrÙl i ddianc oddiwrth gosb. Na nid ydyw y Beibi yn son am ryddhad oddiwrth gosb fel y cyfryw, ond rhyddhad <••' Irth bechod sydd yn gofya am haeddu. ydc' act odd: —dyna'r gair sydd yn drwy'r Beibl. Ac y mae y rhyddhad yma yn gol- ygu mewn modd arbennig fod grym pechod yn cacl ei dorri yn y bywvd, a bod y dyn wedi dod i gyflwr y medr o for- dwyo'n llwyddiannus a phechod. Nid vdyw'r gwaith wedi ei orffen pan y mae'r rhyddhad yma'n bosibl. Yr atebiad ¡ mewn un gair ydyw—trv.'y Iesu Grist. Efe ydyw'r Un fedr dorri'r cadwyni. Os y Alab a'ch rhyddLa chwi, rhyddion fyddwch ym wir." Ond sut y mae yn gwneud ? Credaf mai trwy greu dymuniadau at y da, a chodi delfrydau newydd sydd yn swyno dyn ar eu hoi. The expulsive power of ~a new affection." Yr wyf yn meddwl 'mai felty y bu gyda'r Apostol Paul Fe fu ef yn brwydro a'i bechod wyncbyn vvyneb am gyfnod, ac yr oedd yn rnethu el goucro. Ond.ar y ffordd i Dam ascus, fe gafodd weiedigaeth newydd fod 1 Duw yn Iesu Grist, yn Ei gariad anfeidrol, wedi cyfarfoÖ ag ef yno. ac y mae'r hen fywyd. yn yn ddarnau o dan ddyl- anwad y weledigaeth. Y mae Iesu Grist vn dod a ni i ryddid. Y mae yn torri gryrn pechod trwy godi delfrydau newydd, rioi grym aswyno dyn at y da, ae ysbryd y cia sydd yn arwain yr ysbryd drvvg aliac. Y mae rhyddid yma yn gotygu, tiid 'orifeniad y gwaith, ond ei gychwyn. Tybed nad ydyw Eglwys -D d dd' h ¡ Dcluw yn y dyddiau hyn wedi colli ei I chred i fesur yn Efengyl Crist i allu dorri cadwyni pawb trwy'r ddaear i gyd? Fe ddymuIlwn ddweyd mai nid dyna ysbryd1 yr Arglwydd Iesu. Yr oedd ef yn edrych yn fwy difrifol ar bechod na neb, ond y I mae yn fwy gobeithiol am roi ymwared oddiwrth bechod na neb hefyd. Y mae efengyl Iesu Grist yn gofyn inni gredu y gellir codi'r gwaethaf, y dyn sydd wqdi suddo ddyfnaf i'r pydew—y mae modd ei godi i'r lan. Y dyn sydd wedi myn'd ddyfnaf i gaethiwed, y mae Un wedi ei eni fedr agor drysau y carchar a thorri'r I cadwyni i gyd. Y PARCH G GARRETT ROBERTS. I A'ch gwneuthur yn weision i Dduw." Nis gall ond yr ysbrydol fyw i wasan- aethu'r Arglwydd, ac y mae yn amhosibl i ni fyw'n ysbrydol heb i ni yn gyntaf farw i bechod. 0 lwch yr hen ddyn yr adgyfodir y dyn newydd. Rhagorfraint pob Crist- ion yw cael bod yn gaethwas i Dduw. Nid bywyd goddefol yw hwn "o ran ei natur, ond gweithredol. Nid oes'y fath beth ag unemploy ment yn llywodraeth foes- ol Duw. Y mae cyflwr inactivity allan o'r cwestiwn. Rhaid i bob un weithio. Y mae by w i fwy nag un meistr allan o'r cwestiwn. Nis galiwch wasanaetiiu Duw a Mamon. Nid oes gan yr Argl w ydcl spare timers yn Ei wasanaeth o gwbl. Y mae llawer iawn o'r rhain gyda chrefydd vng Nghymru, ac o bosibl yn Lerpwl, ac ychydig iawn o amser y maent yn gallu ei hebgor at was- anaeth crefydd o gwbl. Am weithwyr y mae Duw yn adferteisio i'w winllan. Y mae gwaith i bob oed yng ngwasanaeth Duw. Lie i'r ieuanc—nid oes neb rhy hen yn haner cant oed yng ngwasanaeth yr Arglwydd. Lie i'r ieuanc, a lie i'r hen. Nid oes supernumeraries. Gweithwyr ydynt 1 gyd. Y mae gweithwyr Duw bob un yn marw yn y gwaith. Y mae cyfleus- terau ar bob llaw yn aneirif. Gweithiwn tra y mae hi'nddydd. Y cwestiwn a ofynir i ni yw, Pa ddefnydd a wnaed a'r dalent sydd gennym, nid pa sawl talent roddwyd i ni. Ac os ydym wedi ei ddefnyddio yn iawn, cawn hynny o ogoniant fedrwn ei ddal. Y PARCH THOMAS HUGHES. I Y mae i chwi eich ffrwyth yn sanctaidd- had." "Your gain," meddai Dr. Moffat, "is consecration." Yr wyf yn ofni bron fod rhai yn parhau i feithrin y syniad o gael eu poeni gan y svniad o fywyd sanctaidd. 0 leiaf, rhvw fath ar atgasrwydd at y syniad o fod yn sant. Paharn ? Oher- wydd eu bod wedi cael eu harwain wrth dclarllen neu weled darluniau, yn peri i ni deimlo yn anymunol wrth edrych ar y darluniau, ac wrth ddarllen amdanynt. Pobl yn byw bywyd annaturiol. Mynach- od rhai Nuns rhai. Dyna'r syniad fu'n ffynnu am lawer oes yn yn yr eglwys-fod yn rhaid byw yn wahanol i bobl gvffredin os am fyw bywyd sanctaidd, a chadw draw 'oddi wrth bobl ereill.. Ond y mae Duw wedi meddwl i bawb fod yn sanct- aidd. Cofnvn hyn-mae pob un, yn ol bwri'ad Duw yn nhrefn Ei ras, i fyw bywyd llwyr gysegredig iddo Ef. Cadw oddiwrth y drwg, a chyflawni ei Ewyllys yn gystal a hynny. Y mae y Duw mawr am i bob bachgen a geneth ieuanc fyw bywyd sant. Yr ydym yn arfer meddwl hwyrach nad oes dim modd byw bywyd hollol gyseg- redig i Dduw, gyda gorchwylion beusydd- iol. Y mae modd i ni fyw bywyd sant heb geisio ymgodi oddiwrth y byd mewn ystyr gorrforol. Nid merched yn byw mewn mynachdai, ond pobl yn byw mewn dinas fawr, a'i hawyr foesol yn llvgredig, ac eto trwy ras Duw yn byw bywyd mor dda nes y mae r Apostol yn edrych arnynt fel saint. "At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint." Y gair arall-ffrwyth a gweith ynddo. Y mae yna ffrwyth pur wahanol yn y testyn rhagor y petli y mae'r Apostol yn son amdano. Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnw o'r peth- au y rnae arnoch yr awrhon gywilydd o'u piegid?' Ond heth bynag yw ein safle, ein goruchwylion cyffredin, y mae byw bywyd cysegredig i'r Arglwydd yn rhoi rhyw dd vrchafiadrnoesol Jïn dyledswydd- au, er eu bod yn ddyledswyddau cyffredin. Y rnae cysegru bywyd yr Arglwydd yn gwneud y gorchwyl mwyaf distadl yn aur, medd George Herbert. Pan mae cynllun- iau dyn yn troi yn fethiant, bydd yn dda i ni feddwl, os ydyw yn gofalu rhoi ei hun i'r Arglwydd, a byw bywyd cy?egredig iddo Ef, y mae gwerth yn ei fywyd, a bydd amcan y Duw mawr Ei Hun gyda golwg ar ei fywyd yn cael ei sicrhau. Y mae yn werth ymgysegru i Dduw. Rhoed yr Arglwydd gymorth i ni i wneud. Y PARCH. D. TECWYN EVANS. I Y diwedd yn fywyd tragwyddol." Dyna ydyw bywyd tragwyddol mewn gwirion- edd—sancteiddrwydd Duw yn y galon. Adnabod Duw. Y bobl sydd yn byw eio ni syd.1 yn ein hadnabod ni Fedrwn ni ddim adnabod Duw chwaith heb fyw efo fo; Byw bywyd o ganad a daioni a hun anabertb-dyna'r bywvd tragwyddol. Yn awr, y mae hyn yn y Testament Newydd, nid fel rhyw syniad diwinyddol yn uriig, ond y mae mewn gweithred ac mewn gwirionedd wedi ei ymgnawdoli mewn Person digyffelyb. Fe fu yr Arglwydd Iesu Grist fyw y bywyd tragwyddol yma ar y ddaear. Yr oedd pob awr o'i fvwyd yn perthyn i'r bywyd tragwyddol. Nid ei eiriau sydd wedi ein dysgu am y bywyd tragwyddol. ond ei bresenoideb. Y ffaith ei fod wedi byw fel v darfu iddo, a marw, ac adgv'v. gyfxeithodd y bywyd i ni. Nid oedd u- yr Arglwydd lesu yn dibynnu ar ;i y pethau oedd ganddo, ond ar .,c gariad, ar ymgysegriad er daioni a lies uchaf ei frodyr a'i chwiorydd yn y byd. Ac os ydym ni am gael y bywyd tra- gwyddol yma, yr unig ffordd yw trwy fvyyta o'i gnawd Ef, ac yfed ei waed Ef; gwneud anian, a chymeriad, a naws ys- prydol yr Arglwydd Iesu Grist yn eiddo i ni. Meithrin y grasusau a'r ansoddau moesol oedd yn harddu ei fywyd a'i gyrner- iad Ef. Cydnabod Duw, a chymuno mewn gweddi, ac ymostwng i ewyllys Duw. A'r neb nid yw'n gwneud hyn, nid yw yn byw. "A'r diwedd yn fywyd tragwydclol." le, a'r dechreu hefyd. Y mae gan y credadyn vn awr. Y mae yn cyfranogi o fywyd Duw ei LILin. Nid yn llmvn, wrtn gwrs, ond. i ratidau digon llawn i fedru byw am byth. Nid oes bosibl adnabod Duw yn llawn, ond y mae yn bosibl ei adnabod ddigon i gael gafael ar yr un bywyd ag Ef. A dyna sycd yn ardderchog efo hwn—-y rnae" yn tyfu o hyd. Os nad ydym yn y nefoedd heno; os ydym yng Nghrist. y mae'r deyrnas ynnom ni. The real life "-ni all y bedd mo'i .lygru, na thragwyddoideb I I ddlffi ond ei datbiygu. • A'r diwedd yn i fywyd tragwyddol." Hynny yw, y diwedd I yr ochr yma. oblegid y beauty ydyw, diwedd diddiwedd ydyw. A cardinal point of Christianity is the life after death," iredd Tennyson. Ond beth ydyw hyn i'r dyn y mae ei fywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw ? Nid ydyw yn ddim ond digwyddiad ar ffordd bywyd. Y mae rhai pethau antanteisiol i ni yn y byd yma, ond y mae dydd yn dod y cawn wared a'r peth- au yma i gyd, ac y bydd holl gynheddfau'r enaid ar lawn waith i wasanaethu Duw ac i gyflawni ei ewyllys Ef. Terfynwyd trwy weddi gan yr Hybarch Ddr. Owen Evans.
BIRMINGHAM.I
BIRMINGHAM. I Sul yn Upper Priory, Mawrth yr 8fed. I Adnabyddir y lie uchod yn well o dan ei hen enw Colmore Row." Modd bynag nid yn ami y-gwelir gair o'r He yma yn y Gwyliedydd Newydd. Er hyny yr ydym yn fyw yma fel Wesleaid Cymreig. Dyma sut y treuliodd un o'r aelodau y Sabboth uchod yn Upper Priory. Nid capel sydd genym yma ond room fawr sydd yn cael ei defnyddio fel Office yn ystod yr wythnos, ond nid yw hyn yn tynu dim ocidiar gysegredigrwydd y lie i ni fel ael- odau. Yr ydym yn cael adegau melus ac yn cael Duw yn agos atom. Bore Sabboth pregethwyd gan un o'n myfyrwyr o Goleg Handsworth, sef Mr John Hughes o Dre- garth. Pregethodd ar y ffordd i adnabod. iesu Grist. Nid yw oedfa bore Sul yn un boblogaidd iawn gyda'r Wesleaid Cymreig yn y dre hon. Mae y ffordd i lawer yn bell i ddyfod erbyn y bore, eto colled fawr yw colli y bore. Dyma un o oedfaon gore Upper Priory. CYNGHERDD. Ar ol yr oedfa galwyd cyfarfod brodyr i siarad materion pwysig ynglyn a'n gwyl flynyddol. Test Concert ydym wedi gwneud ein meddwl irynu i'w gynal y flwyddyn hon, a hyny ar y dydd cyntaf o'r mis nesaf. Vr ydym ,wedi sicr- hau gwasanaeth Miss Nita Poweil, Mus., Bac., o Gaerdydd, i feirniadu'r canu. Mae cael dyRes i lenwi'r swydd hon yn beth pur newydd ýo hanes Cymru y dre hon. Hwyrach y gwyr y rhan fwyaf o ddarllen- wyr y G.N. mai un o Wesleaid Cymreig Caerdydd ydyw Miss Powell. Yr ydym yn edrych yn mlaen am gyfarfod liwydd- ianus ac hefyd am elw da at yr achos. YMGOM.—Ar ol setlo'r cwbl caed ham dden i ymgomio. Melus oedd cael ymgom a'r hen frawd Mr William Williams, Grand old man yr achos bach yn y fangre hon." Tlawd iawn fuase yr ystafell heb amen ein hoffus frawd, a'i gynghorion da i ni fet pool ieuainc. Yr oedd Mr Pugh yn od o brysur y bore hwn gan ei fod yn ysgrifenydd ein Test Concert, a gan fod y tocynau wedi dod i law, yr oedd wrthi ei oreu yn ei dosbarthu ymhlith yr aelodau. Gwr rhagorol hefyd yw y codwr canu melus yr ymgom gydag yntau. Y GWYLIEDYDD.—Ar ol bron bob oedfa gwelwch Mr Roberts yn cerdded oddiwrth y naill at y Hall, a phrysurdeb y brawd yma ydyw dosbarthu y G.N. cyn i'r cyf- eillion ymwahanu. Ar ei fwndel gallaswn feddwl fod nifer dda o Upper Priory yn ddarllenwyr y Gwyliedydd. YR YSGOL SUL.-Arn dri o'r gloch aeth- om i'r Ysgol Sul. Nid yw hon yn rhyw debyg iawn i Ysgol Sul yn Nghymru, am mai pobl ieuainc ydyw bron yr oil sydd I ynddi. Calondid ydyw meddwl fod y bechgyn, yn fwyaf arbenig, yn dal i gael bias ar edrych i mewn i'r Ysgrythyrau Sanctaidd, fel pan adre yn yr Hen Wlad. Mr E. Jones ydyw'ein Arolygwr, mab Mr William Morris Jones o Felinheli. Ein hysgrifenydd ydyw Mr E. Williams, gynt o Langefni,—dau frawd yn glynnu yn dyn wrth yr achos yn y lie. Ein athraw fel bechgyn ieuainc ydyw Mr Peter Williams, ac y mae yn un o'r rhai mwyaf ffyddlon i'r Ysgol Sul. Y TE.-Ar ol yr Ysgol darperir te i'r rhai sydd yn dod o ffordd bell, ac felly yn eu galluogi i aros oedfa'r hwyr. Adegau difyr sydd wedi eu treulio cydrhwng yr ysgol a'r wasanaeth hwyrol gan yr aelodau. Canu emynau a son am yr Hen Wiad. PREGETH YR HWYR.—Pregethodd Mr Jenkins, un o'r. myfyrwyr yn yr hwyr. Yr oedd cynulleidfa dda wedi dcd i'r wasan aeth hon a phregethodd Mr Jenkins yn hynod dda a grymus. Pwnc mawr ei bregeth oedd Cerwch eich Gelynion." Yr oedd pawb yn teimlo fod ei genadwri. o dan arweiniad dwyfol. Ar ol y bregeth cyfranodd yr aelodau Sacrament o Swper vr Arglwydd. Dyma y Sul bron trosodd a terfynodd mewn rhoddi ynom ysbryd penderfynnu byw yn well ae yn nes at y Meistr yn nghanoi tern tasiynau a threialon y dre fawr hon. AELOD. I
PONTRHYDYGROES. I
PONTRHYDYGROES. I CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL. Y mae jtna rifres o gyfarfodydd wedi cael eu cyn ai ag sydcl heb eu cofnodi ar golofnau y Gwyliedydd Newydd. Cawsom ddau bapur ar rai o .brif gymeriadau yr Hen Destament. Y cyntaf ar Dafydd Brenin Israel," gan Miss Annie Jones, a'r Hall ar Daniel y Proffwvd," gan Miss Rachel Ann Davies. Yr oedd yn y ddau bapur esiamplau i'r oes hon ddod i'w meadu. Cymerodd y Gyrndeithas ran bwysig yn yr yrnddiddan, a chafwyd. amser da iawn, a phrawf cin bod yn datblygu fel Cymdeith- as. Credu Arnhferffaith yn llwyddo Hef- yd darllenwyd papur gan Mr William Ed- wards ar y testyn uchod. Gwnaeth sylw ar lawer o bynciau y byddwn. yn caru siarad llawer arnynt, ond dangosodd ei hun yn feistrolgar yn y ffordd y cerddodd. Carem gael hamdàen eto ar y testyn da hwn. Cymerodd y brodyi canlynol ran yn yr yrnddiddan, sef ein Hathraw, y Parch G. Hughes, B.A., Mn D. J. Davies, John R. Jones, Samuel Edwards, a John Da.vies. Daeth y Gymdeithas allan yn fVvvd iawn ar y materion a godwyd o'r papur. Pas- iwyd pleidlais 0 ddiolchgarwch i'r siarad- I wr am barotoi mor dda i ateb chwaeth Cvmcleithas o bobl ieuainc.. Goronwy Owen."—Darllenwyd papur ar y testyn hwn gan Sarah Jenkins. Y mae'n rhaid addef iddi ddewis testyn teil- wng iawn, a gwnaeth gyfeiriadau at y bardd maAvr oedd mor amlwg, ac a lan- wodd gylch mor bwysig. Nid' oes raid dweyd ini fel Cymdeithas gael gwiedd o'r fath oreu wrth wrando ar y papurhw. Siaradwvd llawer ani y beirdd a barddor iaeth. Gwelwyd oddiwrth y papur Gymdei thas y buasai y byd j wag heb Goronwy Owen. Pasiwyd pleid- j lais o ddiolchgarwch i Miss Jenkins arTI I chwilio hanes y gwr mawr hwn, a'i dradd- odi yn y Gymdeithas er budd i ni ac iddi hithau. LOGAN.
JERUSALEM, WREXHAM.I
JERUSALEM, WREXHAM. Sabboth, Mawrth 15fed, cynhaliwyd Cy- farfod Ysgol y Section. Llywyddwyd cy- farfod y boreu gan Mr James Williams. Dechreuwyd trwy ddarllen a gwecldio gan Mr R. J Hughes. Adrodd y xvii. benod o loan gan Mr Moses Edwards solo gan Miss H. E. Williams holi y xvii. benod o loan gan y Parch T. Jones Humphreys. Diweddwyd gan Mr James Williams. I' Llvwyddwyd cyfarfod y prydnawn gan Mr Edward Hughes, a dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr Wm. Parry. Araeth fer ac i'r pwrpas gan y Llywydd solo gan Miss F. M. Williams adrodd y 23 Salm, Miss Maggie Williams solo gan Phillys G. Jones Gweddi Plentyn o waith Cynogfab holi dwy benod o'r Hyffordd- vdd. gan Mr Moses Edwards solo gan Miss Nesta Roberts; adrodd penod t) Lyfr y Pregethwr gan Miss Ceridwen Davies adrodd emyn gan Gwyneth Edwards; solo gan Maggie Pritchard holi dwy benod o'r Arweinydd gan Mr Wm. Parry; adrodd Salm gan Gilbert Edwards. Diweddwyd gan Mr E. Williams, Rhosddu. Arweiniwyd cyfarfod yr hwyr gan Ly- wydd yr Ysgol, Mr Moses Edwards, a dech- reuwyd gan Mr Walter Williams. Caerhun trwy ddarllen a gweddio. Adroddiad o bennod gan Miss Gladys Davies deuawd gan Misses Hughes a G. M. Hughes holi 47 benod o Lyfr R. Pritchard gan y Parch T. J. Humphreys, ac atebwyd ya foddhaol iawn gan nifer o'r chwiorydd a'r brawd E. Hughes Anthem gan y Cor, Y Tad wrth y liyw anerchiad ar yr Ysgol Shl gan Master Hopwood penod o Lyfr yr Actau gan Mrs Charles Evans; anerchiad eto ar yr Ysgol Sul gan Master Llewelyn Evans Anthem gan y Cor, Seren Bethlehem" (Cynogfab) anerchiad gan Mr E. Ed- wards, Victoria Road. Diweddwyd gan Mr Valendine, Victoria Road, Y cynrych- 'dNvards, a i\lr Val iolwyr oeddynt Mr Edwards, a Mr Val endine o Victoria Road, Mr Williams o Rhosddu, a brawd arall o South Sea. Cawsom gyfarfod da ar ei hyd, a gob eithio y cawn weled ffrwyth yn y dyrodol, ac y bydd yr Ysgol Sul yn cael ei chodi mewn rhif a gwybodaeth o Drefn y Cadw. Nos lau dilynol cafwyd Social, pa rai sydd yn ami y dyddiau hyn am fed y Bazaar yn dynesu. Rhoddwyd y swper y tro hwn gan Mr a Mrs R. H. Jones, Awel Fryn, rhai sydd yn barod bob amser i wneud yr hyn sydd yn eu galiu at bob achos da. Cafwyd Entertainment ar ol y swper. Diolchwyd yn gynes i Mr a Mrs Jones am eu haelioni. M.R. I
DYSERTH. I
DYSERTH. I MARWOLAETH.—Gyda gofid yr ydym yn cofnodi marwolaeth y chwaer Jane G. Lewis, priod Mr W. H. Lewis, Bron y Berlin. Nid oedd ei hiechyd yn gryf er's peth amser beliach, yr oedd yn dioddefi gan wendid. Bore Llun, Chwefror 23ain, yr oedd ar ei ffordd i'r station ar y bwriad o fyred -gyda'r tren, pan y tarawyd hi yn wael—fe gollodd hunan-ymwybyddiaeth tua un o'r gloch. Bu farw am haner awr wedi pump, yn gadael un eneth bach i alaru am ei mham a gwr am ei briod anwyl, a thad,a chwiorydd. Dyrnod drorn oedd colli mor sydyn ac anisgwyliadwy, un mor dyner a gofalus. Hebryngwvd ei gweddillion i fynwent y plwyf. Gwas anaethwyd wrth y ty gan y Parch R. Lloyd Jones, Prestatyn. Ni fu erioed gladdedigaeth luosocach yn y lie. Yr oedd hyn yn profi ei chymeriad a'i dylan- wad da yn y lie. Nid oedd ond 38 mlwydd oed. Anodd yw deall ffyrdd croes- ion bywyd, ond mae yn dda genym fedclwl fod y brawd yn gwybod i ba "le i droi. Gwyddom ei fod yn gallu dweyd '• Fy I nghymorth a ddaw oddiwrth yr Ar- glwydd, a'n dymuniad a'n gweddi yw am iddo a'r teulu gael llawer cymorth yn eu tra llod. PRIODAS, Yn nghapel Wesleyaid dydd Iau, Mawrth 5ed, unwyd mewn priodas Mr R. Hughes, sydd yn bresenol yn Station Master yn Egarth, a Miss Williams, Llew- erllyd Mills, Dyserth. Derbyniasant lawer o anrhegion a dymuniadau da. Yr oedd yno lawer o gyfeillion wedi ymgasglu i'r capel. Chwareuwyd y Wedding March" gan Miss E. Williams, Clwyd Villa. Y Parch A. W. Davies oedd yn gwasanaethu, a da oedd genym ei vfeled yn edrych mor dda a deall ei fod yn gwella yn raddbi. Aeth y cwmni i gartref y briodasferch i wledda ar y danteithion oedd wedi eu darparu ar eu cyfer. Hefyd gwnaeth I Trustees y capel anrheg o Feibl iddynt. Duw yn rhwydd iddynt. J. E. I
ITRELOGAN. CYLCEDAITH LLANASA.…
TRELOGAN. CYLCEDAITH LLANASA. I Nos Sadwrn, Chwefror 2lain, Ca.fWY'd1 Social yn y Ue uchod yr hwn a roddwyd yn rhad gan chwech o gyfeiHion yr eg?ys, sef Mrs Ellis Evans, Miss M. E. Price, Mri Edward Parry, Axton A. Parry, R. Wil- liams, Daniel Jones, Trelo^-an. Daeth tyrfa ardderchog i fwynhau eu hunain o'r danteithion a baratowyd gan y chwaer ffyddlon a gweithgar Mrs Edward Parry, Arhosfa. 'Roedd yr olygfa yn hard(I pawb yn gwneud chwareu teg a'r bara brith a'r seed bread. Am 7 o'r gloch yn yr hwyr 'roedd y capel yn orlawn wedi. dod i wrando ar Cantata yr Adar gan bL-n t Gwespyr, o dan arweiniad Mr Thomas Williams; 'Roedd y Cor yn cael ei gyn- orthwyo gan yr unawdwyr canlynol, sef Miss Gertrude Wilson, Gronant; Buddig Wilson, Gwladys Williams, Gwespyr ■; Annie Gertrude Williams, Minnie Wil- liams, Per. y Ffordd Master Wiifred Lawson Jones, Gwespyr; Mri Isaac Thomas Jones, Ellis Davies," Gwespyr. Adroddwyr, Miss Blodwen Williams, Miss Mvfcinwy Williams, Glan'rafon. Draina- u'uvr, Misses Gwladys Williams, Annie Jonc;, Susie Roberts, Jessie Hughes L^tholiadau ar y Mouth Organ neu Safn Organvdd, Mr William Hughes. Cadeir- ydd, Thomas it vans. Esq., Tvn-y-Morfa. Arweinydd, Owen Ellis, Esq., Trelogan. GOH. I,
CORWEN..-1
CORWEN. -1 R' A CHYNGHERDD.—Cynhaliocld Wes- eu 'i-e BIVD, vn Mhafiliwn yr Eisteddfod, v a < w yr, dydd Merc'her,» Mawrth i- r r""dd chwiorydd parchus a frydd- in ) leg; wecU gwneudy parpariadau cyfaddasaf, yn ol eu harfer, a chawsant yr hyfrydwch o weled nifer luosog o ewyllys- wyr da yr Achos, wedi yrngasglu yn nghyd o'r dref a'r wlad 1 gydgylianogi on har- Iwyaeth. Cadeirydd y Cyngherdd yn yr h wyr ydoedd A. Romer Wynn, Ysw., Rug. Cyfeiliwyd gan Mr W. Bradwen Jones, a chafwyd gwasanaeth Madame Gertrude' Lees, a Mr Frank Nicholson, yn nghyda Miss Annie Rowlands, a Messrs Hum- phreys, Jones, Atkinson, a Williams. Yr oedd trefniadau wedi eu gwneud i gael dwy gystadleuaeth gerddorol—y naill i barti cymysg, ar "Yr Haf" (Gwilym Gwent), a'r llall, i leisiau meibion, "Y Milwyr Rhufeinig," gan Protheroe. En- illwyd ar y gyntaf gan gor o dan arwein- iad Mr Arthur Humphreys. Yn y gystad- leuaeth arall y cor buddugol ydoedd yr un a arweinid gan Mr W. Bradwen Jones—v beirniad cerddorol ydoedd Mr Wilfred Jones, R.A.M. DARLITH.-Nos Wener, Mawrth I3eg, ya Nghapel y Methodistiaid Calfmaidd, traddodwyd darlith ragorol ar Howell Harris, gan y Parch M. H. Jones, B.A., Ton Pentre. Y Cadeirydd ydoedd T. Dudley Morgan, Ysw., N. & P. Bank. CYFARFOD GWEINIDOGION. Prydnawn dydd Gwener, Mawrth 13eg, am 2 o'r gloch, yn Ysgoldy y Wesleaid, cynhaliwyd Cyfarfod Misol Gweinidogion Corwen a'r cylch, o dan lywyddiaeth Mr Prichard (A.), y Ddwyryd." Y Ddau Gyfamod," yn ol yr Epistol at yr Hebreaid ydoedd y mater i'w drafod yn y cyfarfod hwn. Parotowyd papyr ar y pwnc yn ol trefniad blaenorol gan y Parch Owen Hughes (W.). Agor- wyd ymddiddan pellach, gan y Parch John Williams (MC.). UN O'R LLU.
POPLAR, LLUNDAIN.
POPLAR, LLUNDAIN. Ofnaf fod Rhys, croniclydd yr achos a1 y He hwn, wedi mynd ar ddisberod, gan nad ydym wedi gweld dim o'r hanes yn y G. N. er's tro. Gobeithiwn ei fod yn fyw a dianaf, ac y daw at ei waith eto yn fuan. Mae'r Gymdeithas wedi dirwyn i'r pen am eleni. Cafwyd cyfarfodydd nodedig o dda ar hyd y tyinor. Buom yn ymgodymu a. phyngciau mawr uchfeirniadaeth drwy'r gaeaf. Cafwyd ami i ddadl rhwng yr hen a'r I iiewydd,' a'n profiad ar y terfyn ydyw fod y Beibl os yn fwy dynol, yn fwy dwyfol a byw yn ein golwg nag eriued. Mae chwiorydd diwyd y Gymdeithas wrthi yn ddyfal ynglyn a'r cyfarfodydd pwytho, yn gweithio at y Bazaar ynglyn a'r capel newydd. Gan nad yw yn gyfleus i bawb fynd i'r cyfarfod pwytho, trefnwyd i gael ambell i Social yn Poplar, a'r elw i fyned i drysorfa y capel newydd. Cafwyd un beth amser yn ol gan Mrs Williams, Ilford. Methodd Miss Hughes, Earl's Court, a dod i'r gadair, ond anfonodd gini i'r casgliad. Nos Lun diweddaf cafwyd yr ail, yn cael ei roddi gan y Misses Kendrick, White Horse Street—dwy chwaer i'r Parch. LI. Kendrick, Llanelwy. Yr oedd y danteith- ion yn ddibrin. Ar ol yr arlwy hon cafwyd cyngherdd rhagorol; yr oedd y Misses Kendrick wedi llwyddo i gael digon o gantorion at ein gwasanaeth. Canwyd amryw weithiau gan yr Hackney Philar- moriic Society, dan arweiniad Mr William Bowen a chafwyd unawdau, deuawdau a phedwarawd gan aelodau y cor, sef Mri. Ted a John Thomas, Misses Annie a Lallie Thomas, a Miss Susie Williams a Lloyd Jones. Gwasanaethwyd yn fedrus wrth y berdoneg gan Miss Sallie Thomas. Methodd Mr Owen, Notting Hill, y cadeirydd ap- wyntiedig, a bod yn bresenol gan wael- edd, ond yn ol eu harfer daeth Mrs Owen yno a thair gini i'r casgliad. Cymerwyd y gadair, neu y pwlpud yn hytrach, vii ei absenoldeb gan Mr E. Jones, Roman Road. Cynygiwyd y diolchiadau1 arferol gan y Parch J. R. Roberts, ac eiliwyd gan y Parch E. Tegryd Davies. Tystiolaeth pawb ydyw rnai dyma y Social mwyaf liwyddianus fu yn Poplar facii er adeg Adda. Yr oedd y danteithion a'r canu yn uwchraddol, a'r capel yn orlawn. Byddaf yn cael gfwaith ymatal rhag gwenu weith- iau wrth weld hanes ambell i frawd rwyn adwaen wedi bod yn llenwi y pwlpud yng nghapelau Cymru yna, ond dealla pawb wyr am bwlpud Poplar ty mod yn dweyd y gwir pan y (iywedaf iddo gael ei lenwi nos Lun diweddaf, achos yr oedd y ddau weinidog yno ynghyd a Mr Edward Jones, a lianwyd y pwlpud. Cafwyd elw sylweddol i drysorfa y capel newydd. ELWYH.
COEDPOETH.
COEDPOETH. MARWOLAETH Mr Robert Jones (Pr0geth- wr), brawd y diweddar Mr Thomas Jones (Canrhawdfarddi. Bu farw MrJoiie; yn 6, Smithy Road, Penygelli, Coedpoeth, nos Fercher, Mawrth lleg, wedi cyrhaedd yr oedran o 83 mlwydd oed. Yr oedd ein brawd,yn enedigol o F\v!chycre;gi.au, sir Fflint, a daeth i'r gymdogaeth hon tua phedair blynedd yn oi, Yrnunodd a chref- ydd pan yn ieuanc iawn, a daliodd yn ffyddlon hyd y diwedd. Dywedir gan tai sydd yn ei adnabod oreu, ei fod wedi pre-! gethu am yn agos i driugam mlynedd. Bu yn ystod ei fywyd yn bregethwr sefydlog ar Blan pedair o wahanol gylchdeithiau. Rhyw ddeugain mlynedd yn ol daeth i Coedpoeth o gylchdaith Treffynon. oddi- yno i Llanidloes, wedi hynny i Fcrndale, yna yn ol i Rhesycae; sir Fflint, JIe y bu am gyfnod maith. Oddiyno cerddai i bentre Helygain i addoli. Bu farw ei annwyl briod oddeutu 23ain o flynyddoedd yil ol, a chymerodd ei chwaer, Elizabeth Jones, ofal o hono ef a'i gartref hyd nes yr ehedodd ei hysbryd hithau i'r gwynfyd rhyw bum mlynedd yn ol. Wedi hynny cactrefodd yn Nanerch, hyd nes y darfu iddo ddyfod at ei nai, Mr R. E. Jones, lie y t/u farw. Yr oedci yn bregethwr brwdfrydtg a cnymer- adwy iawn, a chanddo gynulli.adau da bob amser. Gwr ydoedd a cbymeriad:h?gorol ganddo—wedi arwain bywyd gLai. yn hoff o'i Feibl, yn ei ddarllen yii icicl, ac yn myiyrio yn ei gynwys. yn gyson ya ei Restr fel biact-ir r, ),.I- oedd iad clir ac ganddo brofiad clir ac eglur: ;r!oleddai pan yn son am yr Iachawdwiir.^th Fel v dywed y Parch. D. A. Richards, yr oedd yn hynod. afaelgar mewn gweddi, un o ragor- olion y ddaear ydoedd. C i ki, N, d ei weddillion yn Mymvent C^e j m pryd- nawn dydd Llun V tf < asan- vn dog- ion canlynol* Puh n T. Ca Roberts. D. A. Richards, R. J, Parry, T. 1 Jones* {')v.. ood,. a' Mr James Willi,- i' H qrch i'w lwch hyd ganiad yr udL orp. divv..dxf.