Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Adroddiad Pwyllger y Tir.
Adroddiad Pwyllger y Tir. I J. J. XVII, t I Ai mantais y ffarmwr fydd Percii- I enogi y tir y mae yn ei drin ? I Cwestiwn yw hwn i'w ateb yng ngoleuhanes. Mae adeg wedi bod pan oedd yr Yeoman Farmer yn cael edrych arno gyda pharch fel gwr a ystvrid yn elfen o nerth mawr i'r Wladwriaeth; ond sydd wedi myned bron o'r golwg, ac yn parhau i fyned yn fwy o'r golwg. Mae llawet yn y wlad yn credu mai mantais fyddai ei gael yn ol i'w le cyntefig ond mae dwy farn ar y pwngc. Mae Syr Gilbert Parker, A.S., wedi cyhoeddi llyfr gyda'r amcan o dadleu dros i'r ffarmwr fod yn berchenog ei dyddyn. Dyma ddywed ef, Nid ychydig o r tirfeddianau mawnon sydd yn bod yn awr sydd a'u dechreuad mewn sugno i fyny dyddynod bychan berchenogid gan y rhai oeddynt yn byw arnynt-gan gyf. reithwyr a benthycwyr arian, trwy alw y Mortgages i mewn a gwerthu eu tiroedd, a phobpeth arall ou cwmpas oedd yn berchenogaeth y tyddynwr, yn gelfi ac anifeiliaid yn ogystal a'r Freehold—a hynny yn ami yn llai na digon i daiu yr ech- wyn ynghyd a'r Hog eithafol a'r costau cyfreithiol ar ba rai nid oes bron derfyn." Mae adroddiad y Royal Com- mission on Agriculture 1897, yn dacgcj y caledi ddyoddefwyd gan y Yeoman Farmer yn adeg y dir- wasgiad amaethyddol oedd yn bod yn yr adeg yr oedd y Commissiwn I vn ei"ibdd. Wrth gwrs, teimlwyd y F)Oliad yn gyffredinol trwy y > .-j oob gradd a dosbarth o vyi ond, dengys yr ad- yn eglur mai y ffarmwr t perchen (mewn enw} ei liar b i oedd y cyntaf i deimlo y ei theimlo ddyfnaf. Mae taflen yn dangos fod cyfar- taledd o 15.32 y cant o amaethwyr y wlad (Lloegr a Chymru) yn berchenogion y tir lafurient yn 1887. Yn 1900 yn 13.53. Yn 1912 yi* 10.87 y cant. Mewn pum mlyn- edd ar hugain wedi lleihau yn agos i bump y cant. Llwyddodd llawer i werthu eu tiroedd heb y boened- igaeth o ledrych ar waedgwn y Mortgagee a'r cyfreithiwr a'u gos- gorddlu yn ysglyfaethu arnynt ond yn ddieithriad yn dyoddef colled drom, a'u hysigo am eu hoes, tra yr oedd llawer eraill 'yn myned yn ysglyfaeth rhwng y cig- fran a'r cwn. Dengys yr adroddiad yn dra eg- lur fod y Mortgages trymion a'r llogau a'r costau wedi bod yn ddinystr i laweroedd o Yeoman Farmers, tra yr oedd y rhai ddal- ient eu ffermydd dan rent yn gallu cadw (trwy ymdrechion celyd, wrth gwrs) eu penau uwch y don, a chael yr hafan yn y diwedd. Mae y crynodeb byr uchod o hanes yr Yeoman Farmer yn dang- os nad yw y cynllun gynygir i'w adfer i'r wlad yn anffaeledig a dweyd y lleiaf. Yr agwedd gyllidol i'r pwngc. I Gall fod o ryw fantais i'r am- aethwr a fedr brynu ei ffarm a thalu arian parod am dani, a digon o arian wrth gefn i' drin ei ffarm fel ag i gymeryd mantais ar y farchnad oreu i brynu y nwydd- au fydd arno eu heisiau, ac i allu cadw ei stock heb orfod eu gwerthu i gael arian i gyfarfod ei ofynion presenol, ac aros am well march- nad i werthu. Ond, pa nifer o'r ffermwyr hyn sydd i'w cael ? Mae 6 leiaf 99 y cant o amaethwyr Lloegr a Chymru ar eu goreu yn rrieddu digon i allu rhoddi stock gyflawn ar y tir a phrynu y peir- ianau diweddaraf a goreu i drin y tir a thalu eu rhent yn ei bryd heb un ai benthyca arian i aros gwerthu, neu werthu i anfantais yn fynych, neu ynte fod o dan drugaredd y landlord i aros am y rhent. Nid oes cynllun wedi ei gynyg hyd yn hyn ar nad yw yn cynwys fod i'r ffarmwr sydd yn prynu ei ffarm dalu cyfran o'r gwerth, y bedwerydd neu y burned ran. Dy- weder fod y gwerth yn dair mil o bunau. Dyna y prynwr yn talu £ 600 i lawr o arian sychion. Mae y ffarmwr fedr dalu £ 600 yn Wf lled anghyffredin yn y wlad, gellir teithio ami filltir cyn dod o hyd iddo ac wedi dod o hyd iddo, mae ganddo log blynyddol 0 4t y cant i'w dalu, y degwm, y Land Tax, repairs-pethau y mae y ten- ant yn eu taflu ar y landlord. Nid oes cynllun wedi ei gynyg hyd yn hyn gydag unrhyw awdurdod o bwys o'r ta cefn iddo, ar nad yw yn rhoddi 4i y cant i gyfarfod llog a Sinkiiig P und fydd yn diogelu adaliad y corff mewn deg neu bymtheng mlynedd a thri ugain, tua thair oes cyn y daw yn eiddo clir y prynwr. Mae y Landlords yn dweyd mai eithriad anaml ydyw 3 y cant o log am eu harian iddynt oddiwrth eu tiroedd. Mae hon yn broblem gyllidol i'r amaethwyr sydd yn galw am ys- tyriaeth ddoeth a phwyllog. Mae tir yn cael ei werthu am bris llaw- er uwchna'i wir werth amaethydd- ol. Mae Sporting Value yn cael ei gysylltu a'r tir, yn gyrru y pris i fynu yn afresymol o safbwynt am- aethyddol. Dywed Mr W. Anker Simmons. Gall y ten ,nt gymeryd tir am lawer llai o rent na'r Hog, &c., blynyddol fydd raid idio ei dalu trwy brynu, oblegid yr amodau yn yr ardaloedd gwledig yn Lloegr a Chymru lie y cysylltir Sports a difyrion gyda'r tir. Mae pris y tir i'w brynu, ailan o bob cyfartaledd a gwerth amaethyddol y tir. Ar watiani uchelgais am berch- enogi a Sport, nid oes nemawr d?im yn atdynu yr amaethwr i! brynu ei ffarm i'w thrin er gwneud bywiolaeth o honi." Ceir barn unol y Farmer's Clubs yn y frawddeg fer a ganlyn :—" We want our capital infested on the land but do not wish to sink it in the land." Adroddir y frawddeg hon gan lawer o'r tystion air am air. Mae yr uchod yn ddatganiad cyffredinol yn enwedig ymhlith y Small Holders. Iddynt hwy, mewn modd arbenig, mae talu y burned ran o'r gwerth yn ystyriaeth dra difrifol, yn gymaint fellv ag i'w gosod tuallan i derfyny r, possibil- rwydd gan arnlaf. Wedi rhoddi sylw macylaf ar ystyriaeth ddyfal^f i'r pwnc yn ei holl agweddau, r e 17Jlgor yn dyfod i'r casgliat' 1. "Mae dosbarth dylanwadol or amaethwyr yn barnu yn ffafr cyn- llun i brynu eu ffermydd gyda chymorth arianol y wladwriaeth." 2. Mae y mwyafrif o'r dosbarth hwn yn cefnogi pwrcasiad trwy gynorthwy gwladwriaethol ar y llinellau gynigid gan Mr Jesse Collings." 3. "Mai amhosibl yw sefydlu cyn- llun ar y llinellau hynny h.y., Jesse Collins. Byddai yr amodau mwyaf ffafriol a ellid eu gosod ar hyn o bryd yn rhwym o gynwys (a) I'r wladwriae,Lh feiithyca rhan o'r gwerth, yn debygol tua phedair rhan o bump. (b) Benthycid yr arian am 4-1 2 y cant yn cynwys Hog, Sinking Fund a'r costau. Byddai amser i dalu yn ol y corff o angenrheidrwydd yn bymtheng rnlynedd a'r hugain, os yn fyrach na hynny byddai y taliad blynyddol o angenrheidrwydd yn fwy." 4. "Mae y dymuniad i berchenogi, nid am y mwynhad o berchenogi, ond er mwyn sicrhau daliadaeth ddirwystr, ynghyd a phob peth sydd gynwysedig mewn Security of Tenure. 5. "Mae yn ffaith fod Yeoman Farmer y mynedol wedi myned o'r golwg gyda'g ychydig eithriadau ar ol eu gorlwytho gyda Mortgages neu gael eu temtio gan gyfoethog- ion llaw-weithfaol ac eraill i werthu. Ymhellach, mae yr ychy- dig a brynasent eu tiroedd yn ddi- weddar, a siarad yn gyffredinol, mewn sefyllfa arianol lawer gwaeth na'r rhai a ddalient dir o dan rent." 6. Os sefydlir pryniant trwy gymorth gan y Wladwriaeth ar amodau cyllidol ddyogel, bydd y ffarmwr mewn amgylchiadau gwaeth yn gyllidol," oblegid- (a) Byddai rhan o'i gyllid yn suddedig.-yw y tir, yn troi allan y llog lleiaf, gyda'r canlyniad nas gallai ei weithio ar y tir i'r fantais oreu. (b) Os byddai gan yr amaeth- wr ychwaneg nac un plentyn, er mwyn darparu ar gyfer yr ieuengaf, byddai raid gwerthu neu godi Mortgage ar y tir mewn achos o farwolaeth y tad." (c) Byddai mewn cyflwr gwaeth yn gyllidol am y byddai y Hog, Sinking Fund, degwm, costau trwsio yr adeiladau, a'r trethi breiniol gyda'u gilydd yn llawer mwy na'r rhent." 7. Os byddai y prynwyr yn rhyddion i werthu y tir pan y myn- ont, ac fel y mynont, ni byddai dim yn rhwysto i werthu i gyfoethog- ion, a thrwy hyny beri yr un peth i ddigwydd eto ag y cwynir o'i her- wydd ar hyn o bryd. O'r ochr arall, os na byddant yn rhydd i werthu, byddant yn rhwym i'r un Ile ar un amgylchiadau, ac amaeth- yddiaeth yn dyoddef o'r cyfeiriad hwnw." 8. "Ar wahan i'r gwrthwynebiad- au a'r anhawsderau o du y ffarmwr ei hun, nid yw yn ddymunol o du v wladwriaeth. Pe byddai i'r cynllun droi allan yn golled, bydd- ai y golled yn disgyn ar y treth- dalwyr. O'r ochr arall, os byddai yr amodau yn gyfryw ag i wneyd y cynllun yn gyllidol ddiogel i'r wladwriaeth, byddai y baich ar y ffarmwr yn ei analluogi i wneyd y defnydd goreu o'r tir oblegid diffyg cyllid a'r cynyrch yn llai na'r hyn yw ar hyn o bryd, ac yn enwedig o dan gynllun ddiogel ai sicrwydd daliadaeth." Llys Tirol (Land Court) Dangoswyd eisoes nad oes un rhyw gynllun o ddaliadaeth ar nad yw yn diogelu y tenant a saif i fynu am eihawliau gan y landlord rhag cael ei droi allan o'i ffarm yn 01 mympwy ei feistr tir yn fodd- haol-, nac yn fanteisiol i'r wladwr- iaeth. Dangoswyd hefyd nad oes un rhyw gynllun i brynu y tir gyda chynorthwy y wladwriaeth ar raddfa eang, debyg i'r cynllun Gwyddelig-yn gyllidol ddiogel i'r amaethwr- ac i'r wladwriaeth, ar yr un pryd, byddai y naill neu y Hall yn dioddef colled. Mae llawer wedi awgrymu i'r pwyllgor mai buddiol fyddai i'r wladwriaeth neu y cynghorau sirol &c., brynu y tir allan ac allan a'i osod i'r unigolion o dan rent rhesymol. Pan gofier fod pedwar can mil o dyddynod mawrion a bycliain, eglur yw mai amhossibl yw i'r wladwriaeth weithio allan unrhyw gynllun i bwrcasu yr oil mewn arrserrhesymol fel a.g i roddi sicr- wydd daliadaeth ond i nifer gyd- marol fechan o'r amaethwyr. Bernir gan hyny mai bnddiol fyddai sefydlu llys tirol gydag I awdurdod i benderfynu rhent rhes- ¡ ymol, ynghyd a phenderfynu I i i rhwng y pleidiau mewn achos o anghydwelediad ar y pwngc o Compensation ar ymadawiad. Hefyd, mae profiad y cyngorau sirol o'r anhawsder i brynu tir.i'w osod yn Small Holdings, oblegid y crogbris ofynir am y tir ynghyd ag anfoddlonrwydd y tirfeddianwyr i werthu o dan unrhyw amodau-yn gwneyd yn angenrheidiol rhoddi yr hawl i orfodi tirarglwyddi i werthu tir i Small Holdings, ac hefyd i ddybenion cyhoeddus pan fyddo mantais y gymydogaeth yn galw am hyny. Ac i brynu y tir am ei briodol werth ac nid yn ol mympwy y tirfeddianydd sydd yn gwylio ei gyfleusdra i gymeryd y fantais arno i ddyblu a threblu y gwerth. Ystyriai y pwyllgor mai tra manteisiol fyddai fod llys o'r natur yma ynJ bod i apelio ato, ac aw- durdod derfynol ganddo ar y peth- au a nodwyd, ac at hynny i ddyog- elu y tenant rhag cael ei droi allan o'i ffarm ond am resymau digonol o afreoleidd-dra ar y tenant ei hun, neu fod angen am y tira ddehr gan- ddo iiddybenion cyhoeddus a man- tais y lluaws. Mewn achos o'r natur hwnw, wrth gwrs byddai y llys tirol yn gofalu ei fod yn der- byn iawn digonol am bob colled. Bernir hefyd y byddai llys o'r natur yma yn parotoi y ffordd yn dra effeithiol i bryniad cyffredinol y tir trwy attal y tirarglwyddi i godi y rhenti yn afresymol fel y gwneir yn awr i'r amcan o yru pris y tir i fyny yn y farchnad. Mae yr agwedd yma wedi cael sylw eisoes. Mae llys tirol wedi ei sefydlu yn ucheldir Scotland er y flwyddyrn 1886 yn dal perthynas gyda thydd- ynod £ 30 yn y flwyddyn ac o dan hynny. Yn y flwyddyn 1911 estynwyd awdurdod y llys hwn hyd ddaliad- au o £50 neu 50 acer. Nis gall tir arglwydd droi tenant allan o'i ddaliadaeth wrth ei ew- yllys ei hun yn y rhan honno o'r deyrnas. Gall y llys tirol awdur- dodi gyru y tenant allan os bydd y llys yn argyhoeddedig o afreoleidd- dra o du y tenant gyda thalu y rhent, neu niweidio y property yn fwriadol, trwy esgeulusdra." neu rywbeth arall. Gall y meistr tir neu y tenant roddi rhybudd i'r llys pan fyddo cwyn nas gall y pleidiau eu hunain gyttuno ami, h.y., os bydd y tenant eisiau gostwng ei rent, neu y meistr tir eisiau codi y rhent, neu yn ymadael o'r ddaliad- aeth, ac yn methu cyttuno ar y swm ddylid ei dalu am welliantau neu am ddirywiad yng werth yr Holding. Mae gweithrediadau y llys yn Scotland yn cael eu gwneud mor syml a qealladwy i bawb ag sydd yn bosibl, a'r costau yn cael eu cadw i lawr gymaint ag a ellir. Mae y llywydd, ac efe yn unig yn gyfreithiwr, y pedwar aelod eraill yn lleygwyr, sef un tirfeddianydd. un land agent, un grazing farmer,' ac un arable farmer.' Er fod y llys yn dal awdurdod gyfreithiol derfynol ar bob pwnc perthynol iddo eto, mae gweith- rediadau y llys yn fwy o drafodaeth gyfeillgar—yn amcanu at gytundeb ddiddig—nac o lys barn yn myned ar linellau celyd a manwl deddf, ac y mae y pleidiau yn deall ac yn gwerthfawrogi hyny, ac y map y cynllun yn gweithio yn dra bodd- haol i'r naill blaid yn ogystal a'r Hall. Mae profiad y llys tirol yn Scot- land yn dangos yn eglur fod llawer lav/n llai o achosion yn cael eu dwyn iddo nac a ofnid ar y dechreu, am fod y pleidiau yn rhoddi fY is uchel ar ddyogelu y teimladau goreu rhyngddynt a'u gilydd, ac1 yn cyfarfod eu gilydd gyda rhydd- frvdigrwydd canmoladwy. Dyma ddywed y pwyllgor ar ol ymholiad tra manwl i weithrediad- au a hanes y Scottish Land Court: "The proposal to give security of tenure is really nothing more than to confer legislative sanction upon the custom and the usage prevail- ing on well and benevolently man- aged estates." Mae y ddeddf wedi bod o werth anrhaethol i'r Crofters. Gellid nodi lluaws mawr o dir- feddianwyr, goruchwylwyr, ynad- on, barnwyr, ac amaethwyr, yn nghyd a difyniadau o sylwadau yn nau dy y Senedd, yn cyd-dystio^- aethu i werth mawr y ddodui a Scotland. Gwelir mai nid naid yn y tyw- yllwch ar un cyfrif ydyw sefydlu llys cyffelyb i Loegr a Chymru, Mae yr arbrawf wedi profi yn llwyddiant yn Scotland.
[No title]
Bangor a Llandudno. Y mae tren fodur \vedi dechreu rhe_ yr wythnos hon rhwng Bangor a Llandr' no, a,-gwneir ymaith a'r cyfnewid trel U yn Llandudno Junction. v
Ai Ffug ynte Ffaith ydyw ?I
wrthyf drachefn-" Dal i edrych, canys nid yw'r datguddiad eto yn gyflawn." Yn awr gwelswn olygfa newydd yn agor o'm blaen, ac fel yr ymberffeithiai gwelswn ystafell wely oer a llom, a mawr oedd fy syndod pan welais mai ei deiliaid oedd y genethod a welswn yn fawr eu rhwysg ychydig cyn hyn, ond yn awry fath wahaniaeth. Yr oeddynt yn wylo yn chwerw, ac ymddangosai un fel pe ar ei gwely angau, ac yn hongian rhwng y ddeufyd-yn methu byw ac yn ofni marw, ac 0 'r fath iasau ysol oedd yn argraffedig ar ei gwedd: edliwiai iddi ei hun hen droion chwith yr yrfa, a'r modd yr arweiniwyd hi o'r gorlan glyd ar ddiasperod i anialwch maith y byd, a gweddiai gyda'r fath daerineb am fadd- euant o'i phechodau, a soniai am hawl yr iawn i'w rhoi yn rhydd," a maes o law clywn ei llais egwan yn codi mewn ymbil ac yn dweyd :— lesu, lesu, gaf fi ofyn I ti wrando ar fy nghri, Wael bechadur brwnt, anheilwng, Gael dy sylw lleiaf di, Gaf fi ddyfod I ymguddio yn dy glwy' Ac er fod y diwedd gerllaw, 11am ai fy nghalon mewn llawenydd wrth weled ei gwynebpryd yn goleuo, a'i bod yn gafael yn dynach yn yr hen raffau, ac meddai: "Mi gaf yma siriol wenu Ar gyfiawnder pur y nef, t Am fod lesu wedi lianw Ei ofynion Dwyfol Ef, Gorfoleddaf Byth yn aberth pen y bryn." Ac fe ehedodd ei henaid noeth i wydd- fod ei Barnwr yn swn gorfoleddus y ddwy linell ddiweddaf hyn. Unwaith eto clywswn y llais yn j dweyd Awn oddiyma," ac yn union deg dyma ni drachefn ynghanol dwndwr yr heolydd, yn ymlwybro tuag at ysgwar eang, lie y gwelswn dorf anferth o bobl, yn bedwarau dilynol, wedi eu trefnu yn un a mur adeilad mawr, pa un oeddynt a'u bryd ar fyned iddo, ac ymsyniwn yn fy hun-Pwy yw y rhai hyn ? Ond cyn cael hamdden i feddwl ychydig, dyma fy nghydymaitb yn fy ngorchymyn i'w dilyn i'r adeilad, ac er fod y lie dan sang, eto, am ryw reswm oedd yn an- hysbys i mi, aem i mewn yn hwylus ddigon. Gwelais ar unwaith mai chwareudy braf ydoedd, a chymerasom ninnau ein safieoedd mewn man man- teisiol, o'r lie y gallesem weled y dorf fawr oedd yno ynghyd ar esgynlawr oedd o'n blaenau. Ac wrth edrych ar adeilad canfyddem fod celfyddid wedi bod ar ei goreu i'w wneud i ddenu pobl iddo, a rhyfeddod oedd gweled y cadeir- iau a'r clustogau, y muriau wedi eu haddurno, a goleuni llachar y trydan yn perlfeithio yr oil. Ac yn y fan daeth i'm meddwl am ambell i hen frawd, pan y byddai eisieu adgyweirio tipyn ar y capel, fel y gwrthwynebai, y chwyrnai ac y bytheiriai rhag gwneud y lie yn ihy grand,' ac o ganlyniad yn destyn debar segurwyr, a chael eu cyhuddo o ddilyn balchder yr oes.. Ond druan o honno, beth pe gwelsai lawer o'r lleoedd hyn ar hyd a lied ein gwlad. Ac os yw Iluoedd Satan yn gwneud y fath ym- drech yn hyn o beth, pa faint mwy ein dyled i brydferthu ac anrhydeddu temlau'r Goruchaf Dduw, ac fel y mae yn gyfreithlon i ddyn ddefnyddio un gwenwyn er gwrthweithio effeithiau gwenwyn arall, felly hefyd y cyfreith- lonir pobl Dduw am brydferthu a cbaboli eu capelau, yn enwedig os bydd hynny yn atdyniad i'r bobl, ac yn foddion i deneuo rhengau y gelyn. Ond dyma atalfa ar fy myfyrdodau hyn etc. Y n mhen arall yr adeilad dyma y lien yn codi, a-dangbosid y banlawr yn ei holl wychder, ac arno wele nifer o enethod glandeg-ond gen" othocl yn dwyn nod yr aberth serch hynny. A rhyfeddwn eu gweled mor brin o wisgoedd, ond erbyn meddwl yr oedd hyn o bosibl yn help iddynt fyned trwy eu gwahanol gampau. Ond beidd- iaf ddweyd fod bynny yn fwy o atdyniad i ami i berson a walswn yn y dyrfa, oedd wedi hoelio eu llygaid cnawdol megis y gwna eryr ar ei ysglyfaeth. Ac O! y grechwen ellyllig a welswn ar wynebpryd ami un fel y dilyrient sym- udiadau y gwrthrychau truenus hynny ,oedd yn diraddio eu hunain er rhoddi iddynt ychydig fwyniant dros amser. Ond troais fy llygaid a gwelais wyneb- pryd fy nghydymaith yn dwyshau, ac yn fuan wele'r chwareufa drosodd, a symudai y dorf fawr yn derfysglyd tuag allan, a Dirgelwch a minnau yn eu mysg. Wedi cyrhaedd yr beol arwein- i wyd fi at borth neiilduedig oedd yn nghotn yr adeilad, ac er fy syndod gwelais fod y fynedfa, hon yn cael ei gwarebae i ryw bwrpas ua& ^Vvyddwn i am dano, ac adnabum y gwarchaewyr ar unwaith fel y personau oedd o'r tu mewn i'r adeilad yn crechwonu ac yn cynllwyno drygioni yn erbyn y rhai a fuasai, pe heb fagl y demfcasiwn hon, yn gymharol ddiniwed. Ond cyn bir cefais esboniad llawn ar yr hcii lielyat. Wele y genethod a welswn gynt yn chwareu ar yr e?gymawr yn yr adeilad yn dyfoui allan drwy y porth mnHcbeJlg hwn,a|i sylwais fod eu, diwyg ^yn awr dipyn ?u salach a thlotach yr olwg na chynt, ac i mi tystiai hyn yn groew nad oeddynt o lawer uwchlaw angen a chyn gynted ag y gwnaethont eu hymddangosiad, wele y rhai oedd o'r tu allan yn rhuthro am danynt fel torf o anifeiliaid direswm, ac o dan yr amgylchiadau a nodais, ni ellid disgwyl na bod natur yn wan ac felly maglwyd y trueiniaid yn y rhwyd a daenwyd ar eu Ilwybr, a'r olwg ddiw- eddaf a gefais arnynt oedd yn cerdded ymaith bob yn ddau a dau—fel adar mis Mawrth. Ond i ba le -? Taenwyd y lien rhyngwyf a'r weled- igaeth hon eto, a safai Dirgelwch' a minnau yn unig, ac meddai wrthyf- Ha ddyn marwol a phechadurus, amhosibl yw i ti dreiddio trwodd i fy mhreswylfeydd i, am hynny gosodais arnynt orchudd, a chuddiais y weledig- aeth hon o'th wydd, rhag i ti un amser, wrth geisio ohonot gy'flawni fy ngorch- ymyn, fod i ti dy hun yn ormod poen, ac i ti yn dy wendid wneuthur mwy o ddrwg nac o dda yn dy ddatguddiadau. Rhoddaf i ti hefyd y siars ddiweddaf hon, ac wrthi y bydd sel a holl awdurdod Tywysogaeth y Gorthrwm. Dangos i'th gydfforddolion pwy ydyw y pechadur- iaid, a dywed wrthynt am y mawr ddrwg hwn,—am faint ac ofnadwyaeth eu cosb am lwybrau uniawn dyled- swydd,-y wobr a'r ffrwyth ar ddiwedd y cynhaeaf mawr. Ac yn bennaf dim boed i ti eu hadgoffa am bris yr aberth -ie yr eneidiau a gollir, a dwylaw pwy a fyddant gochion pan ofynir am gyfrif o'u gwaed hwynt yn y dydd mawr hwnnw, pan seinir yr ugorn arian clir i wysio holl angylion a seintiau'r nefoedd ynghyd i edrych dros ganllawiau y gogoniant ar y Panorama mawr diw- eddaf yn myned heibio. A lor yn ei ddigter a dery y ddaear Nes cryna cysawdau y bydoedd mewn braw; 'Rannuwiol ymwinga mewn gwewyr wrth ganfod Llym gleddyf cyfiawnder yn taraw o draw, A llefa'n orphwyllog yn ing ei gydwybod t, Y], ing ei g ydwybod Am filoedd o fydoedd i'w gadw rhag barn, Ond dial wna'r dwyfol, a chosp rydd am bechod, Gwna'r ddaear yn deilchion a'i seiliau hi'n sarn." A chyda fod y geiriau ofnadwy hyn dros ei gwefusau dyma gorwynt mawr yn ysgubo heibio, ac wele Dirgelwch' yn lledu ei hadenydd arno, ac.yn esgyn fry i'r entrych o'm golwg, a daeth arnaf innau ofa mawr, a syrthiais yn farw mewn llewyg. Daethum ataf fy hun yn union deg, ac 0! mor hyfryd oedd cael fy hun ar yr hen aelwyd gartref wedi'r hunllef ofnadwy ac wedi munud neu ddau o adolygu'r helynt, deliais fy hun yn sib- rwd-A ydyw hyn yn bosibl, ai ffug ynte ffaith ydyw ?