Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

MYNYDD SEION, LERPWL.

CYLCHDAITH DOLGELLAU A'R ABER-II…

-ICAERSALEM, TON PENTRE.I

SALEM, BETHESDA.

-.I. GLYNDYFRDWY. __,I

COLWYN BAY.I

I SHILOH, TREGARTH. I

! ■ ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.…

"■LLANIDLOES. I

LLANDILO.I

TREUDDYN.I

I TREORCHY.

News
Cite
Share

I TREORCHY. DARLITII.-Mawrth lleg, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol, traddodwyd Darlith gan y Parch D. L. Jones, Caerau, ar Robert Owen." Ganwyd ef yn Dref- 1 newydd, Sir Drefaldwyn, ond gadawodd ei gartref yn ieuahc, ac wedi byw blynydd oedd yn Llundain, sefydlodd yn Lanark, ac yno gymerodd i wella bywyd y werin a chodi safon moesoldeb. Gwariodd gan- oedd o bunau trwy godi tai i'r gweithwyr a rhoddi rhagor o gyflog iddynt. Efe oedd y cyntaf i gychwyn ysgol i blant ieuanc, casglau hwynt at eu gilydd i'r ysgol er mwyn i'w mamau gael mynd i enill i'r Gwaith Cotwm. Efe hefyd oedd sylfaen- ydd y Co-operative System." Teithiodd lawer trwy'r America a'r Almaen gan ddadlau dros hawliau y werin, ac mae enw Robert Owen mor adnabyddus yn y Al- maen ag ywyn Nghymru, oherwydd yr hyn a wnaeth dros addysg y wlad trwy gyf- ranu tuag at godi ysgolion a theithio'r wlad er ceisio deffro y werin i'w dyled- swyddau. Yr oedd Robert Owen fel Prophwyd yn ei oes, ac os gwireddwyd y ddihareb hono erioed, Nid oes anrhyd- edd i Brophwyd yn ei wlad ei hun,' gwireddwyd hi yn hanes Robert Owen er iddo fodoli yn y ddeunawfed ganrif. Mae ei enw yn adnabyddus iawn i Gymru, genhedlaeth ar ol cenhedlaeth. Daeth adref 1 Drefnewydd yn wael iawn a bu farw mewn ychydig dyddiau ar ol dod, wedi cael oes o dros 70 (triugain a deg) o flyn- yddoedd. Cymerwyd y gadair gan Mr Thomas Parry. Siaradwyd ar y ddarlith gan amryw o'r brodyr a'r Llywydd. Wedi diolch i Mr Jones am ei wasanaeth terfyn- wyd trwy ganu emyn. M. M.

TRINITY ROAD, BOOTLE.I

PRESWYLFA, LLANDUDNO JUNCTION.…

I DYFFRYN ARDUDWi. I

I CONGL YR AWEN./'-ri"'

Yr Ymnesiituwr Duwiol.