Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

MYNYDD SEION, LERPWL.

CYLCHDAITH DOLGELLAU A'R ABER-II…

-ICAERSALEM, TON PENTRE.I

SALEM, BETHESDA.

-.I. GLYNDYFRDWY. __,I

COLWYN BAY.I

I SHILOH, TREGARTH. I

! ■ ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.…

"■LLANIDLOES. I

LLANDILO.I

News
Cite
Share

LLANDILO. I MARWOLAETH.—Chwefror 24ain, bu farw Mrs Sarah Tomkins, anwyl briod Mr Tom kins, Thomaston, o'r lie uchod, ar ol cys- tudd a gwendid am agos i ddwy flynedd. Claddwyd yr hyn oedd farwol o honni yn Nghladdfa yr Eglwys, y Sadwrn dilynol, pryd y daeth tyrfa fawr i'w hebrwng i dy ei hir gartref. Yr oedd yn un o'r aelodau hynaf yr eglwys Wesleaidd yn y dref, a'i rhieni o'i blaen wedi bod yn ffyddlawn a gweithgar, a'i thaid yn un o sylfaenwyr Wesleaeth yma. Bu yn garedig i'r achos ar hyd ei bywyd. Yr oedd o ysbryd cref- yddol, ac yn meddu ymlyniad wrth Grist a'i achos. Yr oedd yn ddioddefgar yn ei chystudd, a'i gobaith yn gryf am wlad well yr ochr arall i'r lien. Bu farw gan bwyso ar ei Hanwylyd. Cydymdeimlwn yn fawr a'i phriod a'r plant yn eu galar a'u colled. Dyddaned yr Arglwydd hwy oil a chysur- on yr Efengyl. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch D. Corris Davies, ac yn yr Eg- lwys ac ar lan y bedd gan y Vicar a'r Curad. Rhoddodd Mr Davies emyn cyn ymadael a'r bead, a chanwyd ef yn gymysg a dagrau lawer. Nos Fawrth, Mawrth lOfed, yn y Guild, o dan lywyddiaeth y Parch D. Corris Davies, cafwyd cyfarfod amrywiaethol. Cafwyd papur rhagorol ar Y Trysor yn y Nef," gan Mr Jacob T. Lewis unawd gan Mrs R. T. Evans yn hynod o swynol; a deuawd gan Mr a Mrs R. T. Evans, a chawsant gjmieradwyaeth wiesog y cyfar- fod; adroddiadau effeithiol gan Mri D, Davies a Henry Davies; darllenwyd "Ystori Nadolig" gan Mr W. Hopkins, ac O'r Gambo i'r Motor Car gan y Parch Bedford Roberts, a chafwyd hwyl i'w darllen a'u gwrando. Diolchwyd i bawb gan y Llywydd. Chwefror 12fed, yn St. Paul's, Llandilo, unwyd mewn glan briodas, Miss Maggie Prickett gyda Mr John Henry Thomas, Ammanford. Gwasanaethwyd gan y I Parch D. Corris Davies. Hir oes iddynt. f Goi-i. I (

TREUDDYN.I

I TREORCHY.

TRINITY ROAD, BOOTLE.I

PRESWYLFA, LLANDUDNO JUNCTION.…

I DYFFRYN ARDUDWi. I

I CONGL YR AWEN./'-ri"'

Yr Ymnesiituwr Duwiol.