Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Cenhadaethan Egengylaidd.…

News
Cite
Share

Cenhadaethan Egengylaidd. (Adgofion Cysurlawn.) (Gan y PARCH HUGH HUGHES). VI. WYDDGRUG. Er >mi tref dawel, digyffro, ac aniiu.vdd ei symud, ydyw yr Wyddgrug pob amser, cymerodd y Genhadaeth afael anghyffredin ar y lie yn fuan. Y mae yn dra phgs- ibl, fod a fyno dylanwad mawr Cyfarfod Pregethu rhyfedd Salem ychydig fisoedd yn flaenorol, a hynny. Ymafiwyd yn y lliaws ar unwaith yn y dref a'r ardaloedd cylchynol, ac aeth y gynulleidfa yn anferth o fawr a brwdfrydig, yn mhen dwy noson, a methai Ilawer a dod i mewn. Y llwyddiant ys prydol oedd yn cyfrif am hyn oil. Nid oes dim mor boblogaidd wedi'r cwbl na'r son fod pobl yn troi at yr Arglwydd am iachawdwriaeth. Tua'r drydedd noson mae y dyrfa fawr megis yn cracio drwyddi, a j phechaduriaid yn ymostwng i dderbyn yr Efengyl mewn llefain cryf a dagrau. Arhosodd 18 yn y gyfeillach yn y wasanaeth honno, yr hyn barodd i'r holl gylch ferwi yn ogoneddus. Er nad yn rhan o'r drefniant o'r cychwyn, bu raid i mi aros yno tros y Sul dilynol, oher- wydd y llwyddiant arbenig oedd ar y gwaith. cyssegredig. Buasai rhoddi terfyn ar y Genhadaeth pan nad oedd eto wedi cyraedd ei han- terth yn gamgymeriad andwyol. Caed Sul nas anghofir byth. Ym- unai pechaduriaid a phoblDduw foreu, prydnawn a hwyr. A dyma y nos yr ymunodd y rhif mwyaf oil mewn un cyfarfod yn ystod y Gen- hadaeth honno. Ac erbyn hyn, dylanwad y symudiad dwyfol hwn oedd popeth yn y dref a'r cylch- pob peth arall fel pe wedi eu par- lysu-tafarndai yn wag, crechwen ffol pobl ieuainc annuwiol wedi distewi, pobl anystyriol wedi dif- rifoli, a llond y dref ofawl i Dduw. Y mae gweled lesu Grist fel hyn yn llywodraethu ardal, yn nefoedd ar y ddaear i bwy bynnag deimla ddiddordeb dwfn yn iachawdwr- iaeth y byd, ac yn brawf didroi yn ol fod Crist yn wirioneddol fwy nag ydyw yn nwylaw ambell i uwch-feirniad. Fe ddilewyd hefyd pob arddangosiad Q yspryd enwad- ol o'r dref yn llwyr. Ni fuasai yn -N l fuasal vn anhawdd gwneuçl pawb yn un heb neb yn tynu yn groes. Caed amser gwir ogoneddus. Gan fod yr amser hwnnw mor bell yn ol ar gauaf 1875, y mae rhyw brudd-der yn fy llenwi wrth adgofio am gymaint o'r rhai mwyaf amlwg yn y sym- udiad hwnnw sydd we$ croesi v? llinell. Ychydig sydd yno yn awr gofiant yr adeg gwynfydedig hwnnw. Daeth rhai dynion lied rhyfedd eu syniadau a'u bywyd i mewn y pryd hwnnw. Yr oeddynt fel pe wedi dyrysu, ac heb ddeall y safle yn gywir. Arferwn yr adeg honno fyned at bob un i gael gair gydag ef er deall cyfeiriad ei fedd wl a'i galon, ac yn enwedig felly os na byddai yno weinidog i gyn- orthwyo. Yr wyf yn cofio i mi fyned at un hen frawd oedranus iawn, oedd wedi aros yn y gyfeill- ach prydnawn Sul. Gofynais iddo, Wel, frawd, a ydych chwi yn eich henaint fel hyn, wedi penderfynu rhoddi eich hunan i'r Gwaredwr ?'' Wel," ineddai, yr yd w i o deulu Wesleaidd i'r carn," Nid dyna y mater heddyw," dywedais wrtho, ond a ydvch chwi yn awyddus i gael eich hachub trwy ffydd yn lesu Grist?" Wel," meddai drachefn, "yr oedd fy nhad, wel wch chi, yn flaenor yn y capel yma lawer o flynyddoead yn ol, ac yn flaenor o dan gamp, oedd wir." Ni allwn gael dim pellach na hyn allwn gael dini pellcich lia hyn ganddo er pob ymdrech, a dywed- ais wrtho yn y'man, os nad oedd yn gallu dod yn nes na hyn, mai gwell oedd iddo fyned allan yn hytrach na thwyllo ei hun. Ac allan yr aeth, oblegid yr oedd yn amI wg nad oedd y peth mawr? gwirioneddol wedi cymeryd garael syllveddol ynddo. Ac ofnwyf mai mewn rhyw gyflwr hanner anwyb- odus, a har.ner annuwiol felly y treuliodd y gweddill o'i oes. CAERGYBI. Yn Nghaergybi yr oeddwn yn trigianu pan yr ynlwelais a'r Wyddgrug. Yo y cyfnod hwn, ac am flynyddoedd lawer ar ol hynny, byddwn ar ol fy mynediad i Gyich- daith newydd, yn ceisio enyn didd- ordeb yr eglwysi o blaid symudiad grymus fuasai yn cyffwrdd yn nerthol a lhvyddianus a'r byd pechadurus oddiallan. Y mae yh debyg i mi weithio yn fwy egniol yn y cyfeiriad hwn yn. Nghaergybi, a lleoedd eraill yn y Gylchdaith, nag mewn un man y trigais ynddo. Yr oeddwn y pryd hwnnw yn y meddiant o ddigon o nertli corph- orol i allu gweithio yn galed heb dorri i lawr. Yn lied fuan wedi i mi fyned yno, teimlais fod y dref yn raddol aeddfedu am symudiad ysprydol mawr. Ac yr oedd gwir angen am dano, oblegid fod yn yr I eglwys rai elfenau anfanteisiol iawn i'w llwyddiant uwchaf. Yr oedd yno saith neu wyth o dafarn wyr yn aelodau, ac yr oedd yno un brewer yn aelod a chanddo tua deg o dafarndai yn ei feddiant. Syl- weddolais y bvddai yn rhaid i mi wneud ymgyrcii yn erbyn y pethau hyn, yn enw'r Arglwydd. Yr oedd hynny yn anmhosibl heb ddod yn wrthych gwg rhai o'r cyfeillion, a hynny yn nghanol symudiad gog- oneddus. Collais rai o honynt fel gwrandawyr am enyd, eithr nis gallwn ymatal. Rhaid oedd digio y tafarnwyr neu fy Meistr Mawr Ond mor rliyfedd y digwyddodd pethau. Rhoddodd rhai o honynt eu tafarndai i fyny, a bu farw bron yr oil o'r gweddill cyn i mi orffen fy nhymor yn y Gylchdaith. Yr oedd yno un achos tarawiadol ac effeithiol anghyffredin. Nid oedd un tafarnwr yn dod i wrando arnaf yn pregethu er's chwe mis. Cyn hir ymaflodd cystudd peryglus ynddo, a suddodd i wendid mawr yn lied gyflym. Sylweddolodd fod yr yrfa ar ben, a deffrodd ei gyd- wybod i sylweddoliad o'r hyn oedd iawn. Daeth fy ymddygiad i gael edrych arno mewn goleuni newydd, pan ymagorodd sylweddau tra- gwyddoldeb gerbron ei feddwl. Pan yn y cyflwr hwnnw, nid oedd neb wnai y tro i weddio sydag ef ar derfyn y daith, ond y pregethwr oedd w,edi ei ddigio. Deisyfodd ar i dafarnwr arall ddod i'm ceisio ato. Mi a aethum, a gwnes fy ngoreu iddo o fewn ychydig oriau i'w symudiad ymaith. Gwelir oddiwrth hyn oil, na chollais afael ar ei gydwybod o gwbl, yr hyn, yn awr sydd yn ffynhonell cryn lawer o gysur i mi. Er yr holl anhawsterau hyn, cyn- yddu yn gyflym yr oedd y dylan- wad grasol bob dydd yn ystod y pythefnos y cynhaliwyd y Genhad- aeth. Mantais arbenig i'r symud lad ydoedd fod awyrgylch grefvdd- 01 y wlad wedi ei chargio a dylan- wadau bendigedig llafur efengyl- eiddiol Moody a Sankey yn Lerpwl, a Richard Owen yn Mon, a manau eraill. Golygfa ardderchog oedd gweled ugeiniau o weithwyr glan y mor yn rhoddi hanner eu hawr giniaw bob dydd i weddio am dy- walltiad helaethach o'r Yspryd Glan ar y dref. Llenwid llawr y capel bob dydd. Ac 0 yr ozone adfywiol a gerddai trwy y lie. Yr oedd tyrfaoedd anferth yn gorienwi capel helaeth Bethel bob nos, a llawer yn ymuno yn gyson. Daeth tua 80 gyda'r bwriad o ymgartrefu yn Bethel, ac nid oedd amrai o honynt yn wrandawyr sefydlog cyn hyn. Ymunodd eraill gyda'g eg- lwysi enwadau eraill. Yn fuan gwelwyd fod hiraeth am ymwel- iad ysprydol yn ymledu i'r wlad yn mysg yr holl enwadau. Wedi ych- ydig o orffwystia, cynheliais Gen- hadaeth, ar gais y cyfeillion, yn yr Aberffraw, ac yr oedd hono yn llwyddiant mawr. Ysgytiwyd y gymydogaeth i'w chraidd, a dylifai y bob! yno trwy y tywyllwch o bob cyfeiriad, yn llawn. disgwyliad am nerthoedd tragwyddol yr Yspryd. Daeth rhwyd yr efengyl a thua 60 i'r diogelwch yn ystod yr wythnos a'r Sul, a sicrhawyd llesiant arhos- ol i'r achos. Gan fy mod ar fy mlwyddyn gyntafyn y Gylchdaith, telmlais fod yn bwysig gwneud a allwn i ddefnyddio y blynyddoedd dilynol i gadw i fyny wres a sel YI bob! gyda'r gwaith mawr. Yn misoedd yr haf arferwn bregethu am 5 o'r gloch y Sul yn yr awyr agored, pan fyddwn i bregethu yn Bethel yn .yr hwyr. Casglai tua: dwy fil o bobl ar y Square ar Ian y mor yn front shop y dduwiolfrydig Mrs. Thomas. Yr oedd yn y gym- ydogaeth hono lawer na fynychent wasanaeth y cysegr ond anfynych. Caed felly hamdden i'r efengyl eu cyrhaedd, hyd yn oed yn eu tai. Ac fe ddaeth amrai o honynt yn nghanol y dyrfa i'r capel, a phar- haodd rhai o honynt i ddod o hyny allan, a gwelwyd nifer o honynt yn ymuno a'r eglwys cyn hir. Ymad- ewais a Chaergybi, gan adael yno eglwys lanach a lliosocach. Nid oedd Gwynfa mewn bod y pryd hwnw. Melus ydyw fy adgof am y cyfnod hwnw yn Mon. (I barhau).

[No title]

CEREDIGION YR ACHOS.

[No title]