Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

INODIADAU WYTHNOSOL.

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Wedi araeth Mr As- Y Senedd quith yn Nhy y Cyff a'r redin nos Lun cyn y lwerddon. diweddaf, pan y dad- lenodd gynllun i dangnefeddu y cyffroadwyr, trwy ganiatau i siroedd yr Iwerddon, os bydd mwyafrif yr etholwyr o blaid hynny, i bleidleisio eu hunain allan o gylch gweithrediad Ymreolaeth am chwe' blynedd, yr, oedd gobaith lied gyffiedinol y byddai i'r cyfryw gynnygiad heddychu'r pleidiau gwrthryfelgar. Erbyn hyn y mae bron bob eiliw o obaith wedi diflanu. Swn brwydr sydd yn y gwypt. Nos Lun mynai yr Wrth- blaid wybod beth yn mhellach y bwriadai y Llywodraeth ildio. Crochlefent am chwaneg o fanylion ynghylch yr hyn ajldiwyd eisoes. Yr oedd MrAsquith fel adamant. Dywedodd Mr Churchill, yn Brad- ford, fod y Llywodraeth wedi myned mor bell ag oedd yn bosibl, ac his gallai fyned un cam yn mhellach. Derbyniwyd sylwadau Mr Churchill gyda boddhad dybryd gan Ryddfrydwyr a Chenedlaeth- olwyr. Dengys hyn fod y wlad wrth gefn Ymreolaeth. Ac yn Nhy y Cyffredin, nos Lun, hysbysodd Mr Asquith nad allai y Llywodraeth symud gam ymhellach, nes cael addewid bendant fod egwyddor ei gynhygiad yn cael ei derbyn. Wedi methu o honno symud Mr Asquith, y mae Mr Bonar Law wedi mabwysiadu cynllun arall- hen gynllun sydd wedi gwasan- aethu yr Wrthblaid lawer tro, ond y sydd mor ami a hynny wedi dwyn gwae a dinystr ar ei phen. Penderfyniad diweddaf Mr Bonar Law oedd cynnyg pleidlais o ger- ydd ar y Llywodraeth. Rhoddodd rybudd o hynny, a chyda'r parod- rwydd mwyaf cytunodd y Prif Weinidog i drefnu noswaith i ddadlu y mater yn Nhy y Cyffredin mor fuan ag y byddai modd. Caed noson ati nos Iau diweddaf. Cafodd y wlad oleu ar wir amcan yr Wrthblaid. Cynygiai Mr Bonar Law ddod i gytundeb ar y cwes- lwn os y gallai y Llywodraeth, trwy osod y mater i Referendum, sicrhau mwyafrif tros Ymreolaeth yn y wlad. Dywedai fod ganddo addewid pendant Arglwydd Lans- downe, os ceid mwyafrif ymhlaid Ymreolaeth mewn referendum yn y wlad na byddai i Dy yr Arglwyddi sefyll mwvach yn erbyn y Mesur. Grasol iawn eto Tybed fod Mr I Bonar Law ac Arglwydd Lans- downe yn tybio fod yn rhaid i'r wlad eto fynd ar ei gliniau i ofnln I eu oenad hwy pa ddeddfaa a Os ynt, y maent yn llawer dallach nag y tybiasom eu bod. Gweled diwedd eu trahausder y maent. Y mae y Ddeddf Seneddol "fel ysgrif- enlaw ar galchiad y pared" yn cyhoeddi eu tynghed hwy, ac mae'r cynygiad hwn am roi y mater i Referendum yn eglur ddangos mai nid Ulster sydd yn eu cropa, ond y Parliament Act. Pe gallent lwyddo yn awr i gael Ymreolaeth at farn y bobl, dyna ddiwedd ar y Ddeddf Seneddol ni byddai wiw son am dani mwyach. Da genyf ddweyd fod Asquith fel y graig. Nid oes dim ychwaneg o ildio i fod. Safodd Rhyddfrydiaeth yn gadarn ymhlaid y Llywodraeth collodd Mr Bonar Law ei gynhygiad trwy fwyafrif o 96. Ymlaen bellach. Y mae y Llyw- odraejh wedi cynnyg popeth teg, ond gwawdir y cwbl, a chyfrifir y naill gyfaddawd ar ol y llall yn rhagrith, ac yn argoelion o ofn a gwendid. Yr ym yn llawenhau am fod y Llywodraeth wedi dioddef protest yr Ulsteriaid hyd yn oed pan yn fwyaf anghyfreithlon heb arfer trais. Y mae Rhyddfrydiaeth a thrais yn bethau anghymodlawn, ond chwedl Mr Balfour gynt, y mae pen ar allu cig a gwaed i ddioddef fe ofelir nad yw dvrnaid o bobl yn myned i dreisio gwlad gyfan. Nid yw Rhyddfrydiaeth ymhlaid treisio neb, ond ni oddefa ychwaith i neb ei threisio hithau.

[No title]

Llythyrau at y Go!./

Y GYMANFA WESLEAIDD.

CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.

TIPYN 0 BOPETH.