Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

INODIADAU WYTHNOSOL.

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. A ganlyn yw iaith Undeb yr Seren Cymru" am Enwadau. bwnc Undeb yr En- wadau:— Yn ol arwyddion yr wythnos hon yn y wasg, nid yw y rhagolygon am uniad hyd yn oed yr Annibynwyr a'r Methodistiaid yn edrvch yn ddisglaer iawn. Erbyn hyn mae nifer dda o'r ddau enwad wedi llefaru, ac yn ol a ellir gasglu nid yw y Methodistiaid yn debyg o bleidio. Ysgrifena Prif Athro Prys, Aberystwyth, gwr galluog a dylanwadol yn y corff ar y pwngc a gwelir nad yw ef yn frwd iawn dros uniad, a chredaf mai nid y ffordd iawn i symud at uniad yr enwadau, yw ceisio uno yr Anibynwyr a'r Meth- odistiaid. Cydolyga ef a'r Parch. Tecwyn Evans mai doethach a bawddach fyddai uno y Wesleyaid a'r Methodistiaid Calfinaidd. Mae Llywydd yr adran Saesnig o'r Methodistiaid yn ysgrifenu yn erbyn yr uniad. Tybia ef fod cefnogwyr uniad yn gorliwio y manteision o undeb, ac yn gorliwio yr anfanteision o fodolaelh gwahanol enwadau. Ym- ddengys fod arweinwyr yr Anibynwyr yn fwy pleidiol i uniad, ond eglur nad ydynt hwy yn unfarn ar hyn. Ysgrif- ena Prif Athro Rees, Bangor, a'r Parch. D. Adams, Lerpw.1, yn ffafriol, ond ceir ysgrif faith gan y Parch. O. L. Roberts, Lerpwl yn y Tyst yn nodi llu o anawsterau ar ffordd yr uniad y ddau enwad. Cefnoga ef undeb agosach rhwng y pedwar enwad, yn hytrach naguniad. Bait. leua Golygydd y Tyst fod Cynghor yr Eglwysi Rhyddion yn bodoli er sicrhau undeb agosach rhwng yr enwadau, ond y dylid ymgeisio at rywbeth gwell a mwy sylweddol. Ar ol sylwi ar yr hyn ysgrifenir ac a leferir tueddwn i gredu y terfyna yr oil mewn dim ond son a swn. Amheu wn yn awr a gynelir Cynadledd o gyn- rychiolwyr y ddau enwad. Un ddadl arferir dros uniad yr enwadau yw y gwastraff arianol i adeiladu capelau a chynal gweinidogaeth gan y pedwar enwad, pan byddai dau gapei a dau weinidog yn ddigonol i gwrdd a holl ofynion cymdogaethau y ceir pedwar capel a phedwar gweinidog. Dadleua ereill y gellir cwrdd a hyn trwy Gynghor yr Eglwysi Ehyddion ac fod hwn yn un o amcanion neill duol ei sefydliad. Mae yn nghyfansoddiad y Cynghor erthycl i'r perwyl fod y Cynghor i ofalu na chymer "overlapping le. Awgryma y Parch. J. Williams, Bryn- sciencyn, fod Pwyllgor arbenig yn cael ei ethol gan y Cynghor i gyfarwyddo a phenderfynu yn y cyfeiriad hwn. Yn sicr ni all un.eglwys Fedyddiedig gydsynio a rheol o'r cymeriad h'wn. Yr ydym ni fel Bedyddwyr wecti arfer myned i gymdogaethau newyddion heb ofyn cenad un enwad, gac y cred- wn fod genym wirioneddau i'w dysgu yn mhob cymdogaeth gan nad pa nifer o enwadau ereill fydd yno o'n blaen. Hyderwn na roddwn byth yr hawlfraint hon allan o'n dwylo. Comisiwn y Brenin lesu i ni yw :— Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr efengyl i bob creadur. Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig," &c. Syndod yw fod un eglwys Fedyddiedig yn gallu uno a Chynghor a fedd y fath i-eol yn ei gyfansoddiad. Dadl arall gan gefnogwyr uniad yr enwadau yw y byddem fel un enwad yn llawer cryfach ac effeithioJacb yn y byd. Ni all fod amheuaeth parthed gwrionedd hyn, ond i'r un enwad hwnw fod yn seiliedig ar ddysgeid- iaeth y Testament Newydd. Yr hyn sydd bwysig yw ein bod yn unol a dysgeidiaeth Iesu Grist yn ei Air, a gellir gadael y canlyniadau iddo Ef. Nid beth a ymddengys i ni fwyaf tebyg o Iwydtk), sydd bwysicaf, ond beth yw trefnianKJesu Grist er sicrhau bwriadau ei yol, na -oli,,ld, ei farwol- aeth a'i ogoneddaid yn ef. Glynu wrth Ei drefniadau a'i orchymynion ef yw ein dyledswydd ni, gan fod yn sicr y gofala Ef am y canlyniadau." Mawr hyderwn nad yw awdwr yr ysgrif yma yn golygu, nad yw yr enwadau nad ydynt Fedyddwyr wedi eu sylfaeui ar ddim anghyson a'r Testament Newydd Ofifwn fod undeb ym mhellach nag y meddyliodd llawer ohonom.

[No title]

[No title]

[No title]

Llythyrau at y Go!./

Y GYMANFA WESLEAIDD.

CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.

TIPYN 0 BOPETH.