Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

. NODIADAU CYFUNDEBOL. 1

News
Cite
Share

NODIADAU CYFUNDEBOL. 1 Gan LLYFRBRYF. I Yn galonog iawn y llongyfarch- wn Mr Thomas W. Griffiths, Llan- dudno, ar ei etholiad yn Gadeir- ydd Cynghor Sirol Caernarvon. Pregethodd y Parch C. A. Skimer, B.A., Coleg Richmond, yn nghapel Coleg Caergrawnt. Dyma y tro cyntaf i Ymneillduwr bre- gethu yno er dyddiau y gwerin lywodraeth. Ffafriwyd eglwys Pendref, Tre- ffynnon, y Sabboth o'r blaen, gyda, gwasanaeth werthfawr y gweinid- og ieuanc galluog, y Parch Abi Williams, B.A., o Goleg Didsbury. Llongyfarchwn cyfeillion Eglwys Llandudno ar leihad y ddyled ar eu haddoidy hardd i'r swm o 550p, drwy y Socials wythnosol. Bwr- iedir talu yr oil yn fuan drwy nod- achfa. v Hwyliodd un a thriugain o fech- gyn o'r Children's Home'' dan ofal y Parch S. Carroll Myers, o Lerpwl am Canada. Ar gyfartal- edd yr oedd eu hoedran yn 15 mlwydd oed. Un o brif atdyniadau cyfarfod diddorol a gynha'liwyd yn nghapel Gore Street, Manchester, ydoedd gwasanaeth y Parch T. G. Ellis, Coleg Didsbury, gyda chanu pen- illion. M Cyhoeddwyd cyfrol hynod didd- orol a gwasanaethgar i Wesieaid, un sydd yn dwyn y teitl "Circuit and Ministers, 1912." Argraffiad ddiwygiedig gan y Parch T. Gall- and Hartley. Pris chwe' swlit. j*1 ——— Mae'r si ar led fod y Parch John E. Wakerley yn gadael y Central Hall, Westminster, ac mae ei olyn- ydd fydd y Parch F. L. Wiseman, B.A.; pwy yn well nis gallesid ei gael. Yr wythnos o'r blaen cynhaliwyd cylchwyl flynyddol y Genhadaeth Dramor gan efrvdwyr Coleg Head- ingley. Adroddwyd fod yr incwm yn agos i 183p, yr hyn sydd yn gyn- ydd ar y llynedd. o 12p. Ünt/, f!l. Croesawyd yn gyhoeddus gant a thriugain o aelodau newyddion i Gymdeithas Eglwysig Bermondsey Central Hall, y Sabboth diweddaf, gan y Parch W. H. Kelshaw, pa rai wedi hyn a gytranasant o Or- dinhad Swper yr Arglwydd. .t, ■■ Yr wythnos o'r blaen darfu i aw- durdodau Prif-ysgol Aberdeen, gytuno i roddi y gradd o Ddoeth- awr mewn Diwinyddiaeth ar Dr H. R. Workman, Principal Coleg Westminster. ,1 Bwriedir dathlu canmlwvddiant Methodistiaeth yn Stoke, Newing- ton, drwy gynal cyfres o gyfarfod- ydd coffadwriaethol, a thrwy godi trysorfa o fil o bunau er clirio ymaith y ddyled sydd ar y Trust Property. mm I'aT IT" ■■■ 1 Syr Norval Helme, A.S,, ddywed- odd y dydd o'r blaeof-er fod Tal- aeth Lerpwl wedi cyfranu 20,827p i'r Drysorfa Ganmlwyddol, yi oedd yr incwm arferol y Gymdeithas Dramor yn 9,685p, cynydd ar y flwyddyn flaenorol o 325p. (¡'IIITt:: Iíf! !J: ==_: ')! Dywedodd y Parch William Goudie, Ysgrifenydd Trysorfa Gan- mlwyddol y Genhadaeth Dramor, yn ol pob tebygolrwydd y bydd i'r cyfanswm gyraedd y swm ar- dderchog o 275,000p. Dyna new- ydd da iawn. 'Roedd Llywydd y Gynhadledd a Gipsy Smith yn eu hwyliau goreu yn cymeryd lhan yng nghylchwyl flynyddol Cenhadaeth Hull. Yr oedd y Queen's Hall wedi ei gor- lenwi gyda thros ddwy fil o bobl brwdfrydig. Mewn atebiad i apel y Parch W. H. Heap am 5o0p, caf- wyd casgliadau o 950p. Yn Aintree, dydd Sadwrn di- weddaf, gosodwyd ceryg sylfaen eglwys newydd i eistedd vvyth cant o bersonau gyda llawenydd mawr. Bydd y gost yn 5,5G0p. Ymhlith y siaradwyr ydoedd y Ficer Fazack- erley. Codwyd dim liai na 765p ar yr achlysur, yr hyn wna y swm mewn Haw yn 3,050p. Yr oedd yn hyfrydwch i ni weled fod y Parch P. Jones Roberts, Gor- uchwyliwr y Llyfrfa, wedi ei ethol yn Llywydd Cynghor yr Eglwysi Rhyddion Bangor; a Mr W. O. Jones (Aber), yn Ysgrifenydd. Gyda swyddogion mor ddeheuig ac egniol gellir disgwyl i'r Cynghor gyflawni gwaith da. # Pregethwr arbenig fu yn gwas- anaethu yng ngbylchwyl flynyddol Ebenezer, Bagillt, nos Sadwrn a'r Sabboth o'r blaen, ydoedd y gwein- idog ieuanc poblogaidd y Parch Vaughan Owen, Tregeiriog. Caf- wyd cynulleidfaoedd lluosog, a phregethau effeithiol. Llawenydd i'r eglwys ydoedd gweled un pech- adur yn ymofyn am drugaredd. Hysbyswyd yn Mhwyllgor y Rhagorfreintiau, yr hon a lywydd- wyd gan y Parch Dr Scott Lidgett, fod mesur a adnabyddir wrth yr enw, Places of Worship Lease- hold Enfranchisement Bill," i gael ei gyflwyno i'r Senedd. gan Syr Norval W. Helme, A.S., ac y bydd iddo gael cefnogaeth y Llywod- raeth. Mae gobaith cryf y bydd yn ddeddf y flwyddyn hon. 'Roedd y Wesleaid yn amlwg iawn yn Eisteddfod Sant Dewi yn Nhreffynnon. Gwelsom mai yr Arweinydd ydoedd y deheuig a'r doniol Mr Joseph Edwards, U.H., Ffynnongroyw ac un o'r bassiaid ydoedd y galluog Mr Gwespyr Jones ac Arweinydd y Cor budd ugol ydoedd Mr William Jones, Moriah, Helygain a Miss Maggie Evans, Helygain, a enillodd ywobr fel SQloist. 'Roedd Llywydd y Gynhadledd a Gipsy Smith yr wythnos ddi- weddaf yn y Potteries. Llanwyd capel Charles Street, Hanley. 'Roedd Mr Collier yn llaw-drwm ar y bobl oedd yn siarad i lawr eu Heglwys. Dywedodd y Lly- wydd fod Methodistiaeth Wesle- aidd yn awr can gryfed a llawer. Yn yr hwyr yr oedd y Victoria Hall wedi ei chrowdioogynulleidfa tua 2,000. 'Roedd Gipsy Smith ar dir teuluol, ac yr oedd adgofion am ei waith yno yn d'od yn fyw i'w feddwi. Cyfaifodydd gogoneddus. Breintiwyd eglwys Pendref, Tre- ffynnon, am bedair noson yn olyn- ol gyda gwasanaeth werthfawr y Parch W. O. Evans, Lerpwl, gyda'r amcan o ddeffro a dyfnhau bywyd ysbrydol yr eglwysi. Cafwyd cyn- ulleidfaoedd lluosog. Mae enw y pregethwr yn gwarantu fod ei gen- adwri wedi cael eu mynegu o dan arddeliad neillduol yr Yspryd Glan Hyderwn y bydd i'r gwirioneddau amserol, agored a phwysig a dra- ddodwyd ddwyn ffrwyth yn yr eg- lwysi. Nid ryfedd i Mr E. P. Roberts, Eglwys Brunswick, Rhyl, ymfalch io o'i aelwydiaeth Wesleaidd. Mae yn Fethodist o'r bedwaredd gen- hedlaeth. Cafodd ei hen-nain ei hargyhoeddi tra yn gwrando ar John Wesley yn efengylu yn Ler- pwl, ac argyhoeddwyd Mr Roberts o dan weinidogaeth y diweddar Barch. Thomas Morris. Cymer ddiddordeb mawr a neillduol mewn Wesleaeth. Mae ei wasan- aeth gyda'r achos yn y Rhyl wedi bod yn werthfawr, a theilynga i'w ddarlun ymddangos yn y golofn Men of the Day's March. 'Roedd yn llawenydd i ni glywyd fod Cymanfa dwy Gylchdaith Gymreig Lerpwl, pa un gynhal- iwyd ddiwedd yr wythnos ddi- weddaf, wedi bod, yn un llwydd- ianus iawn. Llanwyd eglwys Mynydd Seion nos Sadwrn, He y cynhaliwyd Seiat Fawr dan ly wyddiaeth y Parch. John Felix. Siaradwyd yn effeithiol gan y Parchn. Thos. Hughes, R. Garrett Roberts, D. Tecwyn Evans, B.A. Traddodwyd yn ystod y Gymanfa pymtheg ar ugain o bregethau. Y pregethwyr arbenig oeddynt y Parchn. R. W. Jones, J. Parry Brooks, W. Richard Roberts, J. Roger Jones, B A., a J. Pugh Jones. 'Roedd llwyddiant cylchwyl flynyddol Cenhadaeth Birmingham yr wythnos ddiweddaf yn foddhad mawr i'r Arolygydd newydd, y Parch. F. H. Benson. B.A., yr hwn a clynodd y Parch F. Luke Wise- man, B.A. Yr oedd y cynulliadau ymhob gwasanaeth yn fawrion. Llywyddwyd un o'r cyfarfodvdd cyhoeddus gan Arglwydd' Faer y r Z" -iolaethod;?,l ddinas, yr hwn a dystiolaethodd yn ucbeJ i'r gwerthfawredd dines- yddol y Genhadaeth. Yr oedd tua 3.000 o bobl yn y cyfarfod mawr yn y Neuadd, a siaradwyd gan Miss Lister Alice, y Parch. George Allen, Llywydd y Gynhadledd. a Gipsy Smith. Apeliodd Mr Ben- sQn am gasgliad o 1,400p., a der- byniodd 1,421p. Mae'r Genhadaeth hono yn allu a dylanwad mawr yn ninas Birmingham. Traddododd y Parch. F. L. Wise- man, B.A., anerchiad agoriadol ardderchog ar ei waith yn ymgym- eryd a'r swydd o Lywydd Cyngh- rair Cenedlaetho; yr Eglwysi Rhyddion, cyfarfod blynyddol pa un a gynhaliwyd yn Norwich yr wythnos ddiweddaf. A ganlyn sydd ddifyniad o'r anerchiad:— To-day, he said, the voice of the multitude demands deliverance from the disabilities it suffers The whole industrial system, they say, imposes on 1he toilers burdens, hardships, and limitations which the education they have received, far from modifying, renders more intolerable. Hours of labour are long, conditions of work unhealthy, the duty monotonous, house ac- commodation insufficient, some- times destructive of the sense of decency, wages remain low while the cost of living increases, and, most of all, the future holds out no hope of release or betterment. They then add, And you are to a great extent responsible. Our suff- erings are the result of the out- working in the economic world of your doctrine of the freedom of the individual. Freedom of contract, freedom to buy in the cheapest market, unlimited freedom to com- pete and to acquire has resulted in the exploitation of the many by the few and in the thraldom of the worked. Have you no message for the prisoner of the present compet- itive system ? If through in- attention to the outworking of economic laws we have allowed ourselves to enjoy a liberty of which those laws have deprived others, the freedom wherewith Christ makes us free demands that we shall open the prison doors to them that are bound even if we have t,o say: If big dividends cause my brother to stumble I will take no big dividends while the world standeth."

IGAIR 0 CANADA.I

[No title]

Advertising