Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

BfD CREFYDDOL. I

News
Cite
Share

BfD CREFYDDOL. Hanes yr Anibynwyr. I Mae y brodyr galluog, y Parchn 0. L. Roberts, Lerpwl, ac R. Peris Wil- liams, Gwrecsam, yn ymgymeryd a pharatoi cyfrol ychwanegol at gyfres Dr. Thomas a Dr. Rees o Hanes yr Eglwysi Annibynol.' Dywedodd Dr. Thomas y byddai eisiau un ymhen 20 mlynedd. Mae mwy na hynny wedi myned heibio er pan gyhoeddwyd ych- wanegiad Dr. Thomas. Nis gwyddom am neb mwy cymwys-at y gwaith na'r ddau frawd a enwyd. Bydd y gyfrol yn unffurf a'r pum graill, ac yn barhad ohonynt, er ei bod hefyd yn hollol gyf= lawn ynddi ei bun, ac yn cynnwys hilnes y chwarter canrif diweddaf ynglyn a phob eglwys, heb fod eisiau ymgynghori a'r cyfrolau blaenorol o gwbl. Hyderwn y ca'r ddau frawd gefnogaeth gyffredinol yr Enwad i'w gwasanaeth pwysig a gwerthfawr. Daw allan yn saith o rifynnau swllt, neu ceir hi yn gyfrol rwymedig am wyth swllt. KiwbwrcH, Sir Fori. I Mae Mr vV. H. Cassam, (A.), o eglwys Ebenezer, Tynewydd, Treher bert, wedi derbyn galwad unol a chynes oddiwrth eglwys Annibynol Niwbwrch. sir Fon, ac y mae yutau wedi ei hateb yn gadarnhaol, a bwriada ddechreu ar ei waith y trydydd Sabboth ym mis Ebrill nesaf. Dymunwn o galon am i'r undeb iod yn un llwyddianus a ben dithiol iawn. 0 Gwerth Undeb Crefyddol. I Fel y canlyn yr ysgrifena un o dan yr enw J. J. yn y" Tyst am werth undeb cydrhwng yr Annibynwyr a'r Methodistiaid- Da fyddaA gallu cael llwythau yr enwadau oU yn un genedl sanctaidd i'r Arglwydd end oni cheir hynny, rhaid ymfoddloni, ar hyn o bryd, ar wneud ymdrech i uno prenau Joseph a Judah Methodistiaeth ac Annibyn- iaeth. Pe llwyddid i wneud dim ond hyany, byddai canlyniadau yn llawn dal am yr aberth gofynnol.. Meddylier am rai o'r manteision ddeilliai o undeb o'r fath. Y fath ddyrchafiad fyddai i fywyd ysbrydol y ddau enwad. Troai eu heiddigedd yn gydymdeimlad, eu dieithrwch yn frawd- garwch, eu cilgwthiad yn gydweithred- iad, a'u nychtod mewn llawer ardal yn gryfder daionus a dedwydd. A'r fath gynilo ar adnoddau y ddau enwad a effeithiaf! Rhoddai derfya ar y gwas- traff o afleiladu dau gapel a chynnal dau achos lie y gwnai un y tro yn well. Tynai nifer y colegau i lawr i'r hanner, a gwnai yr un iiiocld a'r ysgolion rhag- baratoawl. Byddai nifer y cylchgronau ya lhi, ond yr elw oddiwrthynt yn fwy. Byddai yr uchel-wyliau yn s atdyniadol, a'r weinidogaeth fwy n idynt yn rymusach. Ac yn yr olwg ar y frawdoliaeth unol, tueddid y byd i ddyweyd, megis ym moreuddydd Crist- ionogaeth, Gwelwch fel y mae y Orist- iynogion hyn yn caru eu gilydd.' A sylweddolir weledigaeth hvfryd ? Na wneir heddyw nac yfory. Y mae anhawsterau lawer i'w goresgyn. Y mae rhagfarn a theimlad ac arferiad a chulni a balchter a chredo a defbd, a tbradd-, odiad a myrdd o bethau eraill i'w cym eryd i ystyriaeth a'u cymodi Eithr os Dduw y mae y cyngor hwn, ni allwn ni eu ddiddymu.' Felly dalied. y ddau enwad—y pedwar yn wiri ymgymell eu gilydd, gan ddywedyd, Deuwch, a dychwelwn at yr Arglwydd canys Efe a'n drylliodd, ac efe a'n iacha ni. Y na Ere a ddaw fel gwlaw atom, fel y di- eddal-wlaw a'r cynar wlaw i'r ddae- ar" Soar, Panygroes, Arfon. Bydd yn dda gan gyfeillion y Parch J. M. Williams (A.), Clydach, ddeall ei fod wedi derbyn galwad daer ac un- frydol oddiwrth yr eglwys uchod, ac y mae yntau wedi ei hateb yn gadarnhaol. Bwriada gychwyn ei weinidogaeth Sul, Mai 31ain. Boed bendith y nef ar yr undeb. Bagillt, Fflint. Bwriada y Parch D. P. Hopkins, Salem, Llanbedr, Dyffryn Conwy, ddechreu ei weinidogaeth yn y cylch hwn y Sul cyntaf yti-I Ma, gyda'r Saes- on. Mae y ddwy eglwys yn edrych ymlaen gyda diddordeb a gobaith at ddyfodiad eu bugail newydd. Y mae mudiad ar droed i'w anrhydeddu yn eglwysi presenol ei ofal. Dymunir iddo lwyddiant mawr yn ei gylch new- ydd. Ebeneser, Pontnewydd, Mynwy. Maey Parch J. Rbedynog Evans (A.), Rhydri, wedi derbyn galwad unfrydol o eglwys henafol Pontnewydd, Mynwy. Deallwn fod yno gylch eang a chyn ydciol. Os tueddir ef i symud, bydd yn golled i'r eglwys sydd yn awr dan ei ofal. Ymddiswyddiad y Parch John I Thomas, M.A. Tua chanol mis Chwefror, rhoddodd v I Parch J. Thomas, M,A., rybudd i'egiwys enwog Myrtle Street, Lerpwl, o'i fwriad i ymddiswyddo tua diwedd mis Mehefin. Bydd, felly, yn dwyn ei ofal bugeilio i I ben ar derfyn un mlynedd ar hugain o weinidogaeth rymus a llwyddianus yn ninas fawr glanau y Ferswy. Nas gall Bedyddwyr Cymru lai na chymeryd dyddordeb yn symudiadau un o'i meib- ion gloewaf. Y mae ysgolheigdod a doniau pregethwrol Mr Thomas yn fyd. adnabyddus, ac ystyrir ef yn un o gedyrn y Pwlpud Protestanaidd yn y wlad hon a'r America. Byriada Mr Thomas gymeryd taith bregethwrol yn America ar ol gadael Myrtle Street. Gwyl Dewi City Temple. I Cafwyd Cymanfa gref yn y City Temple nos Lun cyntaf o Fawrth. Mr Herbert Morgan o Bryste (diweddar weinidog Castle Street, Llundain), a Mr Barrow Williams yn pregethu. 0 dipyn i beth, daeth yno gynhulliad llawn—yn wir, gorlawn. Yn eu plith gwelsom am ennyd fer bedwar Aelod Seneddol; ond gan fod dyledswyddau'r Ty yn galw, nis gallasent aros, ac yr oedd pawb yn maddeu iddynt yn rhwydd. Mae'r Toriaid yn gwylio pob moment ar hyn o bryd, ac nid oes yr un trie yn rhy wael ganddynt i osod y Llywodraeth mewn penbleth. Ond at y Gymanfa. Am saith o'r gloch yr oedd y cynhuliiad yn bur deneu. Gwyddom am fwyafrif y gynulleidfa mai pobl ieuainc ydynt mewn masnachdai, a'r rhai hynny yn cau am wyth o'r gloch. Y Bedyddwyr ac Undeb. I Dyma air o ysgrif yn y Seren," newyddiadur y Bedyddwyr ar y pwnc o Undeb. Y mae yr vsgrifenydd yn galw ei hun yn G.N.R :—" Mae y syniad o un enwad yn ddymunol ac yn ijinol a gweddi olaf Iesu Grist ar y ddaear, ond mae yr un hwnw i fod ar linellau cyd- nabyddiaeth ac ufudd-dod i awdurdod Iesn Grist yn ei ewyllys ddadguddiedig. Mae teyrngarwch i awdurdod Fen yr Eglwys yn ein rhwymo ni i wrthod uno ag unrhyw enwad sydd yn troseddu deddf neillduol yr ordinhadau sefydlwyd gan Ben yr Eglwys ynddi. Mae yr enwad Bedyddiedig wedi dewis trwy yr oesau fod yr enwad ar wahan i'r holl enwadau eraill, er cael ei wawdio a'i erlid ar gyfrif hynny, ygallai fod yn ffyddlon i drefniadau gosodedig Crist parthed yr ordinhadau. A hyder- wn y teimlwn yn y dyfodol (gan nacl beth fydd y eyfnewidiadau yn banes yr enwadau erail'os na ehyfnewidiant, fel i fabwysiadu yr un dull a deiliaid bedydd a ni), na feiddiwn ffurfio un undeb a olyga anheyrngarweh i'r Brenin lesu, yn ol fel y deallir ei gyfarwdrliad- au ini yn ei Air Sanctaidd ar bwngc yr ordinhadau. 11 Tekel 11 I Pan oedd y Parch Dr. Aked yn dar lien rhan o'r Beibl wrth osod carreg sylfaen capel newydd yn San Francisco, rhuthrodd dyn anabyddus ato gan gipio y Beibl o'i law a'i daflu wrth ei draed. Ni lefarodd ( un gair, ond taflodd garden at Dr. Aked gyda'r ysgrifen Tekel" ami (" Ti a bwyswyd yn y clorianau ac a'th gaed yn brin "). Dig llonodd y dyrfa yn fawr am hyn, a cheisiwyd dal y dyn, ond ynafl wydd ianus. Dywedir mai protest' ydoedd hy^ yn erbyn Dr. Aked am ei fod yn ddiweddar wedi dweyd nad yw yn credu yn ngenedigaeth wyrthiol Iesu Grist.

--'-.COEDPOETH.'\

[No title]

Advertising