Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

.EBENEZER, BLAENAU FFESTINIOG.

-'RHUTHYN. I

ILLANBEDR-PONT-STEPHAN.I

IYSTUMTUEN..1I

COLWYN BAY.

News
Cite
Share

COLWYN BAY. HOT PIE SUPPER.-Nos. Iau, Mawrth 5ed, ydoedd y noson hir-disgwyliedig i gynal ein Swper Blynyddol yn Horeb. Gwnaeth- om enw i ni ein hunain yn yr ardaloedd cylchynol ar ol y llynedd, a mawr y pryd- er am gadw'r enw da i fyny. Os am Hot Pie eleni eto, rhaid hefyd ydoedd cael Mrs George Williams a Mrs Shadrach Evans i ofalu am dano, ac feUy fu. Nid oedd dim yn ormod o drafferth ganddynt er sicrhau liwyddiant yr ymgymeriad. Cynorthwy- wyd hwy i werthu tocynau gan Mrs Jones (Dewi Mawrth), Mrs Fred Williams, Mrs Rhys Jones, Mrs J. P. Jones, Hampden Miss M. W. Davies, Glasmor Miss Wil- liams, Pandy Villa Miss H. M. Jones, Elian House Miss Parry, Vincent House a Miss Rowlands, Bodifor. Buont wrthi yn ddyfal, a daeth oddeutu 600 i'r swper. Daeth chwiorydd a brodyr yr eglwys i gynorthwyo yn 11 u mawr, ac aeth popeth heibio yn y modd mwyaf trefnus yn bosibl, a phawb yn canmol y darpariadau helaeth. Ofer a fydddai ceisio enwi pob un a fu'n helpu, ofnaf y gwgai'r Golygydd clod- wiw. Tra'r elai'r swper ymlaen yn yr Ysgoldy, yr oedd tyrfa fawr yn mwynhau Cyngerdd ardderchog yn y capel. Cad- eiriwyd gan y Cynghorydd John Jones, Grimsby House, ac arweiniwyd gan y Parch W. P. Roberts. Cymerwyd rhan gan Misses Olive Thomas, Pickering, Greenfield, Mri Tom Williams, J. E. Roberts (Ap Heli), Llewelyn Jones Roberts, John O. Jones, J. O. Williarris (loan Erw). Cyfeiliwyd gan Miss M. E. Williams, Liverpool House, Miss Ceridwen Roberts, a Mrs W. H. Roberts, Llandudno Junction. Aeth popeth ymlaen yn hwylus o'r dech- reu i'r diwedd, ac nid oes ormod o gan- mol ar y darpariadau helaeth. Teimlwn yn neilltuol ddiolchgar i'r oil fu'n cynorth- wyo, ac yn arbenig i Mrs George Williams a Mrs Shadrach Evans. Credir y ceir elw clir o £3; i drysorfa yr Ymddiriedolwyr. Y mae'r Gymdeithas Lenyddol wedi dirwyn i'r pen eto eleni, a goifdiwn mai dyma'r tymor olaf i'n Llywydd, y Parch Rhys Jones. Nos lau, Chwefror 26ain, cafvvyd dau bapur diddorol a buddiol, un gan Mr Abel Jones ar Rhai o ddelfrydau dynion," a'r llall gan Miss Annie Williams, N. P. Bank ar "Yr Ysgol Sul." Siaradwyd. ymhellach gan y Mri Jonathan Roberts, Thomas Ellis, a'r Llywydd, a diolchwyd yn gynes i'r ddau am eu llafur. Bwriedir cael swper nos Iau, Mawrth 26ain, i derfynu yn ffurfiol waith y tymor. Gofala Misses Jones, Elian House, am yr ymborth, trwy gyfarwyddid y pwyllgor, a gofala Miss Bond a Miss Edith Jones am y Cyfarfod Amrywiaethol i derfynu. Y brodyr fydd y wait\er y tro yma, a dis- gwyliwn noson ddiddorol. GOH. -I. I

jPENNAL. I

CARMEL, CYLCHDAITH CONWY.…

HOREB, CWMBRWYNO. I

SOAR, NEW BROUGTON.I

* GWYDDELWERN.I

ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.'

YNYSYBWL.

PONTARDULAIS.

'.LLANDEILO.