Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Adroddiad PwyiSgor y Tir.-I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Adroddiad PwyiSgor y Tir. I J. j. XVI" I Sicrwydd daliadaeth Man Dyddynod I (Parhad). Mae y pwyllgor yn canfod fod nifer anghyffredin o ystadiau yn cael eu gwerthu yn y blynyddoedd diweddaf hyn, ac yn cael eu tori i fynu yn fan-ddarnau. Diau fod mantais yn, hyn, am fod y tir yn myned drwy hyn i ddwylaw y llu- aws yn lie bod yn nwylaw yr ych- ydig. Mae hyn yn gam l'r cyfeir- iad ag y mae rhai wedi bod yn dadleu o'i blaid er's llawer o flyn- yddoedd; one erbyn hyn, amiwg yw fod ochr arall i'r pwngc ac y mae hynny yn cael ei deimlo yn awr. Mae ami amaethwr wedi gorfod myned i'r allor. Mae llafur, ac arian llawer ffarmwr wedi diflanu fel niwl y boreu mewn sydynrwydd annisgwyliadwy. Wedi gorfod gadael ei gartref lie y ganwyd, ac y magwyd ef, weithiau gened- laethau o'i flaen, heb nemawr ddim yn y ffordd o gydnabyddiaeth am yr hyn y gorfu adael yn y tir heb son am y costau a'r anghyfleusder- au y rhoddwyd ef ynddynt trwy orfod symud. Mae hyn yn myned ymlaen ar raddfa fawr, ac yn debyg o barhau. Mae tirfeddianwyr yn trefnu eu tai wrth ganfod yr anocheladwy yn dyfod, ac yn troi eu tiroedd yn ar- ian bathol gyntedy gallant. Maent yn gweled y Land Court yn dyfod yn ffaith. Gwerthwyd o dir yn 1910 werth [1,500,000, yn 1911 gwerthwyd gwerth [2,000,000. Yn y pum mlynedd o ddechreu 1908 i ddiwedd 1912 gwerthwyd 692,218 o aceri. Mae rhai ffermwyr, yn hytrach na gadael ffrwyth eu llafur i eraill, wedi gorfod talu yn ddrud am eu llafur eu hunain. Rhai wedi bod am flynyddoedd lawer yn ddyfal yn sefydlu gyssylltiadau masnachol gwerthfawr trwy werthu llaeth, eraill wedi enill enwogrwydd trwy wneud caws. Y cwbl yn cyfrif yngwerth y ffarm, a'r elw ddylasai fyned i logell y ffarmwr yn myned i goffr y tirfeddianydd yn y gwerth- iant, pa un bynnag a'i y ffarmwr ei hun ynte arall fyddai y prynwr. At hyn, mae y tirfeddianwyr wedi bod a'u llygaid yn agored er's blynyddol ar ddydd yr arwerthiant, ac wedi codi y rhent mor uchel ag y gallent, yn gwybod fod swm y rhent i raddau mawr yn pender- fynu gwerth y ffarm. Mae sylwadaeth y pwyllgor yn dangos yn eglur geudeb y syniad sydd yn rhy boblogaidd, sef, fod y ffermwyr yn awyddus am fod yn berchenogion eu ffermydd eu hun ain. Nid yw hyn yn gywir. Nid yw y ffaith fod amrai wedi prynu euffermyddyn yr arwerthiant yn unryw brawf o arwydd y ffarm- wr am fod yn berchenog ei ffarm. Bron yn ddieithriad, mae y rhai brynasant eu ffermydd, wedi gwneud hynny ar yr egwyddor o ddewis y lleiaf o ddau ddrwg. y ddau ddrwg hynny ydynt (a) talu crogbris am y tir yn y Sale pan y mae yr arwerthwr yn arfer ei hy- awdledd i osod allan werth cyf- leusderau y ffarm gan uchel gan mol y llaeth, a'r prawf o hynny yn nifer y cwsmeriaid, a'r tirfeddian- ydd yn gofalu fod ganddo rywun neu rywrai i gynyg yn erbyn y tenant; (b) gadael y cwbl ar ei ol a gwynebu ar ail ddechreu byw, ac ail sefydlu masnach mewn rhywle arall nas gwyr pa le. 0 ystyried pob peth, o bob cyf. eiriad, mae ansicrwydd daliadaeth yn cael ei deimlo yn ddwysachnac odid yn unrhyw gyfnod blaenorol. Mae tirfeddianwyr a'u goruch- wylwyr wedi bod, ac yn parhau i ddal bygythiad gwerthu y tir er mwyn codi v rhent, a chodiad y rhent yn godiad yn y gwerthiant. Dengys yr adroddiad ei bod yn gyfyng ar yr amaethwr o'r ddeutu, ac mewn llawer o achosion yn gyffelyb i un yn cerdded ar tight- rope a'r dibyn o bob tu iddo. Dywed Shropshire G. 855, Farmer Mae ansicrwydd daliadaeth yn effeithio ar y ffarmwr o'r dechreu i'r diwedd. Nis gall un dyn wneud y goreu o'r ffarm i'w boced ei hun a theimlo yn ddiogel. Mewn arwerthiant diweddar rhan o stad yr oedd nifer o ddynion wedi cymeryd ffermydd ar y stad hono yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, a'u gwella tu hwynt eu hadnabod. Had to buy their own inprovements capitalized or go out'' (yn yr iaith y llefarwyd). Cheshire P. 1028 Farmer. Yn ddiweddar oblegid y pris uchel delir am dir amaethyddol, neu, oblegid effeithiau deddfwr- iaeth ddiweddar-am ryw achos ion, gwerthir stadau yn barhausi —a'r arferiad reibus o roddi rhyb- udd i ymadael er codi y rhent uwchaf yn bossibl, yn y blynydd- oedd diweddafm, ae ansicrwydd daliadaeth yn cael ei deimlo i raddau mawr. Anglesey, N.W. 6, Land Agent.. Mae teimlad o ansicrwydd angherddol yn yr ardal hon yn ddiweddar. Yn ystod y blynydd- oedd diweddaf mae swm mawr o dir yn y farchnad, a llawer o den- antiaid o dan rybudd i ymadael. Y canlyniad yw fod y tir yn cael ei ffarmio gyda llygad ar y possibil- rwydd tebygol i orfod ymadael, ac nid llygad ar ddadblygu y tir." Carnarvonshire, N.W. 12. Pan werthir ffarm o dan yr amodau hyn, os bydd y tenant yn prynu, mae yn talu am welliantau a wnaed ganddo ef ei hun. Os gwerthir y tir i Landlord arall, mae y rhent yn cael ei chodi ar y gwelliantau a wnaed gan y ffarm- wr ei hun." Sylwir fod yr amaethwyr bron yn ddieithriad yn dweyd fod an- sicrwydd daliadaeth yn bod ac yn cyfrif am lawer iawn o galedi. Ar y llaw arall, mae y tirfeddiant yn dywedyd nad oes sail i'r gwyn. Addefir fod tirarglwyddi rhag- orol a'r tenantiaid sydd yn byw ar eu tiroedd yn weddol foddlon ar y sefyllfa. Mae yn naturiol i'r ffermwyr hyny roddi mynegiad gonest a chywir o'r achos fel y maent hwy yn ei weled a'i deimlo. Mae yr un peth, yr un mor natur- iol i'r tirarglwyddi hyny sydd yn gofalu am iawnder, a chysur eu tenantiaid i fynegi pethau fel y maent hwythau yn eu hadnabod, oblegid mae tirarglwyddi felly. Hyn sydd amlwg, sef fod yr ym- deimlad o ansicrwydd sydd yn llesteirio egnion ffermwyr allan o bob cyfartaledd a'r achosion o droad allan, pan ddeuir i'w chwilio yn fanwl. Mae un achos o ormes a throad allan mewn ardal yn cyffroi yr holl ardal, ac yn peri fod yr holl fferm- wyr yn gofyn iddynt eu hunain, Onid yw hyn yn bossibl i minau "? Carem beidio cymeryd ein har- wain gan unrhyw deimlad personol na syniadau gwleidyddol sydd a'u gwraidd yn ddwfn yn ein natur. Yr ydym yn ymdrechu rhoddi gwedd ddiduedd ar y sefyllfa yn yr ysgrifau hyn drwyddynt draw. Y casgliad annocheladwy ydyw, fod ansicrwydd daliadaeth yn ddwfn iawn yn enaid yr amaethwr yn gyffredin, ac mai nid disail yw ei ofnau a'i amheuon. Ceir a ganlyn yn y Welsh Com- mission Report. Fel y mae y naill Property ar ol y Hall yn dyfod i'r farchnad a'r tenant yn canfod ei hyder yn cael ei siomi er nad yw y tir eto wedi newid dwylaw, eto, mae achos un yn Object Lesson i denantiaid eraill, ac yn lledaenu yn heintus trwy yr ardal ymhlith eraill ac yn creu amheuaeth cyffredinol." Lord St, Aldwyn ddywedai yn Nhy yr Arglwyddi, Rhagfyr lOfed, 1906, Ond y mae achosion yr wyf yn ofni fod yn rhaid addef lie mae tirfeddianwyr anynad yn rhoddi rhybuddion i ymadael er dirfawr golled i'r tenantiaid." Lord Barnard yn Nhy yr Ar- glwyddi ddywedai Rhagfyr 19eg, 1906. Yr wyf yn berffaith argyhoedd- edig ar ol gwneyd ymchwiliad dyfal, fod teimlad cryf ymhlith tenantiaid amaethyddol, eu bod mewn rhai achosion wedi eu symud o'u cartrefi yn anheg. Gallwn ddifynu colofnau meith- ion o'r cyffelyb i'r uchod, ond ym- attaliwn. Gwelliantau yn y ddeddf a awgrym-I ir. Mae y pwyllgor wedi derbyn llawer o awgrymiadavi i wella deddf 1908 gan y Farmer's Union and Agricultural Chambers, a sefydliadau eraill, yn ogystal a chan unigolion o ddylanwad, a'r oil wedi cael ystyriaeth ddifrifol y pwyllgor. Wrth gwrs, nid yw y pwyllgor yn mabwysiadu yr oil. Diau fod rhai o'r awgrymiadau yn eithafol ac anweithiadwy. Nodwn rai o'r awgrymiadau hyny cyn cymeryd i fynu awgrymiadau v Dwvllcror ei hun. (a) Fod cydnabyddiaeth yn cael ei rhoddi av amaethyddiaeth dda barhaus fyddo yn yiehwanegu ffrwythloH i gwerth y ffarm. (b) vdranau hyny yn yr Agri<\ ,et sydd yn gorfodi y tenaiu i awdurdod ysgrifen- edig y landlord i wneud y gwell- iantau ar y ffarm a farna ef yn I, angenrheidiol heb gydymffurfio a pha rai gall hawlio tal am danynt -yn cael eu difodi o'r ddeddf. (c) Fod cydnabyddiaeth yn cael ei rhoddi i'r ffarmwr am aflonyddu mewn achos o notice to quit gyda golwg ar werthu y ffarm. (d) Fod y gydnabyddiaeth i fod am bob colled bossibl i'r ffarmwr o herwydd symud ac yn cymeryd i mewn y gost o ymsefydlu mewn ffarm arall. (e) Fod y cyfnod ofynir yn awr o dan y ddeddf i'r ffarmwr i roddi rhybudd i'r landlord ei fod yn bwriadu gwneyd hawliad am gyd- nabyddiaeth o herwydd cael aflon yddu arno trwy rybudd i ymadael yn rhy fyr ac y dylid ei ddiwygio. (f.) Yr Evesham Custom i gael ei fabwysiadu yn gyffredinol, sef. Fod hawl gan y tenant sydd yn myned allan i ddewis ei olynydd, fel y gallo fargeinio gyda hwnnw am y good will. A'r olynydd i dalu y good will, a'r landlord i dderbyn hwnw oddieithr fod rhesymau digonol yn codi o gymeriad am- heus yr ymgeisydd neu ynte ei fod yn brin o arian i wneud y defnydd goreu o'r ffarm. Diau fod llawer i'w ddweyd o blaid ac yn erbyn yr olaf. Mae llawer o amgrymiadau heblaw yr uchod wedi eu hanfon i'r pwyll- gor. Awgrymiadau y pwyllgor ei hun. I 1. Er fod yr Agricultural Hold- dings Act wedi gwella amgvlch- iadau yr amaethwyr, er hynny mae yn pallu mewn llawer o bethau, yn enwedig, dyogelu sicrwydd daliad- aeth. 2. Nad yw darpariadau y ddeddf yn foddhaol gyda golwg ar gyd- nabyddiaeth am welliantau nac yn gweithio yn esmwyth a boddhaol yn ymarferol, oblegid— (a), Yr anhawsder i gael cydsyn- iad y landlord i welliantau yn rhan laf y Schedule gyntaf o'r ddeddf, ac yn fynych yn atalfa ar y ffarmwr i wneud y gwelliantau hynny. (b), Nad yw y ddeddf yn rhoddi cydnabyddiaeth am ffrwythlondeb cynyddol mewn canlyniad i am- aethwriaeth dda barhaol. (3), Fod ymdeimlad dwfn o an- sicrwydd ymhlith ffermwyr Lloegr a Chymru, ac wedi cynyddu yn fawroblegid arwerthiadau diwedd- ar stadau amaethyddol. Mae profion digonol ar wahan i'r arwerthiadau a'r rhybuddion oblegid hynny, o lawer o amaeth- wyr yn derbyn rhybuddion i ym- adael am resymau eraill, megis, chwanegu at y rhent ar welliant- au o waith yr amaethwr ei hun. 4. Fod yddeddf yn pallu i roddi boddlonrwydd o sicrwydd daliad- aeth i unrhyw raddau gwerth sylw, oblegid. (a), Nad yw yn rhoddi sicrwydd daliadaeth, ond cydnabyddiaeth am afionyddiad. (b), Fod y termau Consistent with good Estate Management" ac unreasonable yn amwys. (c), Y ffaith fod rhybudd i ymad- ael am fod y ffarm ar werth wedi cael ei ystyried yn gyfystr a Con- sistent with good estate manage- ment. (d), Fod swm y gydnabyddiaeth yn annigonol am ei bod yn seilied- ig ar y costau symud yn unig. (e), Am fod yn ofynol i'r tenant dalu chwanegiad yn ei rent am welliantau a wnaed ganddo ef ei hun. Yr unig beth all wneud o dan y ddeddf ydyw ymadael a gadael ffrwyth ei lafur i arall. (5), Mae y costau cyfreithiol o dan y ddeddf pan hawlir cydnab- yddiaeth am welliantau neu am afionyddiad mor eithafol nes rhoddi y tenant tylawd i'r anfantais fv -yaf yn bossibl. (6), Mae canlyniadau ac effeith- iauansicrwydd daliadaeth yu ddif- rifol i'r tenant ac i'r genedl. Mae y tenant yn petruso cyn ymgymer- yd a gwneud gwelliantau am nad yw yn gwybod a gaiff eu gwerth o'r tir, o herwydd ei fod yn agored i gael ei droi allan neu godiad yn y rhent. Heblaw hyny mae gan lawer ofn iddynt trwy hawlio tal am welliantau neu aflonyddiad neu am ddifrod gan ac o achos Game, i'w farn wleidyddol ddyfod i'r golwg, yn enwedig os bydd ei farn yn groes i farn y tirarglwydd. Daeth y pwyllgor 1 r farn, os oes cyfiawnder llawn a rhyddid i gael ei fwynhau gan y tetiant, ac os yw y tir i gynyrchu yr hyn sydd bossibl ei gynyrchu, fod rhaid i'r tenant gael sicrwydd daliadaeth lwyr, gydag amodau amddiffyniadol teg i hawliau cyfreithlon y landlord. Bernir y dylai yr amodau crn- lynol fod vn y gvtturideb. I (1) Fodw y rh ent yn cael ei thalu I yn rheolaidd. I (2) Na ddylai y tenant dros- glwyddo y ddaliadaeth-1 arall, I- I (3) Na ddylai niweidio y tir trwy amaethwriaeth wael ac es- geulus. Dyma yr amodau ar ba rai y gellir rhoddi sicrwydd daliadaeth gyflawn, (1) Trwy i'r tenant brynu ei ffarm gyda chymorth y wladwriaeth neu rhyw gorph cyhoeddus (h.y., cym- orth cyllidol). (2) Daliadaeth o dan y wladwr- iaetn neu rhyw gorph cyhoeddus. (3) Fod sefydlogrwydd daliad- aeth yn ddibynol ar lys diduedd, megis llys tirol. Mae yr awgrymiadau hyn yn cynwys canlyniadau pwysig, i ba rai y rhoddir ystyriaeth mewn pen- nodau dilynol. Pryniad tir trwy gymorth gwlad- wriaethol. Pan fyddo tir yn cael ei werthu a'r tenant yn ymadael. Er mwyn gwaredigaeth mewn amgylchiad ieily yr awgrymir i'r wladwriaeth ymyryd ac estyn cynorthwy arian- ol i brynu, a thrwy hynny gefnogi man dyddynwyr i ddod yn berch- enogion eu tyddynod. Mae y drychfeddwl o gynorthwyo y gwladwr i ddod yn berehenogei dyddyn wedi cael mynegiad er y flwyddyn 1880, ac y mae iddo lawer o gefnogwyr, ond yn ddi- weddarach mae y drychfeddwl o roddi i'r tyddynwr y sicrwydd dal- iadaeth y mae yn dyheu am dano trwy ei wneud yn denant i'r wlad- wriaeth. Mae y Farmer's Union yn rhoddi y mater mewn cnewyllyn. There is a desire to purchase land on the past of sitting tenants provided money can be had cheaply on Gov- erment Security. For the purpose of security of tenure chiefly." Gwelir mai vr hyn ddymunir yn gyffredin yw Security of Tenure, er fod rhai yn awyddus i brynu er mwyn y pleser o fod yn berchenog- ion. Mae pedwarugain o pob cant o'r tystiolaethau yn datgan y byddai i'r ffarmwr fod yn berchen y ffarm yn sicrhau sicrwydd daliadaeth ac yn argymell y cynllun er mwyn hynny. Mae y cwestwn yn gwestiwn cyllidol, a diau y bydd yn gwestiwn dyrys a chymylog pan ddeuir i'w drafod, ond mae y pwyllgor yn dra hyderus y gellir ei ddattrys, ac y bydd o fantais wladwriaethol anrhaethol fwy na'r aberth arianol dros amser.

LERPWL (OAKFIELD).

COLWYN. %

IHIRWAEN, GER RUTHIN.

[No title]