Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

[No title]

MELLDlTH AMHURDEB.

News
Cite
Share

MELLDlTH AMHURDEB. Un o felldithion mawr y wlad heddyw ydyw Amhurdeb. Da gennym feddwl fod Pv^yllgor Can- olog Ymneilltuwyr Cymru wedi cychwyh cadymgyrch egniol yn erbyn y drwg hwn, ynghyda drygau eraill sydd ar daen yn Nghymru. Yn canlyn wele ran o anerchiad Djr. Rawlings, Abertawe, mewn cyfarfod o'r gadymgyrch a gynhal- iwyd yn Merthyr y dydd o'r blaen, Pwnc delicate yw hwn, ond yn ddiau yn Dr. Rawlings ceir un yn meddu y cymhwyster hwn. Y mae yn feddyg o safle a phrofiad cyd- nabyddedig, yn deall dirgelion gweithrediadau deddfau y corff, a'r effeithiau dinystriol sydd yn canlyn dibrisdod o'r deddfau doeth a da hyn. Ac y mae lliaws mawr o droseddwyr y deddfau hyn wedi bod o dan ei driniaethau meddyg- ol, ac wedi achosi blinder i'w fedd- wl, a dyfnhau cydymdeimlad ei galon a'r ieuanc a'r anwybodus yn wyneb y trueni i'r hwn y maent wedi darostwng eu hunain yn gyrff a meddyliau. Ac yn ychwanegol at hyn, y mae Dr. Rawlings yn ddyn o ysbryd nodedig o grefyddol a buchedd ddilychwin. Daeth hyn oil yn brydferth amlwg yn anerch- iad y meddyg parchus. Anawdd fai dychmygu am ddim mwy priodol a chwaethus a dyrchafol. Hoffem allu awgrymu i'n dar- llenwyr linell ei araith yn yr un ysbryd, a chyda'r un chwaeth ddiwylliedig a phur ag a nodwedd- ai y traddodiad ohoni. Ar ol datgan ei edmygedd o'r Maer a 1 gydymdeimlad ymarferol a diben y cyfarfod, dywedodd Dr. Rawlings Yn ol dysgeidiaeth ddyrchafedig a Christionogol F. W. Robertson y mae dwy graig y rhai y gall dyn angori wrthynt neu fyned yn ddrylliaui'w herbyn-Duw a dynes. Y mae dylanwadau cryfion eraill y mae dynion ieuainc yn arbennig yn agored i'w drygu ganddynt, megis trachwant am olud, uchel- gais ac awydd .am bleser; ond cytunir a Robertson nlai y ddau ddylanwad sydd yn ymddrychafu uwchlaw, ac yn llywodraethu y lleill oil, ydyw Duw a dynes. Pan roddir cyfleustra i'r ddau ddylan- wad hyn i gydweithio ar fywyd yn briodol, efe a gyfyd i'w raddfa uchaf. Dyma linell ymresymiad Harold Begbie yn ei lyfr nodedig. The Weakest Link. Deil fod gennym i ffurfio y delfryd uchaf o ddynes. Y mae genym i'w gosod yn ei lie priodol yn ein syniad a'n parch. Rhaid i ni weled ynddi hi angen carcharedig purdeb, y wraig fwyn, y fam sanctaidd. Gwir fod benywod eu hunain yn ei gwneud yn anawdd i'r dynion i synio yn uchel a pharchus am danynt. Pwy na theimla yr anhawster hwn wrth sefyll yn Picadilly, yn Llundain, pan dery yr awrlais un ar ddeg y nos, ac wrth edrych ar fenywod coegwych, a'u gwedd a'u gwen a'u gwisg a'u hystumiau wedi eu bwriadu i fodyn rhwyd i'r diniwed a'r anwybodus a'r ehucl ddigwydda fod yn llifeiriant aruthrol y bobl lif- ant allan o'r tafarndai a'r chwareu- dai a lleoedd cyffelyb. Onid yn y cylch ofnadwy hwn y mae magi profedlgaeth a dinistr nifer galarus liosog o ddynion ieuainc harddaf ardaloedd gwledig yr Alban a'r Iwerddon, a Lloegr a Chymru wedi ei osod ? Gwna golyfa o'r fath hi yn anawdd i ddynion ieuainc pur i gadw i fynny eu delfryd uchel o'r rhyw fenywaidd. A'r un ydyw dylanwad y gwisgoedd difoes, y ffasiynau gwrthun, yr iaith a'r ymddygiad anwylaidd, y dawnsiau digywilydd, a'r amneidiau aw- grymiadol sydd yn hagru cymaint ar y rhyw deg heddyw. Ychwan- ega yr oil yn aruthrol at yr anhaws- ter i barchu y rhyw fenywaidd yn ddyladwy. Er hynny, dylid cofio nad yw y dosbarth hwn yn cynrych- ioli merched a gwragedd y deyrnas o gwbl. Os am weled gwir wreigdod, rhaid edrych i'r cartref, lie y mae y fam dduwiol, a'i merch wylaidd, a'r forwyn bur. Yma y cawn olwg ar rinwedd a rhagor- iaeth rhyw fenywaidd. Ac mor anhunangar a phur a dwyfol ydyw! 'Ar yr un pryd, y mae gennym i gymeryd pethau fel ag y maent. Ni ddylem anwybyddu y llygredd sydd yn difwyno ein dynoliaeth ac yn difa nerth a harddwch moesol ein gwlad gyda chyflymder braw- ychus. Y mae offerynau anniweir- deb yn halogi pob tref, ac yn difwyno tegwch pob c wm wdv mron. Mor gyffredinol a dinistriol yw y drwg, fel y mae y Llywodraeth, ar gais unol meddygon y deyrnas, I wedi penodi Dirprwyaeth Frenhin- ol i wneud ymchwiliad yn ei gylch. Ond y mae 99 o bob cant o'r merched wedi eu darostwng i waradwydd eu bywyd pechadurus gan y dynion ddylasent fod yn nodded iddynt. Ac ofnadwy ydyw dialedd merched ar y meibion a'u darostyngant. Y mae gan y rhyw wrywaidd i wneud iawn i'r rhyw fenywaidd am eu camwedd creu- lawn tuag atynt. Ac y mae y dialedd am omedd gwneud hynny yn dilyn hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth." Yn yr ymgyrch i geisio gwaredu ein gwlad rhag pla dinistriol yr anfoesoldeb hwn, rhaid roddi sylw i'r pethau canlynol:— 1. Cyflwr y cartrefi. Yn arnly mae yr anecid-dy mor fychan, a'r teulu sydd ynddo mor fawr, fel ag i wneud meithriniad y teimlad o o wyleidd-dra bron yn amhosibl. Dylid rhoddi ymhob cartref o leiaf fantais i'r plant a fegir ynddo 1 fod yn foesol bur. 2. Lleoedd a natur difyrwch. Nid oes rheswm dros wrthwynebu difyrwch diniwed. Rhaid i natur dyn, fel natur yr anifail. wrth fesur o chware ac adloniant. Ond dylai y difyrwch fod yn rhydd o bob awgrymiad llygredig, fel ag i ddrychafu y delfryd a chryfhau yr anian foesol. Y mae yn dra amheus a ydyw awyrgylch foesol y picturd palace yn ddiogel i blant a phobl ieuainc i anadlu ynddo. 3. Moes dyweddiad. Y mae y cytundeb a wneir rhwng mab a merch i fyned ynghyd i'r bywyd priodasol i'w ystyriedyn gysegred- ig; ond yn rhy ami y mae yn profi yn achlysur i lygredd. Y mae y bywyd priodasol i'w olygu yn ddwyfol. a dylid gochelyd rhag dwyn arno ystaen pechod. 4. Cyfrifoldeb rhieni. Ni ddylai un tad adael allan ei fachgen i'r byd yn anwybodus o'r pethau hyn, ac yn ddirybudd o'u niweidiau. A dymunol fyddai i'r fam,yngnghyf- rinach ei hanwyldeb, i ddywedyd wrth y bachgen sydd yn hoffter ei llygaid, My boy, never do any- thing you could not tell me about." '5. Dylid hawlio ufudd-dod i'r ddeddf ar y mater hyd y gcllir. '6. Dylid argraffu ar feddwl yr ieuanc gysegredigrwydd y corff. Ddynion ieuainc, rhoddwch eich hunain i Grist, ac yna, pa mor danllyd bynnag fydd y profedig- aethau a'ch cyferfydd, He tvill pull you through."

[No title]