Skip to main content
Hide Articles List

17 articles on this Page

ABERPENNAR. i

EBENEZER, CYLCHDAITH TREGARTH.…

LLANFECHAIN. I

NODION 0 DDOLGELLAU. I

LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. I

NODION 0 LEYN.

TALYSARN.I

News
Cite
Share

TALYSARN. I GOBEITHLU. Mawrth 5ed, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ein Band of Hope yng nghapel Moriah, pryd y cymerwyd y gad- air gan y Parch W. J. Jones, Penygroes, ac efe hefyd oedd yn beirniadu yr adrodd Mr D. Thomas, Council School, yn beirniadu y dadleuon a Mr Walter Williams, Taly- sarn, yn beirniadu y canu. Cyfeiliwyd Can Miss Priscilla A. Ellis., Cafwyd cys tadleuaethau fel y canlyn:—Canu i rai dan 12 oed, 1, Jennie Jones, Penygroes; 2, Megan Jones, Ta'lysarn. Adrodd i rai dan 12 oed, 1, Christmas Evans, Penygroes 2, Myfanwy Owens, Talysarn. Canu gyda'r Tanau i rai dan 12 oed, I, Megan Jones, Talysarn. Unawd i rai dan 14 oed, Lizzie C. Evans, Talysarn, a Jennie Jones, Peny- groes, yn gyfartal gyntaf 2, Esther A. Jones, Talysarn Adroddiad i bob oed, 1, John Lewis, Talysarn. Unawd i bob oed, 1, Gwladys Roberts, Talysarn. Cystad- leuaeth y Corau heb fod o dan ddeg mewn nifer. Daeth wyth parti yn mlaen, a chanasant yn deilwng iawn o wobr hob un; ond barnodd y beirniad fod eiddo Cefncoed, @ dan arweiniad Mr Eben- ezer Williams, yn rhagori ychydig ar eu cyd ymgeiswyr. -Felly dyfarnwyd hwy yn oreu, a ctiyflwynwyd y wobr, ynghyd a ffon hardd i'r Arweinydd, gan Mrs H. J'ones, trysoryddes y cyfarfod, a Mr John M. Hughes, ysgrifenydd. Cyflwynwyd y di- olchiadau gan Mri D. Thomas a John M. Jones. Da gennym ddweyd na fu cyfarfod o'i gyffelyb yn nghapel Moriah erioed, pob congl wedi eu llanw, a llawer allan. A.C.

TREGARTH.

'MANCHESTER.1' ' MANCHESTER.…

IBETHEL, ABERDYFI.I

MAENTWROG.I

Y WYDDGRUG.I

I NODION O'R ABERMAW.

SENGHENYDD.

CYLCHDAITH CEFN MAWR.

TREORCHY.

.M.C. yw