Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

ABERPENNAR. i

News
Cite
Share

ABERPENNAR. i GWYL DEWI.-Nos Fawrth, Mawrth y 3ydd, dathlwyd nos Gwyl Dewi gan Gym- deithas y Cymrodorion, mewn hafiaeth, gyda gwledd i'r dyn oddiallan ac oddi- mewn. Ein ymwelwyr y tro hwn oedd Mr Artemus Jones, Bar-gyfreithiwr, Llundain, ac Ab Hefin, y Bardd Cadeiriol, o dref Aberdar. Ein Llywydd, y Meddyg Arthur Jones, oedd ein Harweinydd y nos hon, ac nid oes ei well. Wedi ei fagu gan Ceridwen mewn un man, tarawodd 'gord' uchel yn ei sylwadau, ac wrth adolygu gwaith y tymhor gan y Gymdeithas a'r areithiau gwerthfawr oedd wedi eu traddodi gan wyr o fri fel y Parchn W. Davies. M.A., Rhys J. Hughes, Ab Hefin," a W. Davies, Soar, ac eraill; ond hedfunodd yn sydyn oddiwrth y rhai hyn at enwogion oedd ac y sydd mewn gwahanol gylchoedd wedi aberthu eu bywyd, a'u henwau yn perarogli sydd ac a fydd tra parhao Cymru. Twymodd, chwyscdd, a chynes- odd pawb. Wedi hyn cafwyd gair yn wladgarol gan Mrs Phillip Davies, Ysgol- feistr.es. Yna galwodd ar arwr y cwrdd, sef Mr Artemus Jones, a disgynodd yn hapus ar Dewi Sant Cymru," a chododd yn esmwyth o'r canrifoedd. Elfenodd ei fywyd yn Gymraeg a Saesneg. Bu yn rhoi ystyr y gair Patriot," ac yn chwareu yn hapus iawn ar dant y telynau Cymraeg sydd yn wasanaethgar ac yn chwareu eu rhan yn aeilwng ymhob man trwy y byd gwareiddiedig. Dywedodd fod y Welsh Stocks ar i fyny, ac ond iddi aros yn ffydd- Ion i'w Chrewr, yr oedd yn mentro proff- wydo, gyda'r manteision ysblenydd sydd yn agored o'i blaen, y bydd ei meibion a'i merched yn chwareu eu rhan yn fwy per- flaith yn hanes Cymru fydd (uchel cym- eradwyaeth a churo dwylaw). Un o feib Gwerin Gwalia o Ddinbych ydyw hwn, ac y mae Bwrdd-deisdrefi Merthyr ac Aberdar mewn cariad ag ef. Canwyd "Cartref" gan Mr T. Edmunds, Cyfreithiwr, yn swyn- ol rhyfeddol. Gall hwn enill ei fara heb grefft yn wir i chwi. Cododd y beirdd yn sydyn fel' petris,' ond fel y dywedwyd gan lawer Diliau Mel," y cyntaf ar y Maen Llog" oedd Myrddin Hicks, o'r Miscin, ar Delyn ein Gwlad," yn ardderchog. Gwyrosydd," gyda englyn i Artemus Jones nes siglo pawb, ac yna penillion swynol ar Gymru Wen" gan Hywel Nedd. Cododd Ab Hefin ,gan Hywel freichiau o farddoniaeth fyw oedd yn gog- lais ac yn llosgi, i'r Meddyg Arthur Jones, Ab Pedr Hir, Mrs Edwards, Llety Ifor; Parch J. Roger, y Rhos Miss John, Ysgol y Sir, a'r Trysorydd. Yr oedd fel pwmp y Pentre yn ei harllwys aHan. Cafwyd difyrwch mawr. Cafwyd penillion gan Cynfig," Mr Williams, Police y plant," a chanwyd y rhai hyn yn swynol gan Mr Phil. Davies. Pasiwyd penderfyniad ar gynygiad y Llywydd, ac eiliad yr Is-lywydd yn unfrydol, ein bod i ddeisyfu a deisebu i newid enw y lie uchod o Mountain Ash i Aberpennar. Wedi y diolchiadau arferol, terfynwyd cyfarfod ail penblwydd ein Cymdeithas, ac fe oddefwch i mi ddweyd ei fod yn un o'r cyfarfodydd goreu o'r natur yma sydd wedi ei gynal yn Nghwm Aberdar oddiar dyddiau Caradog a "Carw Coch." Canwyd "Hen Wlad fy Nhadau mewn yspryd ac mewn gwirion- edd. Eisteddodd oddeutu cant am y breis- ion, a chymerwyd tan gerch o'r newydd at ein gwlad y nosori hon. GWYL DEWI CAERDYDD.—Clywais fod y Parch Gwynfryn Jones wedi cael amser bendigedig pan yn pregethu yng nghapel mawr y Bedydtiwyr, ym mhrif ddinas Cymru, sef Caerdydd, nos Lun diweddaf. MAB GWALIA. I

EBENEZER, CYLCHDAITH TREGARTH.…

LLANFECHAIN. I

NODION 0 DDOLGELLAU. I

LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. I

NODION 0 LEYN.

TALYSARN.I

TREGARTH.

'MANCHESTER.1' ' MANCHESTER.…

IBETHEL, ABERDYFI.I

MAENTWROG.I

Y WYDDGRUG.I

I NODION O'R ABERMAW.

SENGHENYDD.

CYLCHDAITH CEFN MAWR.

TREORCHY.

.M.C. yw