Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Cenhadaethaa Egengylaidd.

Llith Agored at Rhydderch.

CAREDIGION YR ACHOS.

[No title]

1-BYCHANU CRIST. I -L.

News
Cite
Share

1 BYCHANU CRIST. L Anwyl Syr,—- A fyddwch mor garedig a chaniatau ychydig o'ch gotod i drafod y pwnc uchod. Yr ydym yn teimlo yn ddiotchgar fod gen- nym frawd yn y weinidogaeth yn ddigon gwrol i gydnabod aneffeithioirwydd y weinidogaeth i gyrhaedd yr amcan yr orr- deiniwyd hi, sef yw hvnny, goleuo a phuro y byd, a chadw pechadur rhag y Ilid a fydd. Y mae y datganiad hwn yn sicr o fod yn wir. Y mae ein capeli yn fwy na haner gwag pan y mae y Picture Halls yn orlawn. Gwybodaeth anianyddol yn cynyddu yn gyflym, ond y wir wybodaeth yn druenus o isel, y Sabboth dan draed, ein pobl iedoinc ac eraill yn fyr o'r gwel- edigaethau v sonir am danynt yn Llyfr yr Actau. Miloedd o esgeuluswyr yn nhref fechan yr Rhyl yn unig, ac ugeiniau o fll- oedd o esgeuluswyr trwy yr oil o Gymru uchel ei breintiau. Dyma yr etifeddiaeth sydd gennym i'w chyflwyno 'r oes a ddel. Beth fydd.yr oes honno ? Ond atolwg, a ydyw y feddyg- iniaeth sydd yn cael ei chynyg, sef priodoli gwybodaeth derfynol i'r Gwaredwr, yn briodol ar gyfer y fath glwy ? Nid ydym yn tybied. Onid oes gormod yn barod o duedd i'r oes arwynebol hon i fychanu ac i ddarostwng pob peth gwir fawr? Na gresyn fyddai Ïr pwlpuø Cymraeg (fel ein brodyr y Saeson) ostwng safon yr Efengyl i lefel y meidrol a'r terfynol. Dirgelwch i'w chredu ydyw yr Efengyl ac nid i'w hamgyffred. Yr ydym yn credu mae yn yr ochr arall y mae yr anwybodaeth, ac nid anfuddiol fyddai iddynt ganu a gweddio yr hen emyn, Gwasgara'r tew gymylau oddi yma i dy fy Nhad," &c., oherwydd wedi colli'r ffordd yn ddiau y maent. Dywedodd gwr wrth y Gwaredwr un- waith, Os myni Ti a elli fy nglanhau." Nage ddim, meddai Iesu Grist, Os gelli di gredu." Onid dyma ddarlun o'r Eglwys heddyw ? Ac yn ddiddadJ y mae yr an- wybodaeth, y caledrwydd, y cyfrifoldeb, a'r canlyniadau, yn gorffwys ar yr Eglwys, ac nid ar Tywysog ein Iachawdwriaeth." Ymddengys i ni mae un o wendidau mawr yr oes hon ydyw, eiddo y Gnosticiaid gynt, sef ceisio mesur, pwyso, a deall, hyd yn nod y Duwddyn. Gwybod yn lie ffydd, deall yr hyn sydd uwchlaw deall, a cheisio mesur yr Anfeidrol. Paham y trafferthir gyda chwestiynau anatebadwy, pan y maetrefn yr Efengyl mor symJ. "Oddi eithr eich troi chwi a'ch gwneuthur fel y bachgenyn hwn nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd." Cofiwn y wers hon ynte, plant yn gyntaf, rxieibion wedi hynny. Onid anhawsderau dychmygol ydvw y rhai dan sylw, sef Pa sawl torth sydd gennych ? Pa le dodasoch chwi ef," &c. Onid yn syml agoriad y drws i'r byd ys- prydol ydyw y fath ymadroddion ? Pa fodd y gellir oysylltu anwybodaeth a'r hyn a ganlyn • Canys bachgen a aned i ni. Mab a roddwyd i ni, a bydd' y Ilywodraeth ar ei ysgwydd ef gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw Cadarn-Tad Tragwvddoldeb, Tywvsog Tangnefedd," &c. "Goleuni y byd vdwvt 11." Myfi a r Tad un ydym, yr hwn ac efe yn rfurf Duw," &c. Crynhoi yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo ef." •' Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear, ewch." Tri peth sydd yn gwneud cenhadwr cywir, cyflawn, ac awdurdodedig i Dduw, sef (a allaf fi ychwanegu anffaeledig), galwad, anfoniad, a'r Presenoldeb Dwyfol tu cefn i'r oil. Betb am addysg y rhoddir cymaint o bwys arno yn awr ? Yr vdwyf fi yn rhoddi her iunrhyw un i brofi fod y Bibl yn rhoddi unrhyw bwys ar addysg o gwbl. Un peth sydd yn sicr, sef fod aad- ysg Feiblaidd yn is o lawer nag yr oedd ddeugain mlynedd yn ol. Dywedodd gweinidog beth fel hyn yn nhref yr Rhyl rhyw bum mlynedd yn ol, ac yr oedd y gwr mawr hwnnw, medd efe ei hun, wedi pwyso ei eiriau cyn eu dywedyd. Y mae yma ganoedd, ie, meddai yr ail waith, ganoedd o aelodau Eglwysig yn Nyffvyn Clwyd na wyddant beth ydyw Edifeirwch, na Chyfiawnhad, na Sancteiddhad, na Mabwysiad. A ydyw, tystiolaeth y gwr mawr hwn yn wir am wybodaeth gre'fydd- ol Cymru yn gyffredinol ? Ymddengys un peth yn hollol glir i mi, sef fod Iesu Grist yn anffaeledig yn ei holl ymarweadiad, a'i waith, ymhob ryw wedd arno. Felly, a ydyw yn briodol cysylltu anffaeledigrwydd ac anwybodaeth a'u gil- ydd ? Y peth doethaf o lawer i ni ydyw gadael i'r anesboniadwy Hwn i'w esbonio ei hun trwy y cyfrwng y mae wedi ei addaw, ac fe fydd yr esboniad hwnnw yn sicr o fod yn glir, yn ddigamsyniol, yn Ddwyfol, yn tidynol, ac yn achubol. Gresyn fod yr Eglwys mor iach-" pan glafycho Seion yr esgor ar ei meibion ac ar ei merchad." Bydded i Seion ganu yr hen benill hwnnw, ac wrth e'l ganu ei weddio hefyd O na ddeuai'r hen bwerau Welwyd yn y dyddiau gvnt, Wrth broffwydo uwch ben yresgyrn, O na chlywn swn y gwynt. Dyma yn unig a roddir derfyn tragwydd- ol ar yr holl anhawsderau dychmygol a di- sail sydd yn ffynu mewn llawer dull a modd yn y dyddiau hyn. Yr eiddoch, &c, I S. PI ERCE.

ICYNLLUN 0 LYFRGELL AR GYFER…