Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Cenhadaethaa Egengylaidd.

Llith Agored at Rhydderch.

CAREDIGION YR ACHOS.

News
Cite
Share

CAREDIGION YR ACHOS. MR. WILLIAM EVANS, BIRKENHEAD. ) Yn mis Tachwedd diweddaf, ym- neillduodd Mr William Evans, Grange Road West, Birkenhead, o wasanaeth y llythyrdy yn y dref uchod, ar ol gyrfa lwyddianus ac anrhydeddus. Ganwyd ef yn Rhyl, a breintiwyd ef a mam dyner, di- wyd, a gofalus. Yr oedd ei dad yn fab i Mr John Evans, yr hynafiaeth- wr, o Ruddlan, ac yn frawd i Mr Edward Evans; cyfieithydd i'r en- wog Arabi Pasha, ac a laddwyd pan danbelenwyd Alexandria flyn- yddoedd yn ol. Credaf fod Mr Edward Evans ymhlith y rhai cyn- taf a ddarganfu mai Cymro oedd H. M. Stanley, oblegid cyfarfu y ddau yn yr Aifft yn ystod hynt gyntaf yr anturiaethwr i gyfandir tywyll Affrica. Yn ol pob tebyg MR. WILLIAM EVANS. etifeddodd Mr William Evans gryn lawer o neilltuolrwydd teulu ei dad yn gystal ag eiddo teulu ei fam. Pan yn fachgen yn yr ysgol ddyddiol, efe oedd arwr ei gyfoed- ion ar gyfrif ei ddireidi a'i ysbryd mentar Lluosog a dyddorol yd- yw'r straeon allesid adrodd am y dyddiau hyny, pan oedd Mr J. W. Jones (Caernarfon ar ol hyny), yn ysgolfeistr, ac am helyntion bach gendod yn hen gapel Wesleaidd Sussex Street, Rhyl. Treulir ami i awr ddifyr, hyd yn oed yn awr, i adgoffa'r helyntion hyny gan Mr Evans a'i gyfoedion. Ar ol gadael yr ysgol ddyddiol, prentisiwyd ef gyda Mr D. Lloyd Lewis, Argraff- ydd, Rhyl Record Office. Am- lygodd yr un,nwyfiant chwareus yn y swyddfa argraffu ag a wnaeth yn yr ysgol ddyddiol yn ystod bIynyddoedd cyntaf ei brentisiaeth. Yma,modd bynag, cafwyd arwydd- ion o ddyfodol ei fywyd fel preg- ethwr, oblegid pan geffid amser cyfaddas, cynhelid math o gyfar- fodydd pregethu a chyfarfodydd i cenhg,dol, a'r brawd Evans oedd cynullydd ac arwr yr holl gyfar- jfodydd, er fod y prentisiaid eraill yn cymeryd rhan ynddo. Pan oedd y Parch John Hugh Evans (Cynfaen) ar g) lhdaith y RhyJ, yn 1875, gwelwyd fod cym- J hwysderau yn ein cyfaill i fod yn bregethwr, a threfnodd Cynfaen gyhoeddiadau iddo, er na nodwyd ei enw yn ffurfiol ar y plan hyd y flwyddyn ddilynol, pan ddaeth y Parch John Jones (Vulcan) yn ar. !ol'ygwr yno. M>nych. yr adgofia ein cyfaill achlysur ei bregeth gyn- taf yn nghlywedigaeth Vulcan, ac am dynerwch a chydymdeimlad y gwr mäwraddfwyn hwnw, pan gymerodd bregeth y bachgenyn ei hadenydd ac a ehedodd ymaith. Byth ar ol hyny, modd bynag, cyn- yddodd mewn hunan feddiant, a daeth \n fuan yn feistr ar ei gyn- ulleidfaoedd. Dilynodd ei alwedigaeth fel ar graffydd yn Lerpwl a Llanberis, ond gan fod ystyriaethau o iechyd yn gofyn iddo ymorol am alwed- igaeth yn yr awyr agored, llwvdd- odd yn 1880 i gael y safle o lythyr- gludydd gwledig rhwng Rhuddlan, y Cwm, Newmarket, a'r cwmpas- oedd. Preswyliai yn Rhuddlan, ac am ddwy flynedd teithiodd, trwy bob tywydd, i'r lleoedd hyn. Yn 1882 cafodd swvdd fel llythyr- gludydd yn Birkenhead. ac yn 1888 penodwyd ef yn Head Postman yn Liscard. Tra yma, cyflawnodd wasanaeth anmhrisiadwy i'r achos Wesleaidd Cymreig egwan yn Oakdale, Seacombe, mewn cyd- weithrediad a'r diweddar Mr Rich- ard Jones, o goffadwriaeth fendi- gedig ar ran pawb a werthfawrog- ant lafur a hunan-aberth yn achos crefydd. Yn 1892 dychwelodd Mr Evans i Birkenhead i lanw'r swvdd o Assistant Inspector, ac ymhen tipyn gwnaed ef yn Sub-Inspector. Wedi hyny penodwyd ef yn, Chief Inspector, yr hon swydd uchel a chyfrifol a lanwodd hyd ei ymneill- tuad. Fel prawf o'r parch a goleddid tuag ato gan awdurdodau'r Llyth- yrdy, derbyniodd lythyr arbenig oddiwrth y Gwir Anrhydeddus H. Samuel (y cyn Bostfeistr Cyffred- inol), ac anrhegwyd ef a'r Long Service Medal gan y Brenin. Der- byniodd hefyd anrhegion gwerth- fawr gan ei, gyd-arolygwyr, a'r noson o'r blaen, mewn cyfarfod pwrpasol i'r achlysur, anrhegwyd ef gan y Postmen's Federation gyda Roll Top Desk o dderw caboledig. Mae efe yn flaenor ffyddlon yn eglwys Claughton Road, Birken- head, er's chwarter canrif, a gwas- anaethodd yr Ysgol Sul fel athraw ac mewn swyddogaethau eraill. Mae efe'n ymddiriedolwr capeli Birkenhead ac Egremont, ac eiddo cyfundebol eraill. Bu -am rai blynyddoedd yn aelod o Bwyllgor y Pregethwyr Cynorthwyol yn Nhalaeth Gyntaf Gogledd Cymru. Erbyn hyn efe yw y pregethwr cynorthwyol hynaf ar gylchdaith Mynydd Seion, ac yn sicr ddigon mae efe'n addurn i urdd anrhyd- eddus y pregethwyr cynorthwyol. Cydnabyddir ef fel pregethwr clir, cryf, hyewdl, ac efengylaidd. Myn- ych y galwyd am ei wasanaeth hyd yn oed i uchel-wyliau, nid yn unig gan eglwysi ei enwad ei hun, ond gan eiddo enwadau eraill. Mawr hyderwn y bydd y seibiant a gaiff yn awr oddiwrth gyfrifoldeb ei alwedigaeth yn ei alluogi i roi mwy nag erioed o wasanaeth yn y pwlpud. t Eiddunwn brydnawn teg a di- gwmwl iddo ef a'i briod hynaws, yr hon, gyda Haw, sydd yn ferch i'r diweddar Mr William Evans, Eg- lwysbach, hen garictor gwreiddiol a duwiolfrydig, a hanai o'r un cyff a'r anfarwol Barch John Evans (Eglwysbach). Mae i'n cyfaill bed- war o blant, Miss Evans, sydd gar- tref gyda'i rhieni; Mr W. T. Evans, B.Sc., athro yn un o ysgolion dyddiol Birkenhead y Parch Evan Evans, gweinidog gyda'r Methodist Episcopal Church, America, ar hyn o bryd yn Central Square, N.Y.; a Mr John Hugh Evans, Syraceese, N.Y. CEPHAS.

[No title]

1-BYCHANU CRIST. I -L.

ICYNLLUN 0 LYFRGELL AR GYFER…