Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Cenhadaethaa Egengylaidd.

News
Cite
Share

Cenhadaethaa Egengylaidd. (Adgofion Cysurlawn.) (Gan y PARCH HUGH HUGHES). V. SALEM, LLANARMON. Oherwydd yr un rheswm yr wyf yn dwyn i mewn gyfarfod pregethu Salem a chyfarfod bythgofiadwy Treherbert. Cynhaliwyd y cyfarfod hwnw yr wyth- nos y Sulgwyn, 1875. Ysgrifena Mr John Carrington, Gwynfryn, Coedpoeth, ei atgofion melus o'r cyfarfod hwnw yn ei gyfroddiad gwerthfawr i Hanes bywyd yr anfarwol John Evans, Eglwys- bacb." Yr oedd y gwron hwnw yn y eyfarfod, ac yr oedd ei bresenoldeb ef yno yn rhoddi cyfrif 11awn am y ffaith fod yn yr odfa hwyrol gymaint dair gwaith o bobl ag a ddaliai y capel. Wedi cael cyfarfodydd gwir fendithiol y rhan gyntaf o'r dydd, bu raid cynhal y gwasanaeth hwyrol yn yr awyr agored. Golygfa odidog oedd gweled y bobl yn llifo yno o'r pedwar pwynt-yr Wycld- grug, Ruthin, Coedpoeth, &c. Caed benthyg trol gan rhyw ffarmwr yn y gymydogaeth, ac oddiar y drol hono y bu i ni wynebu tyrfa anferth i le mor bell oddiwrth holl reilffyrdd y byd, a phell felly ydyw yr awr hon. Gwelwyd yn fuan nad yw Duw yn rhoddi llawer iawn o bwys ar le na seremoni. Yr oedd ei Yspryd Ef yn gweithio yn nerthol yn ac o gwmpas yr hen drol, ac ni fuaswn yn synu os oedd ei phercbenog yn syn- ied yn uwch o honi nag erioed o'r blaen. Pa fodd bynag, yr oedd yn anhawdd i drol wnoud gwasanaeth uwch. Wrth gwrs, y fi oedd i bregethu gyntaf, yn ol pob rheswm a threfn. Fy nhestyn ydoedd, Os y Mab a'ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir." Gwelwyd ar unwaith, er cymaint oedd atdyniad y gwron anwyl, fod y bobl wedi dod yno i addoli, ac i ddisgwyl am y Meistr an- feidrol, ac ni chawsant eu siomi. Daeth yr awel, a chynyddodd yn wynt nerthel, a daetb y gwlith, a chynyddodd yn wlaw' rnawr cyn diwedd y bregeth. Yr oedd y dyrfa yn beriVi drwyddi, a bron na ellid gwybod ar wyneb ami un, eu bod am fentro rhyddid y Mab am byth. Gwelais hefyd arwyddion o rhyw gyffro dyeithriol yn y pregethwr mawr oedd i ddilyn. Wedi canu emyn adnakydklus gyda hwyl anarferol, y mae yn esgyn i'r drol, yn wefr ysprydol o'i goryn i'w sawdl. Ymddengys ei fod wedi bwriadu pregethu ar dyn a anel yn ddall," eithr ni phregethodd o gwbl; ond caed ganddo annerchiad cymh-vvysiadol o wir- ionedd y bregeth, Rhyw ddeng munyd oedd byd yr annerchiad, eithr deng munyd gafodd le mawr yn mywyd can- oedd o'r gwrandawyr. Ac 0 y dylan wad oedd yno—gwynt y deheu wedi codi yn gorwyct, ond heb oerni, ac yn ysgubo a thoddi y gynulleidfa. Yr oedd dyn Duw y munudau hyn fel coelcerth o dan oddaith, yn llosgi y drwg allan, ac yn llosgi y da i mewn i laweroedd- Yr oedd traed y dyrfa fel pe wedi glynu wrth y ddaear, ni allent symud o'r fan. Yn wir, yr oeddwn i yn ofni iddo, fel angel Manoah, gael ei gymeryd ymaith yn y fflam angerddol. Yn nghanol -ei afiaeth, y mae yn troi y Capel yn enquiry room, gan ddymuno ar i bawb oedd yn derbyn Rhyddid y Mab" fyned i mewn. A'r fath ruthro i fyned i mewn oedd yno ar ran crefyddwyr a dychwelecfigion yn gymysg a'u gilydd. Mewn ychydig o funudau yr oedd y capel yn aruthrol o orlawn, ac eto yr oedd canoedd lawer allan yn methu myned i mewn, ac yn methu symud tua chartref ychwaith. Pan oedd y capel yn Itawn felly, cymerodd un digwyddiad le a ogleisiodd beth ar fy natur i yn nghanol yr holl gyffro. Daeth y Parch W. H. Evans, gweinidog y Gylchdaith ar y pryd, i ddrws y capel, gan lefain yn uchder ei lais, Mae Salem heb ei llenwi Mae ynddi le o hyd," pryd nad oedd le i neb bron, Wrth gwrs, y Salem nefol oedd yn llenwi ei feddwl sanctaidd ef. Y drafferth bell- ach oedd dod o hyd i'r dychweledigion oherwydd tyndra y dyrfa. Tarawodd yn meddwl Mr John Evans i'w gwa- hodd i'r Set Fawr, ac i'r rhai oedd yno gymeryd eu lie yn nghorph y capel, a dyna hi yn ymwthio aiddgar y naill heibio y Hall, ond trwy fawr anhawster. Wedi mawr ymdreeh caed tua 60 yn ymwthio o gylch y pwlpud, ac yno y buom yn siarad a hwy nes cael ein dal gan dywyUwch. Er mwyn cael gwy- bodaeth gywirach o nifer y dychweled- igion, y mae Mr Evans yn dymuno ar i nifer fawr o'r aelodau fyned allan er lleihau yr anhawsder, ond nid oedd llavver o ufudd-dod i'w roddi i'r cais, gan eu bod mewn gormod o hwyl gor- foleddus. Ord aeth yr hen flaenor Jonathan Evans alian beb i neb ei weled o gwbl, ac nid oeddwn yn ei adnabod y pryd hwnw, ac efe oedd yr unig un a gydsyniodd a chais Mr Evans. Er y tyndra mawr, gjfynodd Mr Evans i mi fyned allan i wahedd y bobl oedd yn methu symud o'r fan i dderbyn y Gwai- edwr, a dod i mewn. \Vedi i mi fyned yn ol i'r Capel daeth un i mewn ar fy 01, a gofynais iddo a oedd yn awyddus i roddi ei hun i lesu Grist, a'r atebiad cyflym a gwrol a gefais ydoedd Yr ydw I wedi rhoi fy hun iddo machgen i cyn dy eni di, haner cant o flynyddoedd yn ol." Jonathan Evans oedd y gwr hwnw, a gwnaeth i mi doimlo yn bur shy' ar y foment. A'r peth cyntaf a glywais drachefn oedd yr hen frawd yn gwaeddi ar draws yr hwyl i gyd, Y mae hi yn twllu, ond y mae canwyllau i'w cael yn y drawer' dan y pwlpud yna, goleuwch nhw," fel pe buasai yn foddlon i fod yno byd y boreu, ond cael digon o oleuni. Yr oedd y dychweledig- ion hyn i ymuno ag eglwysi pob enwad mewn amrai o'r ardaloedd cylchynol. Nis gellir, ac nid oes eisiau, gwneyd cenbadaeth lwyddianus yn enwadol. Ond melus odiaeth ar hyd einioes ydyw yr adgof am gyfarfod gogoneddus fel hwn. Yr oedd yn Salem y pryd hwnw gewri o Saint oedd yn rhoddi nerth a phrydferthweh i'r achos goreu, ac ni fu- ont yn ddiff y-iol mewn gweddio llawer am y tywalltiad mawr. Y maent oil wedi croesi erbyn hyn i gwmni y Gwr, a garent mor fawr, ond y mae llawer o blant Salem heddyw yn llenwi safleoedd o ddylanwad mewn eglwysi eraill. Ceir hwynt yn ardal Coedpoeth a'r cyffiniau. Y mae Lerpwl er's llawer o flwyddi yn manteisio yn fawr ar wasanaeth rhai a fagwyd yn Salem. Nid yw canu Salem wedi peidio dylanwadu ar ganu Lerpwl. Oof anwyl sydd genyf am Salem, oblegid nid oes nemawr le yn y wlad, ag sydd v'edi cael cyfarfodydd pregethu gogon eddusach yn y dyddiau gynt. Y mae yn awr fel pe wedi colli o sylw y byd- ychydig wyr am ei fodolaeth. Deued yr Arglwydd eto i ogoneddu Salem a'r hen ddylanwadau grymus. (I barhau).

Llith Agored at Rhydderch.

CAREDIGION YR ACHOS.

[No title]

1-BYCHANU CRIST. I -L.

ICYNLLUN 0 LYFRGELL AR GYFER…