Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
uy Gwyliedydd Newydd." SCALE OF CHARGES FOR Small" Prepaid Advertisements IN "GWYLIEDYDD NEWYDD." Situations Vacant or Wanted. Apart- ments to Let or Wanted, Miscellaneous Wants and Sales, Houses, Shops, Business, etc., to be Sold, Let, or Wanted, Partner- ships Wanted or Offered, &c. One Three Six 13 week. weeks, weeks, weeks s. d. s. d. s. d. s. d. 18 words 1 0 2 0 39 70 30 „ 1 6 3 0 5 9 11 0 40 „ 2 0 4 0 7 9 15 0 50 „ 2 6 5 0 9 9 18 0 ü3 „ 2 9 5 6 10 t) W 0 In future all small advts. sent for inser- tion must be prepaid. The inconven- ience of booking small amounts, and the subsequent expense of collecting the same, renders it necessary that this rule should be strictly observed, otherwise insertion cannot be guaranteed. Prices for larger spaces on application. ALL ORDERS, ADVERTISEMENTS, P. ORDERS AND CHEQUES TO BE SENT TO- The Manager, The New Watchman," aelli, Flint Mountain, Flint, North Wales. AT EIN DOSBARTHWYR. Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy am flaeii-ddl o 1/8; dau gopi 3/3; o dri i fyny i 6 copi, Ceiniog yr un; chwe' copi ac uwchlaw hyny, lOc. y dwsin. Pan anfonir i Wledydd Tramor, bydd y prisiau uchod yn uwch, yn olfel y byddo y tal am y cltidiad. ANFONER POB ARCHEBION F.RBYN BOREU SADWRN YMHOB WYTHNOS I'R— Rheolwr, UOwyliedydd Ne wydd," Y OellJ, Coed-y-Fllnt, Flint, Gogledd Cymru. tS^Ni ellir gwneud gostyngiad ar gyfrif copiau heb eu gWerthu, ac erfynir am i'r dosbarthwyr ohehu yn ddioedi a'r Rhe- olwr pan y bo'nt yn derbyn mwy o gopiau nag y gellir eu gwerihu. Disgwylir tal ar derfyn pobchwarter, ac oddigerth mewn amgylchiadau eithriad- 01 iawn, ni ellir rhagllaw anfon y papur am fwy na mis ar ol terfyn y chwarter i unrhyw ddosbarthwr a fo heb dalu ei gyfrif. < TO OUR AGENTS. TERMS. N One copy of "Gwyliedydd Newydd" for One Quarter with Postage Prepaid—1/8; Two Copies of" Gwyliedydd Newydd" for One Quarter with Postage Prepaid- 3/3 Three, and up to 6 Copies, will be sent at the rate of One Penny per Copy Upwards of 6 Copies—lOd. per Dozen. No allowance can be ipade for returns; and the Agent is earnestly requested to communicate with the Manager when he is in receipt of more cdpies than hex can sell. When copies are sent to Foreign Countries, the above prices will vary according to postal charges. KS'No Parcels will be sent to any Agent whose Account is more than One Month overdue. •. v ALL ORDERS TO BE SENT FOR SATURDAY' MORNING EACH WEEK TO- The Manager, "New Watchman," Flint Mountain, Flint, North Wales. AT EIN GOHEBWYR. CYFEIRIER POB GOHEBIAETH— Y Golygydd, Gwyliedydd Newydd/a Y Gelli, Coed'y=Flint, Flint, Gogledd Cymru. Anfoner Newyddion erbyn boreu lau neu byddant yn rhy hwyr. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser, a phob item ar ddalen wahanol. Rhodder I'r Wa sg neu Press News ar yr amlen. Os yn anfon gair cyfrinachol rhoddwch stamp ceiniog. Os na wneir hyn rhaid ini dalu yn ddwbl. ? haid i bob Gohebydd—hen yn ogystal a newydd-anfon ei enw a'i gyfeiriad bob tro.
I 'BWRDD Y GOL. I
I BWRDD Y GOL. I X.—Eich barn chwi yw honno. Mae croes-- aw i chwi o honi, a sicrhaf chwi nad yw o nemor pwys i mi beth a gredwch. "LLESTRI Y TRYSOR.Mae yma amryw lythyrau, ond ni chyhoeddir yr un ar y naill ochr na'r Hall heb enwau priodol yr ysgrifennwyr ynglyn a hwynt. WESLEAD.—Do, gwelais y nodyn yn y Brython," ac yr wyf yn meddwl mae y pwt bach mwyaf amwys a chamarwein- iol a welais erioed ydoedd. JOnd y gwr parchedig ei hun a fedr eich goleuo. Do, clywais am yr Economic Reserve. SELOG.—Gofynwch a oes ryw sail tros feddwl yr ymuna y Wesleaid ag Eglwys Loegr ynghynt nag un o'r eglwysi Ym- neilltuol? Nag oes yn un man ond yn mhen y Parch John Owen, M.A.. Cric- cieth. Mae coleddu y fath feddwl yn datguddio cryn lawer o rywbeth.
INODIADAU WYTHNOSOL.I
I NODIADAU WYTHNOSOL. I A ganlyn ydyw y I Effeithiolrwydd sylw a wna y y Pulpud. Goleuad o ys- grif arweiniol "J. K. ar Fychanu Crist Bychanu Crist" ydyw penawd ysgrif faith a phwysig o eiddo J.K."—dwy lythyren sydd yn cynrychioli gweinidog adnabyddus gyda'r Wesleald, a gy- hoeddwyd yn y Gwyliedyd Newydd am yr wythnos ddiweddaf. Achlysurwyd hi gan yr anesmwythder sydd yn bod ynghylch safle bresenol pulpud Cymru. Dyma hefyd arweiniodd i'r cynhadledd- au ar bregethu sydd wedi eu cynal yn ddiweddar. Dywed Mr Kelly fod sefyll- fa pethau yn galw am yspryd pwyJl a gweddi, fel ag i allu barnu pethau yn deg. Wrth geisio dyfalu yr achos o aneffeithiolrwydd y pulpud, gofyna pa mor beH y mae syniadau diweddar wedi dylanwadu ar effeithiolrwydd y wein- klogaeth, ac yn arbenig y syniadau di- weddar am Grist? A dyma gnewyllyn yr ysgrif,—A ydyw priodoli anwybod- aeth i Grist yn anghyson a'r syniadau uwchaf a dwyfolaf am dano. Rhaid i ni aadef fod cysylltu y golygiadau duwin- yddol hyn ag effeithiolrwydd y weinid- ogaeth yn rhywbeth newydd a dleithr i ni. Dichon fod profiad gweinidog gyda'r Wesleaid yn wahanol, ond ein prohad ni yw mai y prif achos o aneffeithiolrwydd y weinidogaeth yw diffyg darllen a meddwl yn y gynulleidfa ac nid anhaws- derau yn codi o astudie pynciau mawr- ion ein crefydd. Nid diffyg yn y weini- dogaeth yn gymaint a diffyg yn y gyn- ulleidfa *Rhaid i bf egethwr y dyfodol fagu a meithrin ei gynulleidfa, drwy ei bugeilio a'i haddysgu, a bydd ei waith yn llawn cymaint o'r tuallau ag o'r tu mewn i'r pulpud." a <i
[No title]
Yn y "Tyst" yr wyth- Y Wesleaid nos o'r blaen y mae a'r Eglwys. un "J. J." yn ysgrif- ennu ar bwnc undeb yr enwadau Cymreig, a dywed air fel hyn am y Wesleaid :—" Y mae golwg y ddau arweinydd doeth a diogel hyn ar yr enwadau Anghyd- ffurhol Cymreig ereill, a dymuniad eu calon am gael yr oil i fewn i gorlan yr un undeb-, Ond o'r braidd yr anturiant ddisgwyl y gellir effeithio hyn yn bresenol. Ofnant nad yw y Bedyddwý r hyd eto yn barod i soddi eu gwahaniaethau yn llifeiriant y mudiad. O'r braidd y cydolygwn y gwnai y Wesleaid Cymreig, o leiaf, ddewis ymuno a'r Eglwys Wladol yn hytrach nag a'u brodyr Ymneilltuedig, er i Dr Rigg a'r Parch Hugh Price Hughes wneud ymgais i'w tywys i'r ffordd honno, mewn ffurf-wasanaeth, beth bynnag." Felly,ii wir Hugh Price Hughes, un o'r Ymneilltuwyr cryfaf a fu erioed, nid yn unig ymlith y Wes- leaidj ond ymhlith Anghydffurfwyr Prydain, yn ceisio arwain ei enwad i'r Eglwys Wladol. Mor fawr ydyw anwybodaeth J. J. Os oes llawer o anwybodaeth* tebyg i hyn ym. meddyliau Anghydffurfiaeth Gymreig, y mae yr undeb y carem ei weled yn mhellach o lawer nag y tybiasom ei bod. Son a wna J. J. am ffllrf wasanaeth." A glywodd I efe son am ffurf-wasanaeth yn un o I gapelau y Wesleaid Cymreig? Son am undeb yn Nghymru yr ydym onide? Aed J. J. i Loegr, ca yno nurf-wasanaeth yn ddigon myn- ych yng nghapelau ei enwad ei hun! Ond beth sydd a fynno ff urf wasana eth "a'r pynciau mawr sydd ysgar cydrhwng Sac- ramentaeth a Chrefydd Efengyl- aidd, cydrhwng Eglwys Rydd ac Eglwys Gaeth ? Gall Eglwys, os myn, arfer ffurf-wasanaeth (diau mai golucheg a feddyliai J. J.) heb i hynny anafu dim ar ei hanghyd- ffurfiaeth na'i chredo efengylaidd mewn un modd. Gall J. J. fod yn dawel ,ei feddwl nad oes fwy o berthynas cydrhwng Wesleaeth ac Eglwys Sacramentaidd nag sydd rhwng Annibyniaeth Gymreig a hi. Mae siarad yn amheus am hyn yn sawru yn drwm o anwybodaeth neu o ragfarn, ac y mae y naill beth a'r Hall ymhlith y rhwystrau penaf i undeb.
[No title]
Dydd Llun, Mawrth 9fed, gos- Ulster. ododd Mr Asquith, y Pti-i Weinidog, gerbron y Ty aw- grymiadau y WeiDyddiaeth i gwrdd a dymuniad Talaeth Ulster. Cynwysa yr awgrymiadau yr adranau canlynol Caniatad i Etholwyr Siroedd Ulster, a'r ddwy ddinas Belfast a Londonderry i bleidleisio trwy y tugel o blaid neu yn erbyn eu gosodiad o dan Ynareolaeth. Eu dewisiad, os yn erbyn, i aros mewn grym am chwe' mlynedd, ar ddiwedd y cyfnod hwnw Eiiolwyr y Dcyrnas Gyfunol, wedi gweled llwyddiant neu aflwyddiant Ymreolaeth i roddi eu barn ar barhad gwahaniad Siroedd Ulster neu eu cynwysiad yn Ymreolaeth. Mr Bonar Law (arweinydd yr Wrth- blaid), a feirniadai y cynnygion, gan ddweyd os byddai i'r Llywodraeth lynu wrth y chwe' blynedd nas gallai ef wel- ed sut y gellid dfirbyn y cynllun. Os nad oedd yn iawn gofyn i Ulster ddyfod i mewn heddyw, nis gallai weled sut y byddai yn iawn yn mhen chwe' blynedd eto. Syr Edward Carson a ddywedai, os cymerent y 'time-limit' i ffwrdd, y byddai iddo ei theimlo yn ddyledswydd arno fyned i Ulster, a galw cynnadledd. Cydnabyddai eu bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn y Ty y noson honno trwy yr egwyddor o adael allan o blegid gallai y many lion gael eu gweithio allan trwy drafodaethau. Yr oedd gan Ulster eisieu setlo ycwest. iwn hwn yn awr ac am byth. Nid oedd ganddynt eisieu dedfryd o farwolaetb, a'r gohiriad o honno am bum' mlynedd. Gwyddai. y. Llywodraeth o'r goreu mai unwaith y caent basio y mesur hwn, nis gallent gael etholwyr y wlad i roddi eu sylw yn ol eto i'r cwestiwn yma, a ifug oedd y cyfan ynghylch ymyriad senedd- ol. Mr John Redmond (arweinydd y Cen- edlaetholwyr),a ddywedai os derbynid y cynnygion hyn o eiddo y Llywodraeth gan yr Wrthblaid y byddai i'r Cenedl- aetholwyr, hefyd, eu derbyn, a byddai iddo ef a'i gyd-aelodau arfer eu dylan- wad gyda'u pobl er eu perswadio i weithio danynt yn deyrngarol. Os byddai i'r Wrthblyid eu gwrtnod, gofyn- ent am i'r mesur gael ei basio fel y saif. Dyledswydd y mwyafrif yny Ty fyddai ei osod ar ddeddf-lyfrau y wlad, gan wynebu gyda'r holl alluoedd wrth eu cefnau unrhyw symudiad allai godi i oruwchreoli y senedd, neu ddarostwng y ddeddf trwy arfer arfau. » *>
[No title]
Cafodd Mr Lloyd Canghellydd y George gyfle rhagor Trysorlys ar ol i amddiff yn ei ei Uchelfanau. hun yn Nhy y Cyff- redin, ac i droi'r byrddau yn llwyr ar ei ymosodwyr. Trwy gydol y misoedd y mae aelod'au'r Wrthblaid, ac yn enwedig eu cefnogwyr yn y wlad, yn myned o gwmpas. ac yn haeru fod areithiau Canghellydd y Trysorlys yn llawn o gain gy meriacl aii, yn anghywir, ac yn gamarweiniol. Mae r siyniad hwn wedi 'gafael mor dyn ynddynt fol y ceir h wynt, nid yn unig yn siarad enllib, ond yn troi i erlid. Daeth cyfie iddynt i wneud y goreu o'u chwedlau. Cafodd Syr John Randies gyfleusdra, fel y digwyddai, i alw sylw y Ty at yr hyp a alwai ef yn gamgymeriadau Mr Lloyd George, gan feddwl, wrth hynny, y ffeithiau a'r rhai yr oedd ef yn anghytuno. Aeth ef a'r aelod dros St. Pancras, eilydd ei gynyg- iad, dros bob hen stori sydd wedi gwneud gwasanaeth yn erbyn y Canghellydd drwy'r tymor, ond ychydig iawn oedd yr argraph a wnaethant ar y Ty Yr hyn a wnaethont ydoedd, rhoddi agoriad i'r gwr a erlidiant i wneud ei farn a'i fater yn dda ger bron ei gydaelodau. Dang- hosodd fod yr hyn a ddywedodd am y duciaid a'r pendefigion tirfeddfannol, j nid yn unig yn wir, ond yn fwy gwir nag y daliai ef ei fod hynny yw, fod y rbesymau drosto yn gryfach o'u hesbon- io yn E) holl fanylion. Traddododd araeth ay^derchog yn nghanol brv'dfryd- edd digyffelyb, a rhoddwyd derbyniad hynod o gynnes iddo pan y gwrthodwyd cynnygiad ei wrthwynebwyr gyda mwyafrif anrhydeddus. — 1> «
[No title]
Y mae Ymreolaeth Mesur i Gymru erbyn hyn Ymreolaeth yn rhywbeth mwy i Gymru. na chyswynair, o blegid fe'i ceir wedi ei gorphori mewn mesur. Dydd Mer- cher dygwyd y mesur ger bron Ty y Cyffredin gan ei awdwr, Mr Edward T. John, cynrychiolydd Gorllewinbarth sir Ddinbych. Cefnogwyd ef gan yr aelod au canlynol (y rhal; sydd a'u henwau I gefn y Bill), sef, y Gwir Anrhydeddus Syr D. Brynmor Jones, cadeirydd y blaid Gymreig Syr Ifor Herbert, Syr Alfred Mond, Mr W. Brace, Mr John Hinds, Mr Thomas Richards, Mr Cowan, a Mr Watt. Hwyrach y chwanegir enwau eraill atynt cyn yr argrephir y mesur. Mae i'r Bill 38 o adranau. Yn unol a'r polisi fabwysiad- wyd yn Mesur Ymreolaeth i'r Iwerddon, golyga sefydlu yn Nghymru (a Mynwy), senedd (un Ty), i gytiawni busnes car trefol. Gwneir y senedd i fyny o 90 o aelodau, i gael eu dychwelyd gan y cyn- rychiolaethau presennol, gydag ych- ydig o wahaniaeth, a'u hethol gan yr etholwyr presennol, gyda'r chwanegiad o ferched ac arglwyddi, yn ol trefn cyn rychioliad cyfartaliadol. Gostyngir rhif y cynrycbiolwyr Cymreig yn Nhy y Cyffredin o 34 i 27. Rhoddir cyffelyb allucedd i'r senedd Gymreig ag i'r sen- edd Wyddelig, gyda'r gwahaniaethau angenrheidiol. Cafodd y mesur dder- byniad ffafriol iawn gan y Ty.
ITAMEIDIAU GWLEIDYDDOL.
TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL. Cynddaredd Fawr. I Olygfa geir ar y gwprsyll Toriaidd yn un o'r rhai mwyaf awgrymiadol. Llen- wir yr awyr a phob math o sibrydion a bygythion i geisio dychrynu'r wlad, a pbob ystryw i geisio hyrddio'r Llywod- raeth dros y dibyn a'i gorfodi i apelio at yr etholaethau. Adgofir am frwydrau 1909 ar y Gyllideb ac ar awdurdod Ty'r Arglwyddi. Nid rhyfedcf ychwaith, oblegid parhad o frwydr Deddf y Sen- edd ydyw y frwydr bresenol. Dangos odd y wlad yn 1910 mai trech gwlad nag arglwydd, daeth dymuniad y wlad yn ddeddf y wlad..Ond yn awr y mae peinanwaith y ddeddf yn myn'd i roFr tro cyflawn cyntaf ac yn myn'd i droi allan fendithion i'r Werddon a Chymru. Ceisio atal yr olwyn, a tbroi r peiriant yw nod yr Arglwyddi a'r Toriaid, ac y maent wedi ymdynghedu y mynant wneyd hyny ar draul synwyr, urddas, teyrngarwcb, a pbob rhinwedd. Ni phetrusant yn awr ymladd fel hwligan iaid. Ofer yw ei gwaith. Cyfiawnder a orfydd eto. Mae cadw yr uniawn ar lawr am byth yn Gorfodaeth FHwroi. I Bu dirprwyaeth oddiwrth Gynghrair y National Service League" yn ddi weddar yn gosod eu golygiadau ger bron Mr Asquith, y Prif Weinidog, ac yn apelio at y Llywodraeth am sefydlu cyfundrefn o Wasanaeth Milwrol Gor fodpl. Mae y Gynghrair hwn yn credu nad yw Byddin Prydain Fawr yn bres- enol yn ddigon cref i wrthsefyll ymos odiad pe buasai rhyw Allu Tramor yn ceisio goresgyn ein gwlad. Hefyd credant nad yw y Llynges ynddi ei hunain yn ddigon cref i'n diogelu. Caf- odd y ddirpwyaeth -dderbyniad sercbog gan Mr Asquith, ae mewn araeth gref o'i eiddo gwrthbrofodd eu holl osodiad- au, a dangosodd nad oedd unrhyw sail i'w hofnau. Profodd fod y Llynges, prif amddiffyniaa ein gwlad, yn gryfach nag y bu erioed, ac yn ddigon effeitbiol i wrthsefyll unrhyw allu gelynoL Hefyd deil Mr Asquith nas gallai byddin pa mor gref bvnag y byddai hi gadw ein gwlad os gorchfygir ein Llynges gan' mai ar y Lynges y dibyna ein gwlad < fwyaf am ei diogelwch, nid oedd yn gweled angen am Filwriaeth Orfodol. Dirprwyaeth yr Eglwys. Fel y canlyn y cana Prydydd y Waun yn v Goleuact ["Are You one of the deputation, Bishop ?" —Mr. Asquith, in his private room at the Jrlouse of Commons, on Wednesday, March 4th, to the Bishop of St. Asaph]. Aeth Ymneilltuwyr Dyffryn Clwyd Pwy ddydd, i weled Asquith, A'u traed yn rhwym o fewn y rhwyd- Gan ddisgwyl cael y fendith Hullo ebr Asquith, what is this ? It needs some explanation Why, Bishop dear Are You among This solemn deputation ? V Cydgan Mae'i byd yn gwella-pivy a wâd? O'r diwedd daeth y fraint: Bydd gorfoleddu drwy'r holl wlad-- Mae'r Esgob gyda'r saint! Cymanfa Fawr !—cvhoeddir hi,— Yn ymyl Plasyr Esgob Daw'r miloedd yno'n siwr i chwi 0 bob rhyw wlad yn Ewrob Am ddeg, St. Asaph fydd mewn hwyJ Yn dechreu'r cwrdd "heb fethu • A chyfyd tywysog mawr yr Wyl— Brynsiencyn i bregethu. Cydgan :—Mae'r byd yn gwella, &c.. Am ddau, bydd Esgob Bangor Fawr Yn dweyd ei stori'n Saesneg; Ac ar ei ol--Cymraeg am awr Gan Tecwyn Evans fwyndeg, A m bump (sef oedfa extra 'r Wyl)v Bydd Stanley Jones, a Dirri,- Ac udid fawr na cheffir hwyl Ar hon—a mynd" nodedig. Cydgan: Mae'r byd yn gwella, &c.. Am saith, yr Archddiacon Lloyd Fydd ar y maes yn dechreu Ac E. T. Jones—y ffresa' 'rioed- Bregetha ar ei oreu Ac ar ei ol, fe ddeffry dawn Shcn Gorfj" yn John Tyddewi,— A miloedd ar v maes yn llawn O hwyliau can ddidewi! Cydgan: Mae'r byd yn gwella—pwy a wâd? O'r di wedd daeth y fraint: Bydd gorfoleddu drwy'r holl wlad- Mae'r Esgob gyda'r sspnt. Etholiad ar Un Dydd. Mae Mesur y One Day Elections. wedi pasio ei Ail Ddarlleniad yn y Ty Cyffredin- Aixcan y" Mesur hwn ydyw sicrhau fod y pleidleisio yn mhob ethol- aeth yn cymeryd Ue ar yr un diwrnod, sef ar ddydd Sadwrn, adeg yr Etholiad Cvffredinol. Dyledwyr ydym in gilydd. Dy wedai esgob Llanelwy, yn ei araeth wrth-ddadwaddolol yn Mangor, fod, yr Eglwys yn ddyledus i Yrnneillduaeth yn ogystal ag Ymneillduaeth yn ddyled- us i'r Eglwys. Pan oedd yr Eglwys yn wan, marw, ac esgeulus, yr oedd cydym- geisiaeth iacbus Ymneillduaeth wedi ei deffro i wneyd ei dyledswydd yn well. Dylent gydnabod y ddyled o bob tu" drwy gymeryd a rhoi yn hytrach na cheisio gwanychu y naill a'r llall. Dyna eiriau gwir deilwng o ystyr- iaeth, a da fuasai gallu tystio fod yr oil o arawd yr esgob yn yr un cywair hapus. Ond, y mae y petbau da ddy- wedwyd am Ymneillduaeth wedi eu llefaru braidd yn ddiweddar ar y dydd.
[No title]
Yr Expert yn marw. Bu farw y gwyddonwy Dr. Frederick Fox, Awstralia, yn ddiweddar vn Cal cutta, India. Yr oedd Dr. Fox wedi dyfeisio inoddion .i wella pigiad gan nadrodd, a daeth i Calcutta i.roddi prawf ar ei fedclyginiaeth. Bu yn hynod o iwyddianus am beth amser. Pigwyd o ar bump o fanau, meddyginiaethodd bedwar pigiad ond ni sylwodd mewn pryd ar y pumed, a bu farw mewn can—  lyniad yn mhen ychydig oriau.