Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

I 'BWRDD Y GOL. I

INODIADAU WYTHNOSOL.I

News
Cite
Share

I NODIADAU WYTHNOSOL. I A ganlyn ydyw y I Effeithiolrwydd sylw a wna y y Pulpud. Goleuad o ys- grif arweiniol "J. K. ar Fychanu Crist Bychanu Crist" ydyw penawd ysgrif faith a phwysig o eiddo J.K."—dwy lythyren sydd yn cynrychioli gweinidog adnabyddus gyda'r Wesleald, a gy- hoeddwyd yn y Gwyliedyd Newydd am yr wythnos ddiweddaf. Achlysurwyd hi gan yr anesmwythder sydd yn bod ynghylch safle bresenol pulpud Cymru. Dyma hefyd arweiniodd i'r cynhadledd- au ar bregethu sydd wedi eu cynal yn ddiweddar. Dywed Mr Kelly fod sefyll- fa pethau yn galw am yspryd pwyJl a gweddi, fel ag i allu barnu pethau yn deg. Wrth geisio dyfalu yr achos o aneffeithiolrwydd y pulpud, gofyna pa mor beH y mae syniadau diweddar wedi dylanwadu ar effeithiolrwydd y wein- klogaeth, ac yn arbenig y syniadau di- weddar am Grist? A dyma gnewyllyn yr ysgrif,—A ydyw priodoli anwybod- aeth i Grist yn anghyson a'r syniadau uwchaf a dwyfolaf am dano. Rhaid i ni aadef fod cysylltu y golygiadau duwin- yddol hyn ag effeithiolrwydd y weinid- ogaeth yn rhywbeth newydd a dleithr i ni. Dichon fod profiad gweinidog gyda'r Wesleaid yn wahanol, ond ein prohad ni yw mai y prif achos o aneffeithiolrwydd y weinidogaeth yw diffyg darllen a meddwl yn y gynulleidfa ac nid anhaws- derau yn codi o astudie pynciau mawr- ion ein crefydd. Nid diffyg yn y weini- dogaeth yn gymaint a diffyg yn y gyn- ulleidfa *Rhaid i bf egethwr y dyfodol fagu a meithrin ei gynulleidfa, drwy ei bugeilio a'i haddysgu, a bydd ei waith yn llawn cymaint o'r tuallau ag o'r tu mewn i'r pulpud." a <i

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

ITAMEIDIAU GWLEIDYDDOL.

[No title]