Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

UNDEB CERDDOROL Y DE.

MANCHESTER. I

I--COEDLLAI.I

NODION O TRINITY ROAD, BOOTLE.

YMWELIAD Y PARCH JOHN PUGHI…

LEIGH. I

EGLWYSBACH. I

PONTRHYDYGROES.

LEEDS. I

.OAKFIELD, LIVERPOOL.I

News
Cite
Share

OAKFIELD, LIVERPOOL. I Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.—Parhau mewn dyddordeb mae'r cyfarfodydd yn nglyn a'r Gymdeithas. Er pan anfonwyd gair o'r blaen cawsom amryw o bapurau hynod o gynwysfawr, megis "Twm o'r Nant" gan Mr Owen Jones (Mynytho); Morgan Llwyd o Wynedd gan Mr Thos. Roberts (Gwetnymynydd), Is-lywydd y Gymdeithas; Mynachiaeth gan Mr Arthur Price; "Angyles y Carchardai" gan Mips Eilonwy Simon; a Frances Millard gan Miss Gwen Fraser. Yr oedd ol llafur i'w ganfod yn anilwg ar y papur- au, a chredwn y bydd yr aelodau ar eu mantais ar ol eu clywed. Y GENHADAETH DRAMOR.-Nos Sul, 25ain o Chwefror, cymerodd digwyddiad hynod o ddiddorol ac eithriadol le yng Nghapel Oakfield. Ymddengys fod un o blant ffyddlonaf yr Ysgol Sul, sef Master Johnny Edwards, Faraday Street, wedi casglu y swm anrhydedcUis o tv at y Genhadaeth Dramor yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, ac fe welodd awdurdodau y Ty Cenhadol yn Llundain fod y fath weithred eithriadol gan fachgen mor ieuanc yn dellwng o sylw arbennig, ac telly anfonwyd bathodyn (Medal) gydag arysgrifen i'r brawd diwyjt yma. Ar derfyn y gwasanaeth galwyd sylw y gynulleidfa at y digwyddiad yn hynod bwrpasol gan y Parch F. E. Jones, ac fe biniwjrd y bathodyn ar ei wisg gan Mr E. T. Jones, Hornsey Road, Ysgrifenydd Lleol y Genhadaeth Dramor. Tra yn sylwi ar yr hyn oedd yn myned ymlaen cododd dau gwestiwn yn fy meddwl, sef: Beth ddaw o'r bachgen hwn ? Beth fuasai ei anwyl dad yn feddwl am y peth pc byddai yn fyw. GWYL DEWI SANT.—Nos Lun, Mawrtii' 2il, cynhaliwyd cyfarfod hynod o Iwydd- ianus i ddathlu Gwyl Dewi, dan arweiniad ein parchus weinidog, y Parch F. E. Jones. Yr oedd ein ysgoldy eang yn llawn, ac amryw yn falch o gael lie i sefyll. Yr oedd yno raglen uwchraddol wedi ei barotoi, ac i fod yn gyson a'r achlysur yr oedd yr Ysgrifenydd wedi gofalu fod pob item ar y rhaglen o'r dechreu i'r diwedd yn Gymraeg. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y rhai canlynolDeuawd ar y ber- doneg gan Misses M. J. Roberts a Gwen Fraser. Canwyd yn hynod o swynol gan Miss Maggie Morton (Carnarvon), Mr John James (Tenor), Mr Humphrey Jones (Bari- tone), a chanu peniilion gan Miss Jennie Williams. Adroddwyd gan Mr E. O. Mos- tyn. Cyfeiliwyd gan Vliss M. J. Roberts. Yr oedd rhai o'r cantoresau wedi eti harwisgo yn yr hen ddull Cymreig. Wrth weled a chlywed mor wresog yr oedd y caneuon Cymraeg yn cael eu derbyn yn y cyfarfod, yr ydym yh methu yn lan a dirnad paham rhaid cael cymaint o ganeuon Seisnig yn ein cyngherddau. Ar derfyn y cyngherdd, ac wedi cael lluniaeth blasus i'r corph perfformiwyd Drama Gym- reig Dewis Aelod Seneddol gan Gwmni Maesdderwen. Cymerir gormod o le i enwi bob un gymerodd ran yn y ddrama, ond barn y dyrfa oedd fod pob un ohonynt wedi gwneud ei ran yn dra rhagorol. Clywsom ar awdurdod uchel fod y cwmni yma wedi cael ei ofyn yn barod i ail-ber- fformio y dernyn yma yn y Nodachfa fawreddog fwriedir ei gynal y mis nesaf tuagat Gapel Spellow Lane. ■, Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wlad .fy Nhadau," a hynny gyda hwyl anarferol. GOIl SOCIAL—Mae'n debyg nad oedd Yr Hen Esgob ddirn yn y Social a gynhaliwyd yn Ysgoldy y capel uchod ar Chwefror IBfed, neu buasai gair wedi ymddangos am dano. Rhoddwyd y danteithion, etc., yn garedig gan Mr A R Price, trysorydd, a E D Williams, ysgrifenydd y Trust," a sicrhawyd elw i drysorfa yr Ymddiriedol- wyr o yn agos i £11. Cafwyd gwasanaeth yr Avenue Male Voice Choir, sef Cor Meib- ion Mynydd Seion, dan arweiniad Mr Fred Roden, a chanasant yn rhagorol. Caed caneuon hefyd gan Miss Annie Hughes, Mri Thornton a Tom Davies, ac adrodd- iadau gan Miss Nell Williams, a gwnaeth yr oil eu rhan yn gampus. Rhoddwyd difyrwch nid bychan gan y pedwarawdau a'r Musical Sketch," yr oil o'r rhai hyn gan aelodau o'r Cor Meibion. Y cadeirydd oedd Mr Bell, Wavertree, yr hwn a lan- wodd y safle yn ddeheuig, ac a gyfranodd yr hael i'r drysorfa. Diolchwyd yn wresog i gyfeillicn Mynydd Seion am eu gwasan- aeth caredig ac effeithiol, ac i'r chwiorydd hynaws am barotoi y danteithion, gan Mri A R Price ac E D Williams. Cafwyd ychydig eiriau .hefyd gan y Parch F E Jones. X.Y.Z.

SHILOH, TREGARTH.

iCERRIGYDRUIDION.