Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

UNDEB CERDDOROL Y DE.

MANCHESTER. I

I--COEDLLAI.I

NODION O TRINITY ROAD, BOOTLE.

YMWELIAD Y PARCH JOHN PUGHI…

LEIGH. I

EGLWYSBACH. I

PONTRHYDYGROES.

LEEDS. I

News
Cite
Share

LEEDS. I GWYL DEWI.-Nos Sadwrn diweddaf daeth llu o Gymry Leeds a'r cylch ynghyd i'r Noddfa, Camp Road, i ddathlu Gwyl Dewi. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr W, H. Barrow Williams. Yr oedd anerch- iad y gadair yn torri tir newydd ar ffurf o daflu cwestiynau i'r gynulleidfa. Yr ergyd gyntaf ydoedd gofyn i'r dorf pa le y ganwyd yr Esgob Morgan, a phwysleisiodd ,ar i ieuenctid Cymru ymgydnabyddu a chymwynaswyr eu gwlad. Cafwyd an erchiadau penigamp gan y Parchn Ellis Williams ar "Dewi Sant Ein Cenedl," J. Price Ein hiaith," T. Morris, a chariodd James Lewis y cyfarfod wrth loffa ym maes pawb a phobpeth. Yn y ddinas hon wae'r Gwyl goffa'r hen Sant wedi bod yn crwydro mal yr arch gynt. a phriodol y dywedai'r siaradwr cyntaf fod ein harwr adref yn yr eglwys ac mai nid priodol rhoddi llwnc destyn iddo a gwir- odydd. Cydwybod grefyddol Cymru, meddai, sydd wedi cadw ei goffadwriaeth yn fyw, ac mewn cysylltiadau crefyddol y dylai gael ei lochesu a'i roddi. Cydnab- yddai'r ail siaradwr fod ein gwlad wedi ei gwasgu gan y moroedd cylchynol a'r gwledydd cwmpasol, ond ymhyfrydai fod eu delfrydau fel eu mynyddau yn ym- ddyrchafu tua'r nef. Wedi canmol iaith Gwalia, iaith cewri'r pwlpud, iaith yr englyn, gwasgai'r trydydd siaradwr ar gadw'r Gymraeg yn fyw ac yn loew yn mhlith yr estroniaid, ac er fod Mr Lewis yn gweinidogaethu gyda'r Bedyddwyr Seisnig adroddodd ddarnau barddonol yr hen iaith nes llosgi i enaid y dorf. Am yr hyn draethwyd dywedodd yr holl bobl- oedd Amen." O'r cyfarfod hwn hyderir sefydlu Cymdeithas Cymry Fydd i addysgu ein hieuenctyd yn llwybrau'r beirdd, llenorion a'r cerddorion, a chaiff Dewi anwyl ei noddi a'i gysgodi dan ei aden ydd. Trefnwyd yr holl weithrediadau gan yr ysgrifenydd gweithgar, O. G. Wil- liams, Ffestinog. Darllenwyd telegrams" oddiwrth y Parchn. W. Langford Brooks, Harlech, ac R. Idwal Hopwood, Harrogate, yn dymuno'n dda i'r wyl. Diangenrhaid dweyd fod y canu a'r bwyta ar ei oreu. MEDO. I

.OAKFIELD, LIVERPOOL.I

SHILOH, TREGARTH.

iCERRIGYDRUIDION.