Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

UNDEB CERDDOROL Y DE.

MANCHESTER. I

I--COEDLLAI.I

NODION O TRINITY ROAD, BOOTLE.

News
Cite
Share

NODION O TRINITY ROAD, BOOTLE. Y Sabboth, Chwefror 22ain, cynhaliwyd ein Cyfarfod Ysgol blynyddol. Llywydd cyfarfod y boreu oedd y Parch F. E. Jones. Adroddwyd emyn, Hyfrydwch y Sab- both," gan Miss Olwen Williams. Offrym- wyd gweddi gan y Llywydd, a'n harwein- iodd i ddisgwyl cyfarfodydd bendithiol. Adrodd emyn, Chwiliwch yr Ysgrythyr," gan Miss Gwladys Jones. Adroddwyd Salm 34 gan Miss Prudence Jones. Adrodd emyn, Moli yn y Ty," gan Master Nevicle Williams. Arholi rhestrau Mri Job Jones a G. O. Jones, "Am Fedydd," o'r Holwydd- orydd Diwinyddol Parch R. Pritchard. Adrodd emyn, "Yr Ysgol Sul," gan Miss Doris Williams Arholi rhestrau Mr Hugh Parry a Mis Thomas Roberts, ar Hanes Iesu Grist" (Mae Llafur Dos. II.). Adrodd emyn, Diolch iddo," gan Master J. Emlyn Williams. Wedi arholi yn ddoeth ac i'r pwrpas, terfynwyd trwy weddi gan y Lly- wydd. Cyfarfod y prydnawn. — Llywyddwyd gan y Parch John Felix. Adrodd emyn, Cyngor i Ieuenctyd," gan Miss May Evans. Offrymwyd gweddi gan y Lly- wydd. Adrodd emyn, ''Galwad yr Ieu- enctyd," gan Master Gwynfryn Owen. Adroddwyd pennod xii. o Lyfr- y Pregeth- wr gan Miss Gwyneth Roberts yn rhagorol iawn. Adrodd emyn Duwioldeb boreu- ol," gan Master Teddie Mills. Arholi ¡ rhestrau Miss Kitty Jones a Mr R. Lloyd Jones o'r Hyfforddydd (pen. i. iii). Caf: wyd datganiad prydferth gan y plant dan ofal Miss Jennie Jones a Miss Kitty Jones. Cafwyd anerchiad i'r plant gan y Parch John Felix. Dangosedd bod peth rhag- orach na chyfoeth a gwybodaetli e, r eu holl fanteision. Mate meddu cymeriad yn bwysicach-dweyd Y gwir, gochel anwir- edd, gonestrwydd, bod yn wasanaethgar, meithrin annibyniaeth, yn benaf cariad, a chariad at lesu Grist. Diweddwyd trwy weddi gan y Parch John Felix. Cyfarfod yr hwyr.—Llywydd y Parch Thomas Owen Jones (Tiyfan). Adrodd Emyn Gwybod yr Ysgrythur lan," gan Miss Jennie Jones. Arweiniwyd ni mewn gweddi gan y Llywydd. Adrodd ErnynaLf; "Taith y Pererin" a Pererindod y Cristion" gan Mrs Hughes, Waterloo. Adrodd loan xvi. gan swyddogion, athraw- esau, ac athrawon yr Ysgol. Cydgan, Seren Fechan gan barti o restr Mr Job Jones Misses May Davies, Sydney Road May Jones, Cromwell House May Jones, Wadham Road, a Edith Davies, Sydney Road. Arholi oddiar loan xvi. Cafwyd atebion ar y cyfan weddol dda, dan ar- weiniad ein parchus weinidog, Tryfan Jones, a therfynwyd trwy weddi. Nos Lun dilynol, 23ain, cynhaliwyd cyfarfod cvmdeithasgar (Social) cyffredinol gan y pedwar gradd, brodyr a'r chwiorydd priod a'r brodyr a'r chwiorycld ieuainc yn cymeryd eu rhan. Wedi i'r ,Parch Tryfan Jones wahodd y Llywydd, Mr W. Williams, swyddog cyfarfod yr eglwys, Egremont, Cylchdaith Mynydd Seion, agorwyd y cyfarfod ag anerchiad byr gan y Llywydd. Wedi hynny adroddiad gan Mrs Edwin Ellis, Molawd Cyrnru." Cafwyd cydgan gan Gor y Merched Priod. Deuawd, Mr G. 0. Jones a Miss Edith Jones. Cydgan gan y brodyr ieuainc (Laughing Song). Ad roddiad, Miss Bella Williams. Marsh Lane. Datganiad, Mr J. Bagshaw. Cystadleuaeth darn heb atalnodau, gwobrwywyd Miss M. J. Williams yn oreu o'r nifer. Cydgan gan y chwiorydd priod. Anerchiad gan y Llywydd. Datganiad chwareus gan Mr Tom Jones. Deuawd, Misses Edith a Maud Davies. Cydgan gan y chwiorydd ieuainc. Datganiad gan Mrs Robert Williams. Sunbeam." Cynygiwyd pleid- lais o ddiolchgarwch gan y Parch Tryfan Jones sydd bob amser yn arolygu pob symudiad. Cefnogwyd y diolchiadau gan Mr Thomas Gittins, yntau yn fyw i bob symudiad. vVedi'r cyngerdd, mwynhawyd darpariaeth helaeth o fwydyddoedd, wedi eu paratoi. E. E. I

YMWELIAD Y PARCH JOHN PUGHI…

LEIGH. I

EGLWYSBACH. I

PONTRHYDYGROES.

LEEDS. I

.OAKFIELD, LIVERPOOL.I

SHILOH, TREGARTH.

iCERRIGYDRUIDION.