Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

UNDEB CERDDOROL Y DE.

MANCHESTER. I

I--COEDLLAI.I

News
Cite
Share

COEDLLAI. I Y GYMDEITHAS. Dechreu'r achos yn CoedllaiNos Lun, 16eg, cynhaliwyd Cymdeithas y Bobl leuainc yn y lie uchod pryd y darllenwyd y papur canlynol gan Mr William Roberts, Bryn Estyn, o her- wydd absenoldeb y brawd David Hughes, Cae Gwiel, yr hwn ysgrifenodd y papur. Darllenwyd y papur fel hyn, Hanes cych- wyniad Wesleaid yn Coedllal." Dechreu- odd y Wesleaid yn Coedllai yn y flwyddyn 1818, yn nhy un o'r enw Thomas Ellis. Yr oedd yn byw yn Stryt Car-rhedyn, ac yn arfergwrandaw yr efengyl yn Treuddyn. Barn y,Parch Lot Hughes, fel ag y clywais gan eraill ydyw mae y Parch Edward Pritchard, Llanferes, a bregethodd yma gyntaf. Yn mhen ychydig amser defchreu odd gadw Ysgol a phregethu yn lied gyson yn y Ty Mawr ar ganol y Rhes Groes, ac yn yr adeg yma y cawn fod gwr ieuanc o'r enw George Venables, wedi ymuno a'r ychydig gyfeillion oedd yno. Gwedi hyn daeth un arall o'r enw Ebenezer Davies, a bu yn gynorthwy mawr gyda'r canu. Dechreuodd George Venables bregethu pan yn lied ieuanc, ac yr oedd yn bregeth- wr naturiol iawn, a dechreuodd Mr Davies rfayw flwyddyn neu ddwy ar ei ol. Dyma y ddau gyntaf a gododd yn Nghoedllai. Un Sabboth pan oedd Venables yn pre- gethu, fe welodd rhai o'r dynion yn codi pytatws a'r merched yn dilyn eu galwed- igaeth gyffredinol, fe benderfynodd fyned attynt. Gwedi iddo eu cyrhaedd, cy- hoeddodd uwch ben halogwyr y Sabboth rhai o fygythioa Gair Duw. Clywais ei fod wedi dyweyu hanes Gwraig Lot wrth- ynt yn y modii dychrynllyd, ac er fod rhai o honynt wedi digio ar y pryd, rhodd- odd hynnv ofn mawr ynddynt. Y rhai oedd yn blaenori yn y Ty a nodwyd oedd- ynt Joseph Plouret, John Davies, Pont-y fcodkyn a John Hughes, ac yn y flwydd- yn 1829 bu v!r Oakiey, Meistr y Gweith- faoedd, mor garedig a rhoddi iddynt y ty helaeth sydd yn ngwaelod yr Hen Rhes, yr hon sydd yn awr yn shop yq cael ei chadw gan Mr Willliam Garston. Wedi iddynt gael pwlpud, ac ychydig o eistedd- leodd, yr oedd yr eglwys fach yn teimlo ei bod wedi cael gras newydd o'r nef. Gan fod yr eglwys mor wan ni chafwyd pregethu cyson yno am beth amser, yr oedd rhai yn meddwl y buasai cael moddion rheolaidd yn Coedllai yn drygu yr achos yn Treuddyn, ac ar ddymuniad Mr Hopkins, goruchvvyliwr y gwaith glo, fe ddaeth y Parch Lot Hughes yma ar nos Sadwrn yn nechreu y flwyddyn J 829, a phregethodd ar y tcstyn hwnnvv, A Mair a ddewisodd efe," a chyn belled ag y cly w- ais dyma y bregeth a gynhyrfodd bawb i gael Coedllai ar y plan. 0 dan weinidog aeth y Parch Morgan Griffiths dechreuodd Thomas VVoodfine a bu yn ffyddlawn iawn gyda'r ychydig gyfeillion oedd yno. Y blaenor ffyddlon-oedd yn cyd-weithio ag ef oedd John Prydderch, a barn rhai am hwn ydyw ei fod yn un o'r blaenoriaid mwyaf defnyddiol yn y wlad, yr oedd ganddo lais treiddgar a mwyn fel y delyn. Yn raddol aeth y gynulleidfa yn rhy fawr i'r ty a gorfu iddynt gael capel new- ydd. Yn y flwyddyn 1:357 y peth cyntaf a wnaed oedd Te Parti, oddiwrth yr hwn y derbyniwyd deuddeg punt o elw. Yr oedd rhai mor selog yr amser yma fel ag yr aethant i lawr at y tanddaearolion a llwyddwyd i gael cyflog diwrnod gan- ddynt at yr amcan gogoneddus hwn. prynwyd darn o dir gan Mr Ed. Hughes ac adeiladwyd capel arno, ac agorwyd y capel yn Hydref 1859, tuag adeg y di- wygiad, pryd y gwasanaethwyd gan y y Parchedigion R. Hughes, ac E. Davies. Yr oedd yn eangach a mwy cyfleus i addoli o lawer na'r capel bacrvyn ngwael- od y Rhes. Cynyddodd yr eglwys, y gyn- uileidfa a'r Ysgol Sabbothol yn gyflyrn iawn ynddo, yr oedd yr eglwys yn agos i gant, ac ar lyfr yr Ysgol dros dri chant, ac wedi clirio yn llwvr y ddyled, a'r gynulleidfa yn myned ar gynydd, yr eis- teddleoedd i gyd wedi eu cymeryd, a'r bobl yn sathru traed eu gilydd, fe benderfyn- wyd cael capel mwy, a dechreuodd pawb weithio mewn undeb cariad o'r galon i'r boced fel un gwr at gael yr adeilad a godwyd yn y flwyddyn 1873, ag sydd yn deilwng o'r cyfundeb, a dyma yr adeilad harddaf a chadarnaf yn Nghoedllai. Yn sicr mae yna ymdrech wedi bod, ac fe ddylai ninnau deimlo yn wrol i gael y fath adeilad nes peri i ni-, geisio meithrin yr un yspryd ac oedd yn feddianol gan ein Tadau. CYNGHERDD BLYNYDDOL YR EGLWYS.-Nos Fercher, Chwefror lleg. cynhaliwyd ein Concert Blynyddol yn y lie uchod o dan lywyddiaeth Percy G. Davies, Ysw., Liver pool, yr hwn aeth drwy ei waith yn dda iawn. Aed trwy y rhaglen canlynol ond oherwydd absenoldeb Miss Helen Jones, Llanarmon, Contralto, cymerwyd ei lie gan Miss Lucy James, Wrexham. Piano- forte Solo gan Miss Beatrice Roberts, Coedlai unawdau gan Mr D. R. Jones, Wrexham, a Miss Elsie Williams, Dolgell- au, Soprano. Deuawd gan Mri E. Hum- phreys, Towyn, Tenor, a D. R. Jones. Unawd gan Miss Lucy James. Adroddiad gan y Parch W. O. Luke, Llanarmon. Unawd gan Mr E. Humphreys. Deuawd gan Mr D. R. Jones, ac Elsie Williams. Unawdau gan Miss Elsie Williams, Mr D. R. Jones, Miss Lucy James, Mr E. Hum- phreys. Adroddiad gan y Parch W O. Luke. Pedwarawd gan Mri D. R. Jones, a E.Humphreys, Misses Lucy a E. Williams. Diolchwyd i'r cantorion, ac hefyd i'r Cyf- eilyddes, Mrs S. Cunnah, am ei gwaith rhagorol, ac eiliwyd gan Mr Thos. Jones, J.P. Cyn terfynu, canodd y cantorion yr Emyn adnabyddus trwy ofyniad y Cadeir- ydd, Beth sydd imi yn y byd." Terfyn- wyd y cyfarfod trwy ganu, Hen Wlad fy Miadau." Credaf mae dyma y cyfar- fod mwyaf llwyddianus sydd wedi bod yn Coedllai er's llawer o amser. CYFARFODYDD GWEDDl DA.-Cynhaliwvd cyfarfodydd gweddio neillduol o ddylan- wadol yn nghapel y Wesleaid, Coedllai, nos Lun, 23ain cynfisol, a phob nos hyd y 28ain.,Cawsom gynulleidfaoedd da iawn a blasus. Teimlodd pawb eu bod wedi cael bendith o'r newydd. Hyderwn y bydd y cyfarfodydd yma yn gwneud lies. ac i ddwyn bob un o honom yn nes at Dduw. MAIZWOLAE-F H-Drwg iawn genym gyf- nodi marwolaeth y chwaer Mrs Elizabeth Jones, Liverpool House, Pontybodkin, yr hyn gymerodd le dydd Gwener, Chwefror 27ain, yn sydyn lawn. Yn sicr y bydd y gymdogaeth yma yn teimlo y golled hon am amser maith, oblegid yr oedd y chwaer yn adnabyddus iawn. Cymerodd y gladdedigaeth le dydd Mawrth, Mawrth y 3ydd, yn mynwent Estyn. Gwasanaeth- wyd wrth y ty gan Mr David Jones a'r Parch William Smallwood, Cymmau. Estynwn ein cydymdeimlad i'r teulu yn eu profedigaeth. R.R. I

NODION O TRINITY ROAD, BOOTLE.

YMWELIAD Y PARCH JOHN PUGHI…

LEIGH. I

EGLWYSBACH. I

PONTRHYDYGROES.

LEEDS. I

.OAKFIELD, LIVERPOOL.I

SHILOH, TREGARTH.

iCERRIGYDRUIDION.