Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

[No title]

Yr Hen Gymraeg.

News
Cite
Share

Yr Hen Gymraeg. (Gan y Tramp o Llanelli). I Wrth ddarllen y G. N. am yr wythnosau diweddaf yma, bron na yrir ni i'r felan wrth feddwl fod yr hen iaith anwyl ar dynu ati ei ber- rau i farw, am nad ydyw yn werth i gael byw, ond cymered pwy bynag sy'n cael ei fiino gan yr hunlle' hon gysur, mae dyddiau gwell ymlaen, a llawenydd genyf yw dweyd fod Cynghorau Addysg Cymru yn camu yn fras a buan i roddi terfyn ar yr hen freuddwyd afiach hwn. A da yw deall ein bod am ddwyn y Gymraeg i fewn. i'r ysgolion dyddiol. Dywedir gan rai o arweinwyry genedl fod y plentyn ag sydd gan- ddo ddwy iaith gymaint a hyny yn gymhwysach ar gyfer gwaith by- wyd, na'r hwn ag sydd ganddo ond un, ac mai anaml iawn y cyfar- fyddir a dyn hyddysg yn y ddwy iaith nad yw yn cydnabod hyn. Fe ddysgir Groeg a Lladin mewn ysgolion yn Nghymru, ac yn ddiau y mae yn hyfforddiant rhagorol i'r meddwl. Gwna ef yn gryfach, ac yn gyfoethocach, ond fel rheol ni cha plant y wenn y bendithion hyn, oherwydd pan tua 14 oed gor- fodir hwy i edrych allan am fodd- ion cynhaliaeth, ond yn awr daw tro ar fyd, a chant gynefino a dwy iaith o'i mabandod, ac fel y dywed un-mae esgeuluso y fraint hon fuasai y trosedd mwyaf allasai yr oes bresenol gyflawni yn erbyn Cymru. Ein barn hefyd ydyw fod y Gym- raeg yn well cyfrw.ng gyda'r Saes- oneg i eangu ac addysgu'r meddwl na phe bai yn Lladin neu Ffran- caeg, am fod trefniant yr iaith a'r anhebygrwydd sydd cydrhyng- ddynt yn gyfryw ag sydd yn rhoddi contrast hynod o ddymunol. Felly daliwn afael yn y Gymraeg, ond hefyd ymgyrhaeddwn at y Saesneg hyd yn nod yn Nghymru, a chawn genedl wedi ei chynysgaeddu a meddyliau diwylliedig, p. chanddi gymhwysder arbenig 1 ymladd brwydrau bywyd yn ei holl ag- weddau, a chyda llaw, fe egyr hyn y drws i safleoedd cyhoeddus o bob math-Commercial a Professional. Y cwestiwn a ofynir yn ami y dyddiau hyn yw-A ydyw y Gym- raeg o ryw werth masnachol ? wel, ni welais hyn o gwbl ond gan y rhai hyny sy'n edrych yn eithafol o gul ar y pwnc. Ond ai tybed mai nid ymenydd ydyw y Com- mercial Value mwyaf heddyw, wrth ymenydd meddyliwn gywirdeb meddwl, craffder deal], a dychymyg byw, ac hefyd nad ydyw y ddwy iaith, sef y Gymraeg a'r Saesneg, a'r Saesneg a'r Gymraeg fel eu gil- ydd yn help i gynyrchu'r nod hwn. lAc os da wyf yn cofio, fe welais osodiad fel hyn, yn rhywle—" It is an action of Psychology that a bi-linguist has a great intellectual advantage over a person who only knows one language." Ac os gwir hyn y mae felly yn cyhoeddi byw\d i'r hen Gymraeg ar ei theilyngdod ei hun. Oherwydd yn Nghymru, y hi sydd a'r hawl gyntaf arnom yn naturiol, ac i'r Cymro y hi yn ddios ydyw y cyfrwng goreu iddo ef i ddangos ei genedligrwydd. Cwyn cyffredin ambell un ydyw fod eu plant yn cael eu beichio yn ddianghenraid am eu bod yn cael dysgu'r ddwy iaith, ac na fydd iddynt oherwydd hyny ragori yn un o honynt. Ond gadawer i ni weled-" The proof of the pudding is in the eating," meddai hen air, a dyrfra wnawd yn y Barry er's ych- ydig amser yn ol. Nid oedd yn y dref y pryd hwnw ond rhyw 60 y cant o blant yr ysgol yn dysgu y ddwy iaith-Cvmraeg a Saesneg, a chadwyd gwyliadwriaeth fanwl ar yr arholiadau gan ddynion cym- wys, a chafwyd na fu y ddwy iaith yn rliwystr lleiaf iddynt, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb, a dyma eiriau y dynion hyny—" Strange as it may appear, a fairly well educa- ted Welshman, despite his Welsh accent, speaks English more accu- rately and distinctly than a simi- larly educated Englishman. Wrth wneyd y sylw yna ni fynwn er dim i neb feddwl fy mod al-ll ddiystyru ein cymydogion i'r mesur lleiaf, oherwydd y mae genyf y parch dyfnaf i wir foneddwr, bydd- ed Sais neu unrhyw genedl arall. Wrth foneddwr, tybiaf ddyn sy'n abl i weled ac addef teilyngdod pa le bynag y gwel y cyfryw, ac mae'n dda genyf gael dweyd gair am fon- eddwr o'r fath yn y fan yma, bon- eddwr ag sydd yn dweyd pethau ag a ddylasai gywilyddio pob Die Shon Dafydd yn y wlad yma, a'r gwr hwnw ydyw Mr Peter Wright, Newport. Dywed ef fel hyn:- Goddefer i mi yn y lie cyntaf ddweyd mai nid Cymro ydwyf, ac fy mod wedi ymweled a phob gwladwareiddiedigyn y byd ag eithrio Norway, ac fy mod hefyd er's blynyddau bellach yn aelod o bwyllgor addysg tref Newport, a chyn hyny ar fwrdd addysg tref y Barri Nid er mwyn hunan-glod y dywedaf hyn, ond er mwyn profi mai nid o safbwynt cydymdeimlad a dim arall yr wyf yn edrych ar gwestiwn yr iaith Gymraeg Y mae hwn yn gwestiwn ymar- ferol iawn, ac fel y cyfryw y ca ystyriaeth gan drethdalwyr New- port-ac wrth gyfeirio at dreth- dalwyr," gadawer imi ddweyd mae Saeson sy'n ystyried gwerth yr iaith Gymraeg ydyw y rhan fwyaf ohonynt. Dangosai y Census diweddaf fod yn Newport rhyw 72,891 o berson- au dros dair oed a siaradai Saesneg yn unig 2,032 yn siarad Cymraeg a Saesneg a 26 yn siarad Cymraeg yn unig. Felly, fe welir ei bod o safbwynt iaith yn dref weddol Seisnigaidd; er hynny mynai y rhieni i'w plant gael eu dysgu yn y Gymraeg hefyd. Fel ym mhob tref arall, y mae yma adran sy'n gwrthwynebu y Gymraeg, a'i cri oedd "crowded curriculum, a "There is no com- mercial value in the Welsh lan- guage," ond wedi gweled canlyn- iad dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol- ion am y ddwy flynedd diweddaf, cafwyd llais y wlad drachefn ar y mater yr haf diweddaf, ac mewn 13 o ysgolion cafwyd mwyafrif mawr dros ddysgu yr hen iaith. Dywedwyd wrth eu rhieni hwy- thau nad oedd gwerth masnachol yn y Gymraeg, fel pe mae masnach ydyw Alpha ac Omega addysgiad plentyn; ond hyd yn oed o'r safbwynt hwn, y ma.e iddi werth, ac fe erys yn ffaith bwysig ym mywyd plant y werin; a cham mai hwy ydyw mwyafrif mawr pob tref, hawliant yr ystyriaeth briodol. N id oesbendefigrwydd (aristo- cracy) mewn ymenydd, h.y., y mae plant bach y Strand lawn cyn fyw- ioced eu meddyliau a'r plant a geir mewn rhannau mwy aristocrataidd o'r dref, os cant fwynhau yr un breintiau. Felly, myned gweith- wyr a'r bobl dlodion weled na chollir iddynt y fraiilt hon o ddys- gu'r Gymraeg. Yn nhref Newport yn ddiweddar fe\wn i am 27 o ddynion ddarfu gfee,l'iwsin o am leoedd, ond un yn unig o honynt a fu yn llwyddianus, ac yr oedd yr iaith Gymraeg gan yr un hwnw. Ond ai tybed mae colled masnachol oedd hyrmy ? Y mae y deddfau a basiwyd yn ddiweddar, hefyd, yn tueddu i amlhau y safleoedd hyn. Gwelir hyn yn yr Insurance Act, Shops Act, Old Age Pension Act, a llaw er Act'' o ran hynny. A phrun byn- nag ai hoffwn hwy ai peidio, cawn ragor o bethau tebyg cyn bo hir; ac ni faidd y Llywodraeth eu gwarafun ini. A chart fod Cym- raeg yn anhebgorol i lanw y safle- oedd hyn, dvlasai y p^yllgorau addysg weled fod plant pob gweithiwr, bydded yn Sais, Cymro, Ysgotyn, Gwyddel, neu ryw genedl arall, yn abl i'w llanw n saibwvnt iaith. Eto, cymerer y C[u: d hysbys- rndau am glercod gofalir rhoddi Welsh ar rhan fwyaf o honynt, a yr blaen dywedwyd wrthy? .? tebyg i hyn gan un o'r masim< n ? yr mwyaf llwyddianus yn Ne'A p. ?:—' Ychy- ,?:Ycily. I