Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

NODION 0 LEYN.

BETHEL, ABERDYFI. I

ISALEM, GYLCHDAITH LLANFYLLIN.

I ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.…

I NODION 0 DDOLGELLAU. I

IJERUSALEM, WREXHAM.I

CENHADAETH LANCASHIRE. I

DINBYCH. I

ITREUDDYN.

BETHEL, COED-Y-FFLINT.

.LLANGOLLEN.

News
Cite
Share

LLANGOLLEN. YMADAWIAD — Ca eglwys Llangollen, golled enbyd yn ymadawiad Mr D D Jones a'i deulu, y rhai sydd wedi symud i Dre- ffynnon. Daeth Mr Jones yma o Flaenau Ffestiniog tua chwe blynedd yn ol, ac am beth amser bu yn gwasanaethu y Gylch- daith fel pregethwr cyflogedig. pan roes y swydd honno i fyny, ni pheidiodd a llafurio mewn amser ac allan o amser gyda'r achos. Efe ydoedd un o oruchwyl- wyr yr eglwys, ac efe hefyd ydoedd Ysgrif- enydd y cwrdd chwarter a'r Genhadaeth Dramor. Gwnaeth ei ran gyda phob sym- udiad ynglyn a chasglu tuag at ddileu y ddyled sydd ar gapel Llangollen. Efe oedd Ysgrifenydd y mudiad diweddaf i sicrhau y £100 olaf ond un, o'r hyn sy'ri angenrheidiol i gael y Rhodd a'r Echwyn Cyfundebol. Yr oedd yn ffyddlon i'r Cyf- arfod Gweddi a'r Seiat, pwy bynnag fydd- ai yn absenol byddai ef yno yn brvdlon. Nid llai selog ac ymroddol fu ei briod, a dysgasant eu plant i'w hefelychu yn eu hymroddiad i'r achos goreu. Cysur yw meddwl y bydd colli teulu mor ffyddlon a haelionus yn enill mawr i eglwys Treffyn- non, i'r man y dyrchafwyd Mr Jones ijfod yn Arolygydd Cynorthwyol gan Gwmni y Refuge. Nos Sul, Mawrth laf, pregethodd Mr Jones yn Llangollen, a dy wed wyd. llawer o bethau caredig am dano ef a'r telilu. PRIODAS Boreu Sadwrn, Chwefror 28ain, yng nghapel Llangollen, trwy wein- yddiad y parch W R Roberts, unwyd mewn glan briodas, Mr John Edwards, Gyfeilie, Y Rhewl, a Miss Elizabeth Ann Roberts, Y Bwlch, ger pentredwr. Safai Mr Edward Evan Roberts, Cymo, yn gyf- aill i'r priodfab, a gwasanaethai Miss M ] Roberts, chwaer y briodasferch, fel mor- wyn. Yr oedd Mr Edward Edwards, mab arall y Gyfeilie, a Miss Mary Catherine Edwards (nith), yn bresenol. Arlwywyd gwledd briodasol raenus i'r cwmni gan Mrs Stoker, Castle Street. Fel arfer, ar achlysuron o'r fath, gwisgai pawb yn chwaethus Bwriada y par ieuanc ymsef- ydlu yn y Rhewl. Yr oedd Mr J. Edwards yn aelod ffyddlon yn yr eglwys yno eisoes, a cha wraig ragorol bellach i gyd-addoli. Duw yn rhwydd iddynt. GOH.

HOREB, YSTRAD RHONDDA.

[No title]