Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

NODION 0 LEYN.

BETHEL, ABERDYFI. I

ISALEM, GYLCHDAITH LLANFYLLIN.

I ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.…

I NODION 0 DDOLGELLAU. I

IJERUSALEM, WREXHAM.I

CENHADAETH LANCASHIRE. I

DINBYCH. I

ITREUDDYN.

BETHEL, COED-Y-FFLINT.

News
Cite
Share

BETHEL, COED-Y-FFLINT. MARWOLAETH.—Ar yr 28ain o Chwefror bu farw Mrs Mary Owens, priod Mr Thos. Owens, Pentre Hill, Coed-y-Fflint. Yr oedd Mrs Owens yn 71 mlwydd oed. Bu yn cwyno yn hir gyda'r gymalwst, ond yn ddiweddar cafodd attack' cas iawn o'r Asthma, yr hyn brofodd yn angeuol iddi. Yr. oedd Mrs Owens yn un o'r gwragedd mwyaf dymunol a chymwynasgar yn yr ardal hon, yn fawr ei pharch gan bawb. Bu yn aelod ffyddlon gyda ni ym Methel flynyddoedd yn ol, ond yr oedd er's peth amser bellach yn aelod ffyddlon gyda'n brodyr parchus y Methodistiaid Calfinaidd. Y mae amrai o'i pherthynasau eto ymysg aelodau ffyddlonaf Bethel a Llaneurgain. Claddwyd Mrs Owens ddydd Mercher diweddaf yng Nghladdfa Fflint. Gwasan- aethwyd gan y Parch William Williams, Helygain (M.C.), a'r Parch Roberts (M.C.), Connah's Quay. Daeth torf fawr ynghyd i dalu y gymwynas olaf i'w llwch. Yr un noson traddodwyd pregeth goffaw- dwriaethol yn Nghapel y Methodistiaid gan y Parch Wm. Williams. GOH.

.LLANGOLLEN.

HOREB, YSTRAD RHONDDA.

[No title]