Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

NODION 0 LEYN.

News
Cite
Share

NODION 0 LEYN. Bu FARW. Trwm genym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth Gaynor, merch fach Mr a Mrs Henry Parry, Coch-y- moel, Tyddyn, yr hyn a gymerodd le yn blygeiniol boreu dydd Mawrth, Chwefror 24ain. Blodeuyn ydoedd Gaynor a wyw- odd yn gynar, eto bu fyw ddigon hir i wasgar peraroglesmwyth yn ardal ionydd y Tyddyn, a erys am ftwyddi lawer. Yi-n adawcdd oddi wrthym, a hithau heb weled end un gwanwyn ar ddeg yn tori ar ei hysbryd. Gwanaidd ydoedd ei hiechyd ar hyd y blynyddau, ac yr oedd gofal ei rhiem o honi ogymaint a hynny yn fwy, ond er pob gofal, collodd y frwydr, a chlywid wylo chwerw ar aelwyd Cochy- moel y bore yr aeth ymaith byth i ddychwqlyd rn-wy. Yr oedd gwen siriol ar ei hwyneb bod amser, er fod marw mor agos "ati. Hebryngwyd ei gweddillion marwol i fynwent henafol Aberdaron, a rhoddwyd hi i orwedd gyda dwy o'i chwiorydd anwyl oedd wedi ei rhag flaenu. Golygfa brudd-ddyddorol ydoedd gwel- ed yn agos i bedwar ugain o blant yr ysgol yr arferai Gaynor a'i mynychu, a'u cly wed hwy yn canu tra y cludid yr arch oddi wrth y ty. Gwasanaethwyd ar yr achlys- ur gan y Parch T. E. Owen, Aberdaron, a Mr John Williams, Rhiw. lor nef fyddo yn nodded ac yn gysgod i'r teulu sydd heddyw yn eu galar ar ol un mor anwyl. TYDDYN. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Gymdeithas Lenyddol nos Lun, Mawrth 2il. Edrychid ymlaen gyda llawer o ddyddordeb at y noson hon, oblegid yr oeadis ynmyned i ddewis aelod i'n cyn- rychioli yn Senedd-dy"r wlad. Yr oedd aelod cymwys ai y maes, a chlywid swn hogi arfau er's wythnosau yn flaenorol. Safai Mr Ellis Roberts, Ty Capel, drcs y Blaid Llafui, a chafwyd anerchiad ganddo teilwng o unrhyw Iwyfan gwleidyddol. Ei gadeirydd ydoedd Mr D. Roberts, Ty Engan. Safodd Mr John Roberts dros y Blaid Geidwadol, a rhoddodd olygiadau y blaid yn glir ger bron. Ei gadeirydd ydoedd Mr John Williams, Rhiw. Safodd Mr John Thomas, Bronllwyd, dros Rhydd- frydiaeth, a chyda'i fedr danghosodd y bendithion geir eto oddiar y blaid hon. Ei gadeirydd ydoedd Mr E. R. Williams, Bryncroes. Cefnogwyd y Llafurwr gan Mr Robert Roberts, Sarn y Ceidwadwr gan Mr Robert Hughes,' Sam, a'r Rhyd frydwr gan Mr J. R. Jones, Ty Engan. Pleidleisiwyd a dychwelwyd y Rhydd- frydwr gyda mwyafrif gorlethol. Aflon- yddwyd yn ystod y cyfarfod gan ferched y bleidlais. SEIBlANu.-Da genym weled Miss Bar- bara Owen, Meillionydd, wedi dychwelyd ar ol bod yn treulio rhai dyddiau yng nghysgod clyd Pen y Gogarth, tref dlos St. Tudno Hyderwn i'r seibiant ac i awelon iachusol mor a mynydd, brofi yn adgyfnerthiad iddi. W. GYMDEITHAS Y RHIW-Nos Lun, yn Ysgol y Cyngor, cynhaliwyd yr uchod. Yn absen- oldeb y Llywydd, llywyddwyd yn dde- heuig gan yr Is-lywydd, Mr Griffith. Jones, Tanyfron. Dechreuwyd trwy ganu ton gynulleidfaol dan arweiniad y Llywydd. Gwobrwywyd y rhai canlynol:—Unrhyw adroddiad i blant, 1, Lizzie Rowlands, Penygroes 2, Kate Jones, Tanycapel; 3, Lizzie Jones, Llyshyfryd darllen darn Cymraeg i blant, 1, Mary Williams, Bryn Awel 2, L Rowlands, penygroes 3, K. Jones, Tanycapel Limerick, 1, Mr John Williams, Talafon. Darllen darn Cym- raeg, 1, Mr Isaac Rowlands, penygroes. Gcrpheri Diarhebion, 1, Miss Dora Wil- liams, Tynygraig. Canu ton ar yr tolwg gyntaf, 1, Master Tommy Williams, Bryn- hyfryd. Deuawd, 1, Miss J E Jones, Terfyn, a Mr John Jones, Factory, i-eiiy-, caerau. Adrodd, 1, Mr W J pritchard, Ysgol y Cvngor. Unawd, Miss J E Jones a Master Tommy Williams yn gydradd. Chwareu unrhyw offeryn cerdd Mri R. Jones, penarfynydd, a Isaac Rowlands yn gydradd. Cafwyd can gan barti Mr John Williams, Talafon, ac adroddiad gan Glyn Llyfnwy, a datganiad gan barti Mr Griffith Jones, Tynyfron, a diweddwyd trwy ganu yr anthem genedlaethol. YSG.

BETHEL, ABERDYFI. I

ISALEM, GYLCHDAITH LLANFYLLIN.

I ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.…

I NODION 0 DDOLGELLAU. I

IJERUSALEM, WREXHAM.I

CENHADAETH LANCASHIRE. I

DINBYCH. I

ITREUDDYN.

BETHEL, COED-Y-FFLINT.

.LLANGOLLEN.

HOREB, YSTRAD RHONDDA.

[No title]