Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

BWRDD YR ADOLYGYDD. I

News
Cite
Share

BWRDD YR ADOLYGYDD. I (Gan y PARCH R. W. JONES, Portli Dinor-I wic). t [Anfoner pob llyfr i'w adologu i'r Parch. R. W. Jones, Llys Menai, Portdmonvic, ger Bangor, N. Wales]. YN OES YR ARTH A'R BLAIDD. Awdur: T. Gwynn Jones. Cyhoeddwyr: Hughes a'i Fab, Gvyrecsam. Pris naw ceiniog. Ystori i blant ydyw hon, wedi ei hysgrifennu o bwrpas i roi hanes pobl ein gwlad ni yn y cyfnod hwnnw, pell pell yn 01, pan bres- wylia ei phobl mewn ogofau, ac y lluniant eu harfau o gerrig, a'r bwa a saeth o bren. Gwneirhyn ar lun chwedl hawdd i'w deall a'i chofiQ. Mae'r cynllun yn ddigon syml, a'i hiaith yn glir a dealladwy. Ystori ddymunol a diddan dros ben ydyw, ac amhosibl cael ei hamgenach fel anrheg i fechgyn Ifer'' ydyw yr arwr, a difyr yr edrydd yr awdur amryddawn ei helyntion a'i orch- estion. 'Rwy'n sicr y darllenir hon gan filoedd o blant Cymru gyda bias a budd. Cynwysa nifer o luniau a Geirfa." Mewn gair mae popeth yn chwaethus yng nghlyn a'r llyfr hwn, ac nid yw ei bris ond naw ceiniog. Llyfr arall a gyhoeddir yn yr un swydtifa, ac am yr un bris ydyw, ER MWYN Y GWR A GARAI." Gan Oliver Don. Trist meddwl fod yr awdur yn ei fedd. Ymadengys fod y stori hon yn y wasg pan gyfarfu ef a'i angeu disyfyd ar y reilffordd ger Prestat- yn. Ysgrifennodd y gwr rhagorol hwn lawer yn ei ddydd, a chredaf imi ddarllen amgenach chwedl o'i eiddo na hon. Modd bynnag, stori ddirwestol ydyw, Ilawn o ddig- wyddiadau cyffrous. Hwyrach y teimla rhai fod y dariun wedi ei or-iiwio; ond ni amheua neb nad oes iddi ddiben daiorius iawn, sef creu arswyd yn meddwl y darllen- nydd rhag cellwair gyda'r ddiod feddwol. Hyderaf y darllenir hi gan laweroedd, ac yr ennynir ynddynt sel ddirwestol, ac aidd- garwch ym mhlaid achos sob- rwydd. Gwnaeth awdur y stori waith campus yn y ffordd hon. Efelycher ef. LLAIS RHYDDID. I Chwefror 1914. I Pregeth gref a diddorol ydyw eiddo'r Golygydd (Parch W. O. Jones, B.A.), ar "Acwila a Pris- cila." Os yw yn ymylu at fod yn faith, cynwysa lawer o wersi a gwybodaeth werthfawr, a cheir digon o dal am ei ddarllen yn of alus a meddylgar. Ysgrif alluog sydd gan y Parch H. R. Roberts, Lerpwl, ar Fewn-fodaeth ac Ys brydoliaeth. Ond mae'n rhaid ilni addef y ces fwy o flas ar En wogion Eifionydd," nag odid i ddim sy'n y cylchgrawn. Ysgrif ydyw gan y Parch W. O. Jones yn adrodd hanes Cymdeithas Cym- reigyddol Llanystumdwy. Mae'n hynod o ddarllenadwy. Adroddir ynddi'n felys odiaeth am daid Mr Lloyd George o ochr ei fam, sef Dafydd Llwyd Crydd oedd efe o ran ei alwedigaeth, fel ei fab ar ei ol, ond yr oedd o deulu henafol a pharchus. Disgynai c Lwyd- laid Llwyndyrus, ac ymysg ei hen- afiaid yr oedd un Seneddwr enwog, sef Syr Gruffydd Lloyd." Ni wybum i o'r blaen fod na Due na Syr yn perthyn i'r-Canghell- or, ac nid yw yn well na gwaeth yn fy ngolwg oherwydd hynny. Deil Cybi ysgrifennu ar Feirdd Gwerip Eifionydd." Chwarterolyn pur dda ydyw hwn, ac yn werth rhagor na chwechein- log. T— Y LLADMERYDD. Mawrth 1914.1 Y mae popeth o eiddo'r di- weddar Brif Athro D. Charles Dav- ies yn werth ei ddarllen. Duw yn maddeu ac anghofio" ydyw pen- awd y sylwadau a ysgrifennwyd ganddo ar Heb. viii. 12. Deil y Parch -W. E. Prytherch i ysgrifen- nu'n wych ar Ein Pobl. Ieuaiiic a'u Rhagolygon." Y GYMRAES. Mawrth 1914. I Dylai'r cyhoeddiad hwn fod ym I mhob ty. Gwyr Ceridwen Peris 1 sut i olygu cylchgrawn dirwestol.

I Eisteddfod Aberystwyth II

DETHOLION LLENYDDOL. I

[No title]

Advertising