Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

BETHESDA, LLANARMON. 1

.-SOAR, LLANRWST.'__I

TALSARNAU. I

-MANCHESTER.I

PENNAL. I

RHIWLAS.

LLANEURGAIN. I

MOSTYN. I

I COEDPOETH. I

BETHEL, CAERGYBI.

News
Cite
Share

BETHEL, CAERGYBI. Prydnawn dydd Gwener, y 12fed o Chwefror, bu farw y brawd a blaenor William Morris, ], Longford Terrace, yn 68 mlwydd oed, ar ol cystudd cydinarol fyr ond poenus. Treuliodd y brawd blynyddoedd boreu- ol ei oes ym Mhenrosfeilw ac arferai fyn- ychu capel y Methodistiaid Calfinaidd gyda'i rieni. Pan yn22 mlwydd oed, sym- udodd ei deulu i Ty'nycerrig, Rhosneigr, ac aeth gyda hwynt. Y pryd hwn dech- reuodd gyfnod newydd yn ei oes, dechreu- odd feddwl drosto ei hun, ac mae adgof ar fy meddwl i mi ei glywed yn dweyd ei fod wedi cael gafael ar lyfr neillduolion Wesleaidd, a gwelodd fod yr athrawiaeth a ddysgir ynddo yn gorwedd yn esmwyth- ach ar ei feddwl. Penderfynodd ymael- odi gyda ni yn Mhencaernistog, yn groes i 5yniadau ei deulu. Bu yn aelod ffyddlawn yn yr eglwys hon am rai blynyddoedd. Y pryd hyn oeddy Parch John Jones, Vulcan, yn gweinidogaethu ar y Gylchdaith. Wedi hyn symudodd i Gaergybi a daeth yn aelod yn Bethel. Parhai i fod yr un mor ffyddlon yn yr eglwys hon, a chèinfyddodd y brodyr gymwysderau ynddo i wneud blaenor. Pasiwyd ef yn flaenor cynorthwyol i'r diweildar frawd William Hughes, Refail Bach, ac o fod yn flaenor cynorthwyol daeth mewn ychydig amser yn flaenor cyflawn, a pharhaodd i fod felly ar hyd y daith, yn ymestyn dros 33 o flynvddoedcU Bu ei symudiad yn golled fawr i'r eglwys. Cymerai ddyddordeb mawr yn ngwaith y cysegr. Yr oedd ei ffyddlondeb i'r Cyfar- fod Gweddi, y Seiat a'i Glass yn ddiarheb- ol, pwy bynnag arall fyddai yn absenol gofalai ef am fod yno, oddigerth gwaeledd Bu yn athraw selog am fiynyddoedd meithion, ac erbyn hyn yr oedd yr athraw hynaf. Edrychai ymiaen at ein Gwyl Bregethu Blynyddol. N id oedd wedi cael y fraint erioed o glywed y Parch J. Pugh Jones, ac yr oedd yn bur awyddus o wella erbyn yr adeg y deuai yma, ond ychydig feddyliai y pryd hwnnw y buasai yr un ag oedd wedi edrych cymaint am dano yn cymeryd rhan yn ei angladd, ond felly y digwyddodd. Cymerodd yr angladd le y dydd Mawrth canlynol. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parchn W. Lloyd Davies a J. Pugh Jones. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Llan- faelog o dan y drefn newydd a rhoddwyd caniatad gan Canon Trevor i gynal y wasanaeth yn yr Eglwys, Daeth nifer luosog ynghyd i dalu eu cymwynas olaf i'r brawd. Gadawodd i alaru ar ei ol briod a chwaer, a'n dymuniad dyfnaf yw i Dduw eu cysuro yn eu trallod mawr. CYFARFOD PREGrTll-,T.Fe gynhaliwyd ein Cyfarfod Pregethu Blynyddol yr wythnos ddiweddaf. Dechreuodd nos Lun, a pharhaodd hyd nos Fawrth. Caw- som i wasanaethu, y Parchn J. Roger Jones. B.A., a J. Pugh Jones. Cafwyd gyn- ulleidfaon mawrion drwy y cyfarfodydd, a phfegethu grymus, ac yn ddiarneu y bydd dylanwad yr wyl yn aros ar ein rneddyliau am amser maith. I E. J.

'■s''■ TREORCHY.