Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

BETHESDA, LLANARMON. 1

.-SOAR, LLANRWST.'__I

TALSARNAU. I

-MANCHESTER.I

PENNAL. I

RHIWLAS.

LLANEURGAIN. I

MOSTYN. I

I COEDPOETH. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

COEDPOETH. Perfformiad y Ddrama, "Endaf y Gwlad- garwr," gan Gwmni Glan Clywedog, Rehoboth (W.), Coedpoeth. Nos Lun, Chwefror lüeg, y cymerodd yr uchod le, a llwyddiant anghymarol fuyr ymgymeriad anturiaethus yn mhob ystyr. Ni cldychmygodd yr un dewin fod cyfun- iad o'r fath dalentau disglaer o fewn ter- fynau un gynulleidfa, a dywedir fod yna ?sc?'? etto at alwadau y dyfodol. Hyn ellir ei ddweyd yn ddibetrus fod pob un o'r cwmni yn unigol wedi mynd trwy eu gwaith gyda medr a rhwyddineb, ac fod y cwmni fel cyfangorff wedi rhagori ar ddim cyffelyb fu yn yr ardal hon er creadigaeth y byd. Edmygedd a chymeradwyaeth gyffredinol roddir iddynt, a defnyddir ansoddeiriau canmoliaeth cryfaf y gellir eu cael trwy'r gororau hyn am y per- fformiad. Yr oedd Mr J. H. Jones, Golygydd y Brython/yn bresenol, a gadawn iddo ef fel un oddiallan, ddweyd ei farn am danynt, fel yr ymddangosodd yn ei lith yn y rhifyn Chwefror 19eg, dan y penawd Gwib fach i Faelor, I weld chware Endaf, gan Gwmni Glan Clywedog." Gwaith R. D. Owen (Penmaenmawr) yw Endaf, ac yn ymgais at bortreadu un wedd ar fywyd Cymru tua 1867 i 1872, a dwyn ei gam a'i g'ledi gerbron cenhedlaeth new- ydd nas gwelodd, ond a ddylai gael ei weld a'i wybod. Dyma'r cymeriadau :— j, Harold (1 wine, Ysw., oiynyswain (lir- feddianwr)—Peter Griffiths. Wmffra Lewis, Neuadd Fawr (Ffermwr cyifredin)-Ed. J. Edwards Elin Lewis (Ei briod)-Coralie Williams David Pugh, Ysw., Llys y gwynt (Bonedd- wr)—Thomas Jones < Cajadoc (mab vVmffra ac Elin Lewis—D. H. Kelly Endaf (mabwysiedig Mr a Mrs Lewis)— Tom Carnngton Morris Dafydd (Hwsmon Neuadd Fawr)— Levi Williams Ann Evans (Morwyn Neuadd Fawr)—Mrs D. H. Kelly Parch Meredydd Hughes-Thomas Ed. Jones Gwen Hughes (ei briod)—Mair Evans Enid Huws (eu merch)—Detta Price Robert Wyn (Cardotyn)—John Hopwood Parch Hywel Roberts (periglor y phvyf)— D. W. Humphreys Llewelyn Prys (meddyg ieuanc)—Edward Jones Gruffydd Tomos (Gwas Bach Glynyswain) W. E. Parry Y Rhingyll (Swyddog)—Robert Jones Cwnstabl Huskuss-T. Price Jones Cor yr eglwys—J. Hugh Jones, Herbert Parry, Llew Thomas, William Thomas, Tecwyn Jones, Herbert Emtyn Jones, Emiyn Parry, Herbert F. Jones, John Evan Parry, Carodog Kelly. Cymeriadau Cynorthwyol—Mrs T. Car- rington a Miss Gwen Roberts Pianydd-Miss Nesta Price GoruclnvyJiwr y Llwyfan-J. P. Rogers Yn Neuadd y Plwy' y chwaraeid y lie n llawn, i'r pedwar pared, aed dyrfa astud a gweddiaidd iawn ei hymddygiad ac mor dda gan galon dyn fyddai gweld torfeydd pob llan a phentref drwy Gymru'n tyrru i weld drama Gymraeg lan a diwair yn hyt- rach na heidio ar ol bon y-gler threatraidcl lif atom o Loegr, ac a leinw'n gwlad a'u gwenwyn a'u maswedd. Mr W. Carring- ton Jones oedd y cadeirydd, ac a ddywed- odd air byr ac i bwrpas tua chanol y chwarae. Cyn codi'r lien an-i 6.30, daeth Mr Thos. Jones i'r llwyfan i adrodd y pedwar penill cynes sy'n gywair i'r ddrama, ac a'i hadroddodd yn dda—mewn llais cryf, croew, a thipyn o angerdd gwlad- garweh yn sgleinio o'i lygad. Yr oedd P.G. yn eithaf addas, o ran gwisg a throediad, i gynrychioli II arold Twine, yn ei wasgod wen a'i dorsythu boldyn ond prin yr oedd yn medru mil- einio digon ar ei drem (peth go anodd i ddyn caredig a gonest ei galon wneud, welwch chwi), ac yr oedd y dramodydd ar fai rhoi brawddegau Harold Twine mewn Cymraeg mor raenus a llydan dylesid eu lledeithio a'u rhoi yn y Cymraeg clapiog a chwerthintlyd a glywir gan ysweiniaid a mawrion tir Cymru, ac felly roi pwyth arall i'r PJas Seisnig ei sawr. Twine go fain ydyw twine y plas -o ran ei iaith, beth bynnag. Gwnaeth Caradoc ei ran yn bur dda tafled fwy fyth, os gall, o ddieifligrwydd i'w drem a'i don wrth gynrychioli gwalch a filen y ddrama. Geiriai'n groew, a chanddo lygad i ddangos v cno oedd yn ei gydwybod wrth gynllwyn a bargeinio a'r trempyn am waed a bywyd Endaf; ond yr oedd un llaw yn y llogell mewn ambell ymson—peth na fydd byth pan fo dyn mewn gwewyr a chyfwng. Y mae T.C. yn Endaf da, ac yn medru llwydo a llewygu'n bur naturiol pan ei brifir; y mae'n hirgoes a heinyf hefyd, ac yn meddu wedd wyneb cariadus a glan, fel y gweddai i arwr; y fo a'i Enid yw prif dynfa'r chwarae, ac o'u cwmpas hwy y try'r cwbl. Os yr un, mwy o angerddol- deb fuasai'n perffeithio Endaf. Enid ragorol yw Detta Price, yn medru llygeidio serch—a chas pan fo'i eisieu gwyr hi fod llygad yn medru dweyd pethau gwell a dyfnach lawer na'r tafod ac nid arni hi, ond ar y ddrama, yr oedd y bai ei bod hi'n rhy frac ei thafod i ddweyd wrth bawb am ei serch at ei Hendaf. Cil- awgrymu hyn ddylasai'r* ddrama ffordd yma, goeliaf fi; ac nid beichio popeth allan mor amlwg gerbron pawb. Camp mwyaf dramodwr, fel bardd a phawb o ran hynny, ydyw iawn-ddirnad sut y gwnai efe'i hun yn yr un lie a than yr un teimlad. Beth hyotlach na distawrwydd a beth dwyfolach na llygad merch bur pan fo hi'n fflamio purdeb i lygad ffals y bradwr cnawdol a gasheir ganddi. A chafwyd hynny'n bur dda heno. Golygfa dda a chynefin i rai ohonom oedd gwel'd y dorf o gwmpas Endaf adeg etholiad a chynffonwyr Harold Twine y Tori yn dod yno i aflonyddu, ac un ohon- ynt yn cuchio'n llechwraidd tan hobian a'i bwys ar ben ei ffon, ar odre'r dorf Ryddfrydol; ac yn codi blys ar ddyn i neidio ato a rhoi tro yn ei gorn am fod yn llipryn mor llwfr. Y fath wahaniaeth oedd rhwng llygad hwnnw a llygad Enid llygad ellyll gan un, llygad angel gan y llall. Ac y mae'r ddau ar gael yn y byd yma o hyd. Ond anghofiodd rhai o'r Twineiaid pwy oeddynt, a gwelais un ohonynt yn canu Rhyfelgyrch Gwyr Harlech mor geglydan a neb ar y divvecld i ganlyn Rhyddfrydwyr Endaf. Bai go hawdd ei faddeu, chwarae teg iddo. Ei galon aeth yn drech na'i ben. Yr oedd barf Wmffra Lewis, ffermwr y Neuadd Fawr, yn drwehus-braidd yn rhy felly, nes oedd ei frawddegau yn neidio o'i enau fel sgyfarnogod o dwmpath. Yr oedd wyneb y Parch Meredydd Hughes heb ei heneiddio ddigon, na'r locsyn ochr hwnnw oedd yn hongian o'i glust i'w gefn ddim o wneuthuriad digon hyblyg a paturiol yr olwg. Gwnaeth Elen Lewis ei rhan yn swat a chartrefol; cadwodd ei lie, ac ni cheisiodd wneud gormod o stwr gwag a theatraidd. Cofiodd mai Cymraes ydoedd, a wyneb Gymraes grefyddol, ddwys, a gadwodd ar hyd y chware. Gwen gampus oedd Gwen Hughes ac a grugwn na chawsai fwy i'w wneud yn y chware, Pwy fel y hi am godi bys a dywedyd Pwyll! wrth ei phriod rhag iddo fyn'd i baflau'r bradwr Campus o Forus Dafydd yr Hwsmon a wnaeth Levi Williams ie, wir Dyma'r cymeriad goreu'i gyflead a naturiola'i eiriau a luniodd awdur y ddrama ac y mae'r brawddegau roir yn ei enau'n rhai ffraeth a phert iawn. Go briri y gwelais cystal hwsmon gan yr un cwmni,—o dipyn chwaith, y fo a'i hone heglog, a'i lodryn clonciog, cleiog ei doriad gweledig; a'i ddyrnau a'i Gymraeg cyn lleted a charn- au'r Wyddfa. lechyd i galon dyn oedd clywed yr hwsmonaeg yn cael ei siar- ad mor hwsmonaidd ac i'r dim. I'r dim hefyd oedd ei garlad--Ann y forwyn, ac yn medru llygadu a synnu, a throi trwyn a dweyd ei geiriau mor ffrom a ffwdanus a'r un walches ar theatrau Llundain ac yn medru gwingo a gwryddu ei gruddiau i bob ffurf i ddangos direidi ac afiaeth. Gorfum ado'r Neuadd a throi ttiag adre ymhell cyn gorffen y ddrama, onite fe ddy- wedswn air am weddill y cymeriadau. Dyma ymgais gyntaf Cwmni Glan Clywedog," a hwy haeddant guro'u cefn am eu talent a'u dyfalwch. Plant Rehob oth yw pob un o'r cwmni, ,'C y mae'r drama'n berffaith ddiogel cyd ag y'i cedwir yn nwylo bechgyn a genethod glan ein hcglwysi fel hyn. Dalivvch ati i was- iaith a'ch crefydd yn y ffordd hon addfedweh a pherffeithi weh bopeth fedroch wrth fyn'd ymlaen os oes fodd yn v byd, cyfoethogwch dipyn ar ddodrefn ac amrywiaeth y golygfau a -threfiiiadauV llwyfan a phe fi chwi, fe gymerwn fy hyfdra i stwytho a gwenno tipyn ar eiriau'r ymsonau draw ac yma, ei mwyn iddynt ddisgyn yn fwy cartrefol a naturiol ar glybod y gwrandawyr. Daliwch wrth eich gilydd a pheidiwch a chwaiu bellach. Gwelais y Caenog dawnus a eharedig- cl0, a'i fam oedrannus yn gwenu fel geneth do, f'ymyl yn yr Hall ac yn batrwm i'r yn saint oedrannus i beidio ag ofni'r Drama ac a droais adref yn galonnog iawn wrth wel'd Coedpoeth a phobl oreu Maelor yn codi tani mor bybyr dros bethau da'r Hen Wlad. Bu raid i Olygydd y Brython adael fel yr awgryma eyn y terfyn. Caniataer i ni alw sylw at y gweddili o'r Cymeriadau. Robert' Wyn—y Cardotyn (J. H.). An- hawdd luasai meddwl am well personol- iad o drempyn o ran gwisg, agweddiad, ac iaith nag a gafwyd ganddo ef. Yr oedd yn gallu rnynd i yspryd ei gymeriad yn rhagorol, ac yn cario y gynulleidfa enfawr gyda get ar unwaith ac ar hyd y ffordd hob tro yr ymddafigosai. 1 David Pugh,Ysw. (T. J.) Cafwyd yma eto bersonoliad o foneddwr gwiadgarol naturiol a medrus anghyffredin Yr oedd golwg urddasol arno, ac yn gallu liefitru fel un ag awdurdod ganddo, wrth gyng- hon y Parch Meredydd Hughes, ac ar Iwyfan yr etholiad. Dr. Llewylyn Prys (E. J.). Yr oedd yn- tau o ran trwsiad a gosgiad yn naturiol hollol, ac yn llenwi safle Ustus Heddwch gyda medr mawr, wrth ddarllen y Warraat i Caradoc, &c. Gruffudd Tomos, y Gwas (W. E. P). Danghosodd W. E. P. fedrusrwydd a theimlad wrth bledio gyda ei feistr dros deulu Corsywlad, ac yr oedd yn hynod true to nature pan yn ymddiddan a Morris Dafydd cyn cychwyn o'r wlad, a theg yw hysbysu ddarod i'rrhaiyn ol adroddiadau y Brython oeddynt yn ddiffygiol mewn gwisg ac addurniadau, megis Wmffra Lewis (E. J. E.), a'r Parch Meredydd Huws (T. E. J.), ddarfod iddynt gyflwyno y cym- eriadau ymddiriedwyd iddynt yn dra deheuig. Yr oedd y naill a'r Hall yn gwbl naturiol, ac o ran goslef ac ystum, a phob- peth, yn cynrychioli i'r dim ffermwr cyff- redin, a gweinidog yr Efengyl, yn yr oes y cyfeiria y ddrama ati. Gwnaethlyr Heddgeidwaid (R. J. a T. P. J.) yn gystal a Pheriglor y Plwyf (D. W. H.), a Chor yr Eglwys a'r Cymeriadau Cynorthwyol (Mrs T. C. a Miss G. R.) eu gwaith fel rhai wedi cynefino ar hyd eu hoes a'r galwedigaethau pwysig hyn. Rhwng y gwahanol olygfeydd cafwyd Pianoforte Solos gan Misses Nesta Price, Dons Saunders, a Blodwen Kelly. Y mae clod arbenig yn ddyledus i Mr J. Percy Rogers amei feur fel Goruchwyliwr y Llwyfan. Ni chafodd y gynulleidfa fawr egwyl i anesmwytho ac i afionyddu o gwbl o 6.30 hyd 9.30 o'r gloch, fel y cafodd y Cwmni bob rhwyddineb i gadw sylw astud a threfnus y dorf yn ddifwleh o'r dechreu i'r diwedd, ac y mae medr y goruchwiliwr yh ogystal a gallu aelodau y Cwmni i gyfrif am hyn. At yr oil ynglyn a'r symudiad hwn, y mae yna nifer o weithwyr o'r golwg, a gwaith cuddiedig dyfal a diarbed i sicrhau ei lwyddiant. R'ydym yn dra dyledus i'r chwiorydd fu yn gwerthu tocynau er's wythnosau, ac i'r Pwyilgor Gweithiol am ofalu am y trefniadau. Bu Mr a Mrs Edward Davies, y Library, yn ol eu harfer yn haelionus garedig yn gofalu am lun- iaeth a phob cysur i'r Cwmni. Gweith- iodd ein pobl oil gyda brwdfrydedd ac un- frydedd, a disgwylir elw sylweddol i Drys- orfa yr Ymddiriedolwyr sydd mewn dygn angen am dano. Wedi talu pob traul, amcangyfrifir y ceir elw clir o elros [30. Bu Mr Caenog Jones o wasanaeth i'r Cwmni yn eu cwrs paratoawl. Rhoddodd iddynt er's wythnosau lawer bob mantais mewn beirniadaeth ddiduedcl, ac mewn awgrym- iadau anmhrisiadwy. UN OEDD YNO.

BETHEL, CAERGYBI.

'■s''■ TREORCHY.