Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

BETHESDA, LLANARMON. 1

.-SOAR, LLANRWST.'__I

TALSARNAU. I

-MANCHESTER.I

News
Cite
Share

MANCHESTER. I GORE STREET.—Ymgomwest y Chwior- ydd Ieuainc.- Cynhaliwyd yr uchod o dan rdgylchiadau hynod ffafriol nos Fercher, y 18fed cyfisol. Caed arwyddion amlwg yn gynar nad oedd ball ar sel a brwdfrydedd y rhai oeddynt gyfiifol am yr ymdrech el eni eto, oddiwrth y modd medrus, llwyr a dyheig y cyflawnwyd popeth ganddynt. Eu harwyddair yn sicr ydoedd-beth bynag sydd werth ei wneud o gwbl, sydd werth ei wneud ya iawn. Cawsant ad-daliad am eu llafur a'u hyraroddiad trwy gael cynull- iad gwir deilwng o'r amgylchiad, gan fod yr ysgoldy yn orlawn Bu rhai o'r chwior- ydd yn ddygn iawn dan dipyn o anfantais nefyd yn darparu lluniaeth i'r cwmni. Gwledd dda odiaeth ydoedddyna'r Jam gyffredin ac yn wir, pe bae pawb wedi bod yn fud ar y mater, nis gallant ;guddio o olwg sylwedydd arwynebol y boddhad oedd ar eu gwynebpryd tra yn mwynhau y danteithion blasus arlwywyd <)'u blaen. Cliriwyd y byrddau—tystiol- aeth uchel i ansawdd ac nid i brinder y ddarpariaeth. Llwyddodd Ysgrifenydd -ymrodd.ol y Gymdeithas, Mr Glyn Jones, i drefnu rhag len chwaethus er budd ac adloniant y cwmni, a theilynga glod ar gyfrif ei ddyl- anwadcymhelliadolary chwiorydd. Am- lygwyd doniau oedd hyd yn hyn wedi bod yn nghudd, a phan gofir mai dyma'r waith gyntaf iddynt ymddangos ar y llwyfan, daethant alian o'u prawf gydag anrhydedd. Profodd canu penhillion gan Mr Ellis, o Goleg Didsbury, iodyr elfen genbedlaethol yn fyw iawn yn y cyfarfod, ac ni werth- fawrogwyd dim yn ystod yr. ymgomwest yn fwy na'i wasanaeth cf. Yr oedd ganddo gyflawnder at ei alwad, neu yn hytrach at alwad ei edmygwyr lliosog, a melus, moes. mwy oedd hi gyda hwvnt, a chyf- eiliwyd iddo gan Miss Marie Roberts. Poblogaidd iawn hefyd oedd y Dialogue gan bump o oreugwyr Sion, y rhai, drwy eu naturioldeb, eu mynegiant, a'u hunan- feddianaeth, a roisant brawf digonol eu bod yn gynefin a'r gelf o ddynwarediad. Dyma gynwys y rhaglen :—Adroddiad, The Usual Way," gan Miss Sally Ed wards; can- "The Dying Child" gan Miss Davies canu penhillion, gan Mr. Ellis (Didsbury) dadl-" Eisiau Barmaid" gan Misses Roberts a Williams can, Mae y gwynt wedi troi," gan Miss Gracie Williams adroddiad gan Miss L. Roberts can, Dim ond deilen," gan Miss Sally Williams canu penillion, gan Mr Ellis (Didsbury) Dialogue—Humorous Sketch, Terrible Fix," gan Misses Blodwen Hughes. Marie Roberts ac Alice Wood a'r Meistri J.Price Jones a Glyn Jones. Diolchwyd n ddoniol a ffraeth i bawb fu yn gwasanaethu gan y Mri. R. Glyn Williams a J. Edgar Roberts, yr olaf o ba rai sydd yn Ngholeg Didsbury, ond a arfer- ai fod yn aelod cyson a defnyddiol yn Gore Street. Sicrhawyd ehv sylweddol drwy'r ymdrech. CYMRO. I

PENNAL. I

RHIWLAS.

LLANEURGAIN. I

MOSTYN. I

I COEDPOETH. I

BETHEL, CAERGYBI.

'■s''■ TREORCHY.