Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Adroddiad Pwyllgor y Tir,…

[No title]

I-Bychanu -Crist.-

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

limited in knowledge." (Inner Life of Jesus, p. 277-8). Yn y llyfr hwn y mae gan yr Athro Garvie bennod rymus ar der- fynau gwybodaeth Crist, ac erthygl ar yr Ymwaghad yn y Dictionary of Christ and the Gospels," a'r ilchod yw ei safle'n yr erthygl a'r bennod. 4. Dr. James Denney. He (Jesus) does not claim to know everything, and it would be difficult to reconcile such a claim with true manhood." (Dictionary of Christ and the Gospels, Vol. I., p. 149). 5. Y Diweddar Dr. James Orr. That Christ's human knowledge had its limitations is a necessary corollary from His assumption of a true and real humanity. This must be conceded. As a babe in Bethle- hem Jesus began his earthly existence without knowledge of any kind. In childhood and youth He grew in wisdom as in stature. He made no claim to omniscience as man. He asked questions which implied lack of information. He expressly disclaimed knowledge of the day and hour of His final advent. The Incarnation means that Jesus, in becoming man, entered into all the conditions of true human life, growth and development included The limitatioms of His human consciousness were not assumed, but real." (Revelation and Inspir- ation, pp. 149—50). 6. Parch. C. F. Nolloth, M.A. "On the one hand, there is Divine transcendent knowledge, embrac-, ing the greatest mysteries of heaven and earth. On the other, there is ignorance of certain things, showing 1 that His knowledge, in the days of His flesh, was capable of develop- ,ment and growth, and that it was dependent on such aids as we ourselves have to depend on-the senses, inquiry from others, inves- tigation." (The Person of our Lord, p. 182). Dyma chwech o awduron safonol yn tystio i anwybodaeth Crist, a'r oil yn drwyadl ffyddlon i wirion- eddau sylfaenol yr efengyl. Ni all neb a ddarllenodd Dr Adamson's "The Mind in Christ," a Dr Gore's Desertations-" The Consciousness of our Lord in His Mortal Life," ameu'r safle hon, mi goeliaf, gan mor gryfed ydyw'r profion. Yn ol y diwinyddion cymedrol hyn, y mae'r hunan-gyfyngu yng ngwy- bodaeth Crist yn hanfodol i'r syniad o wir ymgna wdoliad, ac ar wahan iddo nid oes ystyr i'r profiadau mawr gymhwysodd Crist fel Gwaredwr. Pwysleisir hyn yn neilltuol gan y Doctoriaid Peake, Garvie, a Forsyth. Dywed yr olaf: The limitation of His know- ledge is indubitable—even about Himself. He was not perfectly sure that the cross was His Father's will till the very last. If it be possible let it pass." Awgryma fod y cyfyngu hwn yn hanfodol i wirionedd temtasiynau Crist, ac i roddi gwerth yn ei fuddugoliaethau moesol-yr hun- an-gyfyngu sy'n gwneud y naill a'r llall yn bosibl. Ac onid yw hyn' yn perthyn yn agos i galon yr Efengyl ? Sut y gall Efengyl Crist fod yn ddatguddiad o ddarostyrig- iad dwyfol i achub dyn os nad yw'r Ymgnawdoliad yn wirionedd ac nid rbith ? Sut y gellir bod Ymgnawdoliad o gwbl os nad oedd bywyd Crist yn wir ddynol, ac fel y cyfryw'n alluog i fynd trwy'r un profiadau mawr a ninnau? A sut y gallai fynd trwyddynt os nad oedd wedi cyfyngu Ei holl-wybod aeth, a dod o dan amodau anwy- bodaeth cyffredin dynoliaeth? Pa fodd y gallai Crist dyfu yn wir ddyn ar wahan i hyn? Nid oes ystyr i gymeriad dibechod Crist, Ei hunan-aberth dwyfol, a'i iawn mawr dros fyd euog ar wahan i reality yr Ymgnawdoliad, ac nid oes ystyr i ymwaghad Crist o'r ymarferiad o'i holl-wybodaeth. Gan hynny methafyn lan a gweled y gellir derbyn y syniad uniongred ohoni heb gydnabod anwybodaeth dynol Iesu Grist. Ac eto, dywedir wrthyrn am gadw hyn y. tucefn i'r pwlpud (fel petai'n wenwyn per- yglus; os am lwyddo i ddwyn dynion i dderbyn Crist, a chon- demnir ni am geisio dangos ystyr yr Ymgnawdoliad i ddynion yn gyson a ffeithiau'r Testament New- ydd. Myntumir mai myûlpwy neu awydd afiach am y newydd sydd wrth wraidd y son am anwybod- aeth Crist,—ensyniad angharedig, a dweyd y lleiaf am dano. Calon yr Efengyl ydyw hunan-aberth cariad-lawn a hunan-ddarostyngol Duw yng Nghrist er achub dyn, wedi'i ddatguddio yn Ymgnawd- oliad ein Gwaredwr mawr, ac un o bioiion yr Ymgnawdoliad hwn ydyw Ei anwybodaeth dynol. Yn sicr, nid bychanu Crist yw hyn, ond ei ddyrchafu. Dengys hawl ysbrydol cariad Crist ar galon a bywyd dynion, a rhydd rym ofn- adwy yng ngwirionedd yr Ym- gnawdoliad fel cymhelliad i ddyn ion dderbyn Crist. Ac, yn ddios, nid yw hyn yn amharu dirn ar awdurdod anffael- edig Crist fel Gwaredwr y byd ac Athro mawr dynoliaeth. Nid yw'n amharu dim ar ei ddwyfoldeb chwaith. Gellir ei dderbyn yn gyson a'r syniad uniongred am Grist. Os myn y darllenydd wybod beth yw seiliau awdurdod Crist, darllened lith Dr. James Denney yn y "Dictionary of Christ and the Gospel," a gwr cymedrol ydyw ef, onide ? Dyma fy lien ar y pwnc hwn o galon onest a chywir. Os gall rhywun ddangos y gellir credu yn ngwirionedd yr Ymgnawdoliad heb briodoli anwybodaeth i Grist, gore oil ond pa fodd y gellir yn wyneb y dyfyniadau uchod a ffeithiau'r Testament Newydd ? Dyheaf am y goleuni.