Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
- LLANDYSSUL.- - - I
LLANDYSSUL. I MARWOLAETII.—Drwg gennym hysbysu'r wythnos hon eto, marwolaeth arall yn ein plith. Collasom hen fam dduwiol a da, sef Mrs Anne Howells, Charles Street, o'r lie hwn. Dioddefodd gystudd hir a chaled eto yn amyneddgar a dirwgnach, a hyn sydd i broli fod ei chymdeithas yn wir gyda'r Tad a'chyda'i Fab ef Iesu Grist." Carai yn fawr glywed darlleniad o'r Beibl, ac yr oedd yn hoff ryfeddol o glyw- ed canu hen emynau Cymreig, yr oedd hyny yn ddiameu yn rhyw ernes iddi o'r canu sydd fry, ac y mae erbyn liyn mi gredwn wedi uno'i chyd-fforddolion yng nghaniad yr anthem dragwyddol, uwch- law pob cystudd a phoen. Mor hyfryd ydyw gweled y Cristion yn rhodio glyn cysgod angau," dyheadau ysbrydol yn ei fynwes a thragwyddol eiriau yn ei enau. Bu ein chwaer yn aelod selog a ffyddlawn yng ngwinllan yr Arglwydd. Hi gaiff eto fedi yn helaeth o'r hyn a heuodd. Clud- wyd ei chorff marwol brydnawn dydd Mawrth, Chwefror 17eg, i orwedd ym mynwent Eglwys y Plwyf. Gwasanaeth- wyd yn y ty gan y Parch H. R. Owen. Daeth llu o'i chyfeillion i dalu iddi eu hymweliad olaf. Teimla ei pherthyuasau yn brudd glwyfus ar ei hol, a Seion sydd yn colli dagrau wrth feddwl am ei habsen- oldeb. Os bu raid it' ddrachtio'n helaeth Ddyfroedd Marah ar dy daith, Os bu raid dy ddodi'th orwedd Ym mhriddellau'r fynwent laith Ti gei eto yn lle'r chwerwedd Felus rawnwin ty dy Dad, Yn lle'r bedd i orffwvs ynddo Cei orffwysfa Canaan wlad." AELOD. I
1111.FFLINT. ',I
11 1. FFLINT. I Nos Fercher, Chwefror 18fed, cynhal- iwyd Social yn Fflint o dan nawdd Hen Lanciau yr eglwys. Tarawyd pawb a syndod weled cynifer ohonynt. Gwnaeth yr oil ohonynt eu gwaith yn rhagorol, pawb yn gofalu am ei waith ei hun. Credaf i'r Social droi allan yn llwyddiant perffaith, oblegid daeth canoedd o bobl ynghyd nes llenwi y lie. Nid gwiw oedd disgwyl i bob peth fod yn ei le a'i amser. Cwynid gan rai fod y bara-menyn yft dew braidd. Bradychwr fuaswn pe mjnegwn pwy oedd yn gyfrifol am hyny. Hefyd yr oedd y te er oered ydoedd yn brin ar bryd- iau. Bu un adeg yn hir iawn nes pery i ni feddwl fod y ffynon wedi myn'd yn besp Wedi gwneud ymholiad cefais y bu gorfod tywallt un llond Urn braf o de allan oblegid diffyg gofal un o'r rhai in charge. Be careful next time, lad. Wrth gwrs rhaid cofio mai Hen Lane ydoedd.. Caf- wyd unawdau ac adroddiadau gan amryw o'r brodyr-ewbl yn perthyn i'r urdd. Cafwyd adroddiad gan un ag yr oedd cryn amheuaeth yn meddwl rhai a oedd wedi graddio yn Hen Lane. Rheinallt Lloyd Jones ydoedd o Fynydd Coed y Fflint. Ond credaf pe baent wedi talu mwy o sylw i'w adroddiad cyntaf, y deallent ei fod yn meddwl mwy o'i fam na neb arall. Disgwylia'r Hen Lanciau wneud elw sylweddol o'r Social hon. H. L. I
IMAENTWROG. I
MAENTWROG. I YGYMDEITHAS DDIWYLLIADOL—Cynhal- iodd yr uchod, ei chyfarfod nos Wener, Chwefror 20fed, o dan lywyddiaeth Mr G. Tecwyn Jones, Dolymoch Farm. Aed trwy y rhaglen a ganlyn Chwareuad ar y berdoneg gan Miss Doris E. Morgan, Police Station, yn feistrolgar. Anerchiad gan y Llywydd. Canu Penillion gan Master J. E. 'Roberts, Penybryn. Adroddiad gan Miss Jennie Jones, Bryn Meirion. Cystadleuaeth sillebu geiriau o Lyfr y Diarhebion, cyd- radd, Miss Jennie Jones, Bryn Meirion, a Mr Robt. Jones, Penlan. Canu Penillion gan Mr R. E. Hughes, Glandwr. Cystad- leuaeth darllen darn heb ei atalnodi, 1, Mr, Robert Jones, Penlan; 2, Master Tommy Roberts, Fronfair. Drama Evan Hughes a'i helyntion," gan gwmni o Gelli- lydan,—gwnaeth pob un ohonynt eu rhan yn ardderchog. Talu y diolchiadau aed trwy y seremoni hon yn ddeheuig gan Miss Roberts, Bionywern, éf Miss Davies, Felen- rhyd Fawr. Datganiad gan Barti'r Maen o dan arweiniad Mr Alun Jones, Shop Isa'. Wedi gaiw y cof-lyfr gan yr Ysgrifenyddes terfynwyd y cyfarfod. Cafwyd cyfarfod dyddorol dros ben. BEIRNIADAETH CADAIR DOLGELLAU.- Darllenasom feirniadaeth fanwl y Prif- fardd Pedrog ar destyn y gadair yn Nolgellau, sef Yr Afon Bur," gyda mwyn. had mawr, a hynny am mai un o blant y "Maen" oedd v cadeir-fardd, sef y Parch Evan Roberts (W.), Caersws. Cafodd feirn- iadaeth y gall deimlo yn falch ohoni, ac er fod yn y gystadleuaeth bryddestau campus, dywed Pedrog fod eiddo ein cyfaill o Gaersws yn sefyll ar ei phen ei hun. Dyma fel y dywed y beirniad "Can odd yr awdwr hwn yn wahanol i'w holl gyd-ymgeiswyr -yn wahauol ei olygiad o'i destyn, gwa- hanol ei gynilun, a gwahanol ei syniadau. Efe yn ddiau yw y coethaf o ran iaith ac ardduli Mae graen ar ei holl waith. Efe a suddodd ddyfnaf i ystyr y "bywyd" sydd yn-y testyn, a chanddo fwy o ddyfais n a neb arall yn ei ddatblygiad o'i feddyl- ddrych llywodraethol. Rhed gwthien o philosophi trwy ei gerdd, yn peri unoliaeth i'w holl i anau. Ond nid philosophi ddan- soddol, oer syad yma. Mae'r ymdriniaeth yn farddonol o ran ffurf, a'r egwyddOr a red trwyddi yn wisgedig a chymeriaaau a daiiuniau byw a phrydferth. Nid yw'n ymdroi govmod a dim. Ceir yrna gyffyrddiadau cynnil y geir- lunydd celfydd, ac awgrvmiadau bardd- onol heb fawr o fanylder traethodol. Mae yn y cystadleuaeth arnryw bryddestau gwir detivvng o Gadair Eisteddfod Meirion, ac onibae am un oLony, nis gallaswn foddioni fy nun mor ddibetrus gyda golwg ar yr oreu (ll. Ond y mae yma un yn ol fy marn gydwybodol i yn rhagon ar y gweddiU yn ddiamheuol, a hwnilw yw Cedewain." Cadeirier Cedewain," o herwydd y mae yn wir deilwng o'r gadair a'r wobr. 1 GER. I
CARNO I
CARNO I MARAVOLAETI-I.'—Chwith iawn genym gofn»li. marwolaeth y brawd ieuanc TUOM ,.s ILV.iTis Tibbott, yn yr oedran cyn- qf 0 .• «;ii, ac a gladdwyd yn Mynwent y Irian, Ionawr Slain. Er mai perthyn i'r Methodistiaid Calfin- aidd yr ydoedd, eto i gyd teilynga air o goffa ar ddalenau y G.N., oherwydd tnyn- ych y gwelid ef yng nghapel bach y Wes- leaid, gan fod y capel hwnnw yn lied agos i'w gartref, ac nid oedd yntall mor gul ei syniadau i gredu nad oedd modd addoli ond yn nghapel yr enwad o ba un yr oedd ef yn aelod o honi. Perchid ef yn fawr gan ein henwad, oherwydd mae y cartref er's tair penhedlaeth bellach wedi bod fel man i droi i bregethwyr Wesleaid tra yn teithio Cylchdaith Llanidloes, a sicr yw fod llawer ohonynt ag adgofion melus am y gofal tyner a'r caredigrwydd dihafal a dderbyniasant tra yn aros ar yr aelwyd. Meddai y brawd ieuanc ar synwyr cy- ffiedin cryf, ac yr oedd yn foneddwr yn ngwir ystyr y gair, ac hawdd canfod fod yr egwyddorion oedd yn nodweddu ei ddi- weddar dad yn blodeuo ynddo yntau. Bu yn aelod o Gymdeithas Lenyddol y plwyf er yn foreu, ac yr oedd yn fyw i bob sym- udiad er budd yr ardal. Yn ddiddadl, pe caffai fyw, y tyfai i fyny yn ddyn o farn ac yn addurn i'r ardal. Ond Och daeth yr adeg i ymadael, a chymerwyd ef yn gynar o swfi ystormydd byd-" From the world's bitter wind, seek shelter in the shadow of the tomb." Caled yw ymadael a chyfeill ion hoff, ond Dy ewyllys di a wneler." Gobeithio y bydd i'r ieuenctyd, y rhai sydd wedi colli cyfaill mynwesol, geisio ei efel- ychu yn y rhinweddau ac sydd yn gwneud i fyny gymeriad glan a phrydferth. Huna'n dawel, cwsg yn esmwyth, Cei dy ddeffro yn y man, Nid am byth yr wyt i orwedd Yn hen fynwent oer y llan Fe gei esgyn uwch cymylau, Fry i entrych nefoedd wen, Lie cei'r fraint o gario'r palmwydd A chei goron ar dy ben. CYFAILL. I
LLYTHYR 0 LLUNDAIN. I
LLYTHYR 0 LLUNDAIN. I Llith John Henry. I Llundain, Chwefror 23ain, 1914. Fy annwyl Ewyrth Dafydd,— Rhag ofn eich bod wedi cael braw oddi- wrth y llith diweddar o Lundain yn y Gwyliedydd Newydd, yr ydwyf yn prysuro i'ch sicrhau fy mod ar dir y byw, ac nad oedd yr afiechyd y soniai y llith hwnnw am dano yn ddim amgen nac ymosodiad ysgafn o'r Influenza, yr hwn, mae'n dda gennyf eich hysbysu, a giliodd cyn pen hemawr o ddyddiau. Prysurdeb i gyfeiriad arall sydd yn cyfrif i raddau hel- aeth am fy mod wedi esgeuluso ysgrifennu yn ddiweddar yma cyn amled ac yr arfer- wn wneud. Amser prysur yn mywyd eglwysi Cym- reig Llundain ydyw tymor y gauaf, ac nid yw Brynswic yn eithriad yn hyn o beth i eglwysi eraill. Rhwng cyfarfodydd Pwytho, y rhestrau, y Gymdeithas Ddi- wylliadol, Coffee Suppers, a phwyllgorau. mae yr amser yn Uithro heibio yn gyflym, ac oriau hamddenol yn brin. 'Rydwyf wedi son wrthycb lawer gwaith am y Coffee Suppers sydd yn nodweddiadol o fywyd eglwys Brynswic. Mae'n dda gennyf allu eich hysbysu fod y cyfarfodydd hyn yn fwy o lwyddiant eleni nag hyd yn od y llynedd. Fe welsoch eisoes yn y Gwylied- ydd Newydd hanes y Coffee Supper rodd- wyd gan wyr di-briod yr eglwys. Nos Iau, wythnos i'r diweddaf, rhoddwyd un arall gan y gwragedd priod, ac un ardderchog iawn oedd o. hefyd. Cymerwyd y gadair gan Mrs Russell, merchi Mrs Gordon, sydd yn un o aelodau ffyddlonaf a mwyaf cym- eradwy Brynswic. Ac fe ddangosodd y ferch ei bod yn deilwng o'r fath fam, y noson o'r blaen, trwy y modd deheuig a hwyliog y llywyddodd y cyfarfod, a thrwy ioddi rhodd deilwng yn y drysorfa. Bu ei phriod, Mr Russell, hefyd yn ein diddori gyda'i arabedd mewn canu ac areithio. Yr oedd y cyngherdd yn un gwir odidog, a barn gwyr profiadol ydyw mai dyma un o'r cyngherddau goreu gafwyd erioed yn nglyn a'r cyfarfodydd hyn; a choron y cwbl oedd fod yr oil o'r datganwyr yn rhoddi eu gwasanaeth am ddim-o barch i chwiorydd caredig Brynswic. Ni fyddai o ddiben yn y byd i mi roddi enwau car- edigion yr achos fu yn gwasanaethu (a'r ffaith am dani ydyw nas gwn eu henwau i gyd), ond fe fydd o ddiddordeb i chwi glywed fod Miss Hughes, merch i'r Parch Thomas Hughes, Llandudno, wedi rlioddi dwy Violin Solo yn ystod y cyfarfod. Ac am y danteithion, bobol fo'r gwarchod 1 beth pe gwelsech chi nhw f'ewyrth i ond, dyna, waeth i mi heb dynnu dwr o'ch dannedd chwi wrth enwi'r cyflawnder o bethau da ddarparwyd ar gyfer y gynull- eidfa. Fe gafwyd elw clir o [15 oddiwrth y cyfarfod. Go dda ynte ? Hwyrach y'ch bod yn synnu weithia, f'ewyrth, i.ble mae'r holl arian yma yn myn'd, ond os darllen- wch chwi adroddiad blynyddol y Gylch- daith Gymreig yn Llundain, fe gewch weled ar unwaith fod digon o le iddvnt fyned. Mae'r Gymdeithas Ddiwylliadol yn dal i fyn'd ym mlaen, er mae'n ddrwg gennyf ddweyd fod y cynulliadau yn llai nac y dylent fod yr wythnosau diweddaf yma. Chwi welsoch hanes rhai o'r cyfarfodydd diweddaf eisoes, ond 'roedd nos Wener di- weddaf yn noson arbennig gennym. Bu y Parch F. Knoyle, M.A., gweinidog y Meth-V odistiaid Calfinaidd, yn Hammersmith yn darlithio i ni ar Rai o egwyddorioh Ym neilltuaeth." Mae Mr Knoyle yn un o garedigion ein Cymdei thas ni. Nid dyma'r tro cyntaf na'r ail iddo ddod i'n gwasanaethu. Mae yn un o'r dynion tawel a meddylgajr hynny nad yw yn hoff o glywed ei swn ei hun, ond pa bryd bynnag y llefara bydd ganddo rywbeth gwerth i'w ddweyd. Felly y profodd nos Wener diweddaf. Rhoddodd mewn cylch bychan a geiriau syml grynhodeb gyn- hwysfawr o hanes cychwyniad Ymneilltu- aeth, a'r egwyddorion hynny a'i gwnaeth yn amhosibi i'r Ymheilltutvyr cyntefig aros yn nghol yr Eglwys Sefydledig. Darlith i aros uwch ei plwan, a rneddwl am ei chyn- nwys ydoedd, ac yr ydym fel Cymdeithas yn ddyledus iawn i Mr Ifnoyle am ei was- anaeth. Siaradodd y Parch J. R. Roberts, ein Llywydd, ac amryw frodyr eraill ar derfyn yr anerchiad. Mae mwy o undeb rhwng y gwahanol enwadau Cymreig yn Llundain yma, neu felly y bydda i arfer a meddwl, nag yn y wlad. Mae'n arferiad er's blynyddau bell ach i newid pwlpudau yn awr ac yn y man, a nos Sul, wythnos i'r diweddaf, fe gawsom ni ym Mrynswic y pleser o wran- daw ar y Parch T. F. Jones, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn Shirland Road. Gwr rhadlon a siriol ydyw Mr Jones, ac fe fwynheais i ei bregeth yn fawr iawn. Yr oedd y Parch J. R. Roberts, ein gweinidog ni, yn pregethu yn Hammer- smith gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yr un nos Sul, ac er mwyn cadw ei blan y Sul hwnnw bu raid iddo deithio agos i ddeu gain milldir. Dyna i chwi.ryw ychydig o syniad am faintioli Llundain yma, f'ewyrth I be soniwch chwi am gylch- deithiau celyd yn Nghymru ar ol hyn. Yr oedd cwmni yn cael ei wneud i fyny o aelodau gwahanol Gymdeithasau Cym- reig y ddinas yma yn rhoddi perfformiad o ddrama Gymreig, Beddau'r Proffwydi," mewn neuadd yn Llundain, nos Sadwrn diweddaf, a nos Iau yr wythnos hon. Miss May Jones, o Gorris, un o ferched ieuainc ffyddlon Brynswic, oedd yn cymeryd rhan un o'i cymeriadau, ac yn ol pob hanes fe wnaeth ei gwaith yn ardderchog. Chwi welwch felly, er nad ydym end eglwys fechan, ein bod yn cymeryd ein lie yn an rhydeddus ym mywyd Cymreig y Brif Ddinas. Gyda chofion serchog atoch i gyd, Ydwyf, eich nai, JOHN HENRY. I
CAERSALEM, TON PENTRE.I
CAERSALEM, TON PENTRE. I Nos Wener, Chwefror 13eg, darllenwyd papur o flaen y Gymdeithas Ddiwylliadol, yn y lie uchod, gan y brawd John Morgan. Ei destyn oedd "Defosiwn Grefyddol." Cawsom amser da tra yn gwrando ar y brawd. Yr oedd wedi parotoi papur ar- dderchog ar ein cyfer yn llawn.o sylwadau cryf, a gwersi amserol. Ar ol y papur, cawsom anerchiad ragorol gan ein Llyw- ydd, y Parch A. C. Pearce, a rhwng y papur a'r anerchiad, a geiriau caredig y brodyr, teimlem wrth fyned oddiyno ein bod wedi cael cyfarfod gwir dda. Diolchwyd yn gynes i'r brawd John Morgan am fod mor ufudd i'r Gymdeithas. Nos Iau, Chwef. 19eg, cynhaliodd y bech- gyn sydd yn perthyn i'r Gymdeithas cyfarfod yr hwn a elwir yn Free and Easy yn eu plith eu hunain. Cymerodd bob un ran yn ei dro mewn rhyw ffordd neu gilydd a chafwyd amser difyrus iawn, ac er i ni gael rhyw gymaint o ddigrifwch yno, credwn fod cyfarfodydd o'r natur yma yn allu i dynu'r bechgyn ieuangc allan. Y mae yn ddrwg genym sylwi ar y G. N. wrth roddi hanes y cyfarfod cystadleuol a gynhaliwyd yma Chwefror 5ed, ein bod yn anffodus wedi gael allan yr adroddiad i rai mewn oed. Cipiwyd y wobr am hwn gan Mrs Morgan Jones. Gobeithiwn y bydd i'r chwaer faddeu i ni am y tro. IEUAN. I
ABERYSTWYTH. I
ABERYSTWYTH. I SANT PAUL'S.—Nos Iau, yr 20fed o Chwefror, cynhaliwyd cyfarfod o'r Gym- deithas Ddiwylliadol o dan lywyddiaeth y Parch Richard Morgan, pryd y darllenwyd papur gan y brawd James Lewis, ar y testyn Perffeithrwydd Cristionogol." Cymerodd y brawd olwg eang ar y testyn trwy gymeryd sylw o'r gwahanol farnau a goleddir ar y pwnc, ac ymdrin- iwyd y mater ganddo yn y modd mwyaf deheuig a chryno. Yn dilyn cafwyd syl- wadau pwrpasol gan y Llywydd a nifer o aelodau y Gymdeithas, a diolchwyd i'r brawd am gymeryd y cyfeiriad a wnaeth gan fod y testyn yn sicr o fod yn un am- serol a phwrpasol. UOHEBYDD ARALL. I
.IBEAUMARIS.I
BEAUMARIS. I Nid oes dim wedi ymddangos yn y Gwyliedydd Newydd er's amser maith. Y mae y tri gweinidog ag sydd ar y Gylchdaith yn hynod fel pregethwyr a gweithwyr. Y mae y Gymdeithas yn cael lie amlwg ac yn cael ei mynychu gan gynulliad da bob wythnos yn y lie hwn. I agor y Gymdeithas, Tachwedd 24ain, cawsom ddarlith gan y Parch. David Thomas ar y testyn Y pwlpud a'r bobl." Rhagfyr laf, adolygu pregethau y Sul blaenorol. Cyfarfod da iawn. Rhagfyr 8, noson i ddarllen darnau deth- oledig. Rhagfyr 15, Atgofion am Enwogion. Rhagfyr 21, Seiat—Gwersi'r Ymgnawd- oliad. Ionawr 5, adolygu y flwyddyn gan Mr Jones Owen. Ionawr 12, anerchiad gan y Parch R. W. Davies ar Gristionogaeth." Ei apel yn wir dda, a chynulhad da. Ionawr 19, anerchiad gan Mr John Parry. Chwefror 2, dadl; Pa un ai Brenhin- iaeth ai Gweriniaeth ydyw oreu i'r wlad." Agprwyd o blaid Brenhiniaeth gan Mr John Roberts; Gweriniaeth, Mr Griffith Roberts. Chwefror 9, anerchiad gan Mr Cyril Davies, B.A., ar Cymry yn y canol. oes- au." Cafwyd sylwadau da, a phawb yn mwynhau y cyfarfod. Chwefror 24, Ffug-etholiad. Rhyddfryd- wr, Mr John Jones, Baker Ceidwadwr, Mr James Owen; Llafur, Mr John Owen, Tailor. Yr oedd y gwahanol ymgeiswyr yn dadleu yn gryf o blaid eu hochr. Yr oedd y Ty yn llawri, a'r ymgQ;sydd Lfafur awl a gariodd y dydd, fel mae efe ydyw yr Aelod Seneddol. Mawrth 6, disgwyliwn am anerchiad gan y Parch Maelor Hughes. Mawrth 25, 'fe fydd cyfarfod cyhoeddus i ddiweddu y tymor. Nos Fercher, Chwefror 18, cawsom ddar- lith gan Mr W. O. Jones ar y testyn Com- mon Sens," yn y Town Hall. Yr oedd W. O. yn ei hwvliau goreu, cvnulliad da, a phawb yn canmol mai hon oedd y ddarlith oreu a gafwyd gan W. O. Y mae yn arfer a dod yma bob blwyddyn. Y mae symudiad yn y Gylchdaith i gael Cyfarfod Ysgol Gylchdeithiol, ac y mae i gael ei chynal yn Menai Bridge, Mai 27ain Y mae y rhaglen allan, a disgwyliwn am gyfarfodydd da--y cyfarfod cyntaf am 1.30 a'r ail am 5 o'r gloch. Deallwn hefyd fod ein heglwys yn Llan. goed wedi cael cyfarfod llenyddol llwydd ianus Chwefror i9eg. UN O'R DREF. I
LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. I
LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. I EISTEDDFOD FLYNYDDOL SEION-Cyn- helir yr Eisteadfod, Mawrth 6ed, yn Ysgoldy Seion. Swn parotoi sydd i'w glywed ymhob cyfeiriad, ac y mae pob arwyddion am Eisteddfod lwyddianus. Yr ysgrifenydd ydyw Mr J. H Davies, Park Street, a'r trysorydd, Mr J. H. Vaughan, Wylfa. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—Cynhaliwyd cyngherdd ynglyn a'r Gymdeithas nos Fercher, Chwefror lleg, dan nawdd y chwiorydd ieuainc. Llywyddwyd y cyf- arfod gan Miss H. Jones, ac arweiniwyd gan Miss S. A. Jones. Yr oedd rhaglen faith wedi ei pharotoi. Cafwyd unawdau swynol gan Misses Pollie Morris a Lizzie Jones. Duetts gan Misses H. Jones ac S. A. Jones. Quartette Llais yr Iesu" gan Misses M. E. Davies, D. Jones, Annie M. Williams ac S. A. Jones. Datganwyd gan Barti Seion, a chafwyd Pianoforte Solo, "Chant-de-noel" gan Miss Dilys Jones. Ond yr Item fwyaf dyddorol ar y rhaglen ydoedd Canu Penillion gan nifer o chwiorydd ieuainc. Cafwyd aoroddiad gan Miss Jennie Roberts. H f fyd ca wsom amryw o gystadleuaethau dyddorol iawn, ac enilliwyd gan Master A E. Davies, Miss Pollie Morris, a Miss Gladys Owen. Terfynwyd y cyfarfod gyda Sketch Modryb Sian, a chafwyd noson ddifyr iawn. Ein cyfeilyddes fedrus ydoedd Miss Dilys Jones, a'r ysgrifenyddes ydoedd Miss Jane Evans. (,1, GOH. I
HIRWAEN, RHUTHYN. I
HIRWAEN, RHUTHYN. I Cynhaliodd y lie uchod eu cyfarfod wyfhnosol mewn cysylltiad a'r Gymdeith as Ddiwylliadol, nos Wener, Chwefror 20fed. Prif atdyniad y cyfarfod hwn oedd, dadl, A ddylai y merched gael y bleid- lais ?" Cymerwyd y gadair gan Mr William Roberts, yr hwn oedd a'i awenau yn ei law rhag i'r siaradwyr ar y naill ochr na'r llall fyn'd dros ben rheswm yng- lyn a'r pwnc pwysig hwn. Dadleuwyd yn gadarnhaol a hyny hefyd yn gydwyb- odol gan Mr J, W. Owen, Cae Fallen, yr hwn a roddodd agoriad penigamp i mewn i'r cwestiwn.i Mr T. Griffith Williams oedd yr hwn a ddewiswyd i gymeryd yr ochr nacaol i'r ddadl, a gwnaeth yntau ei ran mewn modd hynod o hwylus a ffraeth. Siaradwyd ymhellach o blaid y ddwy ochr gan amryw o frodyr a chwiorydd, a mwynhawyd hwyl dda iawn. Feroddwyd y cwestiwn i'r cyfarfod a phawb yn rhydd i ddangos o ba ochr yr oeddynt, a chaf- wyd y mwyafrif o blaid i'r merched gael y bleidlais. R.F. J.
RHUTHYN. J
RHUTHYN. J GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.—Nos Iau, Chwefror 19eg, cafwyd cyfarfod c'r gym- deithas dan lywyddiaeth y Parch W. G. Williams. Darllenodd Mr Hughes, Station House, bapur dyddorol ac adeiladol ar Dewi Wyn." Ymdriniodd yn fanwl ar y dalent farddonol oedd yn perthyn i'r Dewi hwn, a chawsom glywed lawer o'i brif englynion ar waharicl destynau, megis Pont Menai, ac eraill, ac hefyd am ei brif awdlau sef Elusengarwch a Molawd Ynys Prydain." Pasiwyd diolchgarwch i Mr Hughes am y papur, a siaradwyd gan amryw frodyr, a chafwyd gair gan Mrs W. G. Williams, a therfynwyd y cyfarfod gan y llywydd. DYRCIIAFIAD.—Llongyfarchwn ein cyfaill Mr C. H Thomas, London and Provincial Bank, ar ei ddyrchafiad i'r swydd bwysig o Cashier yn y Bank. Tua blwyddyn yn ol y daeth Mr Thomas i'n plith o'r Deheudir, er yn enedigol o Dyserth ger Rhyl, ac yn ystod ei arosiad yma y mae wedi gwneud ei hun yn gartrefol ac adnabyddus yn ein cylch ni ac yn y dref yn gyffredinol. Liaw- en meddwl nad ydyw ei ddyrchafiad yn achosi ei symudiad oddyma. Eiddunwn iddo gyfnod maith i fod yn ein plith a gwenau Duw iddo yn ei swydd newydd, a bydded Motto" pob un o honom yn ngheiriau y gan honno, I fyny fo'r nod." R. F.J. I
DINAS MAWDDWY. I
DINAS MAWDDWY. I Y GYMDEITHAS.—Chwef. 3ydd, cawsom bapur rhagorol ar Wir Anrhydedd gan Miss L. A. Davies. Chwefror lOfed, darllenwyd dau bapur gan y Mri Morris Davies, Plasau, a Morris Pugji Jones, Boncyn, y naill ar Wir ddedwyddwch," a'r llall ar Frawdgar- wch." Yr oedd y papurau yn hynod o addysgiadol a chafwyd siarad da ar y terfyn ar eu cynwys. YMREOLAETH.—Chwefror 17eg, cafwyd dadl boliticaidd ar" Home Rule." Siarad adwyd yn gryf a hyawdl o blaid gan Mr J. Jenkin Jones, a'r un mor feistrolgar yn erbyn gan Mr Robert Davies, Tynycoed. Cafwyd ymdrafodaeth hwyliog a brwd- frydig iawn. Diau fod hwn yn un o gyf- arfodydd goreu'r tymor. Chwefror 24ain, darllenwyd papur ar- dderchog ar Ddylanwad Mam gan Miss Corwena, Owen. Diolchwyd yn gynes iddi am ein gwasanaethu eleni eto fel arfer mor effeithiol. Llywyddwyd yn yr oil gan y Parch W. J. Roberts. DARLITH.-Chwefror 19eg, bu y Parch W. R. Roberts, Llangollen, yn darlithio yma ar David Livingstone," a chafwyd cynulliad da, a darlith gampus. Llanwyd y gadair yn ddeheuig gan v Parch R. W. Jones. Diolchwyd yn gynes iawn i Mr Roberts am ddod i'n gwasanaethu fel eglwys mor ddiddorol ac effeithiol gan ein gweinidog. ATIIRO NEWYDD.—Dymunwn longyfarch Mr David Humphreys arei benodlad yn Brif Athro yn Ysgol y Cyngor, Dinas Deallwn ei fod yn fab i Mr Humphreys. Brynerwest, Weslead selog a gweithgar ym Mryncjug. Eiddunwn i Mr Humphreys bob llwyddiant ac hapusrwydd yn ei gylch newydd. GOH. I
'I . CEFN MAWR. I
CEFN MAWR. I Drwg gennyni orfod cofnodi marwol- aeth Mrs Mary Davies, Rock Place (mam y cliweddar Barch Thomas Davies). Yi oeifid yn wael er's tro, ond yn ddiweddar drwy ofal ei mherch a bendith Duw, credai pawb ei bod ar y ffordd i gael 11 wyr el'had, ond fel arall y gwelodd Duw yn q-eu. Cafodd ergyd drom o'r parlys, a bu brw: mewn tangnefedd nawn Sul, Chwef- roi 8fed, yn 77 mlwydd oed. Yr oedd yn un a herchid gan bawb, oherwydd ei haiiil ritik-veddau. Yr oedd yn nodedig o ffyddion, i'r achos. Pan y caniatae ei 7' hiechyd ni welid ei He byth yn wag mewn Seiat nac oedfa, a chyfranai yn gyson. Meddai brofiad clir o Iesu Grist fel Gwaredwi, ac yn ei chystudd byddai yn dawel a dirwgnach. Profedigaeth fawr iddi ydoedd colli ei hanwyl Tom. Soniodd lawer am dano, erbyn hyn mae wedi cyfarfod ag ef mewn gwlad na raid byth ymadael mwy. Hebryngwvd ei gweddillion i fynwent Tregeiriog, Chwef- ror 13eg. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch T. Gwilym Roberts, ac ar Ian y bedd gan y Parchn J. E. Jones (M.C.), R. Vaughan Owen a T. G. Roberts. Er fod y tywydd yn hynod anffafriol, daeth torf i dalu y gymwynas olaf iddi. Mae cydymdeimlad cyffredinol a'r teulu, yn arbenig ei mherch Mrs Griffiths, gyda'r hon y cartrefai, ac a fu mor garedig a thyner tuag ati. Nos Sul, defnyddiwydamywaith cyntaf Individual Communion Cups," pa rhai a roddwyd yn anrheg i eglwys Gorphwysfa gan frodyr a chwiorydd ieuainc yr eglwys. Diolchodd y Parch T. Gwilym Roberts ar ran yr ymddiriedolwyr i'r cyfryw rai am y rhodd werthfawr. CASGLIAD MAWR.—Gwnaed hwn yn yr Ysgol Sul diweddaf, ac y mae yn llawen gennym ein bod wedi gwneud swm rhag- orol, yr hon a drosglwyddwyd i ffynonell yr eglwys. CWMNI DRAMAYDDOL Y PONCIAU.—YM- welodd y Cwmni uchod am y tro cyntaf a'r Cefn, nos Fercher diweddaf, a rhoddas- ant berfformiad (yr ail. waith iddynt), o'r Ddrama, Y Dyn a wadodd y Rhaw," neu Ber-daitti-Taith Anwiredd (Dyffrynog), yn y Neuadd George Edwards. Llywydd- wyd dros gynulliad lluosog iawn yn ddymunol dros ben gan Mr R. T. Williams, Preswylfa, Cefn Mawr. Fel y dywed wyd ar yr hysbysleni, Drama ddoniol ac add- ysgiadol'yw yr uchod, ac yr oedd y per- fformiad 10 honi gan y Cwmni yn sicr ddigon yn un o'r goreuon a glywsom eto. Da gennym gael ar ddeall fod y gynull- eidfa wedi cael mwynhad mawr, a gob- eithiwn yn nghanol y fath hwyl' na chollwyd golwg ar y wers bwysig a amcenir ddysgu drwyddi. Deallwn fod y Cwmni wedi cael eu boddloni yn fawr iawn yn y cynulliad a'r derbyniad serchog roed iddynt. Elai yr elw at Gylchdaith Wesleaid, Cefn Mawr. GOH.
NODION 0 LEYN.
NODION 0 LEYN. TYDDYN.—Cynhaliwyd cyfarfod cystad- leuol yn y lie uchod nos Lun, Chwef. 9fed, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol. Arweiniwyd yn ddoeth a deheuig gan Mr John Thomas, Bronllwyd. Enillwyd igwobrwyon gan y rhai canlynol:—Unawd, Miss C. M. Williams, Bronllwyd Llaw- ysgrif, Master Rees Parry, Cochymoel adroddiadau gan Master Johnnie Griffith a Miss C. M. Williams, Bronllwyd deuawd, Miss Jones, Lon, a Mr R. J. Griffith, Bod- gauaf; pedwarawd, Mr R. J. Griffith. Enillwyd amryw wobrwyon eraill. Cyf- arfod da a hwyliog. RHIW.—Nos Wener, Chwefror yr 2il, yn Ysgol y Cyngor, cynhaliwyd cyfarfod Rhyddfrydol. Prif siaradwr y cyfarfod ydoedd G. Hughes Roberts, Ysw., U.H., C.S., Edeyrn, ac nid bychan oedd y croes- aw a gafodd i'n plith. Llanwyd yr adeilad gan wrandawyr astud. Cyffyrddodd Mr Roberts ag amryw faterion, ond sylwedd ei anerchiad ydoedd pwngc y tir." Fel y gwyddis, y mae yn awdurdod ar y mater hwn, a buddiol oedd gwrando arno. Cafwyd anerchiad grymus a galluog. Cadeiriwyd gan Mr John Williams, Gor- phwysfa. Rhoddwyd y diolchiadau gan Mr Richard Owen, Waen, a Mr John Wil- liams, Voel. Newid pulpud.—Sabbath, yr 22ain cyfis- ol, bu y Parch J. R. Evans (A.), Hebron, a Mr John Williams, Rhiw, yn newid pul- pudau. Garw oedd yr hin, ond deall WIol i Mr Evans gael amser hapus yn Aberdaron, a rhoddi boddhad nid bychan i'r gynull- eidfa yn Horeb a Salem. Mae newid fel hyn yn awr ac eilwaith yn foddion i enyn teimladau goreu cydrhyngom fel gwahan- ol enwadau. • W. Y Gymdeithas Lenyddol.—Nos Lun yn Ysgol y Cyngor cynhaliwyd yr uchod dan lywyddiaeth Mr Griffith Jones, Tynyfron, pryd cafwyd papur rhagorol ar Ynys Enlli gan Mr Isaac Rowlands, Penygroes, a deuawd gan Glyn Llyfnwy a Mr Tommy Williams, Talafon. Cyfarfod da. YSG.
I GORSEINION.
GORSEINION. YR EGLWYSI RIIYDDION.—Bydd wythnos; gyntaf mis Mawrth yn wythnos y Genhad- aeth Dditwestol dan nawdd Cyngor yr Eg- lwysi Rhvddion yma. Cynhelir cyfarfod- ydd gweddi undebo! nos Sadwrn a nos Sul, a brodyr hyawdl i draddodi anerch- iadau y nosweithiau canlynol: Llun. Mawrth, Mercher, prydnawn a nos Iau. Hyderwn yn fawr y ceir amser da.
|TANYFRON.
TANYFRON. RECIIABIAID.-Dan nawdd y Rechabiaid, pabell Brymbo, cynhaliwyd Vryfarfod dir- westol yn Nhanyfion, yn y Capel Wesleaidd. Cadeiriwyd gan Mr Thomas Wiiliams, Y.H. Anerchwyd y cyfarfod gan y Brawd Errlest Walker o Gaer, a'r Parch Gwynfryn Jones, Fflint.
RHOS, RUABON.
RHOS, RUABON. GWARIO AR DDIOD,-N(-)s Lun, ym Mhen- uel (B.), Rhos, cynhaliodd Cymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd gyfarfod cy- oeddus. Cafwyd anerchiadau rhagorol gan y Parchn. Wynn Davies, J. Howell, a Mrs. Peter Price, Bern ir fod tua r4O,ODC4 yn cael eu gwario'n flyhyddol yn y Rhos am ddiodydd meddwol. Diolchwyd i'r siaradwyr gan Mrs. Robert Jones, a thaer ddymunai ar i'r brodyr ymuno a'u cym- deithas fel cyd aelodau.
[No title]
Cwella'r Llincli. Mae Cwmni y G.W.R. yn bwriadii gwario y swm o £ 789,671 mewn gwell- iantau yma. a thraw ar eu llinell yn Nghorllewin Cymru. Bydd y gwaith rnwyaf mewn gosod deng milldir o iinell ddwbl newydd rhwng Pembrey a Llangennech, er mwyn byrhau y ffordd i r gar by dros gyfl ym sydd yn rhedeg jbwng Abergwaun a Llundaiu.