Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

- LLANDYSSUL.- - - I

News
Cite
Share

LLANDYSSUL. I MARWOLAETII.—Drwg gennym hysbysu'r wythnos hon eto, marwolaeth arall yn ein plith. Collasom hen fam dduwiol a da, sef Mrs Anne Howells, Charles Street, o'r lie hwn. Dioddefodd gystudd hir a chaled eto yn amyneddgar a dirwgnach, a hyn sydd i broli fod ei chymdeithas yn wir gyda'r Tad a'chyda'i Fab ef Iesu Grist." Carai yn fawr glywed darlleniad o'r Beibl, ac yr oedd yn hoff ryfeddol o glyw- ed canu hen emynau Cymreig, yr oedd hyny yn ddiameu yn rhyw ernes iddi o'r canu sydd fry, ac y mae erbyn liyn mi gredwn wedi uno'i chyd-fforddolion yng nghaniad yr anthem dragwyddol, uwch- law pob cystudd a phoen. Mor hyfryd ydyw gweled y Cristion yn rhodio glyn cysgod angau," dyheadau ysbrydol yn ei fynwes a thragwyddol eiriau yn ei enau. Bu ein chwaer yn aelod selog a ffyddlawn yng ngwinllan yr Arglwydd. Hi gaiff eto fedi yn helaeth o'r hyn a heuodd. Clud- wyd ei chorff marwol brydnawn dydd Mawrth, Chwefror 17eg, i orwedd ym mynwent Eglwys y Plwyf. Gwasanaeth- wyd yn y ty gan y Parch H. R. Owen. Daeth llu o'i chyfeillion i dalu iddi eu hymweliad olaf. Teimla ei pherthyuasau yn brudd glwyfus ar ei hol, a Seion sydd yn colli dagrau wrth feddwl am ei habsen- oldeb. Os bu raid it' ddrachtio'n helaeth Ddyfroedd Marah ar dy daith, Os bu raid dy ddodi'th orwedd Ym mhriddellau'r fynwent laith Ti gei eto yn lle'r chwerwedd Felus rawnwin ty dy Dad, Yn lle'r bedd i orffwvs ynddo Cei orffwysfa Canaan wlad." AELOD. I

1111.FFLINT. ',I

IMAENTWROG. I

CARNO I

LLYTHYR 0 LLUNDAIN. I

CAERSALEM, TON PENTRE.I

ABERYSTWYTH. I

.IBEAUMARIS.I

LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. I

HIRWAEN, RHUTHYN. I

RHUTHYN. J

DINAS MAWDDWY. I

'I . CEFN MAWR. I

NODION 0 LEYN.

I GORSEINION.

|TANYFRON.

RHOS, RUABON.

[No title]