Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

'rCenhadaethau gellgylaidd..1…

-TIPYN 0 BOPETH.-II

DETHOLION SEIAT. ,I

FFARMIO A FFERMWYR. l

- - - -Llythyrau at y Got…

News
Cite
Share

Llythyrau at y Got -;j) COFFAWDWRIAETH HUMPHREY JONES, Y DIWYGIWR. Mr Gol.Deallaf fod symudiad wedi ei gychwyn ym mhlith ein brodyr y Methodistiaid Calfinaidd i ddathlu coff- awdwriaeth y diweddar Dafydd Morgan, Ysbyty Ystwyth, fel un o Arweinwyr Diwygiad '59. Gwyr pawb mai i'r diweddar Barch Humphrey Jones y perthyn yr anrhydedd fiaenaf fel cyf- rwng yn llaw Duw er dwyn y diwigiad hwnnw oddiamgylch. (Gwel bywyd y Parch Isaac, Jones gan Glanystwyth, Penod viii.). Yn awr cybed nad yw yr amser wedi dod i rhyw beth gael ei wneud i ddangos ein gwerthfawrogiad fel cenedl o un o roddion psnnaf y net- oedd i ni. Os na wneir rhywbeth yn fuan bydd yr oil o'r rhai brofasant nerthoedd y tragwyddol Ysbryd, yn gweithio arnynt yn y Diwygiad mawr hwnnw, wedi mynd at eu gwobr. Yn sicr carai y eyfryw, gyda Ilawer eraill,, gyfranu swm bychan, dyweder swllt, at roi coflech neu rhywbeth cyffelyb yng nghapel Tre'r Ddol er cof am Hum- phrey Jones. Cof gennym rai misbedd yn ol wel'd llytbyr yn y G. N., gan law fedrus a chalon gynes y tu ol iddi ar y mater hwn. Os ydyw y brawd anwyl hwnnw ar dir y byw, carem iddo ysgrifenu eto. Ond i ni weld fod awydd am i rhywbeth gael ei wneud, bydd yn bleser gennym, gan ein bod ar y tir, wneud rhywbeth allwn gyda'r mater. Gallem ei ddwyn i sylw Cyfarfod Chwarterol CyIr.bdaith Aberystwyth, a Cyfarfod Talaethol y De, ac i'r cyfarfod hwnnw ddewis pwyllgor, neu os barnent yn ddoeth ei drosglwyddo i'r Gymanfa. Hyderwn na adewir i achos cyn deil- ynged syrthio drwodd, gan y credwn nad oes eisiau ond rhoi cyfle 03. bydd llawer yn awyddus i'w gefnogi. Yr eiddoch, x R. HUGH PRITCHARD. Wesley Villa, Tre'r Ddol, Glandyfi.

- I J ISOCIAL CONNAH'S QUAY.,