Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

'rCenhadaethau gellgylaidd..1…

-TIPYN 0 BOPETH.-II

DETHOLION SEIAT. ,I

FFARMIO A FFERMWYR. l

News
Cite
Share

FFARMIO A FFERMWYR. l Gerddi Marchnad. I Dro vn ol yng N gbymdeithas Gyd- weithredol Gogledd Cymru, darllenodd Mr. J'ohn Owen, White Cross, Bersham, ger Gwrecsam, bapur ar Erddi March- nad.' Dangosodd pa mor broffidiol oedd yr alwedigaeth o godi ffrwythau a llys- iau ar gyfer y marchnadoedd. Gwyddai am ddyn a weithiai felllafurwr am 2s. 3c. y dydd rai blynyddoedd yn ol. Dechreu- odd godi ffrwytbau, &c., ar haner acer o dir. Yr oadd hyny ddeuddeng mlynedd yn ol. Erbyn hyn yr oedd yn ei fedd- iant saith acer, gyda thy ac adeiladau. Fel hyn y dosbarthai y cnwd-dwy acer o ffrwythau, dwy acer o bulbs, un o wenith, un o geirch, ac haner acer o glofer, ac haner acer i'r ty a'r adeiladau. Ynglyn a'r rhai hyn yr oedd ganddo ardd flodau, a gardd ffrwythau a llysiau, ynghyd a lie i fagu dofednod: Talai rent o ddeg gini y flwyddyn am y ty a'r adeiladau, pum gini yr acer a'r trethi am y tir ffrwythau, dwy bunt a chweig- ian a'r trethi am y tir arall. Holl swm ei ardreth am y saith, acer a'r tyddyn oedd 31p. 15s. 6c., neu 4p. 10s. yr acer. Beth wnai efe allan o'r tir, gofynai Mr. Owen, gan ei fod, yn nhyb rhai, yn talu crogbris am dano. Wel, yr oedd ef ei hun a'i fab (yr hwn sydd yn briod), yn cael digon o waith drwy'r 'flwyddyn, talai gyflog am gynorthwy cyfartal i gyflog dau ddyn tyfai ddigon o lysieu- fwyd ar gyfer y cartref, ac yr oedd ei ystoc bresenol o bulbs (crwnwroiddiau), rhwng 40Gp. a 500p. Dechreuodd gyda'r nesaf peth i ddim o gyfalaf; yr oedd yn mhell o'r prif farchnadoedd, a thalai gryn lawer am gludo'i gynnyrch gyda'r tren, ac etto i gyd yr oedd yn gwneyd bywoliaeth dda i ddau deulu, ac hefyd, yn cynnorthwyo eraill i fyw-y cyfan ar saith acer o dir. Yr arfer yn mysg ffermwyr mawr, oedd cyflogi deugain o weithwyr ar gyfer pob mil o aceri, a dywedai wrth y tir-feistr nas gallai gyflogi mwy am nad oedd hynny yn talu iddo. 0 herwydd hyn, ni cheid o'r tir yr hyn allasai gynnyrchu, ac yr oedd yn rhaid cael ymborth o wledydd tramor i wneyd i fyny'r diffyg, er y gallesid cynnyrchu hwn gartref., Pe cawsai y ffeim o fil o aceri ei thrin yr un modd.a'r saith acer, yn lie cyflogi deugain o lafurwyr, fe fuasai yn cadw saith ugain .0 dsuluodd, a cynnifer a hyny, hefyd, o lafurwyr eithriadol. Caed enghreifftiau eraill hynotach fyth gan Mr Owen o'r hyn ellid elwa oddi ar ardd marchnad.' Llwyddai un dyn, a gychwynodd ar y gwaith yn lied hwyr ar ei yrfa, i wneud incwm clir o 500p. y flwyddyn yn y dull hwn, a darfu i un arall cyffelyb iddo werthu gwerth 1,200p. y llynedd oddi ar ei dyddyn, ac elw rhagorol iddo ei hun. Gallai garddwr proffeswrol yn awr wneyd 200p. y flwyddyn oddi ar haner acer, ac yr oedd un arall, gyda deng acer, yn gwneyd mil o bunnau oddi wrth flodau a mefus. Gwyddai am dàynftrall ddechreuodd gydag ychydig sylltau ddeng mlynedd ar hugain yn ol a chanddo yn awr wyth mil o bunnau yn y bane. 0 Wledydd Eraill. I Dywedodd Mr Owen yn mhellach fod y wlad hon yn talu dau gan miliwn o bunau y flwyddyn am ymborth o wled- ydd tramor, pob ceiniogwerth o'r hwn ellid gynnyrchu gartref, yn cynnwys gwenith. Yr: oedd gwerth yr ymenyn, wyau, a chigmoch a ddygid i'r wlad hon o Denmarc yn unig yn ugain miliwn yn y flwyddyn. Darparai hyn gyflawnder o waith i'r llafurwr yn Denmarc, tra yr o,edd marchnad lafur y wlad hon yn farwaidd neillduol. Dygid i Lundain yn unig bob wythnos chwe mil- iwn ar hugain a banner o wyau o wledydd tramor, lliaws mawr o honynt o Morocco a'r Aipht. Pris yr wyau yn Llundain oedd 2s. 9c. i 3s. y dwsin; yn Mhwllheli ls. 3c. y dwsin. Da oedd ganddo feddwl fod yr amaethwyr yn dechreu deffro i bwysigrwydd y mater a gwnai y Gymdeithas Arpaethyddol Drefniadol gryn lawer o waith da yn y cysylltiad hwn. Cydweithrediad. I Nid oes angen esgusawd dros alw sylw ffermwyr Gogledd Gymru at yr angenrheidrwydd am gydweithrediad rhyngddynt a'u gilydd ynglyn a mater ion sydd a fynont mewn modd arbenig a'u llwyddiant fel dosbarth. Erbyn hyn y mae yn ehwe sir y Gogledd gang- en effeithiol wedi ei sefydlu o'r Gym- deithas Amaethyddol Drefniadol—' The Agricultural Organization Society'—ac y mae'n dda genym feddwl fod y gangen yn gwneud gwaith rhagorol dros amaeth- wyr Gogledd Cymru. Magwraeth Da Byw. Mae gan y Llywodraeth gynUun new ydd ynglyn a i-nagwraetli Da Byw. Yn ol y cynllun darperir swm o 23,000p. i Loegr a Chyrnru i wella rhywogaeth anifeiliaid 5,000p. L gymdeithasau yn ymwneud a liaeth, ac 8,400p. i dalu cyflogau swyddogion i arolygu y gwaith o wella ansawdd y Da Byw yn ngwahan- 01 ranau y wlad—yn gwneud cyfanswm o 37,000p. y flwyddyn. O'r swm hwn fe dderbynia Cymru 188p. i gyflenwi Baeddod; 2,586p. i ddarpar Teirw; 1,680p. i ddarpar ceffylau gwedd, a 950p. i gymdeithasau yn ymwneud a llaeth- cyfanswm o 5,404p., yn annibynol ar yr hyn a ddarperir argyfer y swyddog- ion a benodir i arolygu y gwaith o wella Da Byw. Gallai-rhai dybio fod y swm a enwyd lawer yn rhy fychan, ac fod y cynllun yn rhy gyfyng, ond yn sicr bydd y cynllun o fendith anrhaethol i Gymru trwy symbylu y gwaith o wella rhywog- aeth anifeiliaid; ond er dwyn hyn o amgylch rhaid wrth gefnogaeth galonog ffermwyr yn mhob rhan o Gymru. <

- - - -Llythyrau at y Got…

- I J ISOCIAL CONNAH'S QUAY.,