Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

'rCenhadaethau gellgylaidd..1…

-TIPYN 0 BOPETH.-II

DETHOLION SEIAT. ,I

News
Cite
Share

DETHOLION SEIAT. I Gweddi yn hanfodol i wir grefydd. Digrefydd vwlr sawl ni weddiant, pa mor gywir bynag eu credo, a pha mor drefnus. bynag eu hymarwedd- iad allanol. Rhaid i grefydd gyfan, gyfoethog, yn llawn o syniadau clir, ac o deimladau dwysion a dyfnion, ac yn helaeth mewn gweithredoedd da, ddibynu ar weddi ddibaid, gweddio mewn gweddi—hyny yw, yn daer a dif- rifol, yn grediniol ac yn galonog, yn hynaws a hyderus. Y mae gweddi yn grymuso crefydd ac fel y dywedir am yr organ ei bod yn cyfoethogi'r canu yn yr addoliad cyhoeddus, felly y mae gweddi yn cyfoethogi crefydd. Ac i, wneud defnydd pellach o'r gymhariaeth hon, da fod gweddi yn gyfeilydd pob peth crefydd mewn barn a buchedd, mewn ymarweddiad ac ymddygiad, mewn myfyrdod a moliant, yn y cartref a'r cysegr, yn mhob gwasanaeth a gwaith. Gweddi daer gyda phob dyfal bar- had a wna ein crefydd yn gyflawn ac yn llewyrchus, ac a wna ei pher- chenog yn ddedwydd a gwir ddef- nyddiol. Heb y weddi ddyfal bydd y crefyddwr yn druenus o eg wan ac eiddil, heb feddu "syniad yr ysbryd," ac heb barodrwydd i waith yr Arglwydd. Ond y mae yr hwn sydd yn rhodio gyda Duw mewn cymundeb a gweddi yn ymaflyd yn nerth yr Hollalluog; yr effaith ydyw grym a gwres yn ei grefydd, a daw ei dduwioldeb diamheuol i'r golwg-" a'th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel a dal i ti yn yr amlwg." Undeb yr Eglwys. Mae i undeb yr eglwys dair ag- wedd, sef undeb egwyddor, yr hyn yw cariad; undeb ysbryd, sef gwasanaethgarwch, ac undeb am- can, sef iachawdwriaeth eraill. Trwy feddu cariad at Grist, cariad at eu gilydd, a chariiad at y byd, cariad at ddynion yn mhob cyflwr a sefyllfa, y mae yr eglwys yn meddu ar allu i greu adnoddau yn barhaus i gario yn mlaen y gwaith. Mor ddinod oedd y disgyblion cyn- taf a ddanfonwyd allan gan Grist, ac mor ychydig, oeddynt ar gyfer gwaith mor fawr. Er hyny, y dyst- iolaeth am danynt yn fuan oedd, eu bod yn troi y byd a'i wyneb i waered." A dirgelwch eu llwydd iant-neu o leiaf un elf en bwysig yn eu llwyddiant,-oedd y ffaith fod y rhai a enillid ganddynt yn cael eu meddianu a'r un ysbryd a hwythau, ac yn troi yn genhadorj i enill eraill. 0 mor fendigedig yw gwaith yr Eglwys yn y byd, wrth edrych arni yn ngoleuni amcan ei sefydliad, sef iachawdwriaeth en eidiau: yr holl aelodau wedi eu hysbrydoli gan yr un amcan, yr aelodau gwanaf fel y rhai cryfaf, y rhai mwyaf didalent fel y rhai mwyaf talentog, sef yr amcan oedd gan Iesu yn gadael ei orsedd, ac yn myned i Galfaria i aberthu ei fywyd dros eraill. Ac er mwyn cyrhaedd y nod, rhaid i'r eglwys fod yn un. Gall dynion drwy undeb wneud gorchestion fyddai yn anmhosibl iddynt eu gwneud ar wahan i'w gilydd. Felly hefyd, undeb yw hanfod llwyddiant holl sefydliadau yr Eglwys. j Crefydd yn yr achau. Dywedir nad yw crefydd ddim yn rhedeg yn y gwaed. Credwn nad oes neb yn meddu crefydd yn unig am fod eu rhieni yn grefyddol, rhaid achub eu plant hwy fel plant pobl eraill. Ond gwirionedd a ddysgir yn bendant yn y Beibl, ac a gadarheir gan ffeithiau yw, fod Duw yn bendithio plant y rhai sydd yn ffyddlon i'w enw, a rhed crefydd yn yr achau o genhedlaeth i genhedlaeth. Nid yw hyn yn cym- eryd lie heb ofal a llafur, ac heb i'r plant ddilyn esiampl1 eu rhieni yn yr hyn sydd dda. Mae yr Apostol Paul wedi symio i fyny addysg y ddau Destament mewn perthynas i ddyledswydd y plant tuagat eu rhieni yn. v geiriau hyn y plant ufuddhewch ich rhieni. yn yr Arglwydd; canys hyn sydd gyf iawn anrhydedda dy dad a'th fam (yr hwn yw y gorchymyn cyntaf mewn addewid) fel y byddo yn dda i ti, ac fel byddoch hirhoedlog ar v ddaear. Un o roddion penaf Duw i'r plant yw rhieni duwiol, ac os, diystyra plant eu rhieni drwy beidio ufuddhau iddynt, na gwr- ando ar eu haddysg, nis gellir dis- gwyl fawr o ddaioni oddiwrthynt ;w I'aivr o hwn na'r byd a ddaw. Ond cyn y gallwn ddisgwyl. i grefydd gario dylanwad parhaus ar v plant, rhaid iddi gael lie amiwgynyteulu.

FFARMIO A FFERMWYR. l

- - - -Llythyrau at y Got…

- I J ISOCIAL CONNAH'S QUAY.,