Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

'rCenhadaethau gellgylaidd..1…

News
Cite
Share

'r Cenhadaethau gellgylaidd..1 iL. -—— 1 iI w'c (Adgofion Cysurlawn.) I f  —— (Gan y PARCH HUGH HUGHES). I III. I PENMACHNO. I Yn nechreu Chwefror, 1868, y gwa- hoddwyd fi gan gyfeillion bywiog ac aiddgar Penmachno i gynhal Cenhad- aeth yno. Gwelais ar unwaith fod yn yr eglwys gryn aeddfedrwydd ar gyfer ymosodiad ysprydol ar deyrnas y gelyn. A chan belled ag yr oedd nerthoedd ys- gydwol yn y cwestiwn, ni theimlais ddim cyffelyb yn flaenorol er y Diwyg- iad 1859. Yr oedd y dylanwad fel gwynt nerthol yn rhuthro, a'r Saint yn neidio, dawnsio, curo dwylaw, ac yn gorfoleddu yn uchaf eu lleisiau. Dacw yr hen Sian Thomas ar ei thraed ac yn gwaeddi nerth ei phen a'i chalon, nes gyru rhyw wefr rhyfedd trwy y lie—yr hen frawd Robert Roberts, Swchyrhaf- od, yr hwn y pryd hwnnw a breswyliai yn Penmachno, fel daeargryn yn ysgwyd i graidd ei fodolaeth, ae yna dorri allan felllosg. fynydd, nes y llifai y tan odd aith i bob cyfeiriad. Yn y man dacw freichiau hirion a phreiflion Griffith Roberts yn ymsaethu i'r nefoedd a dod at eu gilydd lawer gwaith i selioyrHaleliwia ddaethai allan yn fonllef annesgrifiol o'i enau a'i galon. Dacw William Roberts a William Davies, mab Sian Thomas- dynion tawelaeh, ond angerddol o dyner a dwfn eu teimlad, yn toddi fel cwyr o flaen y tan, gan wylo ev, gorfoledd allan yn lli. A dyma nodwedd y cyfarfodydd ar ei hyd. Terfynodd y Genhadaeth y nos Sul dilynol, ac y mae rhoddi des- grifiad llawn o'r dylanwadau nerthol y diwrnod hwnnw tu hwnt i'm gallu. Bu yn fendith ac yn wroldeb ar gyfer y dyfodbl i'm henaid i fy hunan. Cafodd yr Arglwydd rhyw oruchafiaeth fawr- eddog ar y dyrfa fawr, a phawb fel pe wedi ymollwng i gael eu cludo gan y llifeiriant i'r lie y mynai Duw. Nid oedd rhif y dychweledigion mor fawr ag a welais mewn rhai lleoedd eraill, a nodweddid gan arddangosiad o'r fath nerthoedd ysgubol. Dichon fod y fath gyffro yn mysg y Saint yn arddangosiad oedd yn tynu sylw y gwrandawyr oddi- wrth genadwri arbenig y pwlpud. Pa fodd bynag, yr oedd yn ddyddiau y nef- oedd ar y ddaear. Teimlwyd nerthoedd a ymweithient o'r anweledig i'r eglwys weledig, a gryfhaodd ffydd llawer yn ngallu Duw i ddelio yn ogoneddus gydag eneidiau dynion pechadurus yn ogystal a'r Saint. Y mae yr adgofion am y nerthoedd hynny yn parbau i fod yn ffynhonell nerth i'm calon yn y cyfnod aflwyddianus hwn ar grefydd yn ei hag- weddau uwchaf, cyfnod y mae sosials a gwleddoedd yn ormod o factor i gadw pobl ieuanc rhywfodd mewn undeb a'r eglwysi. Ycbydig iawn sydd yn Pen- machno heddyw, ag sydd yn gallu ymuno a mi mewn adgofion melus fel hyn. Y maent bron oil wedi croesi y llinell i'r lie y mae ei drigolion oil yn canu can Moses a chan yr Oen." Gweddied eu holafiaid am yr un nerth oedd dwyfol. Rhaid eu cael eto, er o bosibl mewn ffurfiau gwahanol, cyn y daw y wlad dan lywodraeth y Brenin Ieiu. DINBYCH. I Yn ystod y gauaf cyntaf wedi i mi ymsefydlu yn Cefnmawr, tua diwedd y flwyddyn 1868, y gwahoddwyd fi i gyn- hal Cenhadaeth yn Ninbych. Yn Salem y cynhelid y cyfarfodydd ac eithrio nos Sul pan y bu raid symud i Pendref oherwydd y dyrfa. Cymerwyd diddordeb byw iawn yn y symudiad gan oreugwyr yr achos. Ac eithrio Mr Harrison Jones, a Mr L. W. Griffith, Llandudno, yr hwn oedd yn ddyn ieu- anc iawn, y maent bron oil wedi gadael am wlad y gwynfyd tragwyddol. Ni nodweddid y cyfarfodydd gan gyffro gweledig mawr, ond yr oedd yno ddylan- wad distaw, angerddol, a threiddiol, ag ydoedd yn llenwi y bobl ag awyddfryd i fod yn y Ty yn addoli ddydd a nos. Ymlonyddent yn hyfryd a phwyllog yn y dylanwadau dwyfol-y cyflwr medd- wl a bywyd hoffwn weled yn nodweddu eglwys Dduw bob amser ac yn mhob man. Tua. 30 a ymunasant a'r eglwysi yn ystod yr wythnos, a throdd rhai o honynt yn ddynion o ddefcyddioldeb, a dylanwad mewn gwahanol fanau. Cym- erwyd rhai o honynt gartref yn ystod y ddwy neu dair blynedd diweddaf. Cef- ais ymddiddan hyfryd a benditbiol a rhai o honynt yn nghylch y blynydd- oedd o'r blaen pan y digwyddem gyfar- fod a'n gilydd. Ac nid wyf wedi cyfar- fod a neb o honynt na ddatganent mai yr adgofion o'r cyfarfodydd hyn oedd y peth mwyaf anniieadwy yn eu boll bywyd. Ac heb adgofion o'r fath yma, fe dderfydd ein banes fel mwg wrth ein sodlau. Nid oes dim llai na'r nerthoedd ysprydol yn yr eglwys, ddeil i edrych yn ol ato oddiar Fryniau Caersalem." Fel y crybwyllwyd, yn adeg y Gen- hadaeth hon, yr oeddwn newydd symud! i Cefnmawr, Cylchdaifch Llangollen, 01 Golwyn yma. Ac yr wyf yn nodi hyn! yn y fan yma, am fod y gauaf hwn yn I Cefnmawr yn un gyfres ddifwlch o gyf- arfodydd bendithiol iawn. Yr oedd nifer yn dod i mewn bob nos Sul am fisoedd. Ac 0 nid oes dim mwy llawn o nefoedd i yspryd pregethwr na llwyddiant fel hyn, yn ei le trigianol ei hun. Pan aethum yno, yr oedd y capel presenol yn cael ei adeiladu, a ninau yn addoli mewn rhyw ystafell gerllaw ag ydoedd mewn gwirionedd yn rhy fach i'r gynulleidfa reolaidd. Yr oedd y lie bob amser yn orlawn ar nos Sul, ac yr oedd hynny fel pe yn ychwanegu y cynesrwydd ysprydol oedd yn yr eglwys. Pa fodd bynag y rboddir cyfrif meddyl- egol am dano, y mae rhyw wefr mewn tyrfa sydd yn agos at y pregethwr, ac at eu gilydd. Ac yn ddiddadl, y mae tuedd boenus i'r pregethwr, yn yr oes hon, i adael cymaint o wagle cydrhyngddynt a'r pregethwr ag a allant. Yr wyf yn credu, pe gallai Ilawer o'n pobl sylwedd- oli y dylanwad ga hyn ar feddwl y pre- gethwyr, y deuent yn nes, er peri i'r gwefr dynol droi yn fanteisiol i'r gwefr dwyfol yn ngwasanaeth y cyssegr. Caf- wyd hyn oil yn Cefnmawr yr adeg hono, ac mae yr adgofion mor fyw heddyw, nes y teimlaf fy hun yn nghanol y tan oddaith. Y mae y nifer fwyaf ddych- welwyd yn Cefnmawr yn ystod y gauaf hwnnw, i'w cael mi gredaf yn y nefoedd, wedi gadael yr anial yn lan. Cadwyd i fyny y gwres ysprydol trwy weithgar- wch ysprydol yn ystod yr haf. Cafwyd llawer odfa am 5 o'r gloch prydnawn Suliau yn nghymydogaeth Acrefair, lie y mae genym achos yn awr, a deuai llawer o esgeuluswyr yn yr orymdaith gyda ni, a sicrhawyd llawer o honynt i'r gynulleidfa reolaidd ac i'r Eglwys. Tybed nad oes mawr angen am hyn yn awr, er mwyn dod i gyffyrddiad a'r byd mawr pechadurus sydd yn gorwedd tu allan i'n cynulleidfaoedd ?' (I barhau).

-TIPYN 0 BOPETH.-II

DETHOLION SEIAT. ,I

FFARMIO A FFERMWYR. l

- - - -Llythyrau at y Got…

- I J ISOCIAL CONNAH'S QUAY.,