Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL.

[No title]

.I DETHOLION GWLEIDYDDOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I DETHOLION GWLEIDYDDOL. Ysgafnhau Trethi Lleol. I Mae gan y Canghellydd fesur pwysig yn paratoi er mwyn gwastatau treth- oedd yr hen wlad yma. Mae addysg y plant yn costio £ 7 10s yn Barry, ond t2 12s 1c yn Pontefract. Mae'r dreth ysgol yn ddau swllt yn Walthamstow, ond pum ceiniog ym Maesyfed. Fel rheol, y tlodion sydd yn cael dioddef o dan yr amgylchiadau hyn. Un o ddibenion y mesur newydd fydd gosod pen 'tryma'r baich ar ysgwyddau'r cryfion. Beth bynag, ceisir gwasiatau'r baich mewn modd cyfiawn. Gan mai mesur arianol fydd, ni ofynir caniatad yr Arglwyddi. Mae Budget anfarwol Mr Lloyd George wedi setlo hynny am byth. Diolch am y Parlament Act! Un bai sydd arni, sef fod eisieu cario'r meeurau Seneddol dair gwaith i'r Ty Uchaf; ond fe geir pen ar hynny hefyd maes o law. Y Marconis eto. I Gan nad oes program ganddynt, y mae'r blaid Doriaidd yn penderfynu ad- gyfodi helvnt Marconi. Cofir fod Mri Lloyd George a Rufus Isaacs wedi. pasio drwy'r tan. Yr oedd Arglwydd Elibank (y Whip Rhyddfrydig) allan o'r wlad ar y pryd. Erbyn hyn y mae yn ol, a'r nos o'r blaen gwnaeth esboniad Ilawn, ac arnlygodd i Dy yr Arglwyddi ei olid am y camgymeriad. Ond y mae Arglwyddi yn codi'r mater eto i'r gwynt, gan obeithio gwneud party capital' ohono. Wrth gwrs, y mae pob Tori respectable yn cashau y fath ysbryd ond y dyddiau hyn y gynffon sydd yn ysgwyd y ci, nid y ci yn ysgwyd y gynffon. I Etholiad Leith. Yn yr etholiad yn Leith a wnaed yn wag trwy appwyntiad Sir R. Munro Ferguson yn Llywodraethwr Australia, enillwyd sedd i'r Toriaid. Mr G. W. Currie (U-) 5,159 Mr M. Smith (R.) 5,143 Mr J. M. Bell (Llaf.) 3,345 Mwyafrif y Undebwr 16 I Gwelir fod yma fwyafrif mawr ymhlaid y Llywodraeth, serchcolli y sedd. I Gwerth Deddf yr Yswiriant. I TYSTIOLAETH MEDDYG. Dyma fel yr ysgrifenai un meddyg sydd ar panel' yr yswiriant i un o'r newyddiaduron Seisnig yr wythnos ddiweddaf:— Yn ystod deuddeng mis cyntaf y ddeddf yr wyf wedi rhoddi agos i 2,000 o ymweliadau a'r yswiriedig. Yn flaen- orol i'r ddeddf yr oeddwn yn rhoddi o fewn yr un amser octdeutu 200 yn unig I Yn awr daw dynion a merched ataf o berthynas i'r hyn all ymddangos iddynt hwy yn ddibwys, ond arweinia yn ami i liaws o fywydau gwerthfawr gael eu harbed trwy weithred feddygol union- gyrohol. Cyn y ddeddf ni ddeuent hyd nes y byddai yn rhy hwyr yn ami. Yn a- r prin y byddaf yn ysgrifenu tysfcys- grif o farwolaeth; cyn hyny, byddwn yn ysgrifenu amryw. Ar hyn o bryd yr wyf yn gweini ar ddyn a gwraig—y ddau yn wael iawn. Y maent yn derbyn gan y wladwriaeth 17s. 6c. yr wythnos, a gweinyddiad oaeddygol rhad. Cyn y ddeddf byddai raid iddynt dori i fyny eu cartref, a myned gyda'u plant i'r Tlotty. Gallwn libsogi achosion cyffelyb yn dangos y buddion a ddeillia o'r ddeddf fwyaf a basiwyd erioed ar gyfer dynioia a merched y wlad. Pe buasai y Toriaid wedi ei ddwyn i mewn buasent yn ym- ffrostio o herwydd1 hyny am y ganrif nesaf. Cyflog Aelod ac Esgob. Un o brif ensyniadau yr Esgob Owen pan ar faes y rbyfel yw fod Aeiodau Seneddol yn cael 9400 y flwyd^yn Mae'r Esgob ei hun yn cael £4,500 a phalas. Cawsai rhyw £10 y mis pe wedi aros yn Fethodist. Gan fod y ddwy blaid boliticaidd fel eu gilydd yn cael eu talu, rhaid fod Mr Bonar Law a Mr Balfour yn cael em J6400. Mae'r Esgob felly yn cael cyflog rhyw uu Seneddwr ar ddeg a chiwrad, a phlas Abergwili yn y fargen. Taw pia hi boys. Peth hyll ydyw clywed pentan yn gwaeddi parddu." I YmneilldUWYadWaddOliad Mr Haydn Jones (R.), sir Feirionydd. a ofynai i'r Prifweinidog pa un a fyddai i'r ddeiseb dderbyniwyd ganddo yn erbyn adran Dadwaddoliad o Fesur yr Eglwys gan Ymneillduwyr esgobaeth Llanelwy gael ei chyflwyno yn Nhy y Cyffredin er ei throsglwyddo i Bwyll- gor y Deisebau Cyhoeddus ? Mr Asquith:—' Nid yw y ddeiseb, fe ofnaf, yn y ffurf y gellir ei chyflwyno i'r Ty.' Mr S. J. Hoare (C-):—' A yw y Prif- weinidog yn myned i dderbyn dirprwy- aeth o'r arwyddwyr?' Mr Asquith:—' Yr wyf yn gobeithio gallu gwneud hynyl' Ei Ethol yn Llywydd Mae John Hinds, A.S., dros Orllewin Caerfyrddin wedi cael ei ethol yn Llywydd y Drapers' Chamber of Trade dros y Deyrnas Gyfunol. I Sedd Wag. Bu farw Syr Alexander Cross, cyn- aelod Seneddol Toriaid dros Camlachie, Glasgow, yr wythnos ddiweddaf. Yn etholiad Ehagfyr, 1910, safodd dros y rhanbaTth fel Rhyddfrydwr, ond ya afiwyddianus.