Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

\- Y -Senedd. -I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y Senedd. I L !■ I i I ;'< Mesur Dadgysylltiad. 'I iiWl-4 DEISEB ESGOBAETH LLAN- I ELWY. Aed ym mlaen gyda'r ddadl ar yr An- erchiad mewn ateb i Araeth y Brenin. Yr Anrhyd. W. Ormsby-Gore (C.), Bwrdeisdrefi Dinbych, a gynnygiodd welliant Yn gofidio fod y Llywodraeth yn bwriadu myned yn mlaen gyda Mesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru, gan nad oedd yn aael ei gefnogi gan y wlad, a'i fod yn a.cbosi gwrthwynebiad cynyddol oddi wrth aelodau yr holl enwadau yn Lloegr a Chymru.' Aeth Mr Ormsby-Gore yn mlaen i ddweyd nad oedd neb erioed wedi gwneud unrhyw ymgais i ddangos lod yna gefnogaeth boblogaidd y tu ol i'r Llywodraeth i'r mesur hwn ar ei rinweddau ei hun. Y cyfan oedd y Llywodraeth yn ei wneud ydoedd def- nyddio enw y bobl er cario allan opin- iynau a dymuniadau y glymblaid (' caucus '). Nid oedd yna unrhyw frwdfrydedd dros y mesur yn y Ty. Trwy gynorthwy y blaid Wyddelig, yr oedd y glymblaid wedi cario dau o brif bwyrtiau y mesur, ac oni bae ei fod yn rhan a chyfran o gynllun y glymblaid, ni buasai y mesur wedi cael siawDs o basio trwy y Ty. Aeth Mr Ormsby- Gore yn mlaen i gyfeirio at y protest gyhoeddwyd y boreu hwnw, wedi ei arwyddo gan 15,000 o Ymneillduwyr yn N ghy mru- protest, fe ddywedai, oedd wedi ei godi gan bwyllgor o'r Rhydd- frydwyr mwyaf cadarn. Nid gwehilion Ymneillduaeth oeddynt, ond dynion blaenllaw, pa rai ddaethant allan i'r cyhoedd yn erbyn y cynnygion. Yr oedd dros 700 yn dyfod o blwyf Rlios- llanerchrugog, yn nwyreinbarth sir Ddinbych, yr hwn le a gydnabyddid fel un o brif gadarnfeydd Rhyddfrydiaeth yn Ngogledd Cymru, os nad yn y Dy- wysogaeth. Wedi hynny aeth yn mlaen i ddyfynu o'r 'Faner.' Nis gellid dirmygu y 15,000 Ymneillduwyr hynny. Yr oedd y protest wedi ei arwyddo gan 29 o weinidogion, a 158 o ddiaconiaid o'r gwahanol enwadau Ymneillduol. Yr oedd y protest wedi ei harwyddo ar waethaf y ffaith fod yr aelod anrhyd eddus dros sir Fflint wedi argymhell pobl i beidio ei harwyddo, ac ar waethaf pob ffurf o ysgriw y capel. Mr Herbert Lewis a ddywedodd mai yn yr unig gyfeiriad a wnaeth ef at y ddeiseb dywedai ei fod yn gobeithio na byddai i unrhyw landlord ofyn i'w den- antiaid, na byddai i unrhyw gwsmer ofyn i'w fasnachwr, ac na byddai i un- rhyw gyflogydd ofyn i'w weithiwr ar- wyddo y ddeiseb. Tynodd Mr Ormsby-Gore ei sylw yn 01 o berthynas i'r aelod anrhydeddus. Nid oeda y bobl ddarfu arwyddo y ddeiseb yn ildio i unrhyw ysgriw o gwbl (cym. yr Wrthblaid). Yr oedd y mesur yn cael ei basio fel y lever' goreu i gael swyddi, gwobr, a gwaith (cym. yr Wrthblaid). Yr oedd y Lly- wodraeth yn dwyn i mewn y Goron er gor-drechu barn y bobl (gwaeddiadau o Trefn Trefn !'). Y Llefarydd:—' Nid wyf yn meddwl ei bod yn angenrheidiol i ddwyn y Goron i mewn i'r mater hwn' (cym. y Rhyddfrydwyr). Tynodd Mr Ormsby-Gore ei sylw yn ol. Ei safle ef ydoedd fod y Llywod- raeth wedi defnyddio rhagorfraint y Goron er dwyn y cyfansoddiad gwladol i gyflwr o bediad, ac yn ystod yr oediad yr oeddynt yn ceisio gwthio yn mlaen yn erbyn cydsyniad cyhoeddus Fesur Ymreolaeth a Mesur Dadgysylltiad er eu pasio yn gyfreithiau (cym. yr Wrth- blaid). Eiliwyd y gwelliant gan Syr A. Griff- ith Boscawen (C.). Mr McKenna a ddywedai mai yr unig gasgliad ellid dynu oddi wrth areithiau y cynnygydd a'r eilydd ydoedd fod y Llywodraeth, er mwyn egwyddor, yn barod i aberthu eu poblogrwydd (cym. y Rhyddfrydwyr). Cytunai nad oedd y mesur yn cael ei hoffi gan adran o'r bobl, ond yr oedd hynny bob amser wedi bod, ond yr oedd yna ddigon o dystiolaeth fod barn gyhoeddus wirioneddol Lloegr a Chymru yn ffafr y mesur. 0 berth- ynas i'r honiad fod y mesur yn myned yn amhoblogaidd, dywedodd Mr McKenna fod yna dair o etholiadau achlysurol wedi cymeryd lie yn y Dywysogaeth er pan gyflwynwyd y mesur, ac yr oedd y mwyafrif unol yn ffafr y mepur dros 4,000 o bleidleisiau, tra nad oedd mwyaf- rifau unol yr aelodau Ceidwadol eis- teddent dros dair etholaeth Gymreig yn rhifo mwy na 300 (cym. y Rhyddfryd- wyr). Nid oedd ond un etholiad ach- lysurol wedi bod yn Lloegr ar ba un yr oedd y cwestiwn Cymreig yn troi-a honno oedd Bolton-ac enillodd yr ym- geisydd Rhyddfrydig y frwydr gyda mwyafrif o 1,200, yr hyn a brofai fod y mesur mor boblogaidd yn Lloegr hedd- yw ag erioed (chwertbin yr Wrthblaid). Trwy ddyfyniadau o areithiau etholiad- ol aelcdau yr Wrthblaid dadleuai Mr McKenna fod y bobl yn gwybod am fwriad y Llywodraeth i basio y mesur hwn dan y Ddeddf Seneddol, ac nid oedd yina arwydd o gwbl ei fod yn myned yn amhoblogaidd (cym. y Rhyddfrydwyr). Yn mhellach, o berth- ynas i Gymru, yr oedd y lleiafrif o gynrychiolwyr seneddol oeddynt yn wrthwynebol i ddadgysylltiad wedi disgyn o naw i dri yn ystod y 19og mlynedd diweddaf. Nid oedd y ffaith yna yn dangos unrhyw ostyngiad yn mhoblogrwydd y mesur (cym. y Rhydd- frydwyr). Nid oedd cysgod o amheu- aeth nad oedd cryfder y teimlad yn ffafr dadgysylltiad a dadwaddoliad heddyw mor gryf ag erioed (cym. y Rhyddfrydwyr). 0 berthynas i'r ddeis- eb a nodwyd, yr oedd y pwyllgor wedi dewis esgobaeth fel canolfan neu gylch eu cyfundrefn. Hysbysid ef (Mr McKenna), hefyd, fod cadeirydd y pwyllgor a gododd y ddeiseb i fyny yn Geidwadwr selog, ac os oedd efe yn aelod o'r eglwys Ymneilltuot yn y lie nad oedd mwyach yn byw ynddo, nad oedd efe wedi ymuno ag eglwys Ymneillduol yn y lie yr oedd efe yn awr yn byw (chwerthin). Yn sicr, yr oedd yn Geid- wadwr selog. Pa dystiolaeth oedd yna fod y teimlad wedi newid pan oedd Ceidwadwr yn arwyddo y ddeiseb ? Gofynai i'r aelod anrhydeddus gyfeir- iodd at y ddeiseb os oedd efe yn gwneud ei hun yn gyfrifol am ddwy ffaith hon- edig ganddofod y 15,000 oeddynt wedi arwyddo y ddeiseb yn Ymneilldu- wyr, ac fod yna 29 o weinidogion a 158 o ddiaconiaid yn mysg yr enwau. Mr Ormsby Gore a ddywedodd nad oedd efe yn gyfrifol am y ddeisdeb. Nid oedd ef na'r Ceidwadwyr yn gyfrif- ol am dano. Mr McKenna a ddywedodd fod y boneddwr anrhydeddus yn cydnabod mai ychydig iawn a wyddai am y ddeiseb. Hysbysid ef fod Mr Williams, cadeirydd y pwyllgor, yn Geidwadwr cryf. Gofynai Mr McKenna i'r Ty attal barn ar y ddeiseb hyd nes y dygid hi ger bron Pwyllgor y Deisebau. Yr oedd eisoea. wedi cael allan fod nifer o'r enwau yn yr un llawysgrifen. Yn ab- senoldeb y. ddeiseb hono nid oedd yna ddim tystiolaeth o unrhyw gyfnewidiad yn yffarn gyhoeddus (cym y Rhyddfryd wyr). Mr Hoare (C.), a siaradodd dros y gwelliant. Syr D. Brynmor Jones (R.), cadeir- ydd y Blaid Gymreig, a ofynai i'r Wrthblaid pa dystiolaeth fuasai eu hargyhoeddi fod y mesur hwn yn der- byn y cyfryw gefnogaeth fel ag i gyf iawnhau y Llywodraeth mewn myned yn mlaen gydag ef? A fuasent yn foddlawn pe mabwysiadai y Cymry yr un polisi milwriaethus a'r suffragets, neu fabwysiadu polisi rhwysfawr Ulster, ac arwyddo cyfamod er gwneud llywod raeth yn Nghymru yn amhosibl? Ai dyna'r dystiolaeth dderbynid ganddynt ? Nid oedd yr un symudiad er diwygio y Cyfansoddiad—naill ai yn yr Eglwys neu yn y Wladwriaeth-wedi derbyn y fath gefnogaeth gysson, eang a pharhaus, ag oedd yr un er dadgysylltu a dad- waddoli yr Eglwys Seisnig yn Nghymru (cym. y Rhyddfrydwyr). Mr Balfour (C.), a siaradodd dros y gwelliant, gan wadu nad oedd Cymru yn adran ar wahan yn ystyr y mesur hwn. Yr oedd hi yn rhan hanfodol o Lloegr, ac yr oedd y mesur yn effeithio ar yr Eglwys Saesnig. Mr W. Llewelyn Williams (R.), Caer- fyrddin, a wadai fod yna unrhyw dyst- iolaeth fod y mesur wedi myned yn ammhoblogaidd yn ystod y ddwy flynedd diweddaf. Yr oedd rhywbeth wedi ei ddyweyd o berthynas i ddeiseb yn erbyn y mesur a arwyddwyd gan 15.000 o Ymneillduwyr. Gyda gwyb- odaeth o nodwedd deisebau blaenorol, yr oedd yn ammheus o'r deisebwyr presennol, ond gallai fod yna amrryw Ymneillduwyr oeddynt yn anfoddlawn ar y mesur. Ar y Haw arall, camgym- meriad ydoedd meddwl fod pob Eglwys- wr yn erbyn y, mesur. Yr oedd yna fwy o Eglwyswyr os Gymru yn eistedd ar feingciau y Llywodraeth nag a eis- teddai gyda'r Wrthblaid. Gofynai a oedd yna Ymneillduwyr wedi troi eu lliwiau er yr etholiad diweddaf ? Yr oedd Cymru wedi hawlio y mesur hwn er's can mlynedd, ac yr oedd yn hollol sicr nad oedd Lloegr yn myned i osod rhwystr ar ffordd sylweddoliad o'i gob- eithion. Deuent yno mewn modd cyf- ansoddiadol-heb fygythiad ar eu gwefusau (cym. y Rhyddfrydwyr)—yn hyderus na byddai iddynt gael eu hamddifadu o'r weithred fechan hon o gyfiawnder. Ymranodd y Ty ar welliant Mr. Ormsby- Gore:— Dros y gwelliant 217 Yn erbyn 279 Mwyafrif i'r Llywodraeth 62 LlangacSwaSadr. Bu y Parch. W- O. Jones, Aber, yn clysgu trigolion Liangadwaladr, r»os Lun, peth mor angenrheidiol oedd Common Sense,

TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL. i

Advertising