Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
.-MANCHESTER. -I
MANCHESTER. I Cymdeithas Genedlaethol Cymry Man- ceinion.—Syr Vincent Evans fu yn dar- lithio i'r Gymdeithas uchod nos Wener, Chwefror 13eg. Ei destyn oedd The Preservation of our National Monuments." Traethodd y boneddwr uchod yn hynod dda ar y mater dyddorol hwn, mae ef yn awdurdod ar faterion o'r natur uchod, ac wedi cymeryd dyddordeb dwfn yn y gwaith. Mae Syr Vincent yn aelod o'r pwyllgor, er cadw yr hen arwyddion hyn yn eu ffurf gyntefig er mwyn yr oesoedd a ddel. Rhoddodd y boneddwr dysgedig amryw engreifftiau o adeiladau a cholofn- au wedi eu dinystrio gan bobl oeddynt an- wybodus o'u gwerth a'i defnyddioldeb mewn cysylltiad a hen hanesiaeth y wlad, ac amcan y Gymdeithas ydyw cadw a diogelu yr hen bethau hyn, er mwyn yr hanes sydd yn gysylltiedig'a hwy. Cym erwyd y gadair gan y Dr A. Emrys Jones sydd wedi bod yn noddwr i'r Gymdeithas Genedlaethol. Mae ef wedi bod yn gyfaill i'r Cymry yn Manceinion mewn llawer ys- tyr. Hir oes iddo. Yn yr un cyfarfod, darfu Syr Vincent Evans gyflwyno bathodyn i Parch D. D. Williams (M.C.), mewn cys- ylltiad a'r wobr enillodd Mr Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol Abergafeni, yn ystod yr haf diweddaf. J. E. LISTER. I
ST. PAUL'S ABERYSTWYTH.
ST. PAUL'S ABERYSTWYTH. CAERAU CEREDIGION. -NOS Iau, Chwef- ror 12tea, cafwyd cyfarfod o'r Gymdeithas Ddiwyliiadol dan lywyddiaeth y Parch Richard Morgan, pryd y darllenwyd papur meistrolgar gan Miss Lilian Davies, B.A., prif atbrawes Ysgol y Cyngor. Testyn Miss Davies ydoedd Hanes.caer- au Gogledd Ceredigion." Ymdriniodd yn fanwl ar hynafiaethau boreuol y genedl a'i harferion mor fore a 2000 o flynydd- au yn ol, a gwnaeth hyny mor syml a phe bai yn olrain digwyddiadau y dyddiau presenol. Yr oedd yn amlwg fod y pwnc yn ddyddorol iddi hi onide ni chymerai y drafferth i fanylu ar yr hanes. Danghos- odd fel yr oedd celfydddid yn dadblygu trwy y gwahanol gyfnodau. Hefyd cym- erodd olwg eang ar agwedd foesol a chrefyddol fel yr oeddynt yn addoli. Danghosodd Miss Davies fod i hen gaerau Gogledd Ceredigion eu hanes dyddorol, ac addysgiadol, ac yn arbenig Caerau Pen Dinas" sydd yn ein hymyl. Wrth gwrs manylodd lawerar y rhai hyn gan eu bod yn cymeryd rhan bwysig yn hanes dad- blygiad y genedl. Papur gwerthfawr a dysgedig. Ar y diwedd siaradodd nifer o frodyr ymhellach ar ragoriaethau y papur a bron yr oil yn dweyd fod Miss Davies wedi dweyd llawer o bethau hyd yn od am gaerau "Pen Dinas" na ddafru iddynt freuddwydio am danynt, a llawer yn pen- derfynuchwilio mwy i'r hynafiaethau sydd ynglyn a dadblygiad ein gwlad a'n cenedl. Wrth gwrs nid oes angen dweyd i'r cyfar- fod ddiolch yn gynes i Miss Davies am ei phapur gwerthfawr yn Gymraeg. GOH.
CAPEL GARMON. I
CAPEL GARMON. I CANU YN Y TRALLOD.—Mae yn sicr y bu- asai yn dda gan gyfeillion y brawd rhag- orol a ffyddlon teilwng i gael bod yn rhestr rhagorolion y ddaear, ond sydd heddyw wedi cael ei Shuntio' o'r neilldu i gornel gwely cystudd, sef y brawd anwyl John Owen, Plas y Rhos, gael gair bach ganddo sut mae hi yn dod yn y storm. Wrth gwrs eyfrinachol yw y llythyr, ond credaf fod yn werth cael profiad John Owen pe ond er mwyn y bobl ieuainc. Cofiaf yn dda sylw wnaeth yn y Can- xnlwyddiant. Byddaf yn caru cael marchio i ganlyn pob symudiad mawr." Bydded iddo adferiad buan yw dymuniad pawb. Croesynyd Hospital, Chwefror 14eg, 1914 Fy Anwyl Frawd, Diolch lawfer iawn am eich caredig lythyr. Cefais lawer o gysur yn ei gyn- wys mewn amgylchiad fel hyn. Mae adgoffa addewidion Duw yn dod yn gadernid o dan yr enaid. Wel anwyl frawd mae yn dda genyf allu dweyd fy mod yn teimlo yn well eto. Bu'm yn bur wael y tair wythnos ddiweddaf. Yr oedd fy ngwres wedi codi yn uchel iawn. Mae wedi dod i lawr, a 'r peswch yn well. Mae fy llais yn well. Ar ol i mi gael y Ward i mi fy hun heddyw y bore, medrais ganu yr hen ernyn melus. "0 Iachawdwr pechaduriaid Sydd a'r gallu yn dy law, > Dod oleuni hwylia'm henaid Dros y cefnfor garw draw, Gad i'r wawr fod o fy wyneb, Rho fy enaid caeth yn rhydd Nes i'r heulwen ddisglaer godi, Tywys fi wrth y seren ddydd." Hyderaf eich bod yn mwynhau nerth ac iechyd, ac yn cael Ilawer iawn o bleser a xnwynhad wrth gyh08ddi yr Hen Efeng- yl Dragwyddol. Daliwch i gofio am danaf. "Llawer ddichon taer weddi y cyfiawn." Cofiwch fi at bawb yna. Cofioa cynes attoch, v ( John Owen.
I-DYSERTH.-I
DYSERTH. I PREGETHU DIWYGIADOL.Bu yma yr wythnosau diweddaf gyfres o gyfarfodydd diwygiadol. Cawsom wythnos o gyfar- fodydd gweddio, ac yn dilyn cawsom gyfres o biegethau doeth ac efengylaidd gan y Parch Philip Price, Coedpoeth. Yr oedd yma gynulliadau da bob nos, rhai gwranda Vyr yn ffyddlawn iawn, a chred- wn y cyrhaedda genadwri ei hamcan, at y cawn rhai o'r Newydd yn dod i'r eglwys. Swn canmol glywir ar bob llaw. Yr oedd Y. pregethwr i orphen ei gytres nos Wener, ond y fath oedd y dylanwad nes y per.<derfvrodd y brodyr ofyn i'r Cenadwr aros dros y Sabooth, a threfnwyd i'r Parch D. Marriott (yned i gadw ei blan i Goed- poeth. Credwn, a dyna deimlad yr ardal, poh enwad, na chawsom well pr'egethau eriued, "f oedd,, mewn hwyl yn cynyg Gwareavvr i bechaduriaid, apeliai yn xiei vhol am ufudd-dod i'r alwad arbwys yr yr aberth a wnaed dros ddynoliaeth. Ccil.-d cenhadwr iechyd a nerth am fl, ddtu maith i wasanaethu ei enwad a'i lad trwy gyhoeddi newyddion da yr Efen yl y traethodd mor felus am danynt. \i ojd 31 ii dda genym weled yn ein piithv y 'circnedigion R. Lloyd Jones., Peter | Jo. ies a D. Marriott. YN GWELLA.- Yr oedd yn dda genym glywed fod ein parchus Arolygwr, y Parch A. W. Davies ar y ffordd i wella. Yr oedd- ym yn teimlo fod ei le yn wag gan ei fod bob amser gyda ni, ond gweddiwn ar i Dduwroddi iddo eto nerth, ac y caiff lwyr adferiad a hynny yn fuan ydyw dymuniad GOH. I
SOAR, RHYL. I
SOAR, RHYL. I CANTATA DRAMAYDDOL.^Cantata seil- iedig ar Mari Jones yn ceisio Beibl gan Thomas Charles gafwyd nos Fawrth, Chwefror lOfed, yn y Neuadd Drefol. Cafwyd cyflawniad rhagorol o'r uchod gan Gwmni o Ffynnongroew a Gwespyr a'r cylch. Cyfarwyddwr y Cwmni rhagorol hwn yw Mr Thomas Williams. Mae Mr Williams yn meddu ar fedr a dylanwad neullduol. Yr oedd wedi eu haddysgu yn berffaith iawn, a gwnaeth yr oil eu gwaith yn ganmoladwy, yn enwedig Mari Jones a Thomas Charles," a datganodd y plant bach yn swynol dros ben, a chawsant alwad i ail ganu. Yr oedd y cyfarfod drwyddo yn foddion gras. Y rhai mwyaf arbenig oeddynt, Miss Wilson, a'r Mri R. O. Williams a John Wynne. Yr oedd y Neuadd yn llawn, yr elw at gael ysgoldy newydd i Soar. Pwy bynag o ddarllenwyi7 y G. N. sydd hyd yn hyn heb gael y fraint o glywed y Cwmni yma, gwnewch frys i'w hymrwymo. Maent yn werth, ydynt yn wir. MARWOLAETH. Gyda gofid dwys yr ydym yn gorfod cofnodi am farwolaeth y brawd Mr Peter Davies, Brighton Road. Yr oedd sefyllfa iechyd Mr Davies er's blynyddau yn ei gaethiwo ar rai adegau i fynychu'r moddianau, eto i gyd, yn annis- gwyliadwy, daeth y diwedd Ionawr lüeg, 1914. Yr oedd yn gymeriad gwastad a llednais, ac yn ufudd iawn i holl alwadau y cysegr, ac yn hynod o ffyddlawn mor bell ag yr oedd amgylchiadau a iechyd, &c., yn caniatau. Yr oedd ganddo brof- iad crefyddol prydferth iawn. Llawer gwaith y clywais ef yn canmol ei Waredwr yn y class' ar nos Iau, ac yn diolch ei fod yn un o ddilynwyr yr Oen, ac fod ganddo nod uchel i gyrchu ato, sef lesu Grist, a bob amser yn diweddu yn ngeiriau'r Emynydd, "'Rwy'n penderfynu myn'd ymlaen," &c., ac erbyn heddyw mae wedi cyraedd y nod a gweled yr Iesu fel ag y mae, a chael bod byth yn debyg iddo. Claddwyd ei weddillion marwol dydd Mawrth, Chwefror 20fed. Gwasanaethwyd yn y ty ac yn y capel gan y Parchn R. Lloyd Jones a Daniel Marriott. Nos Sul dilynol traddodwyd pregeth angladdol oddiar Rhufeiniaid ix. benod, a'r adnod olaf, gan y Parch Evan Jones. Diddanedd yr Arglwydd y weddw a'r plant yn eu profedigaeth. Ychydig wyth- nosau yn ol yr oeddym yn diolch nad oedd angau wedi bylchu yr eglwys fach hon, ond dyma ymweliad uniongyrchol trwy symudiad y brawd Peter Davies. ERAILL MEWN GALAR.—Yn ystod y mis- oedd diweddaf, yr oedd yma deuluoedd yn nyffryn galar. Collodd y brawd Shem Jones fam anwyl a thyner, a'r brawd Wil- liam Roberts frawd ieuanc addawol yn yr America bell, a chwaer d distaw ac anwyl yn Llynlleifiad. Y mae ein cydymdeimlad a hwy yn ddwfn. Brofedigaeth lem i ninau oedd colli ein hanwyl chwaer Mary Ellen Roberts (gynt o Ty-ucha, Llysfaen), ond yn ddiwddar gyda ni yma. Un o'r dosbarth tawel, diwyd, amyneddgar, a llednais oedd hitbau. Yn nghanol ein galar, ein cysur yw, Ni wna gam a gwr yn ei fater Wrth law o hyd i wrando'n cri Nesau at Dduw sy'n dda i ni." L. A. R. I
PENMACHNO. I
PENMACHNO. I Rhaid i mi fel hen ohebydd fod yn wyl- iadwrus rhag croesi i faes gohebydd ieuanc y Gymdeithas Ddiwyliiadol,—cymer ef ofal am groniclo honno, a da ydyw ei waith yn gwneud, rhag i chwi dybio fod ardal Machno, gyda'r dirwasgiad mas- nachol, wedi myned i gysgu yn feddyliol, yr hyn fyddai yn gamarweiniol iawn. Ond gan i mi son am y Gymdeithas, goddefwch air o longyfarchiad i'r Llywydd, y Parch Daniel Williams, am yr egni mae wedi daflu i'w waith gyda'i ddyfodiad i'r gylchdaith. Mae yn rhyfeddol o deyrngar i drefniadau y llysoedd cyfundebol. Sef- ydlodd Gymdeithas Ddiwylliadol sydd yn flodeuog iawn, ac nid oes noson yn dianc nad yw yn darlithio neu bregethu adref neu yn eglwysi ereill y gylchdaith, a neb yn blino arno, eithr yn gobeithio na ddi- ffygia yn y gras hwn. Mae ei ddarlith ar Billy Bray yn gyfuniad chwaethus o'r difyrus a'r adeiladol, a thystiolaeth un brawd yn gyhoeddus yn y cynulliad oedd, na fuasai yn blino gwrando am awr arall arno, er fod yr hin ar y pryd yn eithafol oer. Mae gormod o amser wedi Ilithro heibio i gyfeirio at gwrs o gyfarfodydd gawsom ar ddechreu y flwyddyn newydd, -y cyfarfodydd gweddio poblog, a'r pregethau yr wythnos ddilynol gan y Parch Daniel Williams. Gofalaf rhagllaw fod yn fwy rheolaidd fy nghyfroddiad. DRAMA TAI D A INAII, neu" HelYflt Hen Aelwyd."—Newydd-beth yn Eglwys Beth- ania oedd cael nifer i ymgymeryd a dysgu Drama. Ond gwelodd y Parch Daniel Williams adnoddau posibl o'u deffro yn y bobl ieuainc, a byr waith fu hyn o beth, er ofnau lu, ac mae yr anturiaeth nid yn unig wedi troi yn Ilwyddiant, ond y mae cylch y galw am eu clywed wedi eangu, a chanmoliaeth gyffredinol ymhob lie idd- ynt.- Ofnaf mai oddicartref y byddamt yr wythnosau nesaf, gan mor boblogaidd ydynt. Mae Taid-Richard R. Roberts, High Street, yn naturiol fel hiraeth a Nain-Miss Emmy Williams, Post, Office, yn true to nature," a llenwir y gweddill o deulu yr "Hen Aelwyd" gan Mr David J. Williams, Preswylfa Miss Sarah Roberts, Liverpool House, a Master John Ellis Williams, Commerce House,—y tri fel eu gilydd yn naturiol i'r cymeriadau ynrych- iolir ganddynt. Dyma i chwi symudiad newydd daionus un sydd a chysgodion y dyfodol yn dod o'i flaen, a phwy wyr sawl talent ddaw i'r amlwg i fod o wasanaeth i Gymru. COLLI.-Mae y dirwasgiad yn y chwareli wedi bylchu llawer ar Eglwys Bethania, a'r beCid hefyd wedi cymeryd i mewn amryw wynebau anwyl a selog er pan yr ysgrifenais air am fy anwyl fam. Wedi distewi mae llais swynol PricesDavies, a mwy ni chlywir ei le yn y cysegr. Yr hen frawd Owen Roberts, Penrhiw, yntau wedi teithio y llwybr ar hyd yr hwn ni ddych- wela a'r chwaer selog Mrs Hannah Evans, priod Mr Griffith Evans,—galwad sydyn iawn ddaeth ati hi. Er nad yn gref o gorph er's amser, ni thybiwyd fod ei mynych wendid yn ddynesiad at fin yr afon, ac yn oediad ofnus ei chroesi. Ond felly y bu, a bravssychwyd yr ardal gan y newydd am ei marw. Yr Un fu'n cysuro teulu Bethania gynt fedr gysuro eto blant gofidiau. DEWIS OLYNYDD.— Ni cha'r Nefoedd. mo Elias, Heb i'r byd gael Eliseus." Olynydd Mr Pryce Davies ydyw Mr Robert Thomas, A.C., un o fechgyn erdd- gar Bethania, a chyfnerthir ef yn yr adran gerddorol gan Mri Isaac Roberts a John Thomas-trindod o ralewyllysgar ac abl yn hyn o orchwyl. GWANWYN.—Dyma ni ar gyffiniau un o dymorau mwyaf dymunol y flivyddyn- tymor agor ffenestri y dail i haul cynes fyw- iogi gweddillion bywyd ar ol stormydd y gauaf du. Deffru y gwanwyn asbri yn mhawb, ac os digwydd ias farddonol fod yn bererin digartref yn y fynwes, temtir hi yn adgyfodiad natur i draethu ei hanes, os nad o bwlpud yn "Mhwlpud y Beirdd," canys ni raid wrth drwydded i esgyn hwnw. Os byw ac iach, Mr Gol., bwriadaf yn fuan eto eich blino, gan fod cyfeillion oddicartref yn erfyn hanes. J. W. I
ILLEYN. I
LLEYN. I RI-IIW.—Cynhaliwyd y Gymdeithas Len- yddol nos Lun, dan lywyddiaeth Mr Griffith Jones, Tynyfron. Bechreuwyd trwy ganu ton gynulleidfaol dan arwein- iad y llywydd, yna cafwyd dadl Pa un ai y dyn wyr bobpeth am rhywbeth ynte'r dyn wyr rhywbeth am bobpeth ydyw y mwyaf defnyddiol i gymdeithas." Agor- wyd dros y cyntaf gan Mr John Williams, Talafon, a thros yr ail gan y Parch John Williams, yn cael ei gefnogi gan Mr Tommy Williams, Talafon. Siaradwyd yn mhellach gan Mri W. Jones, Glyn- llyfawy; Isaac Rowlands, Penygroes Richard Roberts, Foel. Yna rhoddwyd y ddadl i bleidlais a chafwyd mwyafrif mawr dros yr olaf. Cafwyd can gan Miss Jane A. Williams, Ty Mawr. YSG. I
CAERWYS.I
CAERWYS. I Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—Nos Fawrth cynhaliwyd cyfarfod o'r Gymdeithas. Llywyddwyd gan Mr R. Jones, Plasisa. Noson hon cafwyd dadl, "A ddylai y Wladwriaeth ymyryd yn nghyflog y gweithwyr." Agorwyd y ddadl gan Mri J. M. Williams a J. G. Hughes. Cymerwyd rhan yn yr ymdrafodaeth gan auiryw o'r aelodau. Ar y diwedd caed fod y mwyaf rif o blaid y Wladwriaeth i ymyryd. GOH. IEUANC. I
MYNYDD BACH, YSTUMTUEN.I
MYNYDD BACH, YSTUMTUEN. I CLADDU HEN AELOD.—Dydd Iau, y 5ed cyfisol, hebryngwyd gweddillion marwol yr hen chwaer Elizabeth Edwards (gynt o Danygraig) o Abertysswg, Cylchdaith Tre- degar, yn ol i'w chladdu yn ei hen gartref cynefin, sef Mynydd Bach, Cylchdaith Ystumtuen. Bu yn aelod ffyddlon a dich- lynaidd o'n heglwysi yn Mynydd Bach a Cnwch Coch. Yn y gymdogaeth hon y treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes briodasol, ac y magodd ei phlant yn deilwng a pharchus, er iddi yn y cyfamser brofi yn helaeth o brofedigaethau bywyd. Bu ddwywaith yn briod, a gwelodd gladdu ei dau wr, ynghyda dau o'u phlant. Yna daeth i lawr i'r Dehcl.dir ar ol ei mheibion. Bu yn Nhreorci am dymor, ac ar ol hynny yn Ton Pentre. Ymunodd'a'n hachos yn y ddau le, ac yn ddiweddaf oil symudodd at ei mab ieuengaf i drigo yn Abertysswg, ac yno y diweddodd ei gyrfa ddaearol mewn tangnefedd, ac mewn llawn hyder ffydd yn ei Gwaredwr a'i Duw. Y mae safle anrhydeddus ei mheibion mewn byd ac eglwys yn dynodi y fath gartref a gawsant, a'r fagwraeth grefyddol a roddodd iddynt ym moreu ei hoes. Ei mheibion hi ydyw Mri David a John Mor- gan, y naill yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy ar Gylchdaith Tredegar, a'r llall yn swyddog amlwg a clefnyddiol yn Caersalem, Ton. Ei mheibicn ereill ydynt Mr J. H. Edwards, Ystrad Rhondda, pre- gethwr a blaenor, Ymddiriedolwr i'r achos, yn ogystal a bod, yn Ysgrifenydd Pregeth- wyr CynoHhwyol y Dalaeth a Mr James ,Edwards, gyda'r hwn y gwnaeth yr ymad- awedig ei chartref yn ddiweddaf, a'r hwn sydd yn fiaenor ac yn selog gyda'r achos ieuanc yn Abertysswg. Y mae ei mhab arall yn amaethwr parchus heb fod ymhell o ardal ei enedigaeth. Yr oedd ei phum mab yn bresenol yn ei chladdedigaeth, heblaw nifer fawr o berth- thynasau ereill a chyfeillion oedd wedi dyfod ynghyd i ddangos eu parch a'u cydymdeimlad a'r teulu. Cafodd y galar- wyr oil achos i deimlo yn ddiolchgar i hen gyfeillion yr ardal am eu caredigrwydd iddynt ar yr achlysur, a dymunant ar yr ysgrifennydd gyfiwyno drostynt fel teulu eu diolchgarwch cyhesaf. Hen arfer pobl Mynydd Bach ydyw bod yn garedig, ac nid oeddynt yn ol y tro hwn i bob achlysur arall yn ei hanes. Taled yr Arglwydd yn helaeth iddynt am y cyfan. Codwyd yr angladd yn fore iawn yn Aber- tysswg gan y brawd ieuanc Mr Morgan J. Evans, brodor o Mynydd Bach eto, a gwas- anaethwyd wrth y bedd gan y Parch T. Gabriel Hughes, B.A., Ponrhydygroes, a Mr M. J. Evans. Huned yr hen fam dduwiol yndawel yn ei gwely pridd hyd saniad vr udsrorn. J A. C. PEARCE.
[No title]
Ysgol Fcddygol Gymreig Mae Ysgol Feddygol Caerdydd wedi cael addewid am C60,000 eto gan gyf- ranwr dienw, ar yr amod i'r Llywod- raeth roi help sylweddol i dalu'r athrawon. Mae hyn yn ychwanegol at y £ 30,000 rodawyd i'w Lhadeiliadu fean Syr W. James Thomas. Beiddiwn awgrymu mai o'r un ilogell, y daw y ddwy radd ogoneddus! Y pwa Gle dyfnaf. Dywedir mai ypwll glo dyfnaf yn Nghymrd, ydyw pwll newydd Nantgarw yr hwn sydd yn 860 llath. Buwyd am dros dair blynedd yn ei agor. Disgwylir y bydd lie i 2,000 weithio ynddo yn mhen deuddeng mis eto. I
BYD CREFYDDOL.j
BYD CREFYDDOL. Rhesymoliaeth yn troi yn ol. Mewn ysgrif ar Safle y Syniad Duwinyddol am Grist yn Nechreu'r Ugeinfed Ganrif," dywed golygydd y Cyfaill,' Dr. Roberts, New York, fod ton rhesymoliaeth yn troi yn ol yn Germani, a bod y Dduwinyddiaeth Newydd yn colli ei gafael ar y bobl yn Lloegr ac America. Emynau Da a Drwg. I Mewn pregeth o'i eiddo ychydig amser yn ol yr oedd Mr Sylvester Horne, yn condemio yr emynau sydd yn darlunio teimladau mewnol yr enaid (introspective hymns). Meddai, "Ed- ryeha y Cristion allan ohono ei hunan, am ei fod yn caru allan ohono ei hunan, ac am ei fod yn ymddiried allan ohono ei hunan. Mae llyfr y Salmau yn dys- tiolaeth geryddol fyth-barhaol yn erbyn yr emynau hynny sydd yn darlunio teimladau a phrofiadau mewnol y neb a'u cyfansoddodd. Nis gall neb dderbyn llawer o les drwy aros gyda'r teimladau hyn, nac ychwaith dderbyn bendith wrth ganu am danynt." Cyfrancadau yr Hen GorfF. I Dyma sylw y I Goleuad' ynghylch cyf- raniadau y Corff" a chyflog y weini- dogaeth:- Credwn nad oes un alwedigaeth yn y wlad nad yw safon ei chyflog wedi codi yn ystod y deng mlynedd diweddaf ond y weinidogaeth; ac nid oes un Cyfundeb yn Nghymru yn symud ym- laen mor araf ac afrosgo a'r Methodist- iaid gyda hyn. Er yr holl drafodaethau a'r pwyllgorau, sefyll yn yr un man y mae'r cyfan. Yn ystod y deng mlynedd diweddaf, o 1903 hyd 1913, mae cynydd o 96 wedi bod yn rhif yr eglwysi, cynydd 0 21,648 yn rhif y cymunwyr, ond aeth cyfartaledd ein casgliad at bob achos ar gyfer pob aelod i lawro 11 19s. Ote. yn 1903, i £1 13s. lfc. yn 1913. Yr oedd casgliad y Weinidogaeth yn 1903, yn 9-101,040, ae yn P,121,584 yn 1913, a dylasai hyn godi 922 o leiaf yn nghyflog pob pregethwr drwy y Cyfundeb. Gwyr pawb nad yw hyn wedi cymeryd lie. Yr ydym yn gwario yr arian ar deithio, ar gyfarfodydd pregethu, ac yn esgeuluso cydnabod yn deilwng y bugeiliaid sydd yn Ilafurio yn gyson gartref. Yn 1903 yr oedd eyfraniadau y Gogledd at y Drysorfa Gynorthwyol yn R2,291, ac yn 1913 yn 92,062 ac yn y De yn 1903 yn £936, ac yn 1913 yn £ 773. Dengys hyn pa mor bell yn ydym gyda'r cwestiwn pwysicaf i ddyfodol Methodist- iaeth, ac os na lwyddir i enill y Cyfundeb i ddarparu yn deilwng ar gyfer y bugeil- iaid colla ei gyfle i gadw ei le yn mywyd Cymru. Canlmlwydd Dafydd Morgan, I Ysbytty. Mae Cyfarfod Misol Gogledd Aberteifi a Chymdeithasfa y De wedi cychwyn symudiad i gasglu arian er parchu ac anrbydeddu coffadwriaeth Dafydd Mor- gan, Ysbytty, un o arweinwyr Diwyg- iad mawr Fifty Nine. Nid oes yn hanes Methodistiaeth Cymru enw sy n haeddu yn fwy gael ei anrhyddeddu nag enw Dafydd Morgan. Ysgrifenodd ei fab, y Parch. J. J. Morgan, Wyddgrug, gofiant rhagorol i'w dad, ond ni apeliwyd am wneud dim er cadw mewn cof ddi- olcbgarwch y wlad am y gwaith aruth- rol o fawr a wnaed mewn ychydig am- ser drwy y Diwigiwr. Penderfynodd Cymdeithasfa'r Deheudir yn Llangeithio y llynedd, godi swm o arian er sicrhau moddion sylweddol a buddiol i barhau coffawdwriaeth Dafydd Morgan. Bwr- iedir addurno capel a mynwent Ysbytty a meini coffa. sef coflech yn y capel, a chareg fedd yn y fynwent. I Y Diweddar J. B. I Ni raid egluro nemawr neb sy'n dar lien Saesneg pwy cedd J .B." o'r Christian World.' Bu ar staff y pap- yr adnabyddus am dair-blynedd-ar-hug- ain; ac ysgrifenodd gyda chysondeb ei erthygl wythnosol ar faterion perthynol i'r bywyd ysbrydol, y rhai sydd erbyn hyn wedi eu cyhoeddin gyfroliu lawer, ac yn cael eu darllen a'u gwerthfawrogi gan filoedd lawer o ddarllenwyr. Gwein- idog gyda'r Annibynwyr oedd y Parch. Jonathan Brierley, B.A., a dechreuodd ar ei yrfa weiaidogaethol yn Nyfneint, ond collodd ei iechyd a gwahoddwyd ef ar staff y Christian World." Ac yma y daeth o hyd i waith mawr ei fywyd. Pan yr analluogwyd ef i bregethu a'i lais o'r pwlpud, agorwyd iddo ddor pwlpud y wasg, a mwy fu gogoniant yr ail bwl- pud na'r cyntaf yn hanes J.B." Un o broffwydi gobaith ydoedd a diolcha miloedd iddo am adenyn gobaith yn eu heneidiau. Yr oedd ei dyfnder a'i hys- brydolrwydd yn ei gwneyd o werth an- mhrisiadwy i feddyliau ieuanc pryderus ac ymofynus mewn oes amheuol a materol. Prsfysgol Jerusalem. I Uno'r symudiactau pwysicaf ynglyn I a dychweliad yr IdCe von i Pa'AL,,stina I ydyw yr un i sefydlu prifysgol yn Jeru- salem. I bawb sydd yn cymeryd dydd- ordeb yn hanes yr Hen Genedl, mae rhyw swyn rhyfedd yn y syniad o gael sefydliad addysgol felly yn y Ddinas Sanctaidd. Un o lawer o gyfnewidiad- au sydd yn cymeryd lie yn Mhalastina ydyw hwn. Ond y cyfnewidiad pwys- icaf ydyw yr un ynglyn ag addysg. Teimla yr Iddewon sydd yn wasgaredig drwy wledydd y byd, y rhaid i wir dad- blygiad y genedl gael ei sylfaenu ar add I ysg. Ant yn ol at oesau euraidd y Gen- edl, pryd yr oedd Jerusalem yn ganol- bwynt addysg grefyddol y byd, ac ysgol- ion y proffwydi cyn hyny yn cadw lamp gwybodaeth a gobaith i losgi drwy oesau tywyllaf y genedl. Fel yn Nghymru, mae cwestiwn yr iaitb yn achosi cryn bryder i lawer o'r arweinwyr. Dadleua rhai dros y Germanaeg am mai dyna iaith masnach, tra y dadleua yr Iddew ieuanc gwladgarol yn erbyn gadael yr Hebraeg o'r neilldu. Ysgol Sul Cymru a'r Byd. Yng Ngorffenaf diweddaf cynhaliwyd Cynhadledd fawr ynglyn ag Undeb Ys- golion Sul y Byd yn Zurich i drafod pwnc yr Ysgol Sul yn ei holl agweddau, rhywbeth yn debyg i'r Gynhadledd Fawr Genadol gynhaliwyd yn Edinburgh yn 1910. Ac ymddengys fod ei gweith-- rediadau yn debyg o esgor ar ganlyniad- au yr un mor werthfawr i'r Eglwys yn ei hagwedd addysgol ag a wnaeth rhai Edinburgh iddi yn ei hagwedd Genhadol. Yr oedd y Parch. M. H. Jones, B.A., Ton Pentre, yn bresennol ynddi ar ran Ysgol Sul y Methodistiaid, ac mae wedi cyhoeddi ei hanes yn bamffledyn Cym- raeg dwy geiniog-yr unig adroddiad Cymraeg sydd i' w gael ohoni. Yr ydym wedi ei ddarllen gyda bias a hyf- rydwch mawr, ac hefyd gyda pheth cyw- ilydd wrth weled gymaint far ol ydym, ni fel Cymry i genhedloedd eraill ynglyn a'r Ysgol Sul. Bu adeg pan yr oecldym ar y blaen, ac yr ydym wedi bod yn ym- ffrostio yn hir ac uchel oblegid hynny; ond nis gallwn wneud hynny mwy. :I:;CJ ? L I J* Enwadaeth. Alewn cyfrol yn olrhaia hanes Cym- anfa Ddwyreiniol Bedyddwyr Morganwg y mae y Parch W. Morris, D.D. Treorci, yn rhoi ei fys ar Enwadaeth ymysg y Bedyddwyr. Dywecl fod yr ysbryd enwadol ac enwadgarwcli yn ddyfnach a mwy pendant yma nag yn un man,' a gofynna yn ddigon priodol, Befih sydd yn cyfrif ? Ac nid yw yn brin ei eiriau wrth ateb Nid ydym hyd i eto wedi darganfod y safle ddylem ei chymeryd a'r agwedd ddylem ei mabwysiadu tuag at Fedyddwyr Rhyddgymunol, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr yn ogystal a thuag at Undebau, Cynghorau, a Chymdeitbasau unedig a'r boll enwad- au. Y canlyniad yw nad oes inni wel- edigaeth fel Cymanfa, ac nad oes imai gydsymudiad fel Eglwysi,' &c. Mam Evan Roberts 0 Claddwyd Hannah Roberts, ,Cas- llwchwr, mam Evan Roberts, y Diwyg- iwr, yr wythnos ddiweddaf. Bu yn dihoehi yn hir, ac yn ystod ei chystudd blin dymunodd lawer am gael gweled ei mab Evan, yr hwn sydd yn aros yn Leicester, ond ni chafodd ei dyminiad. Gwrthododd yn bendant i ddyfod gar- tref. Aeth ei dad ychydig amser yn ol i Leicester gan obeithio cael ei weled ac ymddiddan ag ef. yn bersonol, ond gwrthodwyd ei gais, a dychwelodd yr hen wr yn siomedig iawn: Ni ddaeth Evan i angladd ei fam, yr hyn oedd yn siomedigaeth fawr i'r teulu yn eu trallod. Yr oedd Mrs Roberts yn wraig rinweddol a duwiol. Bedyddwyr Cymru a New Zea- land. Rhif y Bedyddwyr yn New Zealand ydyw 5,763. Cyfran-asant at y genad- aeth yn Bengal, India, y fiwyddyn ddi- weddaf £ 2,798. Mae hyn ar gyfarfcal- eud yn agos yn baner sofren yr aelod. Ma,o Bedyddwyr Cymru yn rhifo 127, 258, ond ni chyfranwyd at y genadaeth y fiwyddyn ddiweddaf ond £6,104- Nid yw hyn ar gyfartal ond yn agos swllt yr aelod. ,u ;• "J, Yr Offeiriad Hynaf Un o'r offeiriaid hynaf yn Ngbymru yw y. Parch D. L. Williams, Llanwnda, Sir Gaernarfon, yr hwn sydd wedi ym- ddiswyddo yn 91 mlwydd oed. Gan- wyd ef yn Nhaerfyrddin, ac y mae yn or-wyr i'r anfarwol Peter Williams. Bu yn offeiriadlLlanwnda am 53 mlyn- edd. I, !3(1}: (jiiJ ITn • f i— t-N • Marw Cenhadwr Enwog. Bu,farw'r Parch George Owen, y cen- hadwr Cymraeg enwog o Pekin, yr wythnos ddiweddaf, yn 71ain oed. Yr oedd yn un o'r ysgolheigion Chineaidd goreu, ac er's saith mlynedd llanwai gadair y Chinaeg yng N gholeg y Brenin, LIundain. Brodor o Benfro ydoedd. • mma MsrchecS y Gogiedc3. Mae Undeb Dirwestol Mercned y Gogledd yri rhifo dros 18,000 o aelodau