Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

MERTHYR VALE.

News
Cite
Share

MERTHYR VALE. SUL Y PLANT.—Yr oedd y Plant a llawer eraill yn edrych yn mlaen at y Sul diwedd- af. Cafwyd cyfarfod ardderchog. Nid wyf am drethu eich amynedd ag enwau y rhai fu yn cymeryd rhan yn y gwahanol gyfarfodydd. Ffrwyth addfed y Band of Hope oedd yr oil a gawsom. Ymddiried- wyd y Band of Hope i ofal ein parchus Weinidog, y Parch J. E. Thomas, Tre- harris, ac etholwyd pedwaro frodyrgweith- gar eraill o'r Eglwys i'w cynorthwyo; sef y brodyr Richard Owens, Thomas Pugh, Thomas E. Davies a Hugh Davies, am y Ganiadaeth. Credaf y dylwn grybwyll am gyfarfod y Bore,—Cyfarfod Gweddi, ac ni gawsom un o gyfarfodydd yr hen ffasiwn, sef pan oedd Cyfarfodydd Gweddi yn eu hamser goreu yn amser y Diwigiad cyfarfod i erfyn am i beri Mawr yr Eglwys i fendithio yr ymdrechion ac i droi llafur a gwaith y dydd yn ogoniant i'w enw. Cyfarfod y Prydnawn. Arwein- iwyd y cyfarfod hwn yn fedrus a doniol gan Trinant, blaenor hynaf ein heglwys yn Merthyr Vale ac un sydd wedi bod a'i ysgwydd yn dvn dan yr arch yma o'r dechreu. Treuliwyd y Cyfarfod mewn afiaeth a phawb yn teimlo wrth ei fodd. Cafwyd adroddiadau a chaneuon. Holwyd y plant gan y Llywydd o'r Rhodd Mam. Darllenwyd papur ardd- erchog hefyd. Yr oedd Cyfarfod y Prydnawn yn mhell uwchlaw disgwiliad- au pawb am danom. Cyfarfod yr hwyr. Llywyddwyd y cyfarfod hwn gan ein parchus Weinidog. Holwyd y plant yn yr Holwyddorydd Dirwestol gan y Lly- wydd y gofyniadau a'r atebion yn fywiog a pharod a phawb yn ymddangos wrth ei bodd. Cafwyd amryw solos gan y plant a rhai mewn oed. Cafwyd amryw gaueuon a deuawdau swynol a da yn yr oil o'r cyf- arfodydd gan gantorion gwych. Yr oedd pawb mewn hwyl o'r hena i'r ieuenga nes yr oeddym yn deheu am gyfarfod tebyg eto yn fuan. Hyn yw dymuniad enaid a chalon H. T. E.

GWRECSAM. I

NODION 0 LANGOLLEN. I

MACHYNLLETH.I

DYWEDION 0 ARDUDWY. I

I SOAR, RHYL.

CYLCHDAITH BAGILLT.I

CYLCHDAITH CAERNARFON. I

CYLCHDAITH LLANRHAIADR.

iBLAENAU FFESTINIOG.

! RHUTHIN.

CYFARFOD CHWARTEROL FERNDALE.

ABERMAW.

CAERGYBI.

CYLCHDAITH CEFN MAWR. I

I CYLCHDAITH COEDPOETH.

LLANASA.

CYLCHDAITH RHYL. I

LLANDUDNO. I

I CYLCHDAITH LLANDILO.

CYLCHDAITH ABERTAWE.

CYLCHDAITH LLANFYLLIN.