Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
LIVERPOOL. SHAFTESBURY HOTEL. Mount Pleasant. Four Minutes' Walk from Lime Street and Central Stations. Cars from Landing Stage stop at the door. A High Class Temperance Hotel. Moderate Charges. Welsh spoken. Arran Monumental Works, DOLGELLEY. BRANCH AT TRAWSFYNYDD. J. & R. W. THOMAS, MONUMENTAL MASONS. AIL MARBLE WORK UNDERTAKEN, including Memorials in Granite and Marble. Ccf-Seiri Marmor a Cheryg Beddau o'r gwaith goreu. Estimates Free. Distance no object. Anfonwch am y Prisiau. Why buy trashy Foreign made Watches, when you can obtain Reliable British Made Watches fully Guaranteed, in Gilt, Oxydized, Nickel, Silver, or Gold Filled Cases from G. E. OWEN, Watchmaker, Barmouth, at 5s., [I Is., [I 17s. 6d., and [2 2s. each in Gent's size, and [I 5s., [1 9s. 6d. and £ 2 2s. each in Ladies' size. On receipt of Postal Order any of the above will be sent at sender's risk and cost. Money refunded if the Watch is not ap- proved of DYMUNA Mr. J. E. Morris, Arweinydd Hen Gor Meibion enwog Llangollen, yr hwn fu yn fuddugol yn rhai o brif Eisteddfodau y Gogledd, hys- bysu ei fod yn barod i wasan- aethu fel Arweinydd Cyman- faoedd ac fel Beirniad Cerdd- orol. Cyfeiriad:— Central, Oak Street, Llangollen. Mr. T. CARRINGTON (PENCERDD GWYNFRYN), Organydd "Rehoboth," Coedpoeth. BEIRNIAD, CYFEILYDD, Sc. Ail Argraffiad o'r Gan boblogaidd, "Cymru." Y geiriau gan Mr. T. Herbert Hughes, Llanrwst. Unrhyw lais. Drwy'r post, 7c. Anthem Goffa Canrhawdfardd, Gwyn ei fyd y gwr." Dewiswyd i Gymanfaoedd Lerpwl, Manchester, &c. am 1910. Can Ddirwestol hwyliog. 6s. y cant. Cyfeirier: Coedpoeth, Wrexham. Arweinydd a Beirniad Cerddorol. DYMUNA Mr. ROBERT GRIFFITH, Vulcan Villa, Abermaw, Wneyd yn hysbys ei fod yn agored i dderbyn ymrwym- iadau fel Arweinydd Cyman- faoedd a Beirniad Cerddorol. TELERAU RHESYMOL. YMOFYNER I'R CYFEIRIAD UCHOD. TELYNOR MAWDDWY. DYMUNA Mr. DAVID ROBERTS (TELYNOR MAWDDWY), Morben Villa, Abermaw, HYSBYSU ei fod am brisiau rhesymol JLI yn barod i Ddysgu Pupils ar y Delyn Gymreig (y deires neu'r bedolawg), ac hefyd eu dysgu i Ganu Penillion. At hyny y mae yn barod i Ganu Pen- illion a Chwareu'r Delyn mewn Cyng- herddau a'r cyffelyb, ynghyd a Beirniadu mewn Cyfarfodydd Cystadleuol. "John Penri,'9 Y Merthyr Gymreig, llw gyhoeddi yn fuan,. LLYFR SWLLT AR HANES JOHN PENRI, GAN D. Gwynfryn Jones, ABERMAW. Bydd y Llyfr yn cynwys rhai ffeithiau newyddion. Archebion ac Enwau Tanys- grifwyr i'w danfon i'r I Awdwr.
CYLCHDAITH TOWYN.I
CYLCHDAITH TOWYN. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol yr Un- deb yn Llanegryn, Sabboth Ebrill y lOfed, pryd y daeth cynrychiolaeth gref o'r gwa- hanol Ysgolion ynghyd, a chafwyd un o'r cyfarfodydd cryfaf mewn llawer ystyr. Haedda Ysgol Llanegryn glod am ddar- paru mor ragorol er gwneuthury cyfarfod-' ydd yn llwyddiant, sibrydai y brodyr o ysgolion mawr y Gylchdaith, eu bod hwy thau am gael yn y dyfodol gyfarfodydd fel hyn, Amen, dywedwn ninnau. Ar ddy- muniad Llywydd LIndeb, sef Mr James Jones, Llanegryn, llywyddwyd y cyfar- fodydd gan Mri O, Pughe, Llwyngwril, a J. liar Davies, Towvn. Gwaith y boreu ydoedd holi'r safonau gan Mr. H. Davies, Bryncrug, ac hefyd, cael gan y brodyr apwyntiedig yr anerch iadau ar yr Ysgol Sabbothol yn y gorffen- ol, presenol, a'r dyfoclol, gwnaeth y tri brawd ddefnydd da o'r testyn, er buddiol- deb i'r Ysgol Sabbothol, a chryf iawn oedd y sylwadau yn galw arnom am ofalu rhoddi lie i'r Ysbryd Glan yn yr Ysgol Sabbothol, nis gellir olrl-iain llwyddiant y gorffenol, nac ychwaith ddisgwyl llwydd- iant y dyfodol, ond i'r graddau y caniateir i'r Yspryd Glan ei le ei hun, perygl yw mvned yn beirianol, ac anghofiojaysbrj^d- ol. Cafwyd anerchiadau cryfion eto y pryd- nawn. Holwyd hefyd bennod o Lyfr Pritchard, a chaed atebion rhagorol. Treuliwyd cyfarfod yr hwyr gan Mr O. Pughe i holi'r bennod, a dangosodd Ysgol Llanegryn nad oedd wedi bod yn segur, prawf o hynny oedd y parodrwydd i ateb oedd yno. Teg 1'w dweyd mai un elfen gref iawn yn llwyddiant y Cyfarfod Ysgol hwn ydoedd y canu da oedd yno. Elfen arall absenoldeb papurau. Enyned y tan a'r brwdfrydedd nes codi yr Ysgol Sab- bothol i fod yn fwy o allu nag erioed. AELOD.
I LLANFAIRCAEREINION.
I LLANFAIRCAEREINION. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y gylchdaith uchod dydd Mercher Ebrill Oed. o dan lywyddiaeth y Parch. W. J. Jones (Arolygwr.) Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch. J. Lewis, Meifod, Mr T. H' Evans, (Lay Agent), Meistri E. Lloyd Edwards, a Chas. Herbert Humphreys, Goruchwylwyr, ynghyda chynrychiolaeth dda o'r gwahan- 01 eglwysi. Yn ystod y cyfarfod penaerfynwyd i fab- wy.sia.du cynllun newydd o drethiant a gynygid gan y Goruchwylwyr. Gwahodd- Ni-vd y Parch. W. J. Jones i aros gyda ni am y flwyddyn nesaf ac addawodd yntau wneyd. Hefycl gofynwycl i Mr. Evans yl Lay Agent aros, atebodd yntau y gwnai. Arholwyd Mr. R. Jones, Gwynfa, yn fanwl gan yr Arolygwr, fel ymgeisydd am y weinidogaeth, yr oedd yr atebion oil yn foddhaol. Wedi ymdrafodaeth ar y mafer pasiwyd gyda phleidlais unfrydol i gynyg Mr. R. Jones i'r Cyfarfod Talaethol fel ym- geisydd teilwng am y weinidogaeth.
ISTOCKTON.
I STOCKTON. Cynaliwyd y Cyfarfod Chwarter yn Crook, Ebrill 2il, dan lywyddiaeth y Parch R. Lloyd Jones, Cacieirvdd y dalaeth, yr oedd yn bresenol y Parch. E. Wynne Owen, Gweinidog y Gylchdaith, ar ddau Circuit Stewart, Mr. John Jones, a G. Jones, ynghyd a chynrychiolaeth iled dda. o'r eg Iwysi dechreuwyd trwy i'r Parch Wynn Owen roddi emyn allan ag i'r brawd G. Jones weddio. Darllenwyd cofnodion v cyfarfod blaenorol a chadarnhawyd hwy fel rhai cywir; derbyniwyd cyfrifon yr eg- hvysi, a chafwyd y bod yna ddeg o gynydd yn rhif yr aelodau. Yr oedd treuliau y chwarter yn fwy na'r derbyniadau, ac felly ein gadael mewn dyled o [2 I Is. 5c. caf- wyd cyfrif y trust a'r Ysgol Sul gan y Parch. E. Wynn Owen, a chafwyd bod ychydig o gynydd yn cael ei reportio, ac yr oedd yn dda gan y cyfarfod am hyny. Pasiwyd bod y bravyd George Jones yn ein cynrychioli ni yn y Cyfarfod Talaethol. Rhoddwyd gwahoddiad unfrydol y cyfar- fod i'r Parch. E. Wynn Owens i'n gwasan- aethu am flwyddyn arall, a chvdsyniodd yntau os byddai y Conference yn caniatau hyny. Cafwyd gair gan y Parch. Lloyd Jones, yn ein llongyfarch yn galonog am ein bod wedi sicrhau eglwys newydd yn Chilfon nid ydyw yn fawr ond 13 o aelodau, ond gwnai yno lawer o'n cydgenedl wedi ymfudo yno, ag y mae yno ddigon o le i weithioi gael eglwys fwy, dy- munodd y Cadeirydd am fendith y nefoedd ar ein hymdrechion yno; terfynodd y cad- eirydd trwy weddi. Y chwaer fu yn gar- edig yn gofalu am wneyd te da i ni y tro yma oedd Mrs Walter Edwards, ag y mae yn deilwng o'n diolchgarwch goreu am ei llafur. Cafwyd cyfarfod dymunol a ded- wvdd. GOH,
AMLWCH.
AMLWCH. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y gylchdaith yn Amlwch ddydd Mercher Ebrill (5. Y Parch. L. Owen yn y gadair. Er nad oedd cynrychiolaeth lluosog o'r gwahanol lleoedd yn bresenol. Cafwyd cyfarfcd dymunol o'r dechreu i'r diwedd, Yr oedd pob lie wedi anfon eu cyfraniadau agos yn llawn. Rhai o'r lleoedd bychain yn y wlad ychydig ar ol, Darllenwyd rhif yr aelodau gan yr Arolygwr, a dang- hosai y cyfrifon 1-eihad ar y flwyddyn o 14. Gofid i'r cyfarfod oedd hyny, ond danghos- wyd ei fod wedi ei achosi yn benaf gan symudiadau a: marwolaethau. Darllen- wyd cyfrifon y capeli gan yr ysgrifenydd: Mr. W. H. Thomas, a chafwyd fod eu sef- yllfa ar y cyfan yn gwisgo gwedd fodd- haol, Eglwys Tregele wedi derbyn [1300 Loan o drysorfa y capeli, a [53 Grant "vedi ei dderbyn ar dy y gweinidog, Amlwch, Llanfair wedi talu ychydig o'r loan yn ol. Addawodd Mr. W. H. Thomas fyned i'r cyfarfod Talaethol, ac yn ngwyneb an- allu Mr. Brindle ei gydswyddog i fyned, etholwyd Mr. William Owen, Tregele, dros j y cyfarfod chwarter, ac etholwyd brodyr eraill i fyned os metha rhai o'r uchod. Nid yw capel Amhvch wedi ei orphen eto er ei fod yn tynny yn brysur i ben, a go- beithir y gellir ei agor tua diwedd Mai, y maent yn addoli yn bresencl yn yr Ysgoldy Newydd, yr hwn sydd yn adeilad hardd a chyfleus i addoli ynddo Mae y Cynull- iadau yn lluosog ar y Sabboth a gobeithir y bydd y symudiad hwn yn foddion i ad- fywio yr achos yn mhob ystyr yn y dyfod- ol. Rhoddwyd gwahoddiad unfrydol i,r Parch. J. E. Roberts aros am flwyddyn arall, ac-addawodd, YSGRIFENYDD.
I CYFARFOD CHWARTEROL LLANGOLLEN.…
CYFARFOD CHWARTEROL LLANGOLLEN. Cynhaliwyd yr uchod dydd Iau, Ebrill y 7fed yn Pentredwr, dan lywyddiaeth y Parch. A. W. Davies. Yr oedd yn bresenol Mr. E. D. Jones a Mr. Owen Davies, gor- uchwyliwr, a chynrychiolaeth o'r gwahan- ol Eglwysi. Aethom yno trwy ran o wlad Owain Glyndwr, un o'r enwau sanctaidd chwedl Gwynfryn, heibio i Fynachlog Glynygroes, a cholofn Elisey, ac i fyny y ffordd lechweddog yn swn- Y Gwanwyn yn y bereian, A'r Gwanwyn yn y coed A swn ei delyn arian Yn galw'r blodau'n ol. Wedi cyrraedd y man cyfarfod, lie magwyd nid cewri ar faes y gwaed yn unig ond cewri yn 'myddin ei groes Ef.' Cawsom wledd rhagorol yn cael ei rhoddi, a'i harl- wyo gan Mrs. John Griffiths, a Mrs. Hughes, Glyn, ac yn cael eu cynorthwyo gan Mrs. William Davies, a Mrs George Hughes heblaw ei bod yn ddarpariaeth eang, yr oedd yn amrywiol a chostus, a'r laying out yn ganmoladwy, ceir chwiorydd o hyd fyn dori blwch enaint. Diolchwyd i'r chwior- ydd, a gwaith hawdd oedd hwn. Yna rhoed emyn allan i ddechreu y cwrdd, ac mor dlws a buddiol erbyn ei feddwl,— Mewn bywyd mae gwasnaethu Cuw Dydd gras ac iachawrdwrriaeth yw Tra dalio'r lamp heb losgi' i ma's Fe all y gwaethaf droi trwy ras. Pasiwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Cadarnhawyd gwaith cwrddchwarter go- hiriedig yn cymeradwyo Mr. John Hughes yma i olynu Mr. D. D. Jones. Amlygwyd gofid gan yr holl eglwysi fod Mr. Jones yn tori ei berthynas hon a'r Gylchdaith, er yn addef ei fod yn gwneud yn ddoeth i fantais ei amgylchiadau. Bydd yn ein mysg etto, yn un ohonom ac yn ein gwasanaethu. Cadarnhawyd y gwahoddiad i'r Parch. A. W. Davies i aros ei drydedd flwyddyn, a'r Parch. W. R. Roberts i'w olynu. Cymanfa yr Ysgolion i'w chynal yn Pen- tredwr. Mai 2ail Mr. J. Morris arwain y trec 2all Mr. J. AIorr ts v canu. Caed fod sefyllfa trusts y Gylchdaith yn gwella. Galwyd sylw at ymgyrch y Gen- hadaeth Gartrefol. Dewiswyd Mri. Jno. Williams a D. D. Jones i fynd i'r Cyfarfod Talaethol. Tal- odd yr eglwysi eu biliau. Caed ar y diwedd gymhelliad cryf gan y gweinidog i fwy o ymgysegriad i agwedd- au, a moddianau ysbrydol yr achos. Ter- fynwyd trwy weddi. GOH.
i MANCHESTER.
MANCHESTER. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y gylchdaith yn Dewi Sant, Ebrill yr 2fed gyda'r Arolygwr yn y gadair. Yr oedd yn bresenol y Parch. Gwilym R. Roberts, a goruchwylwyr y gylchdaith, Mri. J. E Lister a E. Jones Roberts, ynghyd a chynrychiol- aeth deilwng o'r gwahanol eglwysi. Gal- wyd ar Mr. Edward Thomas yn mlaen i ddarllen ystadegau Dirwest, a hawdd can- fod nad oedd y sefyllfa yn rhoddi boddhad iddo ef na'r cyfarfod. Argymhellwyd fod pob eglwys yn gwneud ymdrech i sicrhau mwy o ardystwyr. Darllenwyd cyfriflen yr Ymddiriedolwyr gan ysgrifenydd y capeli, Mr. E. Jones Roberts. Cydsyniwyd yn unfrydol a chais Cenhadaeth Leeds i fod yn unfrydol a'r gylchdaith, ac Amlyg- wyd dymuniad cryf fod arbenigrwydd yn cael ei roddi i hyn yn Nghyfarfod Talaeth- ol Treffynon. Etholwyd Mr. W. Jones, (Horeb), i gyn- rychioli y cyfarfod chwarterol yn y cyfar- fod Talaethol, a Mr J Williams, Patricroft, yn lie un o'r goruchwylwyr. Wedi darllen ystadegau yr eglwysi, cyflwynwyd asses- ment newydd i sylw'rt'cyfarfo~d gan y gor- uchwyliwr, ac ar ol peth yrnrafodaeth mab- wysiadwyd hi gydag ychydig gyfnewid- iadau. Gohiriwyd darllen cyfrifon yr Ysgol SuLhyd gyfarfod chwarterol Mehefin, yr hwn a gynhelir yn Horeb. Rhoddwyd gwahoddiad arferol i'r ddau weinidog, Parchn. J, Felix, a G. R. Roberts i aros yn y gylchdaith am flwydd- yn arall, a chadarnhawyd gwahoddiad Leeds i'r Parch. L. Edwards. Cafwyd rhif yr aelodau gan yr arolygwr sef 42, cynydd bychan cir y flwyddyn, a 75 yn Leeds. Terfynwyd trwy weddi. Rhwng y ddau gyfarfod, mwynhawyd te rhagorol a ddarparwyd gan gyfeillion Dewi Sant.
CYLCHDAITH TOWYN.
CYLCHDAITH TOWYN. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwrarterol y gylchdaith yn Nhowyn, dydd Mawrrth, Ebrill 5, o dan lywyddiaeth y Parch. J. Smith. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch. Rhys Jones, Mri. H. Davies, a J. Lloyd, Goruchwyliwr; a chynrychiolaeth Lloydo, 'r holl eglwysi. Wedi dechreu trw\T dda o'r holl eghvysi. Wedi dechreu trwy weddi gan Mr. O. Pugh, Llwyngwril ac i'r cofnodion gael eu darllen a'u cadarnhau, aed ymlaen at waith rheolaidd y cyfarfod. Darllenodd Mr. D. O. Jones gyfrifon Trust y gylchdaith, pa rai oeddynt yn foddhaol iawn. Darllenoed yr Arolygwr gyfrifon y Gobeithlu a Dirwest. Cyflwynwyd y brawrd ieuanc Evan Bowen o Lwyngwril i'r cyfarfod fel ymgeisydd am y weinidog- aeth. Arholwyd ef yn fanwl gan yr Arol- ygwr, a chafwyd attebion neillduol o feis- trolgar. Nid oedd unrhyw betrusder gan y cyfarfod i gymeraclwyo y brawd ieuanc hwn fel ymgeisydd am y weinidogaeth yn wir y mae y gylchdaith wedi ei farcio allan fel un ag fydd yn seren yn y pwlpud Wesleyaidd yn Nghymru ac yn sicr fe gadarnhawyd ein gobeithion wrth ei gly- wed yn ateb cwestiynau dyrus Mr. Smith. Addawodd y ddau Oruchwyliwr i fyned i'r Cyfarfod Talaethol a dewiswyd Mr. O. Pugh, Llwyngwril, yn gynrychiolydd ych- wanegol. Addawodd y Parch. J. Smith aros yn y gylchdaith am flwyeldyn arall. Cadarn- hawyd y gwahoddiad a roddwyd i'r Parch. R. Morton Roberts i ddod yn olynvdd i'r Parch Rhys Jones yn Awst nesaf. Llon- gyfarchwyd Mr. J. Lloyd, Towyn, ar ei waith yn cael ei ethol ar Gynghor Dineig Towyn; hefyd Mrs. Jones, Gwynfa, ar fwrddy Gwarcheidwaid. Yroedd tri wedi marw yn ystod y chwarter, sef Mrs. Jones, Trefeddian, Mrs Pugh, Piccadily, a'r brawd ieuainc Jones, Morfa Cadvan; pasiwyd pleidlais o gydymejmlad gyda'r gwahanol deuluoedd. Cyfeiriwyd hefyd mewn geir- iau dwys at farwolaeth sydyn y Parch. Thos. Manuel, a phasiwyd pleidlais o gyd- ymdeimlad gycla'r teulu. Terfynwyd cyf- arfod hynod o hapus gan yr Arolygwr. Darparwyd te rhagorol i'r frawdolaeth yn y Festry gan Mrs. Hugo Davies, Tynllwyn, Mrs. Davies, Idris House, a Mrs. Smith Morton Villa Cynygiwyd diolchgarwch gwresog iddynt gan Mr. 0. Pugh a chefn- ogwyd gan liar. LJ {' 'T Ç, .1.10 G., YSG.
I GAIR 0 MINNEAPOLIS, MINN.…
GAIR 0 MINNEAPOLIS, MINN. I Y dVdd o'r blaen trwy garedigrwydd a meddylgarwch un o'r hen gydnabod yn Ebenezer, derbyniais rifyn o'r" Gwyliedydd Newydd." Darllenais y rhifyn hwn, ac eraill ar ei ol gydag hyfrydwch neillduol, ac nis gallaf lai na chredu gydag eraill fod yna ddyfodol disglaer o'i flaen. Da iawn genyf weled olion cynydd mor amlwg yn Seion ac Elim, nid wyf yn bersonol yn ry- feddu at gynydd yr eglwysi hyn, gan ei bod dan lywyddiaeth gwr tebyg i'r Parch. Tecwyn Evans, 'rwyf wedi meddwl llawer y fath fraint fuasai i mi pe buaswn gartref, (Penisarwaen), ac yn cael eistedd o dan weinidogaeth gyson y gwr hwn, achos efe oedd arwr pregethwrol fy machgendod. Yr ydych yn gofyn am hanes eglwysi Cymreig yn America, er fy mod wedi dod i gysylltiad mwy neu lai a llawer o honynt yn yr U.D. a Chanada, pur anhawdd ydyw dweyd rhyw lawer am danynt, ond gallaf ddweyd un peth o brofiad eu bod yn fen- dith fwyaf all neb feddwl am dani i Gymry, yn neillduol ar eu dyfodiad cyntaf i'r wlad. Y peth cyntaf sydd yn taraw Cymro ar ei ddyfodiad ydyw difaterwch crefyddol y wlad, yn neillduol felly os ywmor anffodus a sefydlu yn un o'r trefi mawrion yma, oherwydd yn y rhai hyn y mae tawelwch parchus dydd Duw wedi ei lwyr anghoflo, a phobl yn llawn prysurdeb. Prin y gall- wch fyned i un o addoldai ein dinasoedd heb fod yna ryw warth dianghenraid yn ddolur llygaid ar y ffordd. Ond yn hytrach na son am danynt yn gyffredinol, cyfeiriaf eich sylw at un yn neillduol yn Minneapolis, yn yr hon rwy'n aelod. Mae yn y ddinas hon tua chan mil o boblogaeth, ac un eglwys Gymreig sydd ynddi. Sefydlwyd hi tua pum mlynedd ar hugain yn ol. Y mae yn ei thro wedi cael rhai o weinidogion mwyaf amlvvg y talaethau i'w bugeilio, ac er nad yw wedi gwneyd llawer o gynydd eto, mae wedi dal ei thir ac mae hyny yn siarad yn uchel am eglwys Gymreig yn yr America, oblegid pan mae yr ail genhedlaeth yn dod i rym, ymseisnegeiddo y maent; ond er wedi bod yn dawel am gymaint o amser mae yr eg- lwys hon wedi deffro y flwyddyn ddiwedd- af, yr ydym wedi gwerthu yr hen gapel am 4500 o ddoleri, wedi prynu tir, ar yr hwn yr ym yn adeiladu capel newydd hardd fydd yn werth wedi ei orphen tua ugain mil o ddoleri gwelwch wrth hyn fod yr eglwys orllewinol hon wedi byw ac yn bwriadu gwneyd hyny eto yn y dyfodol. Mae tua dau gant o aelodau ynddi, ac er ei bod yn M.C., mae yn cael ei gwneyd i fyny o bob enwad. Mae yn dda ganddom oil gael rhoddi heibio pob rhagfarn a chulni enwadol er mwyn cael addoli mewn awyrgylch ac ysbryd Cymreig. Mae yma. rhai corachod Seisnigaidd eisiau cladduyr hen iaith, ond pell bor diwrnod ddywedai i pan y daw Cymro i'r wlad hon a methu cael cartref crefyddol Cymreig. Mae llwyddiant diweddar yr eglwys hon i'w briodoli i raddau helaeth i'w gweinidog yr hwn y mae canoedd o ddarllenwyr y G.N. yn ei adnabod, ac os yn ei adnabod yn ei garu,—y Parch. Hugh P. Morgan, gynt o Bont Rhyd-y-Groes; y mae yn weinidog a'r eglwys hon er's tua pum mlynedd, a gellir dweyd am dano Ei gynydd sydd yn amlwg i bawb." A ydyw yn cael gwell lie yma nag yn Nghymru ni wn; ond hyn a ddywredaf lie bynag y bydd, a'i yma neu acw, fe rydd anrheuthol fwy na geiff, mae ei fywyd yn ffrydlif o hunanaberth mae hwn yn parhau i losgi ynddo beunydd. Hefyd ei wraig, dianghenraid yw i mi ddweyd fod Mrs Morgan yn llanw ei swydd fel gwraig gweinidog. Gall Wesleyaeth Cymru vmfalchio ei bod wedi cael y fraint o fagu y rhai hyn. Wedi dechreu ysgrifenu mae cymaint i'w ddweyd fel mae yn anhawdd aros, ond rhag troseddu rheolau y Gwyliedydd Newydd," ar y tro cyntaf mi derfynaf gan ddymuno bendith Duw ar bawb. I HARRI LEWIS, (gynt o Penisarwaen).
i LLYTHYR LLUNDAIN. I
LLYTHYR LLUNDAIN. [Can ein Gohebydd Arbenig], Prin y gellir dweyd fod nemawr gyfnevv- idiad yn y sefyllfa yn ystod yr wythnos ddiw-eddaf. Ond ymddengys y Llywod- raeth yn benderfynol o wthio ei chynllun- iau yn y blaen, a dwyn y gwrthdarawiad rhwng y ddau Dy i weithrediad yn fuan os oes y fath beth i fod o gwbl. Ymddeng- ys yr Undebwyr braidd yn ofnus i wynebu y wlad yn fuan, a mawr yr helynt a wnant wrth geisio berffeithio eu trefniadau ar gyfer brwydr. Am lawer iawn o res- ymau byddai yn llawer gwell i'r wlad pe gellid osgoi etholiad am amser lied hir, oblegid mae'r draul yn fawr, a'r ymyriad a masnach yn niweidiol. Ond os na eilir penderfynu'r cwestiwn pa un drechaf gwlad a'i arglwydd heb etholiad, i'r gad a ni, a cheir gweled I UN DYN UN BLEIDLAIS. Cafwyd dadl fer, ond bur dyddorol, a galluog ar y mater uchod, ac ar faterion eraill yn dal perthynas a'r peirianwaith etholiadol trwy gynygiad o eiddo Mr. Sherwell. Tybiwyd efallai y byddai i'r Llywodraeth fabwysiadu Mesur ddygid yn mlaen gan y gwr hwn, ond ni ddaeth i hyny. Cafwyd dadl ddyddorol er hyny, a dywedwyd llawer o bethau awgrym- iadol o blaid ac yn erbyn. Siaradodd Mr. Louis Harcourt dros y Llywodraeth, a danghosodd gymeradwyaeth hollol o'r Mesur, ond ni ddaeth dim o'r siarad a'r gwyntyllio, gan i'r Mesur gael ei siarad allan. Ychydig iawn os dim siawns sydd gan Fesurau preifat er's rhai blynyddau, ac mae cwyn gyfreithlon yn codi, nad yw yr aelod an-swyddogol yn neb, ond y Lly- wo.draeth yn bobpeth. Tarwyd ni yn fawr iawn gan yr ofn a feddiana Sir Fred- erick Banbury a'i fath, i weled dydd CYfar-' taledd a thegwch mewn etholiad. Ym- ddengys i ni fod unig obaith Toriaeth i fyw yn y deyrnas yn seiliedig ar anghyf- iawnder ac anghyfartalwch. Pan ddaw'r dydd i symud y bleidlais luosog, ac i gadwr pawb ocldifewn i derfynau ei gartref. ffarwell i ugeiniau o aelodau a seddau Toriaidd. Bydd raid i Sir Frederick Banbury, a Mr. Arthur Balfour symud eu pebyll a dyna a wyddant. I YR YMRANIAD CYNTAF AR Y VETO. I Yr oedd cryn gyffro yn Nhy y Cyffredin: nos Lun y 4ydd cyf. gan mai dyma adeg yr ymraniad cyntaf ar Benderfyniaclau y Veto fel cyfangorph. Codwyd" y Cang- hellydd i ateb dros y Llywodraeth ar yr awr olaf, ac atebodd yn dda. Clywsom ei fod yn gryf a meistrolgar, er na ddarllenai ei araeth cystal a llawer un o'i eiddo, Ei air mawr oedd Chwareu teg," ac yn sicr, dyma beth nad adwaenodd Rhyddfryd- iaeth er's degau o flynyddoedd. Chwareu teg yn wir! Mae'n ynfydrwydd o ran hyny fod angen i neb sefyll i fyny i ddad- leu y cwestiwn. Mae'r Ty uchaf yn gon- demniedig gerbron y byd o fod beunydd a byth yn ymddwyn yn y modd mwyaf partiol. Daliai aelodau'r Weinyddiaeth i gredu fod ganddynt dros 100 o fwyafrif ar gwest- iwn y Veto, er gwaethaf yr ymraniad yn yrJIwrerddon. Ac felly y profwyd fod; lOG yw y fflgiwr a hir gofir. TRWY RYM Y CLOADUR. Wedi penderfynu'r egwyddor trwy fwy- afrif sylweddol a digonol, rhaid trefnu'r modd o frysio yn mlaen. Nid yw'r holl waith ond bychan lawn-tair adran fechan ond fod cymaint o gleber wastraff ar fater- ion fel hyn. Nos Fawrth cododd y Prif Weinidog i ddosranu'r gwaith a'i amseru. Rhoddodd rhyw dair noson i'r adran gynt- af, a chymaint a hyny ddwywaith i'r ail, a chwpl o oriau i'r drydedd, sef byrhad y Senedd-dymhor. Cyffrous iawn fu'r ddadl ar y mater hwn eto, a phrotestia yr wrth- blaid yn ffyrnig. Ond rhaid boddloni. Mae'r Cloadur wedi ei ddyfeisio, er gwell er gwaeth, a phob ochr yn ei ddefnyddio, Dyma'r gwaethaf gyda threfniadau o'r fath, ac eto, ymddanghosant yn angen- rhaid poenus. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, ni ddeuid byth i ben heb roddi terfyn mewn modd fel hyn ar siarad ofer. Telir y pwyth yn ol pan newidir ochr, ac nid oes guro ar Doriaeth am ddefnydd o bob math o sgriw." HALDANE A GREY. Pan ddaethpwyd at ddadleu yr adranau mewn Pwyllgor, ymddirieclwyd cyflwyn- iad y cyntaf i Ysgrifenydd Rhyfel. Nid yw efe wedi gallu rhoddi nemawr o'i amser yn y Ty yn ddiweddar, ac ni chymerodd ran yn y ddadl ar egwyddor y cynygion. Teim- lid cryn ddyddordeb felly yn yr hyn a ddy- wedai, yn ngwyneb yr awgrymiadau a wnaethai o'r tu allan, ac yn ngwyneb y dybiaeth ei fod ef a Grey yn croes-dynu yn y Cabinet. Siaradodd yn wir alluog fel y gwna yn wastadol, a phan cldaeth at gwestiwn yr Ail Ty, sylwid ar bob gair a ddywedai. Ac wedi'r cwbl nis gallwn weled fod gwahaniaeth o bwys rhyngddo ef a'i Benaeth, ac yn wir yr oil o'r Cabinet sydd wedi siarad. Mae'n bur sicr fod mwyafrif etholwyr Prydain Fawr dros ddau Dy, ond y mae Haldane yn hollol groyw mai Ty y Cyffredin sydd i fod yn oruchaf. Nid yn unig mewn cwestiynau arianol, ond pob cwestiwn. APOSTOL TARIFF REFORM. Mae'n debyg mai i Mr. Austen Chamber- lain y rhaid rhoddi anrhydedd yr Apostol- aeth yn y mater hwn, wedi ymneillduad ymarferol ei dad. Nid am mai ëfe yw y gall- uocaf ar yr ochr hono i'r Ty, ond am mai efe yw y galluocaf o'r rhai a fynent yr erthygl hon yn eu credo politicaidd. Mae efe fel ei dad yn foddlon byw neu farw wrth Y1"n- ladd dros y mater hwn yn unig. Mae'n debyg fod F. E. Smith felly hefyd, ond hyn yma, nid yw efe yn yr un dosbarth ag A. Chamberlain. Un o vvyr y gwter yw efe, ac heb lawer o adnoddau. Nis gellir dyweyd hyn am Chamberlain. Tra na wel byth y dydd i sefyll yn lie ei dad, rhaid dweyd ei fod yn gwella fel dadleuydd, ac fod achos Tariff Reform yn ddiogelach yn ei ddwylaw ef na neb arall. Beth ddaw o'r achos anhawdd dweyd. Mae'r si ar led fod Comisiwn i eistedd a chwilio i mewn, Mae'n bur bosibl mae creadigaeth o eiddo dyclymyg Undebwyr ydyw hon. Ond ceir gweled. Barn llawer yw fod yn rhaid chwilio'r mater yn llwyr a llawn. MASNACH RYDD A DIFFYNDOLLAETH. Cafwyd dadl fer nos Fercher ar y ddvvy ochr i gwestiwn Diffyndollaeth. Dyma gyfle Samuel Storey, y dyn sydd wedi newid ei ochr, ac fel llawer gwrthgiliwryn rhedeg i eithafion gwrth-gyferbyniol. Siaradodd ef yn faith a manwl, ac yn ddi- gon teg a dyddorol. Prin y gellir dyweyd i'r Ty gymeryd dyddordeb mawr yn y ddadl. Yr oedd yn burion cyfleustra i'r rhai na chawsant gyfle arall i. wneycl eu hunain yn glywadwy. Gorfoleddai yr Undebwyr uwchben bychander mwyafrif y rhai ddadleuent dros Fasnach Rydd. Ond cydmarol fychan oedd y Ty ar y pryd, a gwyddid nad oedd dim yn dibynu ar yr ymraniad. Gydag adfywiadamlwrg mewn masnach, mae rhagolygon Diffyndollaeth ar hyn o bryd yn lied dywvll. ADRAN GYNTAF Y VETO. Os oescoel ar Dy y Cyffredin, mae aw- durdod yr Arglwydc-li mewn materion ar- ianol wedi myn'd. Ymranwyd nos Iau ar yr adran gyntaf o'r penderfyniadau, a chafwyd mwyafrif o 102. Pe heb y mwy- afrif aruthrol gaffai y Llywodraeth yn y Senedd o'r blaen, byddai mwyafrif o'r maint hwn yn rhagorol. A rhaid dysgu Senedd a gwlad, i brisio yn briodol ffigyr- au o'r-fath eto. Mae arwyddion yr amser- au yn erbyn mwyafrifau mawrion am beth amser i'r dyfodol. Fe greai Toriaeth clnvyldroadau archwarter ynnvyafrif hwn. Paham y rhaid i Ryddfrydiaeth ddigalont ynte ? Os dengys y Prif Weinidog barhad o'r yspryd rhagorol sydd yn ei feddianu ar hyn o bryd, credwn y Jlwydda i gario ei ddelfrydau i weithrediad. Mae'n gwestiwn mawr iawn a feiddia'r Arglwyddi wrth- sefyll y penderfyniadau hyn, ac yn enwed- ig y cyntaf, Ac y mae pob arwyddion Y rhaid iddynt lyngcu y Gyllideb er mor chwerw, [Yr oedd lly'thyr ein gohebydd yn hwyr <4 yr wythnos ddiweddaf, eto gosodwn ef 1 mewn gan y gwyddom fod ein darllen- wyr yn mwynhau ei nodion rhag. orol. —GOH. ]
Y TADAU A'R MAMAU YN YR YSGOL…
Y TADAU A'R MAMAU YN YR YSGOL SUL. Yng nghynhadledd Cyngrair Eglwysl Rhyddion y Gogledd, a gynhaliwyd y Methesda Fawr yn Arfon ddydd Mawi-tl1 a ciydd Mercher yr wythnos ddiweddaf cyflwynwyd y tlysau—a gynhygir yn flyn- yddol gan Miss Gee, Dinbych, i'r rhai h)" af a hwya'u presenoldsb yn yr Ysgol SUI i'r rhai a ganlyn Robt. Jones, Bl. FfestiniogDOaín. oed. Rd. Williams, Llangoed, Mon—90. R. Bulkeley, Llangoed-88. W, Williams, Clynnog—80.