Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
PORTHFR PRAIDD.
PORTHFR PRAIDD. Creu o Newydd yn Nghrist lesu. Y mae dyn, trwy bechod, wedi myned mor ddrwg ei gyflwr, mor andwyol, a llygredigaeth pechod wedi gwreiddio mor ddwfn yn ei gyfansoddiad, fel y ty a'r gwahan glwyf ynddo yn Israel, rhaid ei dynu i lawr, a'i greu o newydd yn Nghist lesu ac nid oes modd cael pechadur i Grist ond trwy farw-niarw gyda Christ, a marw trwy Grist. Nid yw pawb, y mae yn wir, yn gorfocl dyoddef yr un poenau ac arteithiau wrth farw yn naturiol, eto mae marw ynddo ei hun yr un peth i bawb, rhaid marw. Ymddengys mai yn ol grym y cyf- ansoddiad, a'r yni bywydol sydd ynddo yn gwrthsefyll yr ymosodiad y mae poenau a dirdyniadau marwolaeth yn gyffredin. Dyna ddyn iach, cadarn ei gyfansoddiad, yn cael ei gymeryd gan y dwymyn boeth, ac yn marw y mae ei babell yn cael ei thynu i lawr gyda'r fath brysurdeb a thrwst, fel y mae yn amlwg y rhaid fod ei ddyoddefiad au yn fawr. Ond dacw y dyn ieuanc yn y darfodedigaeth, ar ol bod yn gwaelu ac yn nychu am fiynyddoedd, elfenau marwolaeth megys wedi treiddio yn ddystyw trwy ei holl gyfansoddiad, ei nerth wedi ei ostwng ar y ffordd," yn diffodd bron heb yn wybod iddo ei hun, os nad heb wybod hefyd i'w gyfeillion yn yr ystafell. Yr un modd am farw i'r ddeddf ac i bechod. Dyna y pechadur caled, rhyfygus, anystyriol, cadarn i bechu yn erbyn Duw, ac i ddy- wedyd geiriau caledion yn ei er- byn Ef-y mae yn bur debyg, os bydd a wnelo Ysbryd y Gras ag achub y cyfryw ddyn, mai ei ar- wain at Sinai a wna, i beri iddo weled y mynydd yn crynu, ac yn mygu fel ffwrn; i'w syfrdanu gan dwrf y taranau a llewyrchiadau y mellt, nes ofni i uffern agoryd ei safn yn anferth, a'i lyncu yn fyw iddi ei hun. Yno y bydd efe farw. Ond dacw rhyw wr ieuanc a ddyg- wyd i fyny yn Eglwys Dduw, a fagwyd ar hen aelwyd gafodd ei mwydo ganwaith gan ddagrau edifeirwch a chariad tad a mam yn ofni Duw yn fwy na llawer"; ryw ddiwrnod nis gwyr neb o'i gyfeillion nac yntau ei hun pa bryd, bu yntau farw, ond bu farw heb weled "y mynydd teimladwy," bu farw heb glywed yr un daran, na gweled yr un fellten. Yr hyn sydd yn profi ei fod wedi marw, yw ei fod yfl greadur newydd," ac yn ymadnewyddu o ddydd i ddydd ar ddelw yr hwn a'i creodd. PARCH R. ROBERTS. Ysbryd Duw yn y Credadyn. I Y mae Ysbryd Duw yn y credad- yn wedi gosod ei fryd ar fuddugol- iaeth Syniad yr ysbryd bywvd a thangnefedd yw." Yr un Ysbryd Dwyfol, yr hwn yn nhragwyddol- deb diddechreu a gydarfaethodd a'r Tad ac a'r Mab achubiaeth y y troseddwr, efe eto sydd yn eyd arfaethu a'r credadyn bob cam o'r ffordd sydd yn arwain i'r bywyd1 Yr ysbryd tragwyddol, drwy yr hwn yr offrymodd Crist ei hun yn ddifai i Dduvv, efe sydd yn nerthu y rhai a gredant yn Nghrist i roddi eu cyrph yn ebyrth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw. Ac y mae yr un nerth yn Syniad yr Ysbryd, yn eu mynwes ofnus hwy ag oedd yn meddylfryd y Tad i draddodi ei briod Fab, ac yn meddylfryd y Mab I garu hyd y diwedd a bod yn ufudd hyd angeu, ie, angau y groes. Er fod holl weddiau y credadyn wedi eu hamgylchynu a gwendid dyn, y rnaent ar yr un pryd yn gadarn a chadernid Duw. Ochenaid car- charor ydynt; ac eto ocheneidiau dwyfol ydynt: "Y mae yr Ysbryd el hun yn erfyn trosom ni ag ochen- eidiau anrhaethadwy." Pan y eh \vilia Duw galon y credadyn, Efe a ganfydda yn yr un man feddwl yr Ysbryd," yr hwn sydd Yn chwilio calon Duw ei hun yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth ie, clyfnion bethau Duw hefyd." A'r hwn sydd yn chwilio y calon- 9-U a vvyr beth yw meddwl yr Ys- bryd." Pan y sylla Duw ar y weddi a offrymir yn yr Ysbryd," Efe a "Wel ynddi ddelw berffaith yn lighanol. anmherffeithrwydd o'i fwriadati tragwyddol; oblegid y mae genyni ni feddwl Crist," ac eto pethau Duw nid edwvrÍ neb ond Ysbryd Duw." Y mae nerth  ?weithredu yn y credadvn y tu bob peth y gall efe o hono  hun, ?, ei ddymuno neu ei feddwd;" rlunior ^awr fel y mae yn rhaid i V"??? ?wr fel v mae yn rhaid ¿ Sbryd Duw oleuo llygaid ei fed i 1" ?w? trefn iddo ei wybod; ner}th' ?dd vn rhagori cymaint aT. ■ b 6 sy yn rnagon cymalnt bob gallu creedig, fel nad oes '-tIlî} ?'w gystadlu ag ef ond gweithrediad nerth cadernid I Duw, yr hon a weithredodd efe yn Nghrist, pan y cyfododd ef o feirw, ac a'i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd." Y mae syniadau yn meddwl credadyn na ddaethent i galon y dyn anianol eu dychmygu, Duw a'u heglurodd iddo trwy ei Ysbrvd." Y mae ynddo deimladau uwch a dyfnach nag a brofodd y dyn anianol erioed. Dyn dau ddyblyg ei feddwl, anwastad yn ei ffyrdd, a chyffelyb i don y mor, a defiir ac a chwelir gan y gwynt" ydyw anghredadyn, ei holl wroldeb a'i ymffrost; a phan y dynesa at farw ac y dechreua glywed lleisiau dyeithr y byd a ddaw, buan yr ym- ollynga ei holl wroldeb ac y di ffodda llusern ei obaith. Ond y mae yn y credadyn, yn nghanol ei wendidau a'i anghysonderau, nerth penderfyniad goruwch-naturiol, ac ni fyn edrych drach ei gefn, er fod lleisiau swynol o'i ol yn ceisio ei ddenu, a chynddaredd gelynion o'i flaen yn sychedu am ei waed. Y mae yn wir ei fod yntau yn ofni yn fynych. Ond nid yw ei ofnau a'i amheuon ond cyffelvb i'r dvmhestl ar wyneb y mor; yn eigion dwfr ei enaid y mae tawelwch mawr. Mor dawel ac ansigledig ydyw ei ben- derfyniad i fyned i mewn i'r bywyd fel nad oes un eglurhad i'w roddi ar hyn ond fod Ysbryd Duw yn trigo ynddo ac vn ei gadarnhau mewn nerth yn y dyn' oddimewn." Pa ddyn clifrifol a feiddia ddywed- yd wrth Dduw mewn gweddi, Ni'th ollyngaf oni'm bendithi ? Pwy hefyd, ond y neb a gafodd nerth gyda Duw ac a ymaflodd yn hollalluogrwydd y Gwr a'r Hwn yr ymdrecha? Y mae "syniad yr Ysbryd yn ddelw yn enaid y cred- adyn o anghyfnewidioldeb ewyllys Duw ei hunan. Ymestyna meddwl dyn yn naturiol at yr anghyfnewid- iol, ac y mae ei ddymuniadau an- herfynol yn eiliw gwanaidd o'r an- feidrol. Nid oes yn yr holl gread- igaeth ddim yn ymgodi mor agos at yr anghyfnewidiol a meddyliau a theimladau enaid dyn. Ond o bob anghyfnewidioldeb, yr uwchaf ei natur a'r gogoneddusaf ydyw anghyfnewidioldeb ewyllys. Er fod Duw yn ogoneddus yn ei han- fod digyfnewid, perthyna gogon- iant arbenigol i anghyfnewidiol- deb ei ewyllys a'i ras. Ac yn hyn y mae gwendid dyn yn dyfod i'r golwg oblegyd o holl gynheddfau ei enaid nid oes un mor llesg a'i ewyllys. Ond pan y daw Ysbryd Duw i breswylio ynddi hithau, ym- gryfa y gorsen ysig hono fel nas gall na byd, na chnawd, na diafol ei dryllio, ac a y llin oedd yn mygu yn fflam na ddiffydd byth. Fel y mae cyflawnder y dyfroedd dyfn ion a lechant mewn Ogofeydd cuddiedig dan y ddaear yn nerthu i ffynon fechani ymwthio i'r golwg drwy y cruglwyth o gerryg a llaid sydd yn gorwedd ami, felly y mae preswyliad yr Ysbryd Glan yn cyflawni y credadyn a holl gyflawn- der Duw, ac yn gwneyd ei weddiau gweiniaid yn orchfygol gan nerth ewyllys ddwyfol yr Ysbryd. DR. T. C. EDWARDS. I
CADVAN ETO. I
CADVAN ETO. I COLOFN I CEIRIOG.—Gwr deheuig yw Cadvan! Wedi cael colofn i'r bardcl Huw Morus ar fuarth Pont y meibion, y mae'n awr yn paratoi at gael colofn ir bardd Ceiriog. yn mhentref Llanarmon. Rhwydd- hynt iddo; a chwi Gymry ilengar, sy" 'n caru gwaith ein pen lelynegwr Ceiriog, rhodd- wch help llaw i gael colorn deilwng.
PENRI YN Y LLYFRGELL GEN-I…
PENRI YN Y LLYFRGELL GEN- I EDLAETHOL. Erbyn hyn y mae cop: o holl weithiau John Penry wedi eu sicrhau i r Llyfrgell Genedlaethol. Talwyd [:)1 10s. am gopi o'r pamphled, A Treatise containing the equity of a humble supplication in behalf of the country of Wales, that some order may be taken for the preaching of the Gospel among those people."
Y LLADRON TUR A'R BARDD CWSC.
Y LLADRON TUR A'R BARDD CWSC. Y mae Wm. George, diolch iddo, wedi cyffroi Cymru gyfan ynghylch y tir lladrad. Ac yn sicr, y mae y gair canlynol gan Ellis Wynne, yng Ngweledigaeth Stryt yr Elw ym Mardd Cwsc" yn ameuthyn damaid,—dyma fo :—Beth yw Teiliwr a ddwg ddarn o frethyn, wrth Wr mawr a ddwg allan o'r Mynydd ddarn o Biwy ? Oni haeddei hwn ei alw'n Garnlleidr wrth y llall ? ni ddug hwnnw ond cynhinion oddiarno ef, eithr efe a ddug oddiar y tlawd fywioliaeth ei anifail, ac wrth hynny, ei fywioliaeth ynteu a'i weiniaid. Beth yw dwyn dyrneid o flawd yn y Felin, wrth ddwyn cant o hobeidieu i bydru, i gael gwedi werthi un ymhris pedwar? Beth yw Sawdwr lledlwm a ddycco dy ddillad wrth ei gleddyf, wrth y Cyfreithwyr a ddwg dy holl stat oddiarnat. a chwil gwydd, heb nac iawn na rhwymedi i gael arno? A pheth yw Pigiwr-pocced, a ddygo pum- punt wrth gogiwr dis, a'th yspeilia o gantpunt mewn traean nos ? A pheth yw Hwndliwr a'th siommei mewn rhyw hen geffyl methiant, wrth y Potecari a'th dwy- lla o'th arian a'th hoedl hefyd am ryw hen physygwriaeth fethedig ?"
Advertising
"YGobaith Cristionogol." Crown 8vo., mewn Llian hardd, Llythyrenau Aur. Wedi ei argraffu mewn llythyren fras, ar "An- tique Paper." Pris 3s. 6c. Cyrfol o Bregethau GAN Y PARCH. HUGH JONES, D.D., Bangor. Eurgrawn Canmlwyddiant. Mae y Gyfrol hon yn aros wrthi ei hun-yn gyfrol unique. Bob can' mlyn- edd y gall cyfrol o'r fath ymddangos. Nid oes modd ei gorbrisio yn ei Gwasanaeth Hanesydd- ol. Mae ei Darluniau yn derbyn cymeradwy- aeth gyffredinol. Ceir ynddi Gynyrchion ein Llenorion goreu. Ond yn fwy na'r oil y mae Yn Gofgolofn i Athrylith, Ymgysegriad a Llwydd- iant y Tadau Wesleyaidd. Mae llawer o'n prif gy- feilion yn awyddus i ni ei Rhwymo, modd y gall Rhieni gyflwyno y Gyfrol i bob un o'u Plant fel trysor o werth parhaol; Athrawon i'w Hysgolor- ion Blaenoriaid i Ael odau eu Rhestrau; a phobl glyd arnynt i rai tlodion. Mae y Pwyllgor wedi penderfynu cydsyn- io a'r cais ond mae yn bwysig ini gael syniad pa nifer i'w Rhwymo. Erfyniwn am Archebion yn fuan. Gwneir hyn er cyfleustra i'n pobl, ac nid er mwyn elw. Pris mewn Llian, 4s. 6c Haner Rhwymiad, 5s. 6c. Archebion i'w hanfon i'r— WESLEYAN BOOKROOM, BANGOR. Yn barod erbyn Mawrth 23. ESBONIAD Y MAES LLAFUR: Cyfrol I. EFENGYL IOAN, Pennod I.—IX. GAN Y Parch. Richard Lloyd Jones. Pris Dau Swllt. Gwerthir Dwsin ac uchod, yn ol Is. 6c. yr un i'r Dosbarthiadau neu yr Ysgolion fydd yn anfon am danynt, gyda Blaendal. Llawlyfi? taP Efengyl Mathew (Rhan laf, Pen. 1—9.) I Ar gyfer Dosbarth II a III GAN Y Parch. P. Jones Roberts. PRIS PEDAIR CEINIOG. Gwerthir Dwsin, ac uchod, am dair cein- iog yr un i'r Ysgolion a anfonant am dan- ynt gyda blaendal. SYLWER Y mae y Gwersi wedi eu trefnu ar gyfer pob Sabboth. Cynwysa yr Adnodau ac Esboniad arnynt ar gyfer pob gwers. Dyma lyfr hwylus a rhad. Dylai fod yn llaw bob un o'n Pobl Ieuainc yn y Ddau Dosbarth II a III. Gofyniadau y Maes Llafur am 1910-11. Pris Ceiniog yr un. Rhoddir cant am 5s., a haner cant am 3s., ond anfon Blaendal. Nis gall Dos- barthwyr, na neb arall, eu cael ond ar y telerau uchod. D.S.—O'r Bookroom yn unig y gellir cael adgyflenwad i'r tair Talaeth. Dyma i 'chi! (Gair i gall). A oes arnoch EISIAU RHYWBETH ? Lie, Gwas, Hysbysebir Morwyn, hyny ond i Clerk, ■< chwi anfon Draper, Postal Order Grocer; Chwecheiniog Baker, I iA A ddymunech Werthu TY, t Anifeiliaid, Postal Order Nw ddau Swllt  J wna hyny yn Pn etfhu au A11- hysbys. law ? J A garech sicrhau TY AR OSOD, neu OSOD TY AR RENT ? Cewch gyfle rhagorol yn y GWYLIEDYDD NEWYDD am Swllt y tro i hysbysebu. Gall- wch ofyn am i'r attebion ddod yn syth i chwi neu trwy Swyddfa y GWYLIEDYDD NEWYDD, Aberdovey. Dywedodd masnachwr wrthym y dydd o'r blaen, "Cefais golled fawr na fuasai y "Gvvyliedycld New- ydd" allan yn gynt. Nid oedd ffrindiau fy nhad yn gwybod am yr Auction oedd gennyf; 'nawn i byth Auction arall heb roi Adver- tisment yn y Gwyliedydd New- ydd'. Rhaghysbysir Darlithoedd, Cyf- arfodydd Pregethu, a Chyngherdd- au, am 6 cheiniog y tro Eistedd- fodau a Bazaars, am swllt y tro. Hysbysir Genedigaeth a Phriod- asau am Chwecheiniog. Rhaid anfon BSaencial gyda phob Advertisement i'r MANAGER, "Gwyliedydd Newydd," Aberdovey. Programme OF EISTEDDFOD To celebrate the Centenary of the Manchester Unity of Odd-fellows by the Ystrad Rhondda District, on YSTRADFECHAN FIELD, TREORCHY, TUESDAY, MAY 17th, 1910. Conductor- Alderman E. H. Davies, J.P., Pentre Ad j udicators— Music—E. T. Davies, Esq., Merthyr, and J. Price, Esq., Rhymney. Poetry—Rev. J. J. Williams, Pentre Literature, &c.-W. P. Thomas, Esq., D.C. Treorchy, and D. James, Esq., Dyfynog, Treherhert. Accompanists-Prof. J. T. Jones, Treorchy, and W. J. Davies, Esq., Treorchy. MUSIC. 1. Chief Choral-To the choir of not less than -60 that will render, "We never will bow down." 925, and a silver cup to the fonductor, value t4: 4s. If 5 choirs will compete, a Second Prize of £5 will be given, and a gold medal to the Conductor. 2. Children's Choir—To the choir of not less than 40 in nuifiber, nor over 16 years of age, that will best render a piece of their own selection. 25 5s., and a Baton to conductor. 3. Children's Choir-To the choir of not less than 25 in number, nor over 12 years of age, that will best render Y dryw bach." tl Is., and a Baton to the conductor. Copies to be had of Mr H. How&Jls, Schools, Treorchy. 4. Soprano Solo-" With vendure clad." Ri Is. Contralto Solo-" Within the gates of light." m Is. Published by Mr. S. Jones, Newport, at Is. 6d. 6. Tenor Solo-" Y Llong a'r Goleu- dy (M. O. Jones). JE1 Is. 7. Bass Solo-" Bannerman (W. Davies). £1 Is. 8. Boys' Solo-" Yr hogyn drwg.' 5s., and a silver medal. 9. Girls' Solo—"Guiding Star," for girls under 16 years. 5s., and a silver medal. Published by Mr. S. Jones, Newport. 10. Duett-" Excelsior." JB1 10s. 11. Novice Solo-" What I love" (T. D. Edwards), for females that have not previously won 91 Is. 10s. 6d. 12. Novice Solo Lead, kindly light (Pughe Evans), for males that have not previously won tl Is. 10s. 6d. 13. Violin Solo—Carnival (Devince). 14. Pianoforte "Danse Valague (Leonard Ganteer) for children under 16. 1st prize, Music value 10s.; 2nd do., 5s. 15. Pianoforte-" Danse des Fakirs (Leonard Ganteer). 1st prize, value 7s. 6d. 2nd do., 3s. 6d. 14 and 15 prizes are given by the Publisher, Mr S. Jones, Newport. 16. Pianoforte—'Moorland Rambles' (Newell), for children under 13. Prize, Volume of Music, bound in cloth, gold lettering, given by the Publisher, Mi E. Donajowski, 26 Castle Street, Berners Street, London, W. LITERATURE. 1. Essay-" Odd Fellowship. P,2 2s. 2. Poetry—Pennillion coffadwriaeth- ol i'r diweddar William Evans, C.L.D., yr hwn fu yn Ymddiriedolwr y Dos- barth am dros 18 mlynedd, ac hefyd yn Ysg. Rhosyn Rhondda a Neuadd Baglan am lawer iawn o flynyddau Manylion gan yr Ysgrifenydd. £ 2 2s. 3. Adroddiad-I rai dros 15 mlwydd oed The Women of Mumbles Head' 10s. 6c. 4. Adroddiad—I blant dan 15 mlwydd oed Saif i fyny dros dy Wlad ■ (Dyfed). 7s. 6c, a medal arian. 5. Adroddiad—I rai na enillasant 7s. 6c. o'r blaen, Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd.' 5s. MUSICAL SECRETARY: E. Lewis, 4, Windsor St., Pentre. GENERAL SECRETARY W. Powell, C.S., Cemetery Lodge, Treorchy. Programme for the day will be reaày later on.
SHON GORFF A SHON WESLA. I
SHON GORFF A SHON WESLA. I Dyma gwestiwn dyddorol o'rGoleuad a'r bwnc Pregethu a Phregethwyr. A yw y Cyfundeb yn dilyn y Trefnyddion Wesley- aidd ? Rhoddir cryn dipyn o le yn eu Cyf- undrefn hwy i Bregethwyr Cynorthwyol ac yn ol pop arwyddion y mae y dosbarth hwn yn lliosogi gyda'r Methodistiaid. Llenwir y pulpudau gan Leygwyr; a cymer y brodyr da hyn dAl bid sicr am eu gwaith. Dichon y gellid profl nad vw hyn yn rheolaidd, ond yn sicr gellid profi nad yw hyn yn deg a'n pregethwyr rheolaidd ni." Sut bynag, mae y Wesleyaid yn parchu y "pregethwyr cynorthwyol," ac yn teimlo ei dyled i'r gwyr da hyn am yr oil a wnaeth- ant ac a wnant rhagllaw.