Skip to main content
Hide Articles List

23 articles on this Page

CYLCHDAITH TREORCI. I

YNYSYBWL.

ABERYSTWYTH.I

DINAS MAWDDWY. I

FERNDALE. I

ICAPEL GARMON.I

I GWRECSAM: YR EISTEDEDDFOD.

DOWLAIS.---I

CORWEN. I

IGWYDDELWERN.I

CAERAU, MAESTEG. I

CYFARFOD Y PASG TREFFYNON.…

CAERGYBI. I

EISTEDDFOD WESLEYAID CERRIG-Y-DRUIDION.

LLANGEFNI.

PORTHAETHWY.

ABERMAW. I

I --ICRICCIETH.

IEARLESTOWN.

News
Cite
Share

I EARLESTOWN. Ynghapel y Wesleyaid Cymreig Tam- worth Street, nos Sadwrn, Ebrill 2il cyf. breintiwyd ni a gwasanaeth Mr. Ellis Roberts, Wrexham. Traddododd ddar- lith ar y diweddar Griffith Jones, Tre- garth." Wel, dyma ddigwyddiad rhyfedd medd rhywun—Y Darlithydd yn Annibyn wr, a Gwrthddrych ei destyn yn Methodist Calfinaidd; ar ddarlith yn cael ei thra- ddodi mewn Capel Wesleyaidd, ar elw tuagat yr un achos. Wel, rhaid cyfaddef un peth ein bod fel enwaclau yn gwella yn y cyfeiriad hwn, a theg yw dweyd y byddai yw dweyd y byddai mwy o lewyrch ar achosion gweiniaid Cymreig yn nhrefydd Lloegr heddyw, pe byddai modd meithrin mwy o unoliaeth, a llai o enwadaeth. Treuliwyd dwy awr ddedwydd iawn ynghwmni hen gymeriad mor ddoniol a chywir, ac yr oedd Mr. Roberts, yn rhoi ei hanes mor dda a dydd- orol, fel braidd na fasa ni yn tybio ei fod o'r un ardal. Yr oedd yn d iVeyd rhai o'i wits mor hyawdl, ac mor fedrus, a dywed- odd fod ei ffraethineb yn eithriadol. Dyma bennill o'i eiddo i "Griffith Jones ar ddi- wedd y ddarlith. Aeth adref yngherbyd urddasol y gwynfyd Arhydy ffordd newydd, agorwyd trwy'r gwaed, Ynghofal y cwmni'r anturiodd ei fywyd, Gansathru ei elynion dan wadnaueidraed 0 olwgysblenydd, yr lesu'n Arweinydd, A Cherub a'r seraph yn weision i'r Sant, Ei enaid yn glanio yn nghanol gogoniant A chroesau a moliant yn seinio pob taut. Llywyddwyd gan Mr Robert Pugh, blaenor ffyddlawn ein heglwys ni, a gwnaeth ei waith i foddlonrwydd cyffredinol. Pregeth- wyd ddwywaith yn ystod y Sul gan Mr. Roberts. Cafwyd gwledd trwy gyfrwng y Ddarlith a'r Pregethau. R. H. JONES.

CORRIS.

HOREB, PENYGROES.

LLANBEKIS. . T.....--T-.--,I-…

PENYGRAIG.