Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

23 articles on this Page

CYLCHDAITH TREORCI. I

YNYSYBWL.

ABERYSTWYTH.I

DINAS MAWDDWY. I

FERNDALE. I

ICAPEL GARMON.I

I GWRECSAM: YR EISTEDEDDFOD.

DOWLAIS.---I

CORWEN. I

IGWYDDELWERN.I

CAERAU, MAESTEG. I

CYFARFOD Y PASG TREFFYNON.…

CAERGYBI. I

EISTEDDFOD WESLEYAID CERRIG-Y-DRUIDION.

LLANGEFNI.

PORTHAETHWY.

ABERMAW. I

News
Cite
Share

ABERMAW. I Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol Cylchdeith- iol yn y lie uchod dydd Sul Ebrill 5ed, dan lywyddiaeth Mr J. Jones, Abermaw. Yr oedd yn llawenydd genym weled fod pob ysgol yn y Gylchdaith wedi anfon cynrych- iolwyr. Gwnaed trefniadau ar gyfer y Gymanfa yn y pwyllgorau, ac amryw beth- au eraill ynglyn a'r Ysgol Sul. Cwynid yn ddirfawr yn y pwyllgor fod yr Ysgol Sul yn colli tir, er fod pob ymdrech wedi ei wneyd i'w chodi. Mae hyn yn fater pur bwysig, a dylasai gael sylw gan yr eglwysi. Cafwyd dau gyfarfod y prydnawn a'r hwyr ac y mae'n destyn llawenydd gweled pobl ieuainc yn cymeryd rhan mor amlwg yn y cyfarfod hwn. Yr oedd y rhaglen am y ddau gyfarfod fel a ganlyn :-— Prydnhawn-'Adroddiad. Datguddiad 22 gan Mary Rees Roberts. Holwyd Safon 1 gan Mr D. J. Lewis, Dolgellau. Holwyd Dosbarth 1 yn Hanes Iesu Grist gan Nir D. J. Lewis. Adroddiad o Psalm 15 gan y bechgyn dosbarth 1, ac adroddiad o Mat- thew v. gan y merched. Ton gan y plant. Darllenwyd papyr gan Mr G. R. Owen. Dolgellau. Holwyd Safon 3 gan Miss Wil- liams, Dyffryn. Holwyd Dosbarth 2 gan Mr J. James. Adroddiad gan Mr Ithel Lewis, Dyfiryn. Cyfarfod yr Hwyr—Adroddiad o'r 13 Corinthiaid gan Mr W. O. Jones, Abermaw. Adroddiad o'r Esiaih gan Annie Jones, Abermaw. Darllenwyd papyr gan Miss Williams, Dyffryn. Can gan Miss A. C. Owen, Abermaw. Anerchiadau gan Mri J. James a Richard Barnett, Dolgellau. Ton gan y Plant. Anerchiad gan y Llywydd. Wythawd dan arweiniad Mr H. Williams, Abermaw. Holwyd dosbarth iv. yn yr Actau gan y Parch D. Egwys Jones. Cyn- helir y Gymanfa eleni ddydd Llun, Ebrill 25, ac yr wyf yn hyderu y bydd nifer luosog yn ymgeisio ar y gwahanol destynau. YSGRIFENYDD.

I --ICRICCIETH.

IEARLESTOWN.

CORRIS.

HOREB, PENYGROES.

LLANBEKIS. . T.....--T-.--,I-…

PENYGRAIG.