Skip to main content
Hide Articles List

23 articles on this Page

CYLCHDAITH TREORCI. I

YNYSYBWL.

ABERYSTWYTH.I

DINAS MAWDDWY. I

FERNDALE. I

ICAPEL GARMON.I

I GWRECSAM: YR EISTEDEDDFOD.

News
Cite
Share

GWRECSAM: YR EISTEDEDDFOD. BEIRNIADAETH YR ENGLYN- I Y GROG- LITH."— Derbyniwyd saith o gyfansoddiad- au, ond ni chafwyd ond pum englyn. Nid englynion yw eiddo Cymraes Gwrecsam a Cymro Bydded iddynt astudio Ysgol Farddol Dafydd Morganwg, cyn ceisio eto wneud englyn. "Twrog" Mae ganddo englyn da, ond nid yw y gair rhaglen yn y llinell gyn- taf yn briodol-" Enwog raglen yw'r Grog- lith na'r gair "athrylith" yn y Ilinell olaf. Dei y Go :—Llinell wan yw'r un olaf —" Yn addas ddynion heddyw." Mae rhag- want ar y chweched sill yn y Ilinell gyntaf, yr hyn sy'n waharddedig. "Emrys" :-Nid doeth gosod cyplysnod yn y gair Groglith, a'i wneud yn Grog-lith —nid yw'n swnio'n hyfryd. Geiriau llanw yw "rhaid addef" yn yr ail linell. "Berwyn "Dyma englyn cywir ond nid yw'n gwella wrth fynd yn mlaen, ond yn hytrach fel arall. Gair llanw yw "gwy- byddwn yn y drydedd linell. Dyma'r peth goreu yn yr englyn-" ddydd aberth Dydd wybu nerth annwn." Nid yw'r gweddill yn agos cystal—gresyn hynny. Gwynn ap Gwener."—Dyma englyn tlws, a chynghaneddion newydd, a syniad- au awenyddol. Nid wyf yn hoffi Da Wener" ychwaith. Mi wn mai cyfieithiad o "Good Friday yw. A'i gymeryd drwy- ddo dyma'r Englyn goreu o ddigon teil- ynga'r awdwr y wobr. Ar air a chydwy- bod. CYNFOR. BEIRNIADAETH Y PENILLION ETHOLIAD 1910.Ymgeisiodd chwech ond nid oes yma gystadleuwyr cryfton. Mae gan Suff- ragette benillion doniol-dyma y rhai mwyaf doniol ond y mae ynddynt lawer o wallau. Mae gwallau hefyd yn mhenill- ion Rhyddfrydwr o Bentre Broughton." Mae gan Ap o'r Cwm benillion go dda; ond nid yw y gadlef cry' yn gywir— rhyw fenywaidd yw cadlef. Penillion Saesneg sydd gan G. W. Monk. These verses are spoilt by a great number of defective Rhymes, and there is too much local colour in them. Pum penill sydd gan Rhyddfrydwr "-— prin fod eisiau y cyfeiriad Ileol sydd yn un penill, gan mai yr Etholiad Cyffredinol yw y testyn. Rhyddfrydwr o'r Wlad "—ganddo ef mae'r penillion goreu; ond braidd yn siom- edig yr wyf na buasai y rhai goreu yn well o dipyn-yn fwy awenyddol. Pa fodd bynag credaf ei fod yn deilwng o'r wobr. CYNFOR. I

DOWLAIS.---I

CORWEN. I

IGWYDDELWERN.I

CAERAU, MAESTEG. I

CYFARFOD Y PASG TREFFYNON.…

CAERGYBI. I

EISTEDDFOD WESLEYAID CERRIG-Y-DRUIDION.

LLANGEFNI.

PORTHAETHWY.

ABERMAW. I

I --ICRICCIETH.

IEARLESTOWN.

CORRIS.

HOREB, PENYGROES.

LLANBEKIS. . T.....--T-.--,I-…

PENYGRAIG.