Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
EVERY BOX OF ENGLAND'S GLORY MATCHES USED Means MORE WORK for British Workpeople. Moreland, Gloucester.
ICYNGRAIR EGLWYSI RHYDDION…
I CYNGRAIR EGLWYSI RHYDD- ION GOGLEDD CYMRU. I (Gan Ohebydd Arbenig). Cynhaliwyd CyfarfodBlynyddol y Cyng- rair uchod ym Methesda, Ebrill 5ed a'r (ied. Agorwyd y gweithrediadau am saith o'r gloch nos Fawrth yng Nghapel yr Anni- bynwyr. Llanwyd yr addoldy eang hyd yr ymylon gan gynulleidfa luosog. Y ddau gennad apwyntiedig ydoedd y Parch. Puleston Jones, M.A., Pwllheli, a'r Parch Charles Davies, Caerdydd. Cenadwri o galondid i weithwyr Cristionogol oedd gan y Parch Puleston Jones, seiliedig ar 1 Bren., 19 benod, 4 adnod. Darluniodd y pregethwr yn darawgar Elias dan y fer- ywen: a nododd mai profedigaeth dyn selog, dyn mawr, a dyn duwiol, ydoedd eiddo'r prophwyd. Gweithiwr siomedig a lluddedig, wedi suddo i ddyfnder digalon- did a thrallod oblegid aflwyddiant gwaith yr Arglwydd. Gyda deheurwydd anghyff- redin cymwyswyd y sylwadau at weithwyr Cristionogol mewn cyffelyb amgylchiadau. Yna cyfeiriodd y pregethwr at y modd yr adferwyd Elias. Meddygiaeth up-to-date oedd hon meddai Mr Jones-gorffwys, llun- iaeth, a thro yn yr anialwch. Rest cure, diet cure, ac open-air treatment. Buddiol i ami un eto ydyw myn'd trwy yr un or- uchwyliaeth. Sylwyd yn olaf ar-Y wel- edigaeth a'i chenadwri i'r prophwyd, sef (1) Credu mwy yn y dynol. (2) Credu mwy yn y cyson, (3) credu mwy yn y distaw. Am- herffaith dros ben y syniad a rydd yr am- linelliad uchod o bregeth hynod o effeith- iol, ac eithriadol o bwrpasol ac amserol. Seiliodd y Parch Charles Davies ei gen- adwri ar 1 Tim. v. bennod, 12 adnod. Cymer afael ar y bywyd tragwyddol. Pregeth felus fel y diliau mel, a chyfoethog o efengyl ydoedd hon. Yn ddigwestiwn oedfa neilltuol ydoedd hon, a rhyw enein- iad dwys a dwfn ami o'r dechreu i'r di- wedd. Boreu Mercher am 10 30, caed Cynhad- ledd Seisnig, a llywydd y Cyngrair, Parch D. Stanley Jones, Caernarfon, yn y gadair. Darllenwyd papyr gan y Parch D. E. Jen- kins, Dinbych, ar Le arabedd mewn cref- ydd ymarferol." Gwych o destyn i'w drin mewn Cymdeithas Lenyddol a Dadleuol, ond prin y peth i Gynhadledd o'r fath. Bid a fynno am hyny, deliodd Mr Jenkins yn alluog ac arabeddus a'i bwnc. Papur cyf- oriog a sylwadau gwirioneddol dda. Braidd yn fain ydoedd y drafodaeth arno. Cwrdd digon di-ddrwg, di-dda, heb fod neb nemor gwell na gwaeth ar ei ol. Cyn ym- wahanu, awd trwy y ddefod ddyddorol o gyflwyno tlysau arian, rhoddedig gan Miss Gee, Dinbych, i bumb o bobl oedranus fuont ffyddlon ac a barhant yn ffyddlon gyda'r Ysgol Sabbothol. Anfonodd odd- eutu cant eu henwau i mewn i'r Pwyllgor, ond y rhai a ganlyn a ystyrid yn haeddu'r Medals :-Richard Jones, Blaenau Ffestin- iog, 90 mlwydd oed; Richard Williams, Llangoed, Sir Fon, 90 mlwydd oed Rich- ard Bulksley, Llangoed, 88 mlwydd oed; William Williams, 86 mlwydd oed Mrs Hooson, Cilcen, 86 mlwydd oed. Cysgoded yr Arglwydd hwynt oil yn eu hen ddydd- iau. Am ddau o'r gloch y prydnawn cynhal- iwyd Cynhadledd Gymreig yng nghapel Siloam, pryd y traddododd y Parch Stanley Jones ei Anerchiad o'r gadair. Diau y ceir adroddiad llawn o honni, fel nad oes angen manylu rhyw lawer ar y pwyntiau pwysig a ddygwyd i sylw. Hawlia Mr. Jones ar i'r mudiad mawr hwn ymlith yr Anghyd- ffurfwyr gael ei farnu, nid yng ngoleu ei effeithiau, eithr yn hytrach wrth yr eg- wyddorion oedd o'r tu ol iddo. Hogyn pymtheg oed ydyw eto" meddai'r Llywydd, peidiwch disgwyl gormod oddiwrtho. Haner canrif yn ol camp fuasai uno'r en- wadau, oblegid y cweryion diwinyddol oedd yn ei gwahanu. Erbyn heddyw mae'r dadleuon wedi diflanu ac ymgiprys am swyddi a safleoedd mewn Cynghorau wedi cymmeryd eu lie. Ergyd go gas, ond nid heb wir angen am dani. Credai'r Llywydd mai nid drwg di-gymysg oedd y dadleuon gynt,—rhain a'n gwnaeth yn bobl ddarllengar, feddylgar, sefydlog ac ymlyngar wrth ein Hegwyddorion. Un o wersi y gorphenol i'r Eglwysi Rhyddion ydyw ein rhwymedigaeth r ymwneud a chwestiynau cymdeithasol. Dylem ochelyd gwleidyddiaeth plaid. Ein swyddogaeth ydyw cysegru a sancteiddio politics ein gwlad, a'i gwaredu rhag iddynt ddirywio yn party game. Dyledswydd anghydffurfiaeth ydyw rhoi ei goreu i wella amgylchiadau dyn ymhob modd. Gwrs ara.ll a ddysgir inniydyw fod yn bryd ymatal rhag gwastraffu ein had- noddau yn ofer. Pa fudd sydd mewn aml- hau addoldai mewn man-bentrefi ? Gwrth- un ydyw codi pedair o gapelau mewn pen- tref na rifa ei boblogaeth ond rhyw 200. Onid gwell gwario yr arian ar ddarpar man cyfleus i ieuengctid yr ardal gwrdcl a'u gilydd mewn awyrgylch iach a phun Mawr yr angen am sefydliadau tebyg mewn pentrefi a threfi y Dywysogaeth. Diffyg lleoedd o'r fath sy'n cyfrif am fod ami ddyn ieuangc yn myn'd ar goll. Gwers bwysig arall ydyw ein rhwymedigaeth i ddiogelu ein pethau cyssegredig—y Beibl a anwybyddir mor ddifrifol, a'r Sabboth a sarnir dan draed mor gywilyddus. Cen- adwri gref yn ddios, draddodwyd yn dra grymus. Hyderwn yr argrefnr yr anerch- iad, ac y gwasgerir hi led-led y wlad. Mawr les a wnel yn sicr ddigon. Galwyd wedyn ar y Prif-athro Silas Morris o Goleg y Bedyddwyr ym Mangor i ddarllen papur ar Berthynas yr Eglwys a Sosialaeth" Dewisodd yr Arthro dysgedig, anerch yn hytrach na darllen. Nid ydym yn sicr a'i doeth y dewisiad. Eglur ydoedd ei fod yn dra chyfarwydd a'i bwnc, ac yn ymdeim- ladol o'r anhawsderau. Cymerocld olwg eang arno, ac olreiniodd y gwahanol ffurf- iau a gymer Sosialaeth mewn gwahanol wledydd ar gyfandir Europe a'r amrywiol ystyron sydd i'r gair. Ni fynai'r Athro gyssvlltu'r Eglwys ag unrhyw gyfundrefn o Sosialiaeth, ond safai dros iddi feithrin cydymdeimlad ag anian- awd y symudiad. Dylai'r Eglwys, meddai siaradwr anog ei haelodau i ystyried pob cais a mesur a gynygir'i ddyrchafu dynion. Nid hawdd ydoedd delio'n foddhaol gyda r testyn a gwnaeth y Prif Athro yn rhag- orach nac y medrai llawer o honom ei wneud. Profodd ei fod yn meddu gwybod- aeth eang ynghylch y cwestiwn a thrin iodd ef yn deg dros ben. Hwyrach fod gwyleidd-dra a lledneisrwydd y siaradwr yn anfantais iddo, fedru gwneud argraff ddofn ar feddyliau ei wrandawyr. Ni wiw celu mai elipyn yn flat oedd pethau am ysbaid o dri chwarter awr. Nid ydys yn meddwl mai sychder y pwnc nai ddieith- rwch oedd yr achos o hynny. Ac yn sicr ddigon nid cynwys yr arawd. Gwahodd- wyd y Parch. Tecwyn Evans i agor yr ym- ddiddan, ac yn ddiymdroi daeth ef a'r gyn- ulleidfa i delerau da a'i gilydd. Gwnaeth rai sylwadau byw, pert a doniol fu'n eff- eithiol i ymlid ymaith y marweidd-dra llethol orweddai ar bawb ymron. Ond fel yr addefodd ei hun, lied ddieithr iddo ef oedd y mater dan sylw. Rhaid oedd troi i lyfr Job am Sosialiaeth iach ac ym- arferol. Druan o'r hen batriarch. Gwnaed ef o dro i dro yn awdurdod ar bopeth, seryddiaeth, gwyddoniaeth, daeareg, ac yn ddiweddaf oil ar Sosialiaeth. Beth nesaf tybed ? Siaradwyd ymhellach gan y Parchn. Rhys J. Huws, Richard Morgan, R. W. Hughes, W. R. Owen, D. E. Jenkins a Dr.. Evans. Caed ymddiddan pur fywiog a gwresog. Dichon fod yr amser yn rhy fyr i neb o'r brodyr fedru taflu llawer o oleuni ar y cwestiwn. Yn yr hwyr am saith cynhaliwyd cyfar- fod cyhoeddus yng nghapel Jerusalem. Cymerwyd y gadair gan y Parch Ish. Evans. Prin fod angen dweyd iddo ef wneud ei waith yn effeithiol a graenus. Y cyntaf i anerch y dorf ydoedd y Prif-Athro Rees o Fangor. Pur bwrpasol ei arawd ar Genadwri'r Efengyl i'r Tlodion. Anfynych y clywsom anerchiad gyfoethocach o syl- wedd, yn cael ei thraddodi gydag ynni a brwdfrydedd. Dilynwyd ef gan y Parch Puleston Jones ar yr un llinellau, er iddo fwriadu siarad ar fater arall. Gwasgodd adref y gwirioneddau gwerthfawr a gaed gan y Prif-Athro yn ei ddull gwreiddiol ei hun. Araeth fyw, lawn o arabedd iach a path- os, a chredwn iddi wneyd gwaith effeithiol ar galonau a chydwybodau y cannoedd wrandawant arno. Pwysleisiodd y Parch Charles Davies werth yr Undeb rhwng yr eglwysi; ac argymellodd gyda dwysder a difrifwch Ymneilltuaeth i lynu'n ffyddlon wrth ei nodwedd efengylaidd. Gair yn ei bryd, yn cael ei lefaru gan Was yr Ar- glwydd. Ar y terfyn cynygiwyd, eiliwyd a phas- iwyd benderfyniad yn cydnabod ymdrech- ion egniol y Weinyddiaeth bresenol ym- hlaid addysg rydd, dirwest, &c., ac anog- wyd y llywodraeth i barhau yn ddiorffwys i wneud ei goreu i symmud ymaith y rhwystrau ar ffordd deddfu yn effeithiol ar y materion hyn. Disgwylid oddeutu cant o gynrychiolwyr ond mae'n amheus iawn genym a ddaeth rhagor na chwarter hynny. Onid yw yn bryd wynebu y sefyllfa? Lol ydyw siaiad fod y Cyngrair yn gwneud gwaith, ac i wneud gwaith mawr yn y dyfodol. Na wnaiff byth, fel y mae'n bresenol. Mae'n bryd i rhywun lefaru yn groew a gonest ar y mater. Dim ond oddeutu 20 i 30 yn cynrychioli holl eglwysi Gogledd Cymru. Dyma ffaith awgrym- iadol iawn i mi. Mae penderfyniadau corff fel hwn ar faterion cyhoeddus yn dra thebyg i eiddo the three tailors of Tooley Street." Ceidw blaenion yr eglwysi, yn bregethwyr a lleygwyr, ymhell oddiwrtho. Ni ddelant iddo, oddeithr eu bod wedi eu peru i gymeryd rhan. Dyma hanes y Cyngrair ymhobman y cyferfu, a dyma'r ffaith am dano ym Methesda. Meddylier am ein Cyfundeb ni, y Parch. Ish. Evans, Richard Morgan, R. W. Jones, Gwynfryn a Tecwyn, oedd yr unig weinidogion, a wel- som yn bresenol, a dim ond un lleygwr sef Mr. John Jones, Rhyl. Dyma'r gwir am yr enwadau eraill. Na thybier ein bod ni fel enwad yn fwy difater nac eraill. 0 na synnwn ni ddim ad oeddys yn lliosocach na neb arall ar gyfartaledd. Onid ffolineb ydyw galw sefydliad fel hwn yn cynrych- ioli holl eglwysi Gogledd Cymru? Mae genym angen am symmudiad o'r fath ond yn bendant rhaid ei wneud yn rhywbeth amgenach nac a feddwn yn bresenol. Nid ydys ond yn chwareu plant ar hyn o bryd. Od i mi fod y dyrnaid bach o swyddogion a chynrychiolwyr yn lied foddhaol ar bethau. Rhaid fod rhywbath o'i le ? Beth ydyw nis gwn ? Pryd yr unionir ef ? Wel rhaid i mi derfynu.
SUDDIAD Y " KATE THqMAS."_I
SUDDIAD Y KATE THqMAS." OFNADWY a gofidus ydoedd y trychineb a gyfarfu'r Kate Thomas, llong hwyliau berthynol i Mri. W. Thomas a'i Feib, Ler- pwl, yr hon a darrodd yn erbyn agerlong yr India tuallan i Ben Tir Lloegr yn gynnar bore dydd Llun diwecldaf. Collwyd naill ai deunaw neu bedwar-ar-bymtheg o fyw- ydau a mwyaf trist, agos i gyd yn Gymry. Dim ond un o'r holl ddwylo, meddir, allai nofio, ac efe'n unig a ddiangodd yn fyw, sef llanc o Birkenhead, o'r enw Nelson. Cymro o Bwll Heli oedd Capten Williams, a'i briod, y ddau'n mynd i'r gwaelod gyda'r llong. Cymro o Gaernarton oedd y chief mate, yntau a'i briod druain yn boddi,
CANFASIO. I
CANFASIO. I Mae Mr. J. D. Rees, A.S., wedi rhoddi rhybudd i alw sylw, Ty y Cyffredin at y niwecl a achosir gan canfasio, ac i gynyg penderfyniad. Credir fod yn rhaid gwneyd canfasio yn anghyfreithlon cyn y ceir diwedd ar y gormes sydd ynglyn ag etholiadau.
CYFOED YN MARW. I
CYFOED YN MARW. I Yr wythnos ddiweddaf bu farw" Y Cronicle," newyddiadur ceiniog a gych- wynwyd ddechreu y flwyddyn yn y Bala, neu yn hytrach unwyd ef a'r Seren."
GAIR DA I'R CYMRY.I
GAIR DA I'R CYMRY. I Dywedai Mr. Berry, Prif-arolygycld I Addysg y Rhondda fod y Cymry o'u hychydig gyfoeth wedi gwneyd mwy dros addysg nag unrhyw genedl arall ar wyneb I y ddaear. Da clywed tystiolaeth fel yma gan Sais, ac un gyda llaw wyr yn dda am yr hyn y traetha yn ei gylch. Dylai clywed hyn fod yn ysbrydiaeth i'r Genedl barhau i fyned yn ei blaen, a pheidio er dim a llacio ei gafaelion.
TRO TIRiOM.-1
TRO TIRiOM. -1 Y mae Bwrdd Llywodraeth Lleol wedi anfon gorchymyn at Warcheidwaid Undeb Tre Ffynnon yn eu rhybuddio i gofio'r weddw a'r plant amddifad yn fwy na neb arall yn nosbarthiad yr elusen ac yn gor- chymyn ymhellach y rhaid o hyn ymlaen fynd a'r arian plwy i dy'r sawl fo i'w dder- byn, yn hytrach na'u gorfodi i drotian i'w nol i'r swyddfa, tan lygad pawb parod i godi bys at y tlawd.
ICLADDEDIGAETH Y IParch. THOMAS…
I CLADDEDIGAETH Y I Parch. THOMAS MANUEL. Hebryngwyd gweddllliol1 y Parch. Thomas Manuel i dy ei hir gartref pryd- nawn dydd Mercher, Ebrill y üfed. Yr oedd y nifer fwyaf o Weinidogion y Dal- aeth yn bresenol, heblaw llu o leygwyr o bob rhan o'r dalaeth. Da oedd genym weled yn bresenol y Parchn. John Hum- phreys, Llundain, T. Hardy Banks, B.A., Caerdydd, a nifer o Wreinidogion a lleyg- wyr parchus perthynol i'r gwahanol En- wadau. Yr oedd arwyddion galar dwys yn amlwg ar bob gwedd. Yn y ty cyn cychwyn i'r Capel, cynhaliwyd gwasan- aeth byr, pryd y darllenwyd rhan o'r Gwir- ionedd gan y Parch. Thomas Oliver, Fern dale, cydlafurwr yr ymadawedig ar y Gylchdaith. Gweddiwyd yn hynod eff- eithiol gan yr Hybarch Peter Jones (B.), Caerdydd. Wedi hynny ffurfiwyd yn or- ymdaith i'r Capel, lie yr oedd tyrfa fawr wedi ymgasglu ynghyd. Llywyddwyd y Wasanaeth Angladdol gan y Parch. Rice Owen, Cadeirydd y Dalaeth. Canwyd i ddechreu mewn teimlad dwys yr emyn adnabyddus,—" Mae nghyfeillion adre'n myned" &c. Meddienidy gynulleidfa tra'n canu y geiriau gan deimlad o alar dwfn wrth geisio sylweddoli'r ffaith fod ein brawd anwyl wedi ein gadael. Darllen- wyd cyfran o Air yr Arglwydd yn Luc y 12fed benod, gan y Parch. Llewelyn Mor- gan, Aberystwyth. Gweddiwyd yn afael- gar a thoddedig gan Thomas Jones, Tre- orci. Yna hysbysodd y Parch. T. Oliver fod y gweinidogion canlynol wedi anfon llythyrau o gydymdeimlad a'r teulu yn eu trallod, ac yn datgan eu gofid oherwydd eu hanallu i fod yn bresenol yn yr angladd, —Parchn. Dr. Hugh Jones, Bangor; John Jones, Aberystwyth H. Curry, Ystrad Rhondda J. Lloyd Jones; R. A. Jones E. G. Turner; P. Jones Roberts T. G. Rob- erts David Morgan; G. O. Roberts (Morfin); Jacob Pritchard, ac eraill. Hefyd yr oedd nifer o Wreaths prydferth wedi eu derbyn oddiwrth y Fam a'r teulu, ac eglwys Ebenezer y Porth (sef yr eglwys dan ofal bugeiliol ein brawd) Fern dale Tylorstown; Eglwysbach, Pontypridd; pedair wreath o wahanol ddosbarthiadau Ysgol Ganolraddol, Bangor, lie mae Miss Manuel yn athrawes un o'r Pupil Teach- er's Centre, Porth un oddiwrth Mrs Ed- wards a Mrs Benjamin, ac un oddiwrth Mr R. Hughes a'r teulu, Tonypandy. Y cyntaf i siarad yn y gwasanaeth oedd y Parch Rice Owen. Gwelid arwyddion amlwg ei fod yn teimlo yn ddwys o dan yr amgylchiadau. Fel mae'n hysbys, mae cyflwr iechyd ein Cadeirydd parchus yn bur wael er's tro. Dywedai ei fod wedi ei syfrdanu pan y clybu y newydd trist am farwolaeth Mr Manuel. Yn ei farwolaeth cawsom golled fawr. Yr ydym fel Talaeth wedi cael colledion mawr yn ystod y pym- theg mlynedd diweddaf, collasom o'n plith John Griffiths, Henry Pritchard, John Evans, Eglwysbach John Morris Owen, John Rowlands, R. Roberts (Robertus), J. D. Jones, ac yn ddiweddaf Thomas Manuel. Y colledion eraill yn fawr, ond dyma'r fwyaf, a hyny oherwydd fod yr ymadaw- edig wedi bod am fwy o flynyddoedd yn llanw lie amlwg a chylch pwysig yn ein plith. Mae ein colled yn fwy nag a allwn ei sylweddoli yn awr. Yroedd yn nodedig o alluog mewn Pwyllgorau, ac yn y Cyfar- fodydd Talaethol. Gwnai y cyfan gyda graen. Yr oedd yn ddyn amlwg o ran ei ymddangosiad personol-yn ddyn hardd, urddasol. Yr oedd ei alluoedd yn fawr ac wedi eu diwyllio yn dda. Yr oedd yn fardd, yn llenor, ac yn bregethwr. Llanwai amrywiol gylchoedd yn anrhydeddus. Gwyddem oil am ei ddoniau, ei allu, a'i waith. Yn awr yr ym wedi ei golli. Mae ein brawd wedi croesi i wlad y gogoniant, wedi cael gorsedd, coron a chan. Nis gallaf feddwl am dano, ond wedi ei goroni'. Nid cofio am dano yr wyf mewn pwyllgor- au, ar deithiau, ac yn ei hwyl mewn cyfar- fodydd-mae coffadwriaeth yn methu bachu y pethau hyn eto, am fy mod yn rhy agos ato—meddyliaf am dano fel brawd dan ei goron. Yr wyf wedi colli cyfaill,— dim croes rhyngom, -bum am bedair blyn- edd yn cyd-deithio ag ef, ni fu ond tang- nefedd yn ystod yr amser. Fel cyd-swydd- og yn y Dalaeth am dair blynedd ar ddeg, ni fu dim yn chwerw nac anymunol yn ein cysylltiad a'n gilydd. Yr wyf yn galaru ar 01 cyfaill anwyl. Yr Arglwydd a'n ben- bithio ni a'r teulu yn yr amgylchiad sydyn a phruddaidd hwn. Y nesaf i siarad oedd y Parch. John Humphreys, Llundain. Nid dyma'r dydd meddai, i elfenu' cymeriad ac i symio i fyny fywyd fy mrawd. Ceir cyfleusdra i adol- ygu gwaith mawr ei fywyd eto. Wedi dyf- od yma i daflu blodeu-glwm ar ei arch, a cholli deigryn a'r ei fedd. Pan y derbyn- iodd y newydd, y sylweddolodd fod cyfaill mawr iddo wedi ei symud. Parodd y llythyr a'r amlen ddu iddo feddwl am ei gysylltiadau personol a'r ymadawedig. Daeth llu o adgofion i'w feddwl am ei gysylltiadau a Mr. Manuel yn ystod wyth mlynedd ar hugain. Daethum i gysylltiad ag ef pan oeddwn yn was ffarm yn Sir Drefaldwyn ac yntau yn was Cylchdaith yn Machynlleth. Nid oeddwn ar y pryd ond hogyn meddai, diamddiffyn, wedi hynny daeth eraill i mewn i fy mywyd, ond Mr. Manuel roddodd. gyfeiriad i fy mywyd. Cefais lawer o'i sylw, a llawer o wersi gan- ddo. Cerddais ganoedd o filldiroedd yn ei gwmni ar ei deithiau yn y Gylchdaith. Rhaid oedd ufuddhau iddo, a phleser oedd bod yn ei gwmni. Diolchaf am iddo roddi cyfeiriad i fy mywyd. Anhawdd iawn oedd diwreiddio cyfeillgarwch mor bur. Os byddai mater o anghydwelediad yn codi, chwelid y cwbl yn fuan iawn. Perthynai nodweddion ardderchog i Mr. Manuel. Yr oedd ganddo alluoedd natur- iol uwchraddol, a llanwai amrywiol gylch- oedd yn anrhydeddus iawn. Pe byddai I wedi rhoi ei fryd ar efrydiaeth byddai yn anrhaethol gryf yn myd llenydcliaeth, ac wedi gadael pethau gwerthfawr yn gynys- gaeth ar ei ol. Yr oedd yn wir alluog. Cafodd fantais dda o gael addysg dda yn moreu ei oes, a bu hyn yn gymhorth mawr idclo. Yr oedd yn amlochrog iawn yn ei wasanaeth. Yr oedd yn gwybod rhyw- beth am bob peth. Gallai lunio capel ac addoli, gallai lunio pwlpud a phregethu. Pe byddai wedi rhoi rhyw un cyfeiriad i'w alluoedd byddai yn ddyn cryf iawn. Yr oedd yn drefnwr da, ac yn swyddog rhag- orol. Un peth nodedig a'i nodweddai oedd ei ddynoliaeth ardderchog. Paham yr oedd mor boblogaidd ? Gwir fod ganddo fel pawb elyn yma a thraw-ond yr oedd yn boblogaidd nid am ei wasanaeth i'r achos yn syml, ond oherwydd y nobility ardderchog a berthynai i'w gym- eriad. Yr oedd hwn fel haul ar ei wyneb bob amser. Edmygwn ef bob tro yn fwy, meddyliwn yn uchel o honno. Colied fawr ar ei ol, yn rhy fuan eto i ni wel'd ein colled. Bendithied Duw y teulu, yr eglwys dan ei ofal, y Dalaeth, a'r Cyfundeb a wasanaethodd mor ffvddlon. Parhaed ei goffadwriaeth yn fendigedig, a bedyddied Duw rai eto dros y meirw. Galwyd yn nesaf ar y Parch. T. J. Pritchard i ddweyd gair. Siaradodd Mr. Pritchard yn Gymraeg a Saesneg er mant- ais y Saeson oedd yn bresenol. Yr oedd ei deimladau meddai, yn gymysglyd ryfedd- ol, gallai ddweyd llawer am ei anwyl frawd. Wedi bywjmewn cymundeb agos a'u gilydd am 32ain o fiynyddoedd, ac am 28ain yn y Weinidogaeth. Wedi treulio llawer o amser gyda'u gilydd. Er bob am- ser gyda'u gilydd yr oedd y contrast rhyngddynt yn fawr. Croesom gleddyfau lawer gwaith, syrthiasom allan yn mhob Synod bron, ond byth yn elynion chwerw. Dywedai Mr. Manuel wrtho un adeg, T. J. wnawn ni byth cytuno yr ochr hyn. fe wnawn yr ochr draw." Yr-oedd yn gallu bod yn gryf, yn nerth- ol iawn, ond gallai fod hefyd yn dyner neillduol. Ei deimlad yn agor y porth i'w gysegr sancteiddiolaf. Ei galon yn ardder- chog. Fel meddyliwr, pe wedi cael hamclden i efrydu, gallai fod wedi cyrhaedd tir uchel iawn. Fel pregethwr, gallwn ei fwynhau bob amser, byth yn gwrando heb dderbyn rhywbeth ganddo. Fel trefnydd a dadl- euwr yn neillduol o gryf, yn ddyn keen iawn, gwelai fan gwan ar unwaith. Yr oedd yn ddyn sylwgar iawn. Nid oedd byth yn osgoi anhawsderau. Ychwanegai un peth arall am Mr. Manuel, yr oedd yn Gristion, ni welai lygad yn ilygad ag ef a phob cwestiwn, ond dywedai yn ddifioesgni ei fod yn Gristion. Dywedai wrtho yn y tren wrth ddod o Merthyr ychydig amser yn ol lesu Grist yw pob-peth i mi, ac nid oes genyf obaith arall ond Efe." Diolchaf am ei galon fawr--itoble heart oedd ganddo. Bendithied Duw ni oil. Mae Duw yn cladduei weithwyr, ondyn dwyn yn mlaen ei waith, Cafwyd gair yn mhellach gan y Parch. Morns Morgan, Abertawe, Cynrychiolydd Gymanfa Ddirwestol Deheudir Gymru. Yr oedd wedi colli cyfaill anwyl. un fu'n gyn- orthwy sylweddol i'r gwaith Dirwestol. Yr oedd geiriau y siaradwyr yn cadarnhau ei adnabyddiad yntau o Mr. Manuel. Yr oedd yn cario ei gymeriad yn ei wyneb.— Cymeriad glan a hardd. Teimlai yn drist fod dyn mor gadarn ac mor dyner wedi ei golli. Gwnaeth lawer dros sobrwydd. Yr oedd yn dwr dros ddirwest, am ei fod yn dwr dros rywbeth heblaw dirwest yn unig'. Yr oedd yn gymeriad cyfiawn, a godidog. Chwith yw colli cadfridogion yn ngwj-neb yr ymdrech fawr bresenol. Diolch fod y Pen Mawr yn byw o hyd. Cydymdeimlai yn ddwys a'r teulu ac a'r enwad yn eu dagrau. Cofiwn pwy sydd gyfrifol am y golled. Mae Pen yr Eglwys wedi gwneyd yn unol a'i wybodaeth. Heddwch i hvch fy mrawd. Y nesaf i siarad oedd v Parch T. Hardy Banks, B.A., Cadelrydd Talaeth Caerdydd ac Abertawe. Teimlai ef a'r brodyr Seisnig yn y WTeinidogaeth ein bod wedi cael colled drom yn marwolaeth Mr. Manuel. Adnabyddai ef yn fwy fel swyddog nac fel dyn—yr oedd wedi dysgu ei barchu a'i edmygu yn fawr ar gyfrif ei rinweddau.— ei gymeriad cryf, a'i garedigrwydd brawd- ol. Er yn drallodus ar ei ol, nid ym yn galaru fel rhai heb obaith. Nid yw angau yn diwedduyr oil. Ein brawd amvyl wedi myn'd i fwynhau bywyd uwch a b\"vvyd gwell. \Vrth derfynu, amlygai fod cydym- deimlad llwyraf y Dalaeth Saesneg gyda'r Dalaeth honyn ei galar a'i thrallod. Cafwyd y gair nesaf gan y Parch. Thomas Rowlands. Nid oedd am. wneyd dim ond datgan fod ein colled yi1 anrhaeth- ol. Efe mewn modd amlwg oedd llygaid y Dalaeth, yr ym wedi colli arweinydd medrus a doeth, wedi colli gweledydd o'n plith. Yn ei farwolaeth collodd gyfail1. Gwnaeth lawer drosto erioed. Cofiai am ei eiriau caredig wrtho ar yr heol yn Llan- idloes 18 mlynedd yn ol—yr oedd Mr Rowlands ar y pryd yn ymgeisydd ofnus a'i iechyd yn bur wael, ond cafodd eiriau caredig, calonogol gan Mr. Manuel fu yn gysur ac yn gymhorth mawr iddo. Edrych- ai arno fel Great Heart "—" Mawr Galon" John Bunyan, yn Nhaith y Pererin. Yr oedd llawer o'r llew ynddo—nodweddid ef gan wroldeb, purdeb, gallai cldyweyd yn blaen iawn. Nid ofnai 'ddim, llefarai yn glir, yn groew iawn. Syndod fod dyn mor garedig wedi gwneyd gelynion o gwbl. Pan-ddywedai yn llym, neu yn swrth, efe ei hun fyddai yn teimlo fwyafweai'r cyfan. Yr oedd yn ddyn o deimladau tyner iawn. Yr oedd ganddo policy i wella'r Dalaeth, ond diffyg adnoddai oedd yn ei rwwstro i weithio ei gynlluniau er llwyddiant yr achos mawr. Dyddaned Duw y teulu, a choded eraill i lanw ei le. Terfynwyd y wasanaeth ddwys trwy i'r Parch. Evan Isaac ein harwain mewn gweddi. Canwyd cyn ymwahanu :—" 0 Fryniau Caersalem ceir gweled." Chwar- euwyd y Dead March" ar yr Organ gan Mr. Morgan, Organydd yr eglwys yn y lie. Ail-ffurfiwyd yn orymaaith drachefn i fyned i Fvrnwent Llethr-Ddu, Trealaw. Ar lan y bedd darllenwyd y wasanaeth gan y Parch., Rice Owen, a gweddiwyd i derfynu gan y Parch. A. C. Pearce, Abertawe. Cyf- Iwynwycl y teulu, yr eglwys, a'r dosbarth i ofal y Duw tirion fu'n amddiffyn ac yn nodded i'n hanwyl frawd. Er fod y gwlaw yn ymdywallt yr oedd torf o bell ac agos wea" ymgasglu uwchben man fechan ei fedd. Yr oedd natur fel pe yn cyd-alaru a ni, a'r cymylau yn arllwys eu cymvys ar ei fedd. Yn gymwysgedig a'r dagrau gwlaw disgynodd dagrau hiraeth llawer calon drom ar lwch cysegredig ei fedd. Yng nghanol dagrau a galar dwys canwyd yr hen emyn bendigedig :—" Bydd myrdd o ryfeddodau." Ynnvahanwyd i wahanol gyfeiriadau gan adael ein brawd i huno yn ei lonydd fedd "mewn gwir ddiogel obaith o'r adgyfodiad i fuchedd dragwydd- ol."
YR APOCRYPHA.
YR APOCRYPHA. Yn v "Drysorfa" am fis Ebrill y mae'r A' hro Hudson Williams, athro Groeg yn. Ngholeg y Brifysgol,- Bangor, yn amddiff- yn yr Apocrypha. Dy wed fod gormod o esgeuluso wedi bod ar y rhan werthfawr hon o'r Ysgrythr, ond llawenha wrth weled fod y llanw yn dechreu troi.
Y DIWEDDAR BAM. THOMAS MANUELo
Yn mhob cylch gwnaeth wasan- aeth anmhrisiadwy i'w Genedl a'i Eglwys. Nid ym am honi ei fod yn ber- ffaith. Pwy sydd berffaith ? Nid oedd neb yn fwy ymwybodol o'i amherffeithrwydd na'n hanwyl frawd ei hun. Clywsom ef lawer gwaith yn gofidio oherwydd ei ddiffygion. Yr oedd ganddo ddyn- oliaeth dda. Nid oedd dim yn fach ynddo. Yr oedd yn fawr a hardd o ran corph, yr oedd felly hefyd o ran y dyn oddimewn. Dywedodd rhywun am un o'r Tad- au Ymneillduol He had a countenance attuned to harmony with the mind." Yr oedd ei ym- ddangosiad personol yn fawreddog yn ystyr oreu y gair. Nid oedd eisiau iddo ond codi ar ei draed, na fyddai pawb oil wedi ymgolli mewn edmygedd o honno gan mor hardd a chyflawn yr edrychai. 0 ran ei gorph tal a lluniaidd gall- ai sefyll ochr yn ochr a gwyr grymus nerthol fel John Elias yr hwn a safai yn bump a deg, a Christmas Evans yr hwn oedd yn ddwy lath, neu David Rogers, a David Williams, Thomas Aubrey a Rowland Hughes. Tywysogion oedd y rhai hyn o ran ymddangos- iad, felly hefyd am ein hanwyl frawd. Yr oedd hefyd yn dywysog mewn meddwl. Nid enaid bach mewn corph mawr oedd ganddo, fel ambell un sydd ar ei ol, ond enaid braf a chyflawn mewn corph hardd a theg. Gallesid meddwl ei fod yn ddyn garw a Ilym wrth ei glywed yn llefaru ar rai adegau- ac mae'n rhaid cyfaddef ei fod felly weithiau, ond odditan y ger- windeb allanol gorweddai calon dyner iawn. Loes i'w galon ef oedd yr ymdeimlad ei fod wedi bod yn rhy arw a brathog yn ei eiriau. Methai gysgu y nos oher- wydd hyny. Dyn ar ben ei hun yn hollol oedd ein brawd. Nid efelychwn mo honno. Perthynai iddo wahanfod- aeth gref. Nid oedd am fod yr un fath a phawb arall, ac nid oedd am i bawb arall fod yr un fath ag yntau. Yr oedd yn bregethwr da -byw,iiewydd, coeth yr oedd yn llenor galluog, dengys Eur grawn y Canmlwyddiant ei allu yn y cyfeiriad yna. Darllenid ei gynyrchion gyda bias. Pe byddai wedi gosod ei fryd, mae'n ddiameu y gallai ragori fel bardd, cafwyd rhai darnau o'i eiddo a ddangosent ei fod o'r un waed a'r Awen wir." Fel Trefnydd yr oedd yn hynod lygadog a phwyllog yn yr oil a wnai. Gorchwyl mawr ei fywyd wedi'r cyfan oedd pregethu Crist yn Geidwad i bechadur. Ni fu erioed yn boblogaidd fel pregethwr y Cwrdd mawr oblegid ni allai ganu mewn hwyl heb iddo fynd yn annaturiol, ac ni allai floeddio heb ladd ei hun. Gallai waeddi a bloeddio pan fyddai ei ysbryd wedi ei gynhyrfu, a gwnai hynny mewn full swing heb ofni gwg na gwen y gynulleidfa. Yn ein tristwch, ymwrolwn, er fod Duw yn claddu ei weithwyr, mae'n dwyn Ei waith yn mlaen. "Mae Gweithwjo" goreu'r Ne' Yn marw yn eu gwaith Ond eraill ddaw'n eu lie Ar hyd yr oesoedd maith A ffyddlon i'w addewid fry, Yw'r Hwn a fu'n sylfaenu'r Ty." Ni fydd i'r Duw a gododd ac arddelodd Thomas Manuel anghofio ei Eglwys. Ni ddiffydd yr haul am i'r seren fachludo Os pallodd yr aber, ni sychodd y mor." Bregethwr byw oedd yn genad dros Grist, fugail hoff y praidd, cyfaill diddan, arweinydd gwres- og, cadfridog dewr, ni feddyliasom dy golli yn 58ain oed Siomwyd ein gobeithion, dyryswyd ein cyn- lluniau. Edrychem yn mlaen am gael dy wasanaeth am lawer blwyddyn arall, ond wele yr wyt yn dy fedd Huna yn dawel hyd ganiad yr udgorn diweddaf. Diolchwn i Dduw am danat, gweddiwn am ddeuparth o'th ys- pryd, ac enneiniwn dy fedd. a dag- rau ein calon. But 0, for the touch of a vanish'd hand, And the sound of a voice that is still.